Trosolwg o'r Cwrs
A ydych yn gweld eich hun yn cyflawni rôl allweddol mewn cwmni twristiaeth llwyddiannus? A ydych yn chwilio am radd a fydd yn eich helpu i sefyll allan drwy feddu ar y sgiliau dynamig sydd eu hangen i reoli sefydliad twristiaeth byd-eang, genedlaethol neu leol?
Yn ogystal â rhoi sylfaen i chi ym maes rheoli busnes, mae'r cwrs gradd hwn yn rhoi dealltwriaeth ddofn i chi o bynciau twristiaeth craidd ar lefelau lleol, cenedlaethol a byd-eang. Mae hyn yn amrywio o reoli cyrchfannau ac economeg twristiaeth i waith datblygu a pholisi.
Gan gyfuno gwaith theori ac ymarferol, byddwch yn meithrin y sgiliau trosglwyddadwy sydd eu hangen ar gyfer gyrfaoedd ym maes twristiaeth, yn lleol a ledled y byd.
Mae'r cwrs gradd BSc Rheoli Busnes (Twristiaeth) ym Mhrifysgol Abertawe yn rhaglen sefydledig yn yr Ysgol Reolaeth, ac mae'n enwog am greu rheolwyr busnes hynod fedrus sy'n meddwl yn fasnachol. Mae ein graddedigion wedi symud ymlaen i weithio i'r cwmnïau mwyaf yn y byd.
Yn ogystal ag arbenigo mewn twristiaeth, bydd y cwrs Rheoli Busnes hwn yn eich galluogi i feithrin arbenigedd modern hanfodol mewn marchnata, entrepreneuriaeth, rheoli gweithrediadau, cyllid, cyfrifyddu, strategaeth ac adnoddau dynol.