Criw o fyfyrwyr o flaen Y Neuadd Fawr ar gampws y Bae

Cymuned @ Bywyd Campws

Mae symud allan a gwneud ffrindiau yn rhan fawr o brofiad Prifysgol i lawer o bobl. Mae Prifysgol Abertawe yn ei blwyddyn Canmlwyddiant ac wedi gweld tirwedd yr ardaloedd cyfagos yn newid yn ddramatig gyda'r cenedlaethau o fyfyrwyr yn dod i astudio yma.

Mae Cymuned@BywydCampws yn bodoli i ddarparu gwasanaethau sy'n helpu i adeiladu cydlyniant rhwng preswylwyr myfyrwyr a rhai nad ydynt yn fyfyrwyr sy'n byw yn y rhanbarth.

Ein prif bwrpas yw cynorthwyo myfyrwyr i wneud y gorau o'u hamser ym Mhrifysgol Abertawe a sicrhau bod y Brifysgol a'i phresenoldeb o fudd i'r gymuned. Rydym yn cydnabod yr effaith y gall poblogaeth fawr o fyfyrwyr ei chael ar y gymuned, felly rydym yn gweithio i wella perthnasoedd rhwng myfyrwyr a thrigolion nad ydynt yn fyfyrwyr a dangos yr effaith gadarnhaol y mae myfyrwyr Prifysgol Abertawe yn ei chael ar y ddinas.

Am fwy o wybodaeth ewch i Cymuned@BywydCampws

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y gwaith rydym yn ei wneud neu eisiau gofyn cwestiwn am fyw a phrofi dinas Abertawe, cysylltwch â ni ar community.campuslife@abertawe.ac.uk

Ffydd @ Bywyd Campws

Mae'r cam i ddod i'r Brifysgol yn un brawychus ond cyffrous! Nod gwasanaethau Ffydd@BywydCampws yw darparu amgylchedd diogel a chefnogol i fyfyrwyr tra ar eu taith Prifysgol.

Rydym yn cynnig ystod eang o wasanaethau gan gynnwys:

  • Gwasanaeth Gwrando Cyfrinachol
  • Digwyddiadau lleddfu straen - yn ystod amser arholiadau
  • Myfyrdod dan Arweiniad Dyddiol
  • Y Goleudy (Singleton) a'r Hafan (Bae) - Mannau cymunedol gydag ystafelloedd tawel, ystafelloedd cyfarfod y gellir eu bwcio, ystafelloedd gweddi aml-ffydd a chegin
  • Grŵp Cymorth Profedigaeth Myfyrwyr
  • Canllawiau a Digwyddiadau Ffydd / Ysbrydolrwydd
  • Mosg ar Gampws Singleton ac ystafelloedd Gweddi ar Gampws y Bae

Am fwy o wybodaeth am unrhyw un o'r gwasanaethau uchod, ewch i Ffydd@BywydCampws

Neu E-bostiwchFaith.CampusLife@abertawe.ac.uk

Llesiant @ Bywyd Campws

Mae dechrau'r Brifysgol yn gyfnod mawr i bawb. Mae'n arferol profi teimladau cymysg felly mae Llesiant@BywydCampws yma i roi cyngor ac arweiniad ymarferol i chi ar ystod o bynciau o hiraeth i gofrestru gyda'r meddyg lleol.

Mae Llesiant yn dîm o fewn BywydCampws a'i nod yw gwella profiad myfyrwyr ym Mhrifysgol Abertawe. Rydym yn gweithio'n agos gyda staff mewn colegau, gwasanaethau cymorth eraill yn y brifysgol a phartneriaid allanol fel yr Heddlu ac Iechyd Cyhoeddus Cymru i sicrhau bod myfyrwyr yn derbyn y gefnogaeth orau pan fyddant yn profi problemau lles wrth astudio.

Rydym yn trefnu dosbarthiadau yn rheolaidd ar y sgiliau yr ydym wedi darganfod yr hoffai myfyrwyr eu dysgu ac mae rhain wedi cynyddu mewn amrywiaeth dros y blynyddoedd. Mae sesiynau Sgiliau am Oes yn amrywio o Gymorth Cyntaf a Choginio i Ffotograffiaeth Ffilm a Llywio. Fe wnaethom gynnal 35 sesiwn y llynedd gan ddysgu 23 o sgiliau unigryw ar y ddau gampws ac yn y gymuned leol. Credwn fod meddu ar amrywiaeth o sgiliau bywyd yn eich galluogi i ddelio ag anawsterau a chaledi anochel bywyd yn fwy effeithiol.

Am fwy o wybodaeth ewch i Llesiant@BywydCampws

Os hoffech chi ofyn unrhyw beth o gwbl i'r tîm Llesiant sy'n ymwneud â sut y gallant helpu eich taith prifysgol, e-bostiwch: welfare.campuslife@abertawe.ac.uk