Trosolwg o'r Cwrs
Mae'r radd LLM mewn Ymarfer Cyfreithiol Proffesiynol wedi cael ei llunio'n benodol i gyd-fynd â gofynion yr Arholiad Cymhwyso Cyfreithwyr (SQE1 a 2), gan gyfuno gwybodaeth graidd a sgiliau cyfreithiol ymarfer i ddarparu'r paratoadau hanfodol i raddedigion y gyfraith sydd am gymhwyso i fod yn gyfreithwyr yng Nghymru a Lloegr drwy'r Arholiad Cymhwyso Cyfreithwyr.
Mae'n cynnig y cyfle i chi ennill gradd meistr, meithrin gwybodaeth a sgiliau cyfreithiol, a pharatoi ar gyfer bywyd o ymarfer cyfreithiol.
Darperir y rhaglen dros un flwyddyn academaidd (amser llawn) neu ddwy flynedd (rhan-amser) ac fe'i haddysgir mewn dau gam – mae cam 1 yn canolbwyntio ar y meysydd ymarfer craidd, ac mae cam 2 yn canolbwyntio ar ddatblygu eich sgiliau cyfreithiol proffesiynol yng nghyd-destun y meysydd ymarfer craidd hyn.
Uchafbwynt y rhaglen yw cyfle i chi ymgymryd â dysgu annibynnol dan gyfarwyddyd sy'n ddilys i'r proffesiwn cyfreithiol, gan ganolbwyntio ar waith ymchwilio a drafftio cyfreithiol ymarferol.
Bydd y rhaglen hon yn eich paratoi'n gynhwysfawr ar gyfer asesiadau SQE1 ac SQE2, ynghyd â rhoi sylfaen gadarn ar gyfer eich gyrfa fel cyfreithiwr.