Astudiwch yn y Coleg Peirianneg
Yma yn y Coleg Peirianneg mae gennym ni dros 500 o fyfyrwyr ôl-raddedig sy'n dod o bob cwr o'r byd.
Fel myfyriwr ôl-raddedig byddwch yn cael mynediad i'n llyfrgell, sydd ar agor 24 awr y dydd, labordai arobryn, rhaglen o sgyrsiau a seminarau drwy gydol y flwyddyn, technoleg gyfrifiadurol uwch ac ardaloedd astudio penodol i fyfyrwyr ôl-raddedig.
Mae modd astudio ym meysydd Peirianneg Awyrofod, Cemegol, Sifil, Cyfrifiadol, Electronig a Thrydanol, Ynni, Arweinyddiaeth a Rheolaeth, Gwyddor Deunyddiau, Mecanyddol, Meddygol neu Nanodechnoleg.
Dyma'r cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir sydd gennym:
- Arweinyddiaeth a Rheoli Peirianneg
- Mecaneg Gyfrifiadurol
- Modelu Cyfrifiadurol ac Elfennau Meiraidd mewn Mecaneg Beirianyddol
- Moeseg ac Uniondeb Chwaraeon
- Nanowyddoniaeth i Nanodechnoleg
- Peirianneg Awyrofod
- Peirianneg Bŵer ac Ynni Cynaliadwy
- Peirianneg Ddeunyddiau
- Peirianneg Electronig a Thrydanol
- Peirianneg Fecanyddol
- Peirianneg Gemegol
- Peirianneg Gyfathrebu
- Peirianneg Sifil
- Peirianneg Strwythurol
- Rheolaeth Peirianneg Gynaliadwy ar gyfer Datblygu Rhyngwladol