EIN GWELEDIGAETH YW GWRANDO A DATRYS PROBLEMAU GYDA MYFYRWYR AR FATERION PRESENNOL ER MWYN MEITHRIN AMGYLCHEDD PRIFYSGOL CYNHWYSOL.
Mae Cydraddoldeb@BywydCampws yma i fyfyrwyr, staff a rhwydweithiau cefnogi.
Rydym yn cynnig gwasanaeth agored a chynhwysol sy’n addysgu, yn arfogi ac yn grymuso myfyrwyr a’u rhwydweithiau cefnogi i ddelio â materion cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn ddiogel ac yn barchus.
Os hoffech chi siarad ag unrhyw un yn Cydraddoldeb@BywydCampws, mae croeso i chi ein e-bostio drwy glicio ar y ddolen isod
Grwpiau Ffocws
Graddedigion – drwy gydol mis Chwefror rydym yn cynnal Grwpiau Ffocws i ddeall beth yw ystyr ‘cydraddoldeb’ i chi ac amlygu problemau cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant presennol y mae angen i ni eu datrys gyda’n gilydd.
Staff Cymorth – yn ddiweddarach byddwn yn cynnal Grwpiau Ffocws i chi leisio problemau rydych yn ymwybodol ohonynt y mae myfyrwyr yn eu hwynebu ac i gynnig awgrymiadau a fydd yn gwella eu profiad yn y brifysgol.
Grwpiau Ffocws Myfyrwyr sydd ar ddod
Dyddiad | Lleoliad | Amser | Cyswllt |
Dydd Gwener, Mawrth 17.
|
Zoom |
10am-11am |
Tickets |
Dydd Mawrth, Mawrth 28. |
Zoom |
1pm-2pm |
Tickets |
Bydd graddedigion sy’n cymryd rhan yn y grwpiau ffocws yn derbyn taleb £10 Tesco a fydd yn cael ei dosbarthu ar ôl y grwpiau ffocws.
Gall graddedigion ddod i un grŵp ffocws yn unig.
Ni fydd graddedigion sy'n gweithio yn y brifysgol ar hyn o bryd yn gallu derbyn taleb.
Sesiynau Hyfforddiant Agored
Gwanwyn 2023, am ddim gan Ganolfan Cymorth Casineb Cymru