Trosolwg o'r Cwrs
A yw'r diwydiant twristiaeth llewyrchus yn eich cyffroi? A ydych yn gweld eich hun yn gweithio fel rheolwr i gyrchfan poblogaidd sy'n denu miloedd o gwsmeriaid bob blwyddyn?
Gallai'r cwrs gradd BSc Rheoli Busnes (Twristiaeth) gyda Blwyddyn Sylfaen ym Mhrifysgol Abertawe eich helpu i gyflawni hyn.
Os nad ydych wedi ennill y graddau angenrheidiol i gofrestru ar gyfer y cwrs BSc Rheoli Busnes (Twristiaeth), y cwrs BSc Rheoli Busnes (Twristiaeth) gyda Blwyddyn Sylfaen yw'r radd i chi.
Mae'r Flwyddyn Sylfaen yn ffordd ardderchog o feithrin y wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen ym maes rheoli busnes a thwristiaeth, cyn ymuno â myfyrwyr Blwyddyn 1 y cwrs gradd BSc Rheoli Busnes (Twristiaeth) yn yr Ysgol Reolaeth.
Twristiaeth yw un o'r diwydiannau mwyaf yn y byd. Yn ôl Visit Britain, bydd gan y DU yn unig ddiwydiant twristiaeth sy'n werth mwy na £257 biliwn erbyn 2025, gan gynnal bron i 3.8 miliwn o swyddi. Bydd eich cwrs pedair blynedd yn eich helpu i feithrin y wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen i fod yn rhan o'r diwydiant llewyrchus hwn yn y DU ac yn rhyngwladol. Byddwch yn astudio pynciau fel mannau marchnata a thwristiaeth ar waith er mwyn eich helpu i ddeall yr hyn sy'n gwneud cyrchfan yn llwyddiant.
Caiff y Flwyddyn Sylfaen ei haddysgu yn Y Coleg, sydd y drws nesaf i'r Ysgol Reolaeth. Ar ôl i chi gwblhau'r flwyddyn hon, byddwch yn symud i adeilad yr Ysgol Reolaeth am weddill eich astudiaethau.