Yn ogystal â Diwrnodau Ymweld a Diwrnodau Agored Israddedig, gallwch drefnu ymweliad adrannol ar wahân. Cysylltwch gyda'r adran academaidd er mwyn trefnu ymweliad. Gofynnwch i'r adran os yr hoffech gael taith o amgylch y campws gyda Myfyriwr Llysgennad. Bydd angen o leiaf pythefnos o rybudd er mwyn trefnu'r teithiau hyn.
Mae argaeledd staff academaidd yn amrywio o ganlyniad i ymrwymiadau dysgu, felly gofynnwn i chi roi digon o rybudd er mwyn trefnu'r ymweliad.
- Coleg y Celfyddydau a'r Dyniaethau
- Coleg Peirianneg
- Coleg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd
- Ysgol y Gyfraith Hillary Rodham Clinton
- Coleg Gwyddoniaeth
- Ysgol Feddygaeth
- Ysgol Reolaeth
Ar gyfer ymholiadau eraill, cysylltwch â'r tîm astudio
Fel arall, mae copïau o'r llyfryn Teithiau Hunan Dywys ar gael o dderbynfa Tŷ Fulton neu'r Neuadd Fawr