Croeso gan yr Athro Keith Lloyd

"O bob her daw cyfle. Yma ym Mhrifysgol Abertawe rydym wedi ymateb i bob her y mae Covid-19 wedi'i thaflu atom. Croeso i drydydd rhifyn cylchgrawn Pulse." Yr Athro Keith Lloyd

Mai 2021, Vol 03

Croeso - Rhifyn 3
Llun yr Athro Keith Lloyd yn ILS2

19 Mai 2022

Croeso i Pwls Vol 3 gan yr Athro Keith Lloyd

Myfyrwywr ar fain ar gampws Singleton

19 Mai 2022

Pwysigrwydd lles a'i rôl yn iechyd dynol

Llun Jemimah

19 Mai 2022

Mae'r myfyriwr Seicoleg presennol Jemimah yn rhannu ei rhesymau dros ddewis Abertawe

Therapydd Galwedigaethol a chlaf

19 Mai 2022

Mae Abertawe'n parhau i chwarae rhan hanfodol yn hyfforddi gweithlu gofal iechyd y dyfodol

Sylw ar: Ddysgu cyfunol

Dyma ein hawgrymiadau euraidd
Cartwn o berson yn rhoi cyflwyniad

Ar ôl y pandemig, mae'r drefn draddodiadol 9-5 yn ymddangos fel rhywbeth sy’n perthyn i’r gorffennol. Yn fwy nag erioed o'r blaen, mae cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith yn uchel ar restr blaenoriaethau pawb. Rydym yn cydnabod bod gweithio ystwyth a dysgu cyfunol yn allweddol i gyflawni hyn. Nid yn unig y mae hyblygrwydd yn arwain at well brofiadau dysgu ac addysgu i fyfyrwyr ac athrawon, mae ganddo hefyd amrywiaeth o fanteision eraill, megis arbedion ariannol a gwell effaith amgylcheddol. Felly sut mae dod o hyd i'r cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith?

Deall y disgwyliadau Paratowch Cymerwch ran
Menyw yn ffenest

19 Mai 2022

Rhaglenni adsefydlu personol ar gyfer cleifion â Covid hir

Unigolyn pryderus

19 Mai 2022

Mae ein hymchwil amlddisgyblaethol yn trawsnewid dealltwriaeth, gofal a chanlyniadau pobl ifanc

Llun yr Athro Steve Conlan

19 Mai 2022

Mae dod yn arbenigwr yn rhoi'r pŵer i chi gael effaith gadarnhaol a pharhaol ar fywydau pobl

Sylw ar UCAS

Dyddiadau Allweddol

Mae pawb yn gwybod am y dyddiad cau mawr ym mis Ionawr ar gyfer cyflwyno ceisiadau ond mae llawer o ddyddiadau allweddol eraill i'w cofio...

  • Mae UCAS yn agor ar ddechrau mis Medi bob blwyddyn fel y gallwch ddechrau (a chyflwyno!) unrhyw amser pan fynnwch chi o hynny ymlaen.
  • Dyddiad cau UCAS ar gyfer Meddygaeth (ynghyd â holl gyrsiau Rhydychen a Chaergrawnt) yw 15 Hydref bob blwyddyn... ni waeth pa ddiwrnod o'r wythnos fydd ef!
  • Bydd dyddiad cau UCAS ar gyfer pob pwnc arall ym mis Ionawr ac mae'r dyddiad hwn wedi amrywio ychydig yn ystod y blynyddoedd diwethaf felly gwnewch yn siŵr eich bod yn gwirio ymlaen llaw.
  • Mae UCAS Extra yn agor ddiwedd mis Chwefror a gallwch ddechrau gwneud newidiadau eto o hyn ymlaen hyd at Glirio.
  • Bydd dyddiad cau eich penderfyniad yn dibynnu ar pryd y byddwch yn derbyn eich cynnig olaf... os byddwch yn derbyn penderfyniadau ar gyfer eich holl ddewisiadau cwrs erbyn diwedd mis Mawrth, bydd angen i chi gadarnhau eich dewisiadau Cadarn ac Yswiriant erbyn dechrau mis Mai.
  • Os nad ydych yn dal cynnig rydych yn fodlon arno erbyn mis Gorffennaf, gallwch gofrestru ymlaen llaw ar gyfer Clirio. Er na ellir cadarnhau cynigion yn aml tan ddiwrnod y canlyniadau, mae'n werth ymchwilio'n gynnar a chysylltu â thiwtoriaid derbyn i weld a yw lleoedd yn debygol o fod ar gael.
Curwch y ras clirio Gwiriwch eich amodau Os nad ydych yn ennill y graddau angenrheidiol, peidiwch â chynhyrfu!
Ysgrifennu yn llyfr

19 Mai 2022

Mae'r pandemig wedi cael effaith barhaol ar iechyd, ac mae angen ymchwil ar frys i ddeall yr effaith

Yr Athro Iain Whittaker

19 Mai 2022

Ein hymchwil arloesol £2.5m i fioargraffu 3d gan ddefnyddio celloedd dynol ar fin newid bywydau

Llun Data Fawr

19 Mai 2022

Mae Ymchwil Data Gweinyddol Cymru yn parhau i arwain y ffordd ar dechnegau dadansoddi data arloesol

Lles

“Mae’r cyfnod rhwng 11 a 24 oed yn gyfnod o newid anferth a gall teimladau ac emosiynau eithaf cynhyrfus sy’n rhan o’r profiad dynol arferol gyd-fynd â’r newid hwnnw.

Un o’r adegau mwyaf cynhyrfus yw amser canlyniadau arholiadau, ac mae hynny’n gallu gwneud i chi deimlo’n bryderus iawn. Mae gorbryder yn gallu effeithio arnoch chi mewn pob math o ffordd. Mae rhai pobl yn eithaf ymwybodol eu bod yn teimlo’n llawn pryder - er enghraifft, os bydd eu calon yn curo ychydig yn gyflymach - ond mae gorbryder hefyd yn gallu teimlo fel cwlwm yn eich stumog neu lwmp yn eich gwddf ac mae’r teimladau hynny bron yn ymateb dynol i’r hyn rydych chi’n ei brofi’n fygythiad, sy’n mynd yn ôl i syniad eithaf cyntefig o ‘ymladd neu ffoi’.

Yn aml, bydd y teimladau hyn yn diflannu ond os byddant yn eich cadw ar ddihun gyda’r nos neu os ydych chi’n pryderu neu mae’n effeithio ar eich awydd i weld eich ffrindiau - dyna pryd mae’r pryderu’n mynd yn ormod. Un o’r pethau y gallwch chi eu gwneud yw mynd â’ch meddwl i rywle arall - ceisiwch anadlu i mewn ac allan yn araf, creu rhestr o ganeuon neu wneud rhywbeth corfforol fel mynd am dro, siarad â ffrindiau neu weithgareddau meddylgar fel lliwio.

Y peth pwysig i’w gofio yw na fydd hyn yn para am byth. Os ydych chi’n poeni am eich canlyniadau, ffoniwch ni gan fod gennym bobl yma i’ch helpu chi. Gall siarad am eich opsiynau eich helpu i glirio eich meddwl.” - Yr Athro Ann John

Yr Athro Ann John, Ymchwil sy’n canolbwyntio ar iechyd meddwl pobl ifanc

Llais Myfyriwr

Ross Davey, Biocemeg Feddygol BSc, Meddygaeth (i raddedigion) MBBCh

"Ar y dechrau, roeddwn i'n bryderus bod fy nghwrs yn troi at fformat cyfunol gan nad oeddwn i'n siŵr sut byddai'n effeithio ar fy astudiaethau. Fodd bynnag, cyn bo hir cefais fanteision i'r math hwn o ddysgu ac rwy'n mwynhau cael sesiynau wyneb yn wyneb sy'n cael eu hategu gan y fformat rhithwir y mae darlithoedd eraill yn ei gymryd.

"Gall sesiynau ar-lein ei gwneud hi’n haws cynllunio digwyddiadau eraill yn fy niwrnod, lle byddai'n rhaid i mi ymrwymo fel arall i fod ar y campws am gyfnodau hir rhwng darlithoedd wyneb yn wyneb. Mae llawer o ddarlithoedd rhithwir yn cael eu recordio, sy'n golygu bod cynnwys a addysgir yn fwy hygyrch ac rwy'n gallu ail-wylio'r fideos hyn yn hwylus nes ymlaen er mwyn fy helpu i adolygu ar gyfer arholiadau. Mae addysgu ar-lein yn cynnig safbwynt gwahanol i addysg, sy'n gallu teimlo'n rhyfedd ar adegau, ond wrth baru hynny ag addysgu wyneb yn wyneb mae'n gwneud profiad dysgu pwerus."

Dr Tennessee Randal, PhD Lauryn Davey, Myfyriwr Meddygaeth MBBCh Hope Henry, Ymgeisydd Clirio Abbie Thomas, Graddedig Blwyddyn Sylfaen Maanasy Nadarajah, Graddedig AMS Lovelyn Obiakor, MSc mewn Iechyd Cyhoeddus a Hybu Iechyd Yuxi Tao, BSc Seicoleg Katie Evans, Myfyriwr Lleoliad Gwaith SPIN Dr April Rees, Gradd BSc mewn Biocemeg a PhD

Archwilio Problemau Byd-Eang

Rydym yn darlledu cyfres o bodlediadau a elwir yn Archwilio Problemau Byd-eang, lle mae academyddion o bob rhan o'r Brifysgol yn trafod sut bydd eu hymchwil arloesol yn helpu i fynd i’r afael ag amrywiaeth o heriau byd-eang.

Ymysg y pynciau cyntaf mae Arloesedd ym maes Iechyd, y Newid yn yr Hinsawdd, Ynni Gwyrdd a Thechnolegau digidol sy'n canolbwyntio ar bobl. Daeth ein cyfraniad i hyn oddi wrth Dr Amira Guirguis, sydd wedi ymchwilio i'r heriau sy'n deillio o Sylweddau Seicoweithredol Newydd a sut y gallwn eu canfod. Mae'r ail bennod yn edrych ar waith yr Athro Paul Dyson, a fu'n siarad am ei waith yn addasu genynnau bacteria er mwyn gwella canser o bosibl.

Ewch i dudalen ein podlediad a thanysgrifiwch i'r gyfres. Gobeithio y byddwch yn ei fwynhau!

Proffiliau Myfyriwr

Dod i adnabod ein myfyrwyr presennol…

Mwy i'w Archwilio

Niwrowyddoniaeth Adolygu

Gwrandewch ar yr Athro Phil Newton yn siarad am Niwrowyddoniaeth Dysgu

Cliciwch yma i'w wylio

Celloedd, Imiwnedd a COVID 19

Gwyliwch Gweminar Celloedd, Imiwnedd a COVID 19 yr Athro Thornton.

Cliciwch yma i'w wylio

DEFNYDDIO GENETEG A GENOMEG YM MAES GOFAL IECHYD

Ymunwch â Dr Wendy Harris ar gyfer ei Darlith Geneteg a Genomeg

Cliciwch yma i wylio hyn

PRESENOLDEB ANTIMICROBIAL

Ymunwch â Dr Angharad Davies i gael darlith flasu ar wrthwynebiad gwrthficrobaidd

Cliciwch yma i wylio hyn

Diwylliant Cell

Gwyliwch y Ddarlith Blasu Rithwir hon gyda Dr Aidan Seeley o Brifysgol Abertawe ar ‘Cell Culture’.

Cliciwch yma i'w wylio

Gwrthdaro fel Problem Iechyd Byd-eang

Gwrandewch ar Dr Croxall a Dr Cleobury am ddarlith ar Wrthdaro fel Problem Iechyd Byd-eang.

Cliciwch yma i wylio hyn