Yn sgil newidiadau i ganllawiau Llywodraeth Cymru a phenderfyniadau gan Reolaeth y Brifysgol o ran Covid-19, efallai bydd gofyn i ni wneud newidiadau i'n gwasanaethau, weithiau ar fyr rybudd.
Byddwn yn diweddaru ein tudalennau gwe yn gyson gydag unrhyw wybodaeth newydd ond weithiau bydd rhai oediadau yn anosgoadwy.
Sylwer, mae'r Llyfrgelloedd ar agor yn unig ar gyfer y gwasanaethau penodedig ar yr amseroedd penodol.
Gofynnir i chi beidio ag ymweld â'r llyfrgell heb eich Cerdyn Adnabod Prifysgol (neu brawf adnabod arall sydd ei angen ar gyfer casglu eich cerdyn, e.e. eich pasbort) a chadarnhad o'ch archeb lle y bo angen, e.e. ar gyfer Cais a Chasglu neu archebion Mannau Astudio.