.jpg)
Diwrnodau Agored Israddedig
Cofrestrwch NawrMae gwyddonwyr gofal iechyd yn gweithio i ddiagnosio, monitro, atal, rheoli a thrin salwch a chyflyrau gan ddefnyddio dealltwriaeth o’r gwyddorau dynol, gan gynnwys bioleg, cemeg a ffiseg. Maent yn defnyddio eu harbenigedd i wella gofal cleifion ac achub bywydau, neu i helpu pobl i fyw'n annibynnol drwy adsefydlu, naill ai fel cyswllt uniongyrchol i gleifion neu mewn rôl gefnogol.
CYFRES NEWYDDION CYFOES
Archebwch le ar ein Gweminar Newyddion Cyfredol isod i gael rhagflas o'n cwrs, darganfod yr ymchwil diweddaraf yn Abertawe a chael atebion i'ch cwestiynau.
.jpg)
ANATOMEG STRÔC
Achosir strôc gan rywbeth sy’n rhwystro’r cyflenwad gwaed i ran o’r ymennydd. Yn aml, mae clotiau yn pasio i’r ymennydd o’r galon a rhydwelïau mawr, ond sut maen nhw’n cyrraedd yna, ble maen nhw’n mynd, a pham mae hyn yn achosi’r symptomau rydyn ni’n eu gweld.
Cofrestrwch ymaMeddygaeth (Anatomeg)
02/02/202318:00 - 19:00 GMT
Bydd y digwyddiad yn fyw
Ymuno â'r digwyddiad byw nawrYmddiheuriadau, ond mae'r digwyddiad hwn wedi gorffen
Ein Straeon myfyrwyr
"...mae'r cwrs hwn yn caniatáu i mi ymchwilio i fyd yr ymennydd a'r system nerfol wrth gyfathrebu'n weithredol â chleifion. Fe wnaeth profiad gwaith fy helpu i gyfuno darlithoedd â phrofiad clinigol bywyd go iawn tra mewn amgylchedd diogel a chymwynasgar. Roeddwn i’n gallu teithio Cymru am ddim drwy weithio’n galed yn ystod yr wythnos ac archwilio pob ardal newydd ar y penwythnosau."
Darganfod mwy am stori myfyriwr Harriet Wesson
Beth sy'n Gwneud y Gwyddorau Gofal Iechyd yn Abertawe yn Unigryw?

Rydym yn y 10 uchaf yn y DU am Anatomeg a Ffisioleg (Guardian 2023) ac mae ein cyrsiau wedi’u hachredu’n llawn gan gyrff diwydiant proffesiynol. Mae ein cyfleusterau rhagorol yn darparu efelychiadau realistig o’r gweithle ac mae llawer o’n staff academaidd yn y Gwyddorau Iechyd yn glinigwyr wrth eu gwaith, gan ddarparu mewnwelediad ac arbenigedd proffesiynol amhrisiadwy.
Rydym yn hyfforddi ar draws amrywiaeth o rolau clinigol cysylltiedig, sy'n rhoi mynediad i chi at gyfoeth o brofiad clinigol gan ein staff addysgu lle bydd ein hymrwymiad i addysgu sy'n seiliedig ar dystiolaeth yn eich rhoi ar flaen y gad yn eich dewis o ddisgyblaeth gwyddorau gofal iechyd ac yn eich paratoi i wneud gwahaniaeth fel rhan o dîm clinigol.
Graddau a Gyllidir yn Llawn
Gallai dewis i ddilyn eich brwdfrydedd am ofal iechyd dalu ar ei ganfed. Mae hamrywiaeth hwn o raddau wedi'u hariannu'n llawn drwy Gynllun Bwrsariaeth GIG Cymru.
Golyga hyn os byddwch chi'n ymrwymo i weithio i GIG Cymru am gyfnod ar ôl i chi raddio, bydd eich ffioedd addysgu yn cael eu talu'n llawn gan Fwrsariaeth GIG Cymru, yn ogystal â chyllid cynhaliaeth gwerth hyd at £4,491 a benthyciad ar gyfradd ostyngedig gan Gyllid Myfyrwyr.
Rhagor o wybodaeth am Gynllun Bwrsariaeth GIG CymruEin Graddau Gwyddorau Gofal Iechyd

Bydd ein gradd Clywedeg yn rhoi dealltwriaeth lawn a chyfannol i chi ar sut i asesu gallu clywedol a swyddogaethau cydbwysedd gan ddefnyddio'r offer diagnostig a’r cymwysiadau meddalwedd diweddaraf. Drwy gydol eich cwrs, byddwch yn arsylwi ar glinigau yn ein Hacademi Iechyd a Lles bwrpasol, yn cael profiad mewn lleoliadau masnachol ac yn magu sgiliau a hyder mewn lleoliadau gwaith clinigol mewn ysbytai.
Tudalen y cwrs: Gwyddor Gofal Iechyd (Clywedeg), BSc (Anrhydedd)
Wrth astudio Clywedeg, byddwch yn gallu dewis derbyn cyllid o Gynllun Bwrsariaeth GIG Cymru, ac felly yn ymrwymo i weithio i GIG Cymru am nifer benodol o flynyddoedd, neu drwy Fenthyciadau a Grantiau Myfyrwyr.

Bydd ein gradd mewn Ffisioleg Gardiaidd yn rhoi dealltwriaeth lawn a chyfannol i chi o anatomeg a ffisioleg y galon, ynghyd â'r technegau diagnostig a therapiwtig diweddaraf. Byddwch chi hefyd yn elwa ar leoliad cleifion go iawn yn ein Hacademi Iechyd a Lles arobryn, sy'n glinig ar y safle sy'n darparu gwasanaethau iechyd a lles i'r gymuned leol mewn cydweithrediad â'r GIG.
Tudalen y cwrs: Gwyddor Gofal Iechyd (Ffisioleg Gardiaidd), BSc (Anrhydedd)
Wrth astudio Ffisioleg Gardiaidd, byddwch yn gallu dewis derbyn cyllid o Gynllun Bwrsariaeth GIG Cymru, ac felly yn ymrwymo i weithio i GIG Cymru am nifer benodol o flynyddoedd, neu drwy Fenthyciadau a Grantiau Myfyrwyr.

Fel Peiriannydd Meddygol byddwch yn dod yn ymarferydd sy'n ymgymryd â rôl ymarferol yn y gwaith o brofi a chyflwyno offer newydd sy'n ymwneud â meddygaeth, gan fynd i'r afael â diogelwch cleifion a chael gwared ar hen ddyfeisiau'n ddiogel. Yn ogystal â'r gweithgareddau hyn efallai y byddwch yn ymwneud ag addasu neu adeiladu offer. Yn y radd hon byddwch yn cyfuno gwaith academaidd manwl â sgiliau clinigol a thechnolegol ymarferol mewn ystod o leoliadau gofal iechyd arbenigol.
Tudalen y Cwrs: Gwyddor Gofal Iechyd (Peirianneg Feddygol), BSc (Anrh)
Wrth astudio Peirianneg Feddygol bydd gennych ddewis a ydych yn derbyn cyllid gan Gynllun Bwrsariaeth GIG Cymru, ac felly'n ymrwymo i weithio yng Nghymru am nifer o flynyddoedd, neu drwy Fenthyciadau a Grantiau Myfyrwyr.

Wrth astudio ein gradd Meddygaeth Niwclear, byddwch yn dysgu sut i ddefnyddio isotopau a ffurfiau amrywiol ar ymbelydredd i ddiagnosio a thrin llawer o glefydau, gan gynnwys mathau gwahanol o ganser, clefyd y galon a chyflyrau gastroberfeddol, endrocrinaidd a niwrolegol. Caiff hanner eich cwrs ei addysgu ar gampws Parc Singleton, a'r hanner arall mewn lleoliadau gofal iechyd er mwyn i chi roi eich gwybodaeth ddamcaniaethol ar waith yn ymarferol.
Tudalen y cwrs: Gwyddor Gofal Iechyd (Meddygaeth Niwclear), BSc (Anrhydedd)
Wrth astudio Meddygaeth Niwclear, byddwch yn gallu dewis derbyn cyllid o Gynllun Bwrsariaeth GIG Cymru, ac felly yn ymrwymo i weithio i GIG Cymru am nifer benodol o flynyddoedd, neu drwy Fenthyciadau a Grantiau Myfyrwyr.

Bydd ein gradd Niwroffisioleg yn rhoi dealltwriaeth 360o i chi o sut mae'r system nerfol yn gweithio a'r cyflyrau sy'n effeithio arni, megis strôc, epilepsi, sglerosis ymledol, dementia a diffygion y nerfau a'r cyhyrau. Fel niwroffisiolegydd, byddwch chi'n cynnal archwiliadau'n aml mewn amgylcheddau neu adrannau pwrpasol, megis lleoliadau gofal dwys a theatrau llawdriniaeth, gan weithio gyda chleifion o bob oedran.
Tudalen y cwrs: Gwyddor Gofal Iechyd (Niwroffisioleg), BSc (Anrhydedd)
Wrth astudio Niwroffisioleg, byddwch yn gallu dewis derbyn cyllid o Gynllun Bwrsariaeth GIG Cymru, ac felly yn ymrwymo i weithio i GIG Cymru am nifer benodol o flynyddoedd, neu drwy Fenthyciadau a Grantiau Myfyrwyr.

Bydd gradd mewn Ffiseg Radiotherapi yn rhoi'r sgiliau a'r ddealltwriaeth angenrheidiol i chi ddefnyddio ymbelydredd yn effeithiol wrth drin canser. Byddwn yn eich paratoi chi ar gyfer gyrfa fel Ffisegydd Radiotherapi neu Dechnolegydd Ffiseg Radiotherapi lle byddwch yn gweithio fel rhan o dîm i ddatblygu cynlluniau triniaeth i gleifion ac yn gyfrifol am galibradu a defnyddio offer radiotherapi.
Tudalen y cwrs: Gwyddor Gofal Iechyd (Ffiseg Radiotherapi), BSc (Anrhydedd)
Wrth astudio Ffiseg Radiotherapi, byddwch yn gallu dewis derbyn cyllid o Gynllun Bwrsariaeth GIG Cymru, ac felly yn ymrwymo i weithio i GIG Cymru am nifer benodol o flynyddoedd, neu drwy Fenthyciadau a Grantiau Myfyrwyr.

Bydd ein gradd Ffiseg Ymbelydredd yn rhoi dealltwriaeth gyfannol i chi o'r cyfreithiau a'r rheoliadau o ran defnydd clinigol ymbelydredd ym maes meddygaeth a'r sgiliau sy'n ofynnol er mwyn trin cleifion gyda phelydr-X, deunyddiau ymbelydrol, laseri ac ymbelydredd uwchfioled wrth ddelweddu cleifion, diagnosio a thrin clefydau a monitro ymateb cleifion i driniaeth.
Tudalen y cwrs: Gwyddor Gofal Iechyd (Ffiseg Ymbelydredd), BSc (Anrhydedd)

Bydd astudio Ffisioleg Anadlu a Chysgu yn addysgu strwythur a swyddogaethau'r system anadlu i chi, ynghyd â'r technegau diagnostig a therapiwtig diweddaraf, gan eich galluogi chi i symud ymlaen i yrfa sy'n rhoi boddhad fel gweithiwr iechyd proffesiynol cysylltiedig sy'n gweithio ochr yn ochr â meddygon ac amrywiaeth o weithwyr proffesiynol gofal iechyd i ddiagnosio a thrin pobl â chlefyd anadlu a chyflyru anadlu sy'n gysylltiedig â chysgu.
Tudalen y cwrs: Gwyddor Gofal Iechyd (Ffisioleg Anadlu a Chysgu), BSc (Anrhydedd)
Wrth astudio Ffisioleg Anadlu a Chysgu, byddwch yn gallu dewis derbyn cyllid o Gynllun Bwrsariaeth GIG Cymru, ac felly yn ymrwymo i weithio i GIG Cymru am nifer benodol o flynyddoedd, neu drwy Fenthyciadau a Grantiau Myfyrwyr.

Bydd Peirianneg Adsefydlu yn eich paratoi ar gyfer gyfra gyffrous fel rhan o dîm adsefydlu, gan gynnwys darnau prosthetig. Byddwch yn datblygu dealltwriaeth gyfannol o adeiladu a phrofi amrywiaeth o dechnolegau cynorthwyol wedi'u teilwra a safonol, gan gynnwys cadeiriau olwyn, breichiau artiffisial, cymhorthion robotig a seddau arbenigol. Byddwch yn defnyddio systemau mapio, onglfesuryddion, mesuryddion goleddf, rheolwyr ffon lywio a rhaglennwyr.
Tudalen y cwrs: Gwyddor Gofal Iechyd (Peirianneg Adsefydlu), BSc (Anrhydedd)
Drwy astudio Peirianneg Adsefydlu byddwch yn dewis naill ai dderbyn cyllid gan Gynllun Bwrsariaethau GIG Cymru, ac felly’n ymrwymo i weithio i GIG Cymru am nifer o flynyddoedd neu gallech ddewis Benthyciadau a Grantiau i Fyfyrwyr.
Am Ddarganfod Mwy am Abertawe
Ydych chi’n cael eich ysbrydoli i hyfforddi ar gyfer gyrfa yn y GIG? Treuliwch yr amser i archwilio ein campws o gysur eich cartref eich hun gan ddefnyddio ein rhith-daith, siaradwch â rhai o'n myfyrwyr cyfredol am sut brofiad yw astudio yn Abertawe a sicrhewch eich bod chi'n cofrestru ar gyfer ein Diwrnod Agored nesaf lle gallwch, yn bersonol, brofi Abertawe, ein cymuned a'n cyrsiau.