1. Cysyllta â darparwr dy gyllid i wirio a oes cyllid ar gael i ti.
2. Cyflwyna gais am gyllid os nad wyt ti eisoes wedi gwneud hynny. Gall myfyrwyr cymwys gyflwyno cais hyd at 9 mis ar ôl dechrau eu cwrs, fodd bynnag, bydd hyn yn arwain at oedi wrth dderbyn cylli
3. Gwiria sut mae cyllid yn effeithio ar dy fudd-daliadau
4. Gwna nodyn o'r dyddiadau cau ar gyfer talu am lety drwy wirio dy gytundeb tenantiaeth neu ar wefan y Brifysgol (os wyt ti'n byw yn llety'r Brifysgol)
5. Gwna restr o'r incwm a fydd ar gael i ti am y flwyddyn e.e.
- Cyllid Cynhaliaeth
- Bwrsariaeth Gwaith Cymdeithasol/GIG
- Grantiau i ddibynyddion
- Grantiau'r Brifysgol
- Gwaith rhan-amser
- Cyfraniad rhieni
- Budd-daliadau
- Arall
6. Gwna restr o dy dreuliau am y flwyddyn e.e.
- Llety
- Teithio
- Bwyd
- Llyfrau ac Offer
- Gofal Plant
- Dillad
- Cymdeithasol/Hamdden
- Arall
7. Defnyddia dy restr incwm a gwariant i greu cynllun cyllideb.
8. Cer i gasglu dy gerdyn adnabod ym mis Medi er mwyn i'r cyllid gael ei ryddhau. Rhaid dy fod di wedi cofrestru er mwyn rhyddhau dy gyllid ffioedd dysgu a dy gyllid cynhaliaeth. Gwiria'r tudalennau cofrestru am ragor o wybodaeth ynghylch sut i gofrestru a dyddiadau rhyddhau taliadau
*Os wyt ti'n un o fyfyrwyr carfan mis Medi 2021 a ariennir gan y GIG, mae'n bwysig nodi na fyddi di'n derbyn dy daliad Bwrsariaeth GIG cyntaf tan ddiwedd mis Hydref 2021.