Peirianneg Fecanyddol
Mae Peirianneg Fecanyddol yn rhoi cyfle i fyfyrwyr gael gwybodaeth a sgiliau y gellir eu rhoi ar waith mewn ystod eang o sectorau sy'n cynnwys ynni adnewyddadwy, roboteg, gweithgynhyrchu uwch, moduro a gofal iechyd. Mae Peirianneg Fecanyddol yn chwarae rôl hollbwysig wrth ategu a chefnogi'r gymdeithas mewn meysydd fel iechyd a lles, cynaliadwyedd, trawsnewid digidol ac arloesi.
Mae cynnwys ein graddau'n adeiladu ar ein rhagoriaeth ymchwil sy'n arwain y ffordd yn fyd-eang a'n gweithgarwch helaeth wrth ymgysylltu â byd diwydiant. Mae hyn yn rhoi i'n graddedigion broffiliau cyflogadwyedd y mae galw mawr amdanynt, a fydd yn creu effaith werthfawr ar gyfer gyrfa ym maes ymchwil neu fyd diwydiant.
Os ydych chi'n berson creadigol sydd â dawn am ddylunio, mathemateg a ffiseg, sydd am roi eich sgiliau ar waith wrth fynd i'r afael â heriau presennol y gymdeithas a heriau'r dyfodol, mae Peirianneg Fecanyddol yn gwrs delfrydol i chi.