Mae moeseg ymchwil wrth wraidd yr holl ymchwil a wneir yn y Brifysgol a'r Ysgol Feddygaeth. Rydym yn rhoi sylw trylwyr i’n rôl wrth asesu sylfaen foesegol yr ymchwil a wneir yma. Mae'r tudalennau hyn yn nodi sut dylai ymchwilwyr sicrhau cymeradwyaeth foesegol ar gyfer ymchwil maent am ei wneud yn yr Ysgol Feddygaeth.
Sut i wneud cais am gymeradwyaeth foesegol
Cam 1
Ydy'ch ymchwil yn cynnwys pobl neu feinweoedd a/neu ddata nad yw ar gael i'r cyhoedd?
Ydy - mae fy ymchwil yn cynnwys pobl a/neu ddata nad yw ar gael i'r cyhoedd.
Ydy - mae fy ymchwil yn cynnwys pobl, meinweoedd dynol mewn ymchwil a/neu ddata nad yw ar gael i'r cyhoedd
(GWEITHREDU - Symud Ymlaen i Gam 2)
Nac ydy - mae fy ymchwil yn cynnwys llenyddiaeth YN UNIG
Nac ydy - mae fy ymchwil yn cynnwys data sydd ar gael i'r cyhoedd YN UNIG a/neu wefannau agored nad oes ganddynt borthgeidwad hysbys.
(GWEITHREDU – ymddengys yn debygol nad oes angen cymeradwyaeth foesegol ar eich ymchwil. Os nad ydych yn siŵr, holwch eich goruchwyliwr neu cysylltwch â’r pwyllgor moeseg.)
Cam 2
Bydd rhaid i chi wneud cais am gymeradwyaeth foesegol.
Bydd y cam hwn yn eich helpu i ddewis y pwyllgor iawn i gyflwyno cais iddo a pha gamau gweithredu y bydd rhaid i chi eu cymryd.
Ydy'ch ymchwil yn cynnwys cleifion y GIG data cleifion neu staff y GIG?
Ydy - mae fy ymchwil yn cynnwys cleifion y GIG, data cleifion neu staff y GIG
(GWEITHREDU - Symud ymlaen i gam 3)
Nac ydy - mae fy ymchwil yn cynnwys data neu ddata personol ond nid yw’n ymwneud â’r GIG ac nid yw'n defnyddio adnoddau'r GIG.
(GWEITHREDU - Bydd rhaid i chi gyflwyno ffurflen Cymeradwyaeth Foesegol Safonol i Is-bwyllgor Moeseg Ymchwil Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe.)
Defnyddiwch y nodiadau canllaw i'ch helpu i gwblhau’r ffurflen - nodiadau canllaw ar gyfer cymeradwyaeth foesegol safonol.
(PWYSIG - Os yw'ch ymchwil ym maes gofal iechyd y tu allan i’r DU, dylech geisio cymeradwyaeth foesegol yn y wlad/sefydliad priodol lle bynnag y bo modd, yn ogystal â cheisio cymeradwyaeth gan Is-bwyllgor Moeseg Ymchwil Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe).
Cam 3
Mae’n debygol y bydd angen cymeradwyaeth moeseg ymchwil gan y gig ar eich prosiect.
Mae’n bosib y bydd rhai mathau o ymchwil y GIG y tu allan i gylch gwaith y pwyllgor moeseg ymchwil lleol ac, yn y lle cyntaf, fe’ch argymhellir i gysylltu â threfnydd y pwyllgor moeseg ymchwil lleol priodol. Mae'n bosib y bydd cylch gorchwyl y pwyllgor hwnnw’n ystyried bod rhai mathau o ymchwil yn archwiliad neu’n werthusiad gwasanaeth, ac felly y tu hwnt i'w gyfrifoldeb craffu. Os felly, dylech ofyn am lythyr yn cadarnhau hyn a gwneud cais i Is-bwyllgor Moeseg Ymchwil Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe.
Os oes angen gwneud cais i'r pwyllgor moeseg ymchwil lleol, gellir gwneud hyn drwy IRAS (Y System Ymgeisio Integredig ar gyfer Gwaith Ymchwil). Os ydych chi'n fyfyriwr yn yr Ysgol Feddygaeth, dylech wneud cais drwy Is-bwyllgor Moeseg Ymchwil yr Ysgol Feddygaeth cyn gwneud cais i system y GIG.
Os yw'ch ymchwil yn rhan o raglen Meistr, mae system y GIG yn gofyn i chi enwi eich goruchwyliwr fel y prif ymchwilydd a bydd rhaid i chi wneud cais i’r Brifysgol am lythyr indemniad hefyd.
Yn ogystal, bydd angen caniatâd grŵp Ymchwil a Datblygu eich Ymddiriedolaeth arnoch. Dylech hefyd gwblhau cais IRAS.
(PWYSIG - Os ydych yn ymgymryd ag ymchwil y tu allan i'r DU, dylech geisio caniatâd moesegol yn lleol, yn ogystal â thrwy Is-bwyllgor Moeseg Ymchwil Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe.)
Pwyllgor moeseg a llywodraethu ymchwil Prifysgol Abertawe

Mae Pwyllgor Moeseg a Llywodraethu Ymchwil Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe'n darparu trosolwg strategol o faterion moeseg a llywodraethu ymchwil yn yr Ysgol Feddygaeth ac mewn perthynas â Cholegau ac Ysgolion eraill y Brifysgol a'r Brifysgol gyfan.
Is-bwyllgor moeseg ymchwil Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe

Mae Is-bwyllgor Moeseg Ymchwil yr Ysgol Feddygaeth yn Is-bwyllgor i Bwyllgor Moeseg a Llywodraethu Ymchwil y Brifysgol. Mae'n darparu cymeradwyaeth a throsolwg moesegol ar gyfer ymchwil a wneir yn yr Ysgol Feddygaeth neu ar y cyd â'r Ysgol.
Cwestiynau Cyffredin
Oes angen cymeradwyaeth foesegol arnaf ar gyfer y prosiect hwn?
Mae angen adolygiad moeseg ar gyfer yr holl waith sy'n cynnwys cyfranogwyr dynol a fydd yn cael ei gyhoeddi - er enghraifft, traethodau estynedig myfyrwyr israddedig, traethodau ymchwil graddau uwch, ymchwil a ariennir yn allanol ac ymchwil nad yw'n cael ei ariannu (gan gynnwys ymchwil myfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig) sy'n cynhyrchu adroddiadau neu gyhoeddiadau eraill.
Beth dylwn i ei ystyried wrth gynnal cyfweliadau neu holiaduron?
Gall holiaduron a chyfweliadau ymchwil godi materion sy'n peri trallod i gyfranogwyr wrth siarad neu feddwl amdanynt. Nid yw'r posibilrwydd y gallai cyfweliadau neu holiaduron beri trallod i'ch cyfranogwyr yn golygu na allwch ddefnyddio'r dulliau hyn i gasglu data. Yr hyn y bydd angen i chi ei wneud, fodd bynnag, yw sicrhau bod cefnogaeth, gwybodaeth a sgiliau priodol ar gael i helpu os bydd rhywun mewn trallod. Gallai hyn gynnwys sgiliau gwrando a gwybodaeth ysgrifenedig am wasanaethau sydd ar gael yn lleol i ddarparu cymorth tymor hwy i unigolion. Yn eich cais am gymeradwyaeth foesegol, nodwch eich cynlluniau am yr hyn i'w wneud os bydd rhywun yn cynhyrfu.
Oes rhaid i mi ofyn i'm cyfranogwyr arwyddo ffurflen gydsynio?
Rhaid i chi gael cydsyniad ffurfiol ysgrifenedig gan gyfranogwyr. Efallai y bydd eithriadau ar gyfer rhai mathau o holiaduron dienw, lle rhagdybir bod cwblhau'r holiadur yn arwydd o gydsyniad. Mae'n bosib y bydd hyn yn berthnasol i holiaduron sy'n cael eu cwblhau drwy ddolen we (e.e. SurveyMonkey) neu holiaduron a anfonir drwy’r post lle mae’r ymatebwyr yn dynodi eu cydsyniad drwy ddychwelyd yr holiadur atoch chi.
Gan bwy y bydd angen ceisio caniatâd i weithio gyda phlant mewn ysgolion?
Os ydych yn arsylwi ar y ffordd mae plant/pobl ifanc ac aelodau staff yn rhyngweithio yn ystod dosbarthiadau addysg mewn ysgol, bydd angen caniatâd pennaeth yr ysgol a rhieni’r plant yr hoffech arsylwi arnynt. Mae gan bennaeth yr ysgol ddyletswydd gofal am y plant a bydd angen darbwyllo'r unigolyn hwn bod diben buddiol gan eich gwaith ac na fydd yn peri risg i'r plant. Dylech geisio cydsyniad y plant/pobl ifanc hefyd.
Oes angen caniatâd rhieni i ddosbarthu holiaduron?
Hyd yn oed os bydd athro wedi cydsynio i'r astudiaeth, bydd angen esbonio'r astudiaeth i'r plant hefyd a chael eu cydsyniad i gymryd rhan. Dylech gael cydsyniad y rhieni hefyd. Os yw'r astudiaeth yn ymwneud â phwnc sensitif, mae'n hynod bwysig bod pawb sy'n rhan ohoni - plant, rhieni ac athrawon - yn deall yr astudiaeth a'u bod yn cael cyfle i wrthod cymryd rhan, neu gyfle i wrthod caniatâd i chi ofyn i'w plentyn gymryd rhan.
Gaf i roi gwybodaeth i ddarpar gyfranogwyr ymchwil a gofyn iddynt gydsynio ar yr un pryd?
Fel arfer caniateir 7-14 diwrnod i ddarpar gyfranogwyr ystyried a ydynt yn cytuno i fod yn rhan o brosiect ymchwil ai peidio. I osgoi'r posibilrwydd o orfodaeth (neu ganfyddiad o orfodaeth), ystyrir ei bod yn arfer da cysylltu â darpar gyfranogwyr yn y lle cyntaf drwy rywun nad yw'n ymwneud yn uniongyrchol â'r astudiaeth ymchwil. Er enghraifft, gall darlithydd (nad yw'n ymwneud â'r astudiaeth) ddosbarthu llythyron gwybodaeth i fyfyrwyr a bydd yr ymchwilydd yn trefnu cwrdd â'r rhai sydd â diddordeb mewn cymryd rhan nes ymlaen.
Rwy'n adnabod pobl sy'n gweithio yn yr ysgol - oes angen caniatâd arnaf yn y sefyllfa hon?
Mae'n ddefnyddiol iawn os oes gennych gysylltiadau lleol ym mhob ysgol a fydd yn gallu dosbarthu'r holiaduron ar eich rhan. Fodd bynnag, os byddant yn defnyddio blychau llythyron y staff neu'r post mewnol yn yr ysgol, byddai'n arfer da cael caniatâd y Pennaeth yn y lle cyntaf.
Rwyf am ddefnyddio grwpiau ffocws i gasglu data – beth yw'r "rheolau sylfaenol" y mae pobl yn cyfeirio atynt?
Mae'r rheolau sylfaenol yn cyfeirio at gyfres o argymhellion y mae cyfranogwyr yn cytuno iddynt cyn dechrau'r grŵp ffocws. Mae'r rheolau'n sicrhau bod gan yr holl gyfranogwyr gyfle i ryngweithio mewn trafodaeth grŵp, sydd hefyd yn ddiogel ac yn gynhyrchiol i bawb. Mae rhai rheolau sylfaenol yn cynnwys:
- Un person i siarad ar y tro
- Siarad ar ran eich hun, gan ddefnyddio datganiadau "fi"
- Cyfrannu drwy siarad a gwrando
- Bod yn feirniadol o syniadau, ond parchu barn wahanol a safbwyntiau gwahanol
- Trafod y pwnc a pheidio â chrwydro ohono'n ormodol
- Cadw cyfrinachedd y farn a fynegir yn y drafodaeth
- Canolbwyntio ar faterion y mae angen eu trafod, nid yr unigolion
- Aros i un person orffen siarad a pheidio â thorri ar draws eraill