Sean Holm

Sean Holm

Gwlad:
Deyrnas Unedig
Cwrs:
PhD Astudiaethau Meddygaeth a Gofal Iechyd

Ym mha gyfadran ydych chi’n gweithio?

Rwy’n gweithio yn yr Ysgol Feddygaeth yn y Gyfadran Meddygaeth, Gwyddorau Iechyd a Bywyd.

Beth oedd eich rhesymau dros astudio ym Mhrifysgol Abertawe?

Nid oeddwn yn gwybod beth oeddwn am ei wneud ar ôl cwblhau fy astudiaethau Safon Uwch, felly cymerais flwyddyn i ffwrdd, gan weithio yn Sambia gyda’r elusen Restless Development.

Yn ystod y flwyddyn honno, penderfynais mai’r gwyddorau bywyd oedd yn mynd â’m bryd yn fwy nag unrhyw beth arall, felly cyflwynais gais i astudio BSc mewn Biocemeg ym Mhrifysgol Abertawe. Roedd astudio’n bleser, yn enwedig y prosiect ymchwil yn y flwyddyn olaf lle cyhoeddwyd fy ngwaith yn Nature Communications, fel rhan o bapur fy ngoruchwyliwr. Ar ôl graddio yn 2019, gyda gradd dosbarth cyntaf a gwobr raddedig am orffen ar frig y dosbarth Biocemeg, dyfarnwyd grant rhagoriaeth ymchwil Prifysgol Abertawe i mi i ddilyn PhD dan yr Athro Catherine Thornton a Dr Nicholas Jones.

Beth yw testun eich ymchwil?

Imiwnolegydd ydwyf, sy’n golygu fy mod yn astudio’r system imiwnedd. Yn benodol, rwy’n canolbwyntio ar ymatebion y system imiwnedd yn ystod beichiogrwydd ac ar fore oes.

Beth a ysgogodd eich diddordeb yn y maes hwn?

Wrth fynd i’r afael ag imiwnoleg am y tro cyntaf, mewn modiwl yn ystod ail flwyddyn fy ngradd gyntaf, roeddwn yn meddwl bod y maes yn hynod gymhleth. Fodd bynnag, wrth i’m dealltwriaeth gynyddu, dechreuais werthfawrogi ei holl gymhlethdodau cynnil. Cafodd fy mrwdfrydedd dros y maes ei gadarnhau yn ystod prosiect ymchwil fy nhrydedd flwyddyn. Ac nid wyf wedi edrych yn ôl ers hynny.

Roedd yn anos o lawer pennu testun ymchwil gan fod cynifer o agweddau diddorol a dylanwadol i’w hastudio ym maes imiwnoleg. Fodd bynnag, ar ôl gweld effaith andwyol ein dealltwriaeth wael o imiwnedd yn achos babanod a menywod beichiog, wrth weithio gyda Restless Development, roeddwn yn falch o gael y cyfle i ganolbwyntio fy ngwaith ymchwil ar y grwpiau hyn nad oeddent yn cael eu hystyried yn ddigonol.

Beth hoffech i’ch gwaith ymchwil ei gyflawni?

Er bod ein dealltwriaeth o imiwnedd wedi gwella’n sylweddol, nid oes llawer o ddealltwriaeth o ymatebion imiwn ymhlith babanod a menywod beichiog. Mae fy ngwaith ymchwil yn ceisio llenwi’r bwlch hwn yn ein gwybodaeth, gan wella canlyniadau iechyd yn achos mamau a babanod.

Beth yw prif fanteision gwneud eich gwaith ymchwil ym Mhrifysgol Abertawe?

Ni ellir gorbwysleisio manteision amgylchedd cefnogol a chydweithredol wrth wneud gwaith ymchwil. Mae bod yn rhydd i weithio gyda llawer o ymchwilwyr gwahanol, gwneud gwaith allgymorth cyhoeddus, a chymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau ym mhob rhan o’r sefydliad yn sicrhau bod y Brifysgol yn fan astudio cyffrous ac ysgogol.

Beth yw eich cynlluniau ar gyfer y dyfodol?

Ochr yn ochr â’m hastudiaethau, rwyf wedi mwynhau cyfrannu at waith allgymorth ac ymgysylltu â’r cyhoedd. Rwy’n credu ei bod hi’n bwysig iawn bod gwaith caled ymchwilwyr yn ymestyn yn ehangach na’r byd academaidd. Er nad oes gennyf gynlluniau pendant eto, rwy’n gobeithio parhau i ymestyn ffiniau gwybodaeth wyddonol a pharhau i sicrhau bod yr wybodaeth honno ar gael i bawb.