Croeso i Academi Cyflogadwyedd Abertawe
Yma yn Abertawe rydym yn gwneud pethau'n wahanol i sicrhau bod eich siwrne gyda ni o'r cychwyn cyntaf yn cynnwys cyngor ac arweiniad ar gyflogadwyedd a chyfleoedd gyrfa. Rydym yn gwneud yn siwr bod eich profiad addysgu yn cyd-fyw gyda'ch datblygiad gyrfaol fel ei fod yn arwain at yrfa lwyddiannus.
Cewch gyfle i ddod i gysylltiad â diwydiant, cymryd lleoliadau gwaith a phrofiad gwaith, fel bod modd i chi baratoi'n drylwyr ar gyfer y byd gwaith pan fyddwch yn ein gadael.
Edrychwn ymlaen at eich gweld yn y Diwrnod Agored Rhithwir, lle gallwch ofyn am ein gwasanaethau a’r cyfleoedd sydd ar gael gan gynnwys y canlynol:
- Cyngor ac Arweiniad Gyrfaoedd Diduedd
- Interniaethau yn y DU ac yn Rhyngwladol
- Bwrsariaethau Cyflogadwyedd
- Swyddi rhan-amser a’r Cynllun Llysgenhadon Myfyrwyr
- Cyflogadwyedd a Digwyddiadau Gyrfaoedd
- Mynediad at Recriwtwyr Graddedigion
- Go Wales
- Prosiectau a Phartneriaethau Cyflogadwyedd Unigryw i fod o fudd i Fyfyrwyr a Graddedigion.
- Rhaglen Cymorth i Raddedigion
I gael rhagor o wybodaeth am ein gwasanaethau a’n cyfleoedd, ewch i dudalennau gwe Academi Cyflogadwyedd Abertawe.