Drws i ddyfodol disglair
Mae Prifysgol Abertawe yn brifysgol uchelgeisiol sy’n enwog am ei henw da academaidd ac addysgu a chyfeillgarwch a’i chynwysoldeb. Pan ddywedwn 'shwmae' rydym wir yn ei olygu. Dywed pawb ei bod hi'n anodd rhoi mewn geiriau'r teimlad cynnes yr ydych chi'n teimlo wrth ymweld â'n campws.
Mae'r Brifysgol yn falch iawn o’i thraddodiad o gefnogi, hyrwyddo a chyfoethogi diwylliant Cymru a’r iaith Gymraeg. Mae ein darpariaeth academaidd cyfrwng Cymraeg wedi cynyddu’n sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf ac yma cewch fanteisio ar gyfleoedd unigryw a chyffrous i astudio amrediad eang o bynciau yn yr iaith.
Sefydlwyd y Brifysgol ym 1920 fel lle o ragoriaeth academaidd i ategu cysylltiadau diwydiannol cyfoethog y rhanbarth, ers hynny, mae’r Prifysgol wedi mynd o nerth i nerth.
Mae ein campysau glan-môr godidog a chymuned cyfeillgar yn gwneud Abertawe yn lleoliad dymunol i fyfyrwyr o bob cwr o’r byd, sy’n galluogi’r bobl sy’n ymuno â ni i ddatblygu sgiliau a gwybodaeth sy’n eu paratoi ar gyfer gyrfaoedd llewyrchus a llwyddiannus.