Myfyrwyr Preswyl
Rydym yma i fyfyrwyr preswyl sy'n byw yn y gymuned leol.
- Rydym yn gweithredu fel pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer myfyrwyr sy'n byw oddi ar y campws sydd angen cysylltu â ni am unrhyw faterion neu bryderon sydd ganddynt am fyw allan yng nghymuned ehangach Abertawe.
- Mae'r tîm yn cynnal sesiynau galw heibio rheolaidd i roi cyngor wyneb yn wyneb i fyfyrwyr a allai ddymuno codi unrhyw faterion gyda ni.
- Gweithiwn fel cyfryngwr i ddatrys unrhyw faterion y gallai myfyrwyr eu cael gyda ffrindiau tŷ, cymdogion neu'r gymuned – gyda'r nod o hyrwyddo cydlyniad a dealltwriaeth gymunedol.
- Rydym yn cynnal digwyddiadau rheolaidd er budd y gymuned leol, fel casglu sbwriel yn rheolaidd ac ymgyrchoedd elusennol. Ymunwch os hoffech!
- Gallwn cyfeirio myfyrwyr at y gwasanaethau perthnasol i gynorthwyo gydag ymholiadau neu bryderon pellach.
- Rydym yn cefnogi myfyrwyr sy'n cael trafferth gyda landlordiaid problemus a'u cyfeirio at y gwasanaethau perthnasol i'w cynorthwyo ymhellach.
- Mae'r tîm wastad yn codi ymwybyddiaeth o'r Grant Cymunedol.
- Yn bennaf oll, rydym am sicrhau bod pob myfyriwr yn mwynhau ei amser yn byw yn y gymuned i'r graddau mwyaf posibl.