Myfyriwr FAQs
Pa wasanaethau sydd ar gael ar y Campws ar hyn o bryd?
Rydym yn cynnig gwasanaethau cyngor a chymorth am ddim i bob myfyriwr mewn amgylchedd cyfeillgar a chyfrinachol. Darllenwch sut i gysylltu â'r gwasanaethau Ffydd, Cymuned, Myfyrwyr Rhyngwladol, Arian a Llesiant.
Gallwch gael CYMORTH LLES hefyd drwy glicio yma: Cymorth Lles - Prifysgol Abertawe neu drwy e-bostio wellbeingdisability@abertawe.ac.uk
Mae gwybodaeth ddefnyddiol ar gael hefyd yn: beth sy'n digwydd ar y campws ac oddi ar y campws a Gwasanaethau Cymorth Cynhwysol i Fyfyrwyr - Prifysgol Abertawe a Bywyd ar y Campws - Prifysgol Abertawe
Gallwch ddod o hyd i fanylion eich mentor academaidd drwy fewngofnodi i’ch cyfrif MyUni .
Rwy'n profi gwrthdaro yn yr aelwyd, â phwy y gallaf gysylltu?
Os ydych yn profi gwrthdaro yn yr aelwyd, cysylltwch â'n Swyddog Cyswllt Cymunedol yn Community.CampusLife@abertawe.ac.uk
Mae'r tîm yma i'ch cefnogi ym mha ffordd bynnag y gallwn mewn ffordd ddiogel a chyfrinachol. Rydym yn cynnig gwasanaethau megis cyfryngu, cymorth gydag e-byst ac unrhyw arweiniad pellach.
Mae croeso i chi gysylltu â ni, rydym am i'ch amser yn y Brifysgol fod yn brofiad cadarnhaol ac rydym yma i helpu ym mha bynnag ffordd y gallwn.
Mae gen i broblemau yn fy nghymdogaeth, beth gallaf ei wneud?
Os oes gennych broblemau yn y gymdogaeth, gallwch gysylltu â'r swyddog cyswllt cymunedol yma yn Community@CampusLife.ac.uk. Nod Gwasanaethau Myfyrwyr yw galluogi'r holl fyfyrwyr i fanteisio i'r eithaf ar eu hamser ym Mhrifysgol Abertawe, gan gynnwys eich profiad yn y gymuned. Rôl y timau cymunedol yw eich cefnogi chi, ein myfyrwyr yn y gymuned, gydag unrhyw broblemau sydd gennych. Byddwn yn gwneud hyn mewn modd cyfrinachol gan gynnig cymorth, arweiniad ac, os oes ei angen, wasanaeth cyflafareddu. Byddwn hefyd yn eich cyfeirio at asiantaethau allanol os oes angen.
Rwyf wedi dioddef trosedd, at bwy gallaf droi?
Os ydych wedi dioddef trosedd, rydym yn eich annog i roi gwybod i Heddlu De Cymru. Gallwch wneud hyn drwy ffonio 101 os nad yw'n argyfwng, defnyddio eu porth hysbysu ar-lein www.south-wales.police.uk neu drwy ffonio 999 mewn argyfwng.
Os oes angen help neu gymorth arnoch wrth wneud hyn, gallwch gysylltu â ni yma yn nhîm BywydCampws a byddwn yn hapus i'ch cynorthwyo a'ch tywys drwy'r broses.
Gallwn hefyd eich cyfeirio at lawer o'n gwasanaethau cymorth mewnol yma ym Mhrifysgol Abertawe.
A alla’ i ddod â’m car i'r Brifysgol a ble gallaf barcio?
Yn anffodus, fel llawer o Brifysgolion, nid oes lle i fyfyrwyr barcio ar gampysau Abertawe.
Os ydych yn byw yn y gymuned, gallwch gyflwyno cais am hawlen parcio ar y ffordd ond dim ond nifer cyfyngedig o'r hawlenni sydd ar gael fesul aelwyd. Mae rhagor o wybodaeth ar Wefan Cyngor Abertawe
Mae gan y Brifysgol gysylltiadau gwych â bysus First Cymru sy'n cynnal gwasanaethau rheolaidd ledled Abertawe'n rheolaidd! Edrychwch ar eu tocynnau i fyfyrwyr am ragor o wybodaeth.
Mae gen i broblemau gyda’m Landlord, beth gallaf ei wneud?
Gallwch gysylltu â ni yma yn nhîm BywydCampws a chan ddibynnu ar eich problem, byddwn yn cynnig cyngor ac arweiniad i'ch cefnogi i ddatrys eich problem. Os oes angen, gallwn gyflafareddu rhwng yr holl bartïon sy'n ymwneud â'r sefyllfa a cheisio cyngor gan asiantaethau allanol megis Iechyd Amgylcheddol.
Hefyd, mae amrywiaeth o wasanaethau cymorth ar gael gan Ganolfan Gyngor Undeb y Myfyrwyr: centreadvice@swansea-union.co.uk. Gallan nhw gynorthwyo gydag amrywiaeth o faterion megis cyngor ar gontractau, blaendaliadau, cyflwr gwael ac anghydfodau â landlord/asiant.
Nid wyf yn gyfarwydd â biliau/ymholiadau aelwyd, â phwy gallaf gysylltu?
Gall symud o'ch cartref i'r Brifysgol fod yn anodd ac yn llawn straen, yn enwedig os nad ydych byth wedi talu biliau'r aelwyd. Serch hynny, does dim angen poeni, mae ein tîm Arian@BywydCampws wedi llunio canllaw hwylus i fyfyrwyr sy'n nodi'r hyn y dylech ei ystyried o ran costau byw, edrychwch ar y dudalen costau byw i gael rhagor o wybodaeth.
Os oes gennych ragor o ymholiadau, mae ein tîm bob amser yn hapus i helpu, e-bostiwch ni gyda rhagor o gwestiynau/bryderon.
Hoffwn ymwneud mwy â Digwyddiadau Cymunedol, pwy sy'n gallu helpu?
Gallwch ein dilyn ar Campuslifesu - Home | Facebook
Gallwch hefyd fwrw golwg ar:
Mae'n anodd i mi wneud ffrindiau/cymdeithasu, pa gyngor sydd ar gael?
Cadwch lygad am bobl sydd â hobïau a diddordebau tebyg i'ch rhai chi.
Gallwch bori neu ymaelodi â chlwb chwaraeon neu gymdeithas unrhyw bryd ar wefan Undeb y Myfyrwyr. Bydd llawer o gyfleoedd i chi ddysgu rhagor am yr hyn maen nhw'n ei gynnig yn ystod y cyfnod croeso.
Am restr lawn o gymdeithasau a rhagor o wybodaeth, ewch i dudalen Cymdeithasau gwefan Undeb y Myfyrwyr.
Gallwch ein dilyn ar Campuslifesu - Home | Facebook ac ymuno yn y gweithgareddau sy'n cael eu cynnal. Mae'n gyfle gwych i gyfathrebu a chysylltu â phobl eraill.
Cysylltiadau Cymunedol Defnyddiol
Heddlu De Cymru - 999 (mewn argyfwng) NEU 101 (dim brys)
Cyngor Abertawe - Ailgylchu a Sbwriel
Cyngor Abertawe - Tai
Cyngor Abertawe - Llygredd Sŵn
Cyngor Abertawe - Gorfodi Parcio