Trosolwg o'r Cwrs
Mae ein cwrs gradd MSc mewn Peirianneg Gyfrifiadol gyda Diwydiant ar agor i fyfyrwyr rhyngwladol yn unig.
Mae proses ddethol ar gyfer y cwrs hwn - gweler yr adran 'sut i ymgeisio' ar y dudalen hon.
Cewch ddwy flynedd o brofiad yn y DU a’r cyfle i weithio ar y cyd â diwydiant ar her go-iawn.
Mae’r cwrs gradd MSc newydd hwn yn estyniad i’n cwrs gradd MSc mewn Peirianneg Gyfrifiadol ac mae’n cynnwys ail flwyddyn a fydd yn eich galluogi i ymgymryd â lleoliad mewn diwydiant neu brosiect sy’n canolbwyntio ar ddiwydiant ar y cyd â phartner diwydiannol.