Sgip i brif cynnwys Hafan Prifysgol Abertawe
  • Swyddi
  • Offer Hygyrchedd
  • Myfyrwyr Cyfredol
  • Staff
  • 中文
  • English
Hafan Prifysgol Abertawe
  • Swyddi
  • Offer Hygyrchedd
  • Myfyrwyr Cyfredol
  • Staff
  • 中文
  • English
  1. Hafan
  2. Israddedig
  3. Cyrsiau Israddedig
  4. Cyrsiau Israddedig Ysgol Seicoleg
  5. Troseddeg a Seicoleg, BSc (Anrh)
  • Astudio
    • Diwrnodau Agored yn Abertawe
      Three students walking through Bay Campus in the Sun

      Rydyn ni'n disgwyl ymlaen at eich crosawu chi!

      Ymweld â ni
    • Israddedig
      • Cyrsiau
      • Llety
      • Canllaw Rhieni a Gwarcheidwaid I'r Brifysgol
      • Diwrnodau Agored
      • Sut i wneud cais
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Gofynnwch Gwestiwn i Ni
      • Cadwch mewn cysylltiad
    • Ôl-raddedig
      • Cyrsiau
      • Rhaglenni Ymchwil
      • Diwrnod Agored
      • Sut i Wneud Cais
      • Ysgoloriaethau a bwrsariaethau
      • Y Brifysgol
      • Gofynnwch Gwestiwn i Ni
      • Cadwch mewn cysylltiad
    • Bywyd Myfyriwr
      • Astudio
      • Pam Abertawe
      • Bywyd y campws
      • Chwaraeon
      • Cynaliadwyedd - Cymrwch Ran
      • Sefydliad Diwylliannol
      • Undeb Myfyrwyr Prifysgol Abertawe
      • Taith Rhithwir
      • Beth yw Gŵyl y Glas?
    • Gwasanaethau i Fyfyrwyr
      • Llyfrgelloedd ac Archifau
      • BywydCampws
      • Academi Cyflogadwyedd Abertawe
      • Menter Myfyrwyr
      • Canolfan Llwyddiant Academaidd
      • Academi Hywel Teifi
      • Llesiant myfyrwyr
  • Rhyngwladol
  • Ein Ymchwil
    • Gwnewch Ymchwil Gyda Ni
      • Cefnogi eich taith ymchwil ôl-raddedig
      • Dod o hyd i raglen ymchwil ol-raddedig
      • Sut i wneud cais am raglen ymchwil Ôl-raddedig
      • Hyfforddiant a Datblygiad i Oruchwylwyr a Myfyrwyr Ymchwil
    • Archwiliwch ein hymchwil
      • Uchafbwyntiau Ymchwil
      • Ymchwil yn y cyfadrannau
      • Momentum - ein cylchgrawn ymchwil
      • Archwilio Problemau Byd-eang
    • Darganfyddwch ein hymchwil
      • Cyfeiriadur Arbenigedd
      • Dod o hyd i bapur ymchwil
      • Manteisio ar ein Harbenigedd ym maes Ymchwil a Datblygu
    • Ein Hamgylchedd Ymchwil
      • Uniondeb Ymchwil: Moeseg a Llywodraethu
      • Effaith ymchwil
      • Hyfforddiant a datblygiad
      • Sefydliad Astudiaethau Uwch Morgan (SAUM)
    • Ein Cenhadaeth Ddinesig
      • Gŵyl Wyddoniaeth Abertawe
      • Gŵyl Bod yn Ddynol
      • Oriel Science
      • Byd Copr Cymru
  • Busnes
  • Cyn-fyfyrwyr
  • Y Brifysgol
    • Swyddfa'r Wasg
      Female student working with steel

      Newyddion a Ymchwil Diweddaraf straeon

      Darllenwch y newyddion diweddaraf yma
    • Y Brifysgol
      • Amdanom ni
      • Sut i ddod o hyd i ni
      • Dyfarniadau a Safleoedd y Brifysgol
      • Ein Cyfadrannau
      • Swyddfa'r Wasg
      • Swyddi a Gweithio yn Abertawe
      • Cynaliadwyedd ym Mhrifysgol Abertawe
      • Teithio i’r campws ac oddi yno
      • Cysylltu â ni
    • Chwaraeon
      • Bod yn Actif
      • Cynghreiriau Cymdeithasol
      • Clybiau Chwaraeon
      • Perfformiad
      • Cyfleusterau
      • Nawdd
      • Ysgoloriaethau
      • Newyddion
    • Bywyd y campws
      • Llety
      • Arlwyo
      • Sefydliad Diwylliannol
      • Y Neuadd Fawr
      • Taliesin
      • Creu Taliesin
      • Ein Tiroedd
      • Cerddoriaeth
      • Rhithdaith
    • Ein Cyfadrannau
      • Cyfadran y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol
      • Cyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg
      • Cyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd
      • Y Coleg
    • Academïau
      • Academi Iechyd a Llesiant
      • Sefydliad Astudiaethau Uwch Morgan (SAUM)
      • Academi Cyflogadwyedd Abertawe (SEA)
      • Academi Hywel Teifi
      • Academi Cynwysoldeb Abertawe (SAI)
  • Newyddion a Digwyddiadau
  • Cefnogaeth a Lles
  1. Hafan
  2. Israddedig
  3. Cyrsiau Israddedig
  4. Cyrsiau Israddedig Ysgol Seicoleg
  5. Troseddeg a Seicoleg, BSc (Anrh)

Troseddeg a Seicoleg, BSc (Anrh)

Tudalennau cysylltiedig
  • Ein Cyfadrannau
  • Cyrsiau Israddedig
    • Cyrsiau Israddedig r Ysgol Peirianneg Awyrofod, Sifil, Drydanol, Peirianneg Gyffredinol a Mecanyddol
    • Cyrsiau Israddedig Ysgol y Biowyddorau, Daearyddiaeth a Ffiseg
    • Cyrsiau Israddedig Ysgol Diwylliant a Chyfathrebu
    • Cyrsiau Israddedig yr Ysgol Peirianneg a Gwyddorau Cymhwysol
    • Cyrsiau Israddedig Iechyd a Gofal Cymdeithasol
    • Cyrsiau Israddedig y Gyfraith
    • Cyrsiau Israddedig yr Ysgol Reolaeth
    • Cyrsiau Israddedig yr Ysgol Mathemateg a Chyfrifiadureg
    • Cyrsiau Meddygaeth Israddedig
    • Cyrsiau Israddedig Ysgol Seicoleg
      • Seicoleg, BSc (Anrh.)
      • Seicoleg gyda Blwyddyn Sylfaen, BSc
      • Troseddeg a Seicoleg, BSc (Anrh.)
      • Cymdeithaseg a Seicoleg, BSc (Anrh.)
      • Cymdeithaseg a Seicoleg (gyda Blwyddyn Sylfaen), BSc (Anrh))
    • Cyrsiau Israddedig Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol
    • Cyrsiau Is-raddedig yn dod yn fuan!
    • Gofynion mynediad
  • Cysylltu â'r tîm derbyn israddedig
  • Diwrnodau Agored Israddedig
  • Llety
  • Sut i wneud cais am gwrs israddedig
  • Clirio
  • Chwaraeon
  • Bywyd Myfyriwr
  • Ffioedd a Chyllid
  • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
  • Rhithdaith
  • Gwybodaeth i Rieni a Gwarcheidwaid
  • Prosbectws Israddedig
  • Pam Astudio yn Abertawe?
  • Beth yw UCAS Extra? Eich canllaw cynhwysfawr
  • Newidiadau rhaglen israddedig
  • Athrawon ac Ymgynghorwyr
  • Cyfres Gweminar Prifysgol Abertawe
Wedi'i achredu gan Gymdeithas Seicolegol Prydain (BPS)
Sicrwydd Ansawdd y DU
Ymgeisio

O ble ydych chi'n gwneud cais?

Gwneud cais fel myfyriwr o'r DU neu'r UE?

Dylai pob myfyriwr y DU neu'r UE wneud cais drwy UCAS

Ewch i UCAS

Gwneud cais fel myfyriwr rhyngwladol?

Mae gennym System Gwneud Cais uniongyrchol rhwydd a chyflym i fyfyrwyr rhyngwladol.

Ewch i'r System Gwneud Cais

Gall myfyrwyr rhyngwladol hefyd wneud cais drwy UCAS

Diwrnod Agored
Cadwch Mewn Cysylltiad
criminology and psychology

Strwythur gradd hyblyg

ag amrywiaeth eang o fodiwlau dewisol yn y flwyddyn olaf.

Manylion Allweddol y Cwrs

3 Blynedd Llawn Amser
Côd UCAS
5S26
Dull Astudio
Ar y Campws
Cynnig Nodweddiadol (gweler dewisiadau arall)
ABB-BBB
Lleoliad
Campws Parc Singleton
Dyddiad Dechrau Ffioedd Dysgu - Blwyddyn 1
Med 2023 £ 9,000
3 Blynedd Llawn Amser
Côd UCAS
5S26
Dull Astudio
Ar y Campws
Cynnig Nodweddiadol
ABB-BBB - Gwybodaeth Rhagor
Lleoliad
Campws Parc Singleton
Dyddiad Dechrau Ffioedd Dysgu - Blwyddyn 1
Med 2023 £ 17,700
Wedi'i achredu gan Gymdeithas Seicolegol Prydain (BPS)
Sicrwydd Ansawdd y DU

Trosolwg o'r Cwrs

Bydd ein cwrs BSc mewn Troseddeg a Seicoleg yn rhoi hyfforddiant gwyddonol arbenigol i chi ar y gydberthynas rhwng y meddwl, yr ymennydd ac ymddygiad ynghyd â dealltwriaeth fanwl o ddamcaniaeth cyfiawnder troseddol a'r cysylltiadau rhwng y ddau faes hyn.

Byddwch yn astudio'r prosesau seicolegol a niwrowyddonol sy'n sail i weithgareddau fel meddwl, rhesymu, cof ac iaith, dysgu am effeithiau anaf i'r ymennydd ac ymchwilio i ffyrdd o wella ymddygiad sy'n gysylltiedig ag iechyd.

Byddwch yn meithrin gwybodaeth a dealltwriaeth fanwl o'r damcaniaethau pwysicaf mewn perthynas â throsedd a gwyriad a'u perthnasedd i bolisi, ymchwil ac ymarfer ym maes cyfiawnder troseddol cyfoes.

Drwy gydol eich astudiaethau, byddwch yn meithrin sgiliau ymchwilio, dadansoddi beirniadol a chyfathrebu rhagorol, yn ogystal â lefel uchel o allu rhifedd a TGCh.

Pam Troseddeg a Seicoleg ym Mhrifysgol Abertawe?

Mae gan ein Hadran Seicoleg enw rhagorol yn y DU ac yn rhyngwladol. Yn yr asesiad ymchwil diweddaraf, roeddem yn falch o gynnal ein diwylliant ymchwil gyda hanes cryf o drosi gwyddoniaeth yn ganlyniadau byd go iawn, gyda 100% o'n heffaith yn cael ei hystyried yn rhagorol yn rhyngwladol (REF2021).

Mae Troseddeg yn Abertawe ymhlith y:

  • 4ydd yn y Deyrnas Unedig ar gyfer Boddhad â’r Cwrs (Guardian University Guide 2023)
  • 6ed yn y Deyrnas Unedig ar gyfer Boddhad â’r Addysgu (Guardian University Guide 2023)
  • 10 Gorau y Deyrnas Unedig ar gyfer Rhagolygon Gyrfa (Guardian University Guide 2023)
  • 10 Gorau yn y Deyrnas Unedig (Guardian University Guide 2023)

Mae'r radd mewn Seicoleg wedi'i dilysu gan Gymdeithas Seicolegol Prydain (BPS) ac, ar yr amod eich bod yn cael o leiaf 2:2 yn eich gradd, byddwch yn gymwys i fod yn Aelod Graddedig o BPS ac i gael y Sail Raddedig am Aelodaeth Siartredig (GBC), sef y cam cyntaf tuag at ddod yn Seicolegydd Siartredig.

Eich profiad ym maes Troseddeg a Seicoleg

Mae ein strwythur gradd hyblyg sy'n cynnig amrywiaeth eang o fodiwlau dewisol yn y drydedd flwyddyn yn eich galluogi i deilwra eich astudiaethau yn unol â'ch diddordebau penodol, eich nodau gyrfa neu'ch uchelgeisiau ar gyfer astudiaethau ôl-raddedig.

Gallwch drosglwyddo i'n cwrs pedair blynedd BSc Troseddeg a Seicoleg gyda Blwyddyn Dramor a threulio eich trydedd flwyddyn yn cyfoethogi eich sgiliau a'ch profiad yn un o'n prifysgolion partner yn Awstralia, Canada, yr Almaen, Hong Kong, Iwerddon, yr Iseldiroedd, Seland Newydd, Gwlad Pwyl a'r Unol Daleithiau.

Gyrfaoedd Troseddeg a Seicoleg

Gan mai'r radd hon sydd wedi'i hachredu gan BPS yw'r cam cyntaf tuag at ddilyn gyrfa broffesiynol ym maes Seicoleg, mae llawer o'n graddedigion wedi symud ymlaen i astudiaethau pellach neu waith mewn meysydd arbenigol sy'n gysylltiedig â seicoleg.

Y cyflog cychwynnol arferol ar gyfer seicolegydd clinigol dan hyfforddiant yn y GIG yw £25,783. Wrth i'ch gyrfa ddatblygu, gallech ennill rhwng  £47,088 ac £81,000 neu fwy. Mae cyflogau mewn practisau preifat yn amrywio.

Byddwch hefyd yn cael llawer o gyfleoedd yn y system cyfiawnder troseddol, gan gynnwys rolau gyda'r heddlu, cymorth i ddioddefwyr a charchardai a gwasanaethau prawf.

Hefyd, bydd y profiad a'r sgiliau y byddwch yn eu meithrin ar y cwrs hwn yn eich paratoi'n dda ar gyfer gyrfaoedd mewn meysydd eraill yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol, yn ogystal â sectorau mor amrywiol â rheoli, ymchwil a marchnata. 

Ymwadiad Rhaglen

Prosbectws Israddedig

Darganfyddwch eich prifysgol

Ewch ar rithdaith

virtual tour

Cynigion wedi'u gwarantu*

Astudio trwy'r Gymraeg

welsh medium

Sgwrsiwch â Myfyriwr Cyfredol

Dau fyfyriwr wrth gyfrifiadur

Modiwlau

Bydd eich astudiaethau cynnar yn cyflwyno egwyddorion allweddol y gyfraith, cyfiawnder troseddol, hawliau dynol, ystadegau a dulliau ymchwil i chi, yn ogystal ag agweddau ar seicoleg fiolegol, cymdeithasol a datblygiadol.

Bydd yr opsiynau diweddarach yn eich galluogi i ganolbwyntio ar amrywiaeth o opsiynau ym maes troseddeg a seicoleg ochr yn ochr â modiwlau craidd gorfodol.

Blwyddyn 1 (Lefel 4)

FHEQ 4 Undergraduate / HECert

Mae myfyrwyr yn dewis 120 o gredydau o'r opsiynau canlynol:

Modiwlau Gorfodol
Enw'r ModiwlHyd y ModiwlCredydauCod y Modiwl
10PSA113
Victims and VictimologySeptember-January10ASC106
Study Skills in Social SciencesSeptember-January10ASC113
Cognition I: Basic ProcessesSeptember-January10PSA111
Individual and Abnormal PsychologySeptember-January10PSA114
Academic Success: Skills for learning, skills for lifeSeptember-June0SHG149
Law, Criminal Justice and Human RightsJanuary-June20ASC110
The Sociological and Criminological ImaginationJanuary-June20ASC111
Social & Developmental PsychologyJanuary-June10PSA112
Modiwlau Opsiynol
Compulsory Modules with Welsh Language Option 

Dewiswch Yn union 10 o gredydau o'r Modiwlau a ganlyn:

SYLWER :Students must select one of the following modules.

Enw'r ModiwlHyd y ModiwlCredydauCod y ModiwlCanllawiau
Academic Skills and Foundational Concepts in Statistics and Research Methods (Joint Honours)September-January10PSA100
Sgiliau Academaidd a Chysyniadau Sylfaenol mewn Ystadegau a Dulliau Ymchwil (Anrhydeddau ar y Cyd)September-June10PSA100W
AND
Compulsory Modules with Welsh Language Option 

Dewiswch Yn union 10 o gredydau o'r Modiwlau a ganlyn:

SYLWER :Students must select one of the following modules.

Enw'r ModiwlHyd y ModiwlCredydauCod y ModiwlCanllawiau
Professional Development and Applications of Statistics and Research Methods (Joint Honours)January-June10PSA101
Datblygiad Proffesiynol a Chymhwyso Ystadegau a Dulliau Ymchwil (Cyd-anrhydedd)January-June10PSA101W

Blwyddyn 2 (Lefel 5)

FHEQ 5 Undergraduate / HEDip

Mae myfyrwyr yn dewis 120 o gredydau o'r opsiynau canlynol:

Modiwlau Gorfodol
Enw'r ModiwlHyd y ModiwlCredydauCod y Modiwl
Criminological Theory: Content and ApplicationSeptember-January20ASC212
Brain and BehaviourSeptember-January20PSY213
Penology and PunishmentJanuary-June20ASC204
Crime, Drugs and AlcoholJanuary-June20ASC215
Cognition II: Higher Level ProcessesJanuary-June20PSY211
Modiwlau Opsiynol
Compulsory Modules with Welsh Language Option 

Dewiswch Yn union 20 o gredydau o'r Modiwlau a ganlyn:

SYLWER :Students must select one of the following modules.

Enw'r ModiwlHyd y ModiwlCredydauCod y ModiwlCanllawiau
Research and Experimental Methods ISeptember-January20PSY237
Dulliau Ymchwil ac Arbrofol ISeptember-January20PSY237W

Blwyddyn 3 (Lefel 6)

FHEQ 6 Undergraduate / Honours

Mae myfyrwyr yn dewis 120 o gredydau o'r opsiynau canlynol:

Modiwlau Gorfodol
Enw'r ModiwlHyd y ModiwlCredydauCod y Modiwl
From Individuals to SocietySeptember-January10PSY324
Development Across the LifespanJanuary-June10PSY302
Modiwlau Opsiynol
Year 3 Optional Psychology Modules 

Dewiswch Yn union 20 o gredydau o'r Modiwlau a ganlyn:

SYLWER :Students need to select two modules from those listed below.

Enw'r ModiwlHyd y ModiwlCredydauCod y ModiwlCanllawiau
Positive PsychologySeptember-January10PSY317
Evolutionary perspectives on romantic and sexual relationshipsSeptember-January10PSY318
Psychology of AestheticsSeptember-January10PSY322
Health and Human Development from Pregnancy to InfancySeptember-January10PSY326
Applied Behaviour AnalysisSeptember-January10PSY342
Evolution and Human BehaviourSeptember-January10PSY347
The Infant BrainSeptember-January10PSY349
Behaviour Change: Health, Organisations and AdvertisingSeptember-January10PSY354
Psychology of Sport and ExerciseSeptember-January10PSY358
Understanding and Managing Criminal BehaviourSeptember-January10PSY359
The Ageing BrainSeptember-January10PSY362
Face Perception and Social Cognitive NeuroscienceJanuary-June10PSY306
Cognition and EducationJanuary-June10PSY316
CyberpsychologyJanuary-June10PSY323
Cognitive Forensic NeuroscienceJanuary-June10PSY328
Cognitive NeuropsychologyJanuary-June10PSY343
Contemporary Issues in Eating Behaviour ResearchJanuary-June10PSY345
Nutrition and BehaviourJanuary-June10PSY351
Dimensions of Personality and Sexual Disorder January-June10PSY352
Philosophy of PsychologyJanuary-June10PSY353
Sleep and DreamingJanuary-June10PSY357
Work PsychologyJanuary-June10PSY360
AND
Year 3 Optional Criminology Modules 

Dewiswch Yn union 60 o gredydau o'r Modiwlau a ganlyn:

SYLWER :Select three Criminology modules from those listed below. Please ensure that the number of credits that you are doing each semester are balanced

Enw'r ModiwlHyd y ModiwlCredydauCod y ModiwlCanllawiau
Social and Environmental HarmsSeptember-January20ASC319
Homicide: Criminalising Death and DyingSeptember-January10ASC326
Critical Criminology of Sports and LeisureSeptember-January20ASC333
Organised Crime: Concepts, Patterns, and ResponsesSeptember-January10ASC335
Cybercrime and Digital InvestigationSeptember-January20ASC336
An Introduction to Policing in England and WalesSeptember-January20CR-301
Critical Challenges in Justice for Children January-June20ASC303
Criminalisation of SexJanuary-June20ASC316
Understanding & Countering Terrorism & Violent ExtremismJanuary-June20ASC317
Delivering Social Justice Interventions: Entrepreneurial Criminology January-June10ASC325
AND
Core Modules with Welsh Language Option 

Dewiswch Yn union 20 o gredydau o'r Modiwlau a ganlyn:

SYLWER :Students must select one of the following modules.

Enw'r ModiwlHyd y ModiwlCredydauCod y ModiwlCanllawiau
Independent Research Project - Joint HonoursSeptember-June20PSY325
Prosiect Ymchwil Annibynnol - Anrhydeddau ar y CydSeptember-June20PSY325W

Gofynion Mynediad

Cynnig Nodweddiadol ar gyfer Safon Uwch/Bagloriaeth Cymru*

ABB-BBB

Os oes gennych un o'r cymwysterau Safon Uwch canlynol: Seicoleg, Bioleg, Cemeg, Mathemateg neu Ffiseg, y cynnig nodweddiadol fydd BBB.

* Rydym yn croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr Diploma Uwch Bagloriaeth Cymru. Mae'r gofynion yr un peth â'r rhai ar gyfer Safon Uwch, lle y gallwch gyfnewid yr un radd nad yw'n benodol i'r pwnc am Radd Graidd Lefel Uwch Bagloriaeth Cymru.

Cynnig Nodweddiadol ar gyfer Mynediad i Addysg Uwch

27 Rhagoriaeth, 15 Teilyngdod, 3 Llwyddo

Cynnig Nodweddiadol ar gyfer BTEC

Rhagoriaeth, Rhagoriaeth, Teilyngdod mewn pwnc cysylltiedig (e.e. y Gyfraith, Gwasanaethau Cyhoeddus mewn Lifrai)

Bagloriaeth Ryngwladol

32-33 o bwyntiau

Tystysgrif Gadael Iwerddon

360-375 o bwyntiau

Mae angen i broffiliau TGAU gynnwys o leiaf bum gradd A*-C gan gynnwys Cymraeg neu Saesneg Iaith a Mathemateg.

Ar gyfer ymgeiswyr nad Saesneg yw eu hiaith gyntaf, mae angen isafswm sgôr IELTS o 6.0 (neu gyfwerth) a dim llai na 5.5 ym mhob cydran.

Os oes gennych gymwysterau a all fod yn addas ar gyfer Mynediad at Addysg Uwch neu gymwysterau amgen, cysylltwch â'r tîm Derbyniadau Seicoleg ar +44 (0)1792 513023 neu anfonwch e-bost i psychology.admissions@swansea.ac.uk

Sut byddwch chi'n cael eich dysgu

Mae'r amserlen safonol yn cynnwys tua 10-12 awr o ddarlithoedd a dosbarthiadau ymarferol bob wythnos, ond bydd seminarau a thiwtorialau personol ychwanegol sy'n gysylltiedig â'r modiwlau yn cael eu trefnu drwy gydol pob semester ac mae astudio annibynnol yn rhan annatod o bob modiwl.

Byddwch yn dysgu drwy amrywiaeth eang o ddulliau addysgu a dysgu rhyngweithiol ac arloesol, gan gynnwys darlithoedd, tiwtorialau personol, seminarau academaidd, gweithdai, grwpiau cyfryngau cymdeithasol a dosbarthiadau ymchwil ymarferol.

Yn ystod eich trydedd flwyddyn, byddwch yn cydweithio â staff seicoleg ar brosiect ymchwil annibynnol. Mae rhai o'n myfyrwyr hyd yn oed yn symud ymlaen i gyhoeddi eu prosiectau ymchwil annibynnol mewn cyfnodolion academaidd a adolygir gan gymheiriaid a chyflwyno eu canfyddiadau mewn cynadleddau ymchwil cenedlaethol a rhyngwladol.

Rydym yn falch o ddarparu profiad addysgol rhagorol, gan ddefnyddio'r dulliau dysgu ac addysgu mwyaf effeithiol, wedi'u teilwra'n ofalus i anghenion penodol eich cwrs. Ar wahân i nifer fach o gyrsiau ar-lein, mae'r rhan fwyaf o'n cyrsiau'n cynnwys addysgu wyneb yn wyneb ar y campws, gan alluogi ymgysylltiad llawn â'ch darlithwyr a'ch cyd-fyfyrwyr.

Mae sesiynau sgiliau ymarferol, seminarau gwaith labordy, a gweithdai yn bennaf yn cael eu cynnal wyneb yn wyneb ar y campws, gan ganiatáu gweithio mewn grŵp ac arddangosiadau. Rydym hefyd yn gweithredu labordai rhithwir ac Amgylcheddau Dysgu Efelychol a fydd yn hwyluso mwy o fynediad at gyfleoedd hyfforddi yn y dyfodol. 

Gall dysgu ar-lein ddigwydd ‘yn fyw’ gan ddefnyddio meddalwedd fel Zoom, sy'n eich galluogi i ryngweithio â'r darlithydd a myfyrwyr eraill ac i ofyn cwestiynau. Mae recordiadau darlithoedd hefyd yn caniatáu mwy o hyblygrwydd i ailedrych ar ddeunydd, i adolygu at asesiadau ac i wella dysgu y tu allan i'r ystafell ddosbarth. 

Darpariaeth Gymraeg

Rhywfaint o ddarpariaeth

Darperir rhai elfennau o'r cwrs hwn trwy gyfrwng y Gymraeg ond nid oes digon o ddarpariaeth eto i gyrraedd 40 credyd ym mhob blwyddyn.

Mae Academi Hywel Teifi yma i'ch cefnogi trwy gydol eich amser ym Mhrifysgol Abertawe. Rydym yn cynnig:

  • Mynediad at ysgoloriaethau a bwrsariaethau hael ar gyfer astudio trwy gyfrwng y Gymraeg.
  • Mynediad at fodiwlau a addysgir yn gyfan gwbl neu'n rhannol yn Gymraeg.
  • Mynediad at ap Arwain er mwyn derbyn y diweddaraf am ein cyrsiau a'n modiwlau cyfrwng Cymraeg. Lawrlwythwch yr ap am ddim drwy'r App Store a Google Play.
  • Cyfle am gyfweliad trwy gyfrwng y Gymraeg wrth wneud cais am le.
  • Cyfle i dderbyn gohebiaeth bersonol yn Gymraeg, yn Saesneg neu'n ddwyieithog.
  • Cyfle i ysgrifennu a chyflwyno gwaith cwrs neu sefyll arholiadau trwy gyfrwng y Gymraeg (hyd yn oed os ydych chi wedi dewis astudio yn Saesneg), a bydd eich gwaith yn cael ei farcio yn Gymraeg.
  • Mentor Academaidd Cymraeg ei iaith.
  • Cefnogaeth un i un i wella eich sgiliau Cymraeg academaidd.
  • Cyfle i ennill cymhwyster ychwanegol sy'n dystiolaeth o'ch gallu yn yr iaith Gymraeg i gyflogwyr.
  • Cyfle i fod yn aelod o Gangen Prifysgol Abertawe o'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
  • Cyfle i gyfrannu at weithgaredd a bywiogrwydd cymuned Gymraeg y Brifysgol ac ennill Gwobr Academi Hywel Teifi

I ddysgu mwy am yr uchod ac am yr holl gyfleoedd sydd ar gael i chi trwy gyfrwng y Gymraeg, ewch i dudalennau israddedig Academi Hywel Teifi

Achrediad Corff Proffesiynol

Cymdeithas Seicolegol Prydain (BPS)

Cwrdd â'ch Darlithwyr

   

Ffioedd Dysgu

Dyddiad Dechrau D.U. Rhyngwladol
Medi 2022 £ 9,000 £ 16,850
Medi 2023 £ 9,000 £ 17,700

Gellir codi ffioedd myfyrwyr Israddedig y DU llawn amser yn chwyddiannol mewn blynyddoedd astudio i ddod. Penderfynir ar y swm gan Lywodraeth Cymru.

Bydd ffioedd ar gyfer myfyrwyr UE/Rhyngwladol Israddedig yn cynyddu 3% ar gyfer pob blwyddyn ddilynol o astudio.

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am ffioedd a sut i dalu ar ein tudalen ffioedd dysgu.

Efallai y byddwch yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I gael gwybod am ysgoloriaethau, bwrsariaethau a chyfleoedd cyllido eraill sydd ar gael, ewch i dudalen ysgoloriaethau a bwrsariaethau'r Brifysgol.

Myfyrwyr cyfredol: Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am ffioedd a sut i dalu ar ein tudalen ffioedd dysgu.

Ariannu ac Ysgoloriaethau

Mae’n bosib eich bod yn gymwys i gael cymorth ariannol tuag at eich astudiaethau.

I gael gwybod am ysgoloriaethau, bwrsariaethau a chyfleoedd eraill am gymorth ariannol sydd ar gael, ewch i dudalen ysgoloriaethau a bwrsariaethau'r Brifysgol.

Mae ysgoloriaethau a bwrsariaethau hael ar gael gan Academi Hywel Teifi, Prifysgol Abertawe a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol ar gyfer myfyrwyr sy'n dymuno astudio trwy gyfrwng y Gymraeg neu'n ddwyieithog. I ddysgu mwy am y cyfleoedd sydd ar gael i chi, ewch i dudalen Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau Academi Hywel Teifi

Costau Ychwanegol

Bydd mynediad i'ch dyfais ddigidol eich hun/y pecyn TG priodol yn hanfodol yn ystod eich amser yn astudio ym Mhrifysgol Abertawe. Bydd mynediad at wifi yn eich llety hefyd yn hanfodol i'ch galluogi i ymgysylltu'n llawn â'ch rhaglen. Gweler ein tudalennau gwe pwrpasol i gael arweiniad pellach ar ddyfeisiau addas i'w prynu, ac i gael canllaw llawn ar sefydlu'ch dyfais.

Efallai y byddwch chi'n wynebu costau ychwanegol tra byddwch chi yn y brifysgol, gan gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i):

  • Teithio i'r campws ac oddi yno
  • Costau argraffu, llungopïo, rhwymo, deunydd ysgrifennu ac offer (e.e. ffyn USB)
  • Prynu llyfrau neu werslyfrau
  • Gwisgoedd ar gyfer seremonïau graddio

Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd

Mae Academi Cyflogadwyedd Abertawe'n cefnogi myfyrwyr Prifysgol Abertawe ar bob cam yn eu taith yrfaol.

Mae ein gwasanaethau cymorth gyrfaoedd yn cynnwys:

  • Gweithdai cyflogadwyedd, sgyrsiau gan gyflogwyr, digwyddiadau pwrpasol a ffeiriau gyrfaoedd
  • Cyngor ac arweiniad unigol gan Ymgynghorwyr Gyrfaoedd proffesiynol
  • Cymorth i chwilio am swyddi, interniaethau, lleoliadau gwaith a chyfleoedd gwirfoddoli
  • Mynediad i adnoddau gwybodaeth am amrywiaeth eang o bynciau rheoli gyrfa
  • Cyngor ac arweiniad ar astudio a chyllid i fyfyrwyr ôl-raddedig.
  • Ariannu i gefnogi cyfleoedd interniaethau myfyrwyr a digwyddiadau Cymdeithasau/Clybiau Myfyrwyr

Rydym hefyd yn darparu cymorth a chyngor i gyn-fyfyrwyr Prifysgol Abertawe am hyd at bum mlynedd ar ôl iddynt raddio.

Cymorth Academaidd

Yn ogystal â chymorth pwnc penodol gan staff addysgu'r coleg a'ch mentor academaidd personol, mae'r Ganolfan Llwyddiant Academaidd yn darparu cyrsiau, gweithdai a chymorth un-i-un mewn meysydd fel:

  • Ysgrifennu academaidd
  • Mathemateg ac ystadegau
  • Meddwl critigol
  • Rheoli amser
  • Sgiliau digidol
  • Sgiliau cyflwyno
  • Cymryd nodiadau
  • Technegau adolygu, dysgu ar gof ac arholiadau
  • Sgiliau Saesneg (os nad Saesneg yw eich iaith gyntaf)

Yn ogystal, os oes gennych Anhawster Dysgu Penodol (ADP/SpLD), anabledd, cyflwr iechyd meddwl neu gyflwr meddygol, mae gan y Ganolfan Llwyddiant Academaidd Diwtoriaid Arbenigol i gefnogi'ch dysgu. Bydd y tiwtoriaid yn gweithio ochr yn ochr â'r Swyddfa Anabledd a'r Gwasanaeth Lles i gefnogi eich holl anghenion a gofynion tra byddwch yn astudio ym Mhrifysgol Abertawe.

Cyfleoedd Astudio Tramor a Byd-eang

I ddysgu mwy am astudio dramor, ewch i'n tudalennau gwe Go Global. Nid yw cofrestru ar raglen sy'n cynnwys semester/blwyddyn dramor yn gwarantu lleoliad gwaith semester/blwyddyn dramor yn awtomatig. Mae nifer gyfyngedig o leoedd ar gael ac yn amodol ar broses ddethol gystadleuol. Os na fyddwch chi'n llwyddo i ennill lleoliad gwaith semester/blwyddyn dramor, cewch chi eich trosglwyddo i gwrs safonol eich cynllun gradd heb semester neu flwyddyn dramor.

Mae rhaglenni rhyngwladol yr haf ar agor i fyfyrwyr o bob coleg. Fel arfer, mae rhaglenni'n para o 2 i 6 wythnos, ar draws cyrchfannau megis Tsieina, Sambia, De Corea, Siapan, Canada a ledled Ewrop. Am ragor o wybodaeth ynghylch rhaglenni a chymhwysedd, ewch i'n tudalennau gwe Haf Dramor.

Sut i wneud cais

Gwnewch gais nawr - myfyrwyr y DU, UE a rhyngwladol.

Cewch wybod mwy drwy ymweld â'n tudalen ar sut i wneud cais

Dyddiadau Cau Ymgeisio

Argymhellwn eich bod chi'n cyflwyno eich cais am le ar ein cyrsiau mor fuan â phosibl cyn ein dyddiadau cau ar gyfer cyflwyno cais. Bydd cyrsiau'n cau yn gynharach na'r dyddiadau cau a restrir os caiff yr holl leoedd eu llenwi. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar ein tudalen we Dyddiadau cau ar gyfer cyflwyno cais.

Troseddeg a Seicoleg

  • Ein Cyfadrannau
  • Cyrsiau Israddedig
    • Cyrsiau Israddedig r Ysgol Peirianneg Awyrofod, Sifil, Drydanol, Peirianneg Gyffredinol a Mecanyddol
    • Cyrsiau Israddedig Ysgol y Biowyddorau, Daearyddiaeth a Ffiseg
    • Cyrsiau Israddedig Ysgol Diwylliant a Chyfathrebu
    • Cyrsiau Israddedig yr Ysgol Peirianneg a Gwyddorau Cymhwysol
    • Cyrsiau Israddedig Iechyd a Gofal Cymdeithasol
    • Cyrsiau Israddedig y Gyfraith
    • Cyrsiau Israddedig yr Ysgol Reolaeth
    • Cyrsiau Israddedig yr Ysgol Mathemateg a Chyfrifiadureg
    • Cyrsiau Meddygaeth Israddedig
    • Cyrsiau Israddedig Ysgol Seicoleg
      • Seicoleg, BSc (Anrh.)
      • Seicoleg gyda Blwyddyn Sylfaen, BSc
      • Troseddeg a Seicoleg, BSc (Anrh.)
      • Cymdeithaseg a Seicoleg, BSc (Anrh.)
      • Cymdeithaseg a Seicoleg (gyda Blwyddyn Sylfaen), BSc (Anrh))
    • Cyrsiau Israddedig Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol
    • Cyrsiau Is-raddedig yn dod yn fuan!
    • Gofynion mynediad
  • Cysylltu â'r tîm derbyn israddedig
  • Diwrnodau Agored Israddedig
  • Llety
  • Sut i wneud cais am gwrs israddedig
  • Clirio
  • Chwaraeon
  • Bywyd Myfyriwr
  • Ffioedd a Chyllid
  • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
  • Rhithdaith
  • Gwybodaeth i Rieni a Gwarcheidwaid
  • Prosbectws Israddedig
  • Pam Astudio yn Abertawe?
  • Beth yw UCAS Extra? Eich canllaw cynhwysfawr
  • Newidiadau rhaglen israddedig
  • Athrawon ac Ymgynghorwyr
  • Cyfres Gweminar Prifysgol Abertawe
Ymgeisio Diwrnod Agored Gofynnwch gwestiwn i ni Sgwrsiwch â Myfyriwr Cyfredol
  • Cysylltwch â ni
  • Swyddi
  • Cyfadrannau
  • Y Wasg
  • Iechyd a Diogelwch
  • Ymwadiad a Hawlfraint
  • Map o'r Safle
  • Preifatrwydd a Chwcis
  • Datganiad Caethwasiaeth Fodern
  • Mae Prifysgol Abertawe yn elusen gofrestredig, Rhif 1138342