Rydym wedi darparu gwybodaeth am ein cwestiynau mwyaf cyffredin isod.
Os na allwch chi ganfod yr atebion mae eu hangen arnoch, cysylltwch â ni (money.campuslife@abertawe.ac.uk) gan ddefnyddio ‘PG VOD’ yn nheitl yr e-bost.
Os na allwch chi ganfod yr atebion mae eu hangen arnoch, cysylltwch â ni (money.campuslife@abertawe.ac.uk) gan ddefnyddio ‘PG VOD’ yn nheitl yr e-bost.
Ydy, rydyn ni’n cynnig ystod o ysgoloriaethau a bwrsariaethau ar gyfer rhaglenni meistr a PhD.
Rydyn ni hefyd yn rhoi bwrsariaethau i fyfyrwyr sy’n gadael gofal, sydd wedi ymddieithrio oddi wrth y teulu neu sydd â chyfrifoldebau gofal.
Dylai’r myfyrwyr hynny ar gyrsiau meistr a addysgir a rhaglenni ymchwil sy’n arwain at y cymwysterau canlynol fod yn gymwys i dderbyn y benthyciad ôl-raddedig:
Nid yw’r myfyrwyr hynny ar gyrsiau sy’n arwain at PG Cert neu gymhwyster Diploma yn gymwys i dderbyn benthyciad ôl-raddedig. (*Sylwer nad yw myfyrwyr ar raglen LPC heb uwch ddrafftio yn gymwys ar gyfer benthyciad ôl-raddedig gan fod y rhaglen yn arwain at gymhwyster PG Cert).
Mae maint y cyllid ôl-raddedig sydd ar gael i fyfyrwyr y DU yn dibynnu ar eich cenedligrwydd a ble rydych chi’n preswylio. Mae’r pecynnau cyllido sy’n cael eu cynnig yn wahanol yn achos pob un o’r pedair gwlad gartref.
Astudio ar gyfer Meistr (blwyddyn academaidd 2022/23)
Astudio Doethurol (blwyddyn academaidd 2022/23)
Mae benthyciadau doethurol ar gael i fyfyrwyr newydd sy’n ymgymryd ag astudiaethau ar lefel PhD drwy Gyllid Myfyrwyr Cymru a Student Finance England. Gall myfyrwyr Cymru fenthyg hyd at £27,880 a myfyrwyr o Loegr hyd at £27,892 fesul rhaglen ddoethurol. Telir y benthyciad yn uniongyrchol ichi, y myfyriwr, gan gynnig cyfraniad tuag at ffïoedd eich cwrs a’ch costau byw. Bydd y benthyciad yn cael ei rannu’n gyfartal ar draws pob blwyddyn eich cwrs.r
Bydd yn rhaid i’r myfyrwyr hynny sy’n dechrau’u hastudiaethau ar 1 Awst 2021 neu ar ôl hynny feddu ar statws preswylydd sefydlog neu gyn-sefydlog yn y DU yn unol â’r Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE er mwyn derbyn cyllid myfyrwyr. Nid yw hyn yn berthnasol yn achos myfyrwyr sy’n ddinasyddion Gweriniaeth Iwerddon. [bydda i’n nodi wrth ddychwelyd y gwaith y dylid cynnwys y gair ‘Republic’ yn y fersiwn Saesneg am resymau amlwg.]
Bydd cyflwyno cais i Gyllid Myfyrwyr Cymru neu Student Finance England yn cael ei bennu yn unol â ble byddwch chi’n byw ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf eich cwrs.
Mae’n bwysig eich bod yn ymwybodol o’r gofyniad hwn cyn y byddwch chi’n cyflwyno cais am gyllid myfyrwyr; fel arall hwyrach na fyddwch chi’n gymwys ar gyfer cyllid gan Gyllid Myfyrwyr Cymru neu Student Finance England.
Astudio ar gyfer Gradd Meistr
Hwyrach y byddwch chi’n gymwys i gael benthyciadau/grant gan Gyllid Myfyrwyr Cymru; fodd bynnag, mae hyn yn ddarostyngedig i gydymffurfio â’r holl feini prawf cymhwystra cyfredol. Ewch i wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru i gael rhagor o wybodaeth am gymhwystra a’r cyllid sydd ar gael.
Astudio ar gyfer Doethuriaeth
Hwyrach y byddwch chi’n gymwys i gael benthyciad gan Gyllid Myfyrwyr Cymru; fodd bynnag, mae hyn yn ddarostyngedig i gydymffurfio â’r holl feini prawf cymhwystra cyfredol, a cheir rhai cyfyngiadau penodol. Ewch i wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru i gael rhagor o wybodaeth am y meini prawf a’r cyfyngiadau o ran cymhwystra.
*Gall myfyrwyr o’r Undeb Ewropeaidd heb statws preswylydd sefydlog / statws preswylydd cyn-sefydlog sy’n gymwys i dderbyn statws ffioedd dysgu ‘myfyrwyr rhyngwladol’ gael mynediad at ysgoloriaethau a bwrsariaethau gan Brifysgol Abertawe. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma: https://www.swansea.ac.uk/international-students/my-finances/international-scholarships/
Er nad ydych chi’n gymwys i gael cyllid myfyriwr gan Lywodraeth y DU, hwyrach y byddwch chi’n gymwys i gael ysgoloriaeth gan Brifysgol Abertawe. Mae’n bwysig nodi na fydd ysgoloriaeth yn talu’r holl ffïoedd dysgu a chostau byw sydd gennych chi a dylech chi drefnu bod digon o gyllid gennych chi i dalu am y costau hyn yn ystod eich cwrs.
Mae Swyddfa Datblygu Rhyngwladol y Brifysgol yn gweinyddu ysgoloriaethau ar gyfer myfyrwyr rhyngwladol ac mae’r Brifysgol yn cynnig ystod o ysgoloriaethau ar gyfer myfyrwyr ôl-raddedig rhyngwladol.
Cewch ragor o wybodaeth ar ein tudalen ysgoloriaethau ar gyfer myfyrwyr rhyngwladol.
Ewch i’r dudalen hon am ragor o wybodaeth am sut i dalu’ch ffïoedd dysgu.
Fel arfer, bydd ceisiadau ar gyfer benthyciadau ôl-raddedig yn agor yn yr haf. Does dim rhaid ichi aros nes bod gennych chi gynnig yn ei le – y cwbl y mae’n rhaid ichi ei wneud yw cyflwyno cais gan ddefnyddio’ch dewis sefydliad cyntaf gan fod modd diweddaru hyn yn rhwydd os bydd eich cynlluniau’n newid. Ewch i’n tudalennau Cyllid Ôl-raddedig i gael rhagor o wybodaeth.
Nid yw benthyciadau ôl-raddedig ar gyfer astudio meistr a doethurol yn ddarostyngedig i brawf modd.
Bydd grantiau sydd ar gael (drwy Gyllid Myfyrwyr Cymru’n unig) yn ddarostyngedig i brawf modd a hwyrach y bydd hyn yn effeithio ar faint y benthyciad a/neu’r grant y byddwch chi’n ei dderbyn. Bydd maint y cyllid y byddwch chi’n gymwys i’w dderbyn yn dibynnu ar nifer o ffactorau gwahanol megis incwm eich aelwyd a phwy rydych chi’n byw gydag ef. Bydd y Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr (SLC) yn asesu lefel incwm yr aelwyd a dderbyniwyd yn y flwyddyn dreth lawn flaenorol.
Os ydych chi wedi gadael gofal, eich bod wedi ymddieithrio oddi wrth eich teulu neu’n ofalwr cysylltwch â ni i wybod mwy am y cymorth sydd ar gael i fyfyrwyr sydd ag ystyriaethau ychwanegol gan Brifysgol Abertawe.
Bydd ad-dalu benthyciadau’n dechrau pan fyddwch chi’n ennill mwy na £21,000 y flwyddyn. Bydd yr ad-daliadau’n gyfystyr â 6% o’ch incwm sy’n fwy na’r swm hwn (at ddibenion cymharu, ad-delir benthyciadau israddedig ar gyfradd o 9% o’r incwm).
O fis Medi 2017, mae gan unrhyw fyfyriwr sy’n astudio un o gyrsiau’r GIG y dewis o ran a yw’n derbyn cyllid gan Gynllun Bwrsariaethau GIG Cymru neu gan Fenthyciadau a Grantiau Myfyrwyr. O dan amgylchiadau arferol, ni all myfyrwyr newid eu llwybr cyllido. Bydd achosion eithriadol yn cael eu hystyried drwy fecanwaith apelio. Er mwyn derbyn cyllid gan Gynllun Bwrsariaeth GIG Cymru, bydd yn rhaid i fyfyrwyr ymrwymo i weithio yng Nghymru am 2 flynedd wedi iddyn nhw gwblhau’u cwrs (mae amserlenni gwahanol yn berthnasol ar gyfer cyrsiau sy’n hwy neu’n llai na 3 blynedd). Ewch i’n tudalen we cyllid y GIG i gael rhagor o wybodaeth am ba gyllid sydd ar gael ichi.
Gall myfyrwyr sy’n astudio’r MSc mewn Astudiaethau Cydymaith Meddygol gael mynediad at un o Fwrsariaethau’r GIG i gyllido’u ffïoedd dysgu a’u costau byw llawn, gan gynnwys costau gofal plant. Llywodraeth Cymru sydd wedi darparu’r cyllid hwn. Mae pecyn cyllid llawn y GIG ond ar gael i’r myfyrwyr hynny sy’n fodlon ymrwymo i gyfnod o 18 mis o gyflogaeth yng Nghymru wedi iddyn nhw gymhwyso. Drwy dderbyn cynnig am gyfweliad, rydych chi’n cadarnhau y gallwch chi gyflawni’r ymrwymiad i weithio yng Nghymru yn dilyn graddio. Ewch i dudalen cwrs Astudiaethau Cydymaith Meddygol i gael rhagor o wybodaeth.
Mae myfyrwyr Gwaith Cymdeithasol ar lefel Meistr yn gymwys i dderbyn cyllid ffïoedd dysgu a chynhaliaeth Gofal Cymdeithasol Cymru, gan gynnwys costau ffïoedd dysgu ynghyd â bwrsariaeth. Mae’r llefydd a ariennir yn llwyr yn gyfyngedig felly rydyn ni’ch eich cynghori i gyflwyno cais ar gyfer y cynllun hwn cyn gynted â phosibl. Bydd nifer penodol o fwrsariaethau yn cael eu dyrannu i bob rhaglen gradd Gwaith Cymdeithasol yng Nghymru ar gyfer eu myfyrwyr, a bydd pob rhaglen yn ‘enwebu’ detholiad o fyfyrwyr a fydd yn gallu cyflwyno cais.
Ewch i wefan Gofal Cymdeithasol Cymru i gael rhagor o wybodaeth am y cyllid sydd ar gael a sut i gyflwyno cais.
Os byddwch chi’n derbyn y cyllid uchod gan Ofal Cymdeithasol Cymru, yna ni fyddwch chi’n gymwys i dderbyn benthyciad ôl-raddedig gan Gyllid Myfyrwyr Cymru. Fodd bynnag, os na fyddwch chi’n cael eich enwebu ar gyfer cyllid Gofal Cymdeithasol Cymru, byddwch chi’n gymwys i gyflwyno cais ar gyfer benthyciad ôl-raddedig (mae hyn yn ddarostyngedig i gydymffurfio â’r holl feini prawf cymhwystra eraill).
Nac ydych. Rydych chi’n derbyn y pecyn cyllid ar gyfer myfyrwyr israddedig. Gall myfyrwyr sy’n astudio graddau hyfforddiant cychwynnol athrawon, tystysgrifau addysg i raddedigion sy’n arwain at statws athro cymwysedig (QTS) a graddau meistr integredig megis gradd MEng gyflwyno cais i Gyllid Myfyrwyr Cymru neu Student Finance England ar gyfer cyllid myfyrwyr israddedig.
Bydd myfyrwyr yn gallu astudio a gwneud lleoliadau gwaith ledled y byd drwy gynllun newydd sbon, sef cynllun Turing, sy´n disodli cyfranogiad y DU yn Erasmus+.
Bydd y cynllun yn darparu cyllid ar gyfer myfyrwyr mewn prifysgolion, colegau ac ysgolion i fynd ar leoliadau a chynlluniau cyfnewid dramor, gan ddechrau ym mis Medi 2021.
Mae costau byw yn Abertawe’n gymharol isel o’u cymharu â llawer o ddinasoedd eraill yn y DU. Fodd bynnag, mae’n hanfodol o hyd bod darpar fyfyrwyr yn paratoi’u cyllid cyn mynychu’r Brifysgol. Ar gyfartaledd, bydd myfyrwyr ôl-raddedig yn Abertawe yn gwario rhwng £7,800 ac £11,700 (dros gyfnod o 52 wythnos) ar gostau byw. Bydd lefel y costau hyn yn dibynnu ar eich ffordd o fyw a bydd yn amrywio o berson i berson, ond mae bob amser yn syniad da llunio cyllideb - a chadw ati!
Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar ein tudalen Costau Byw.
Mae gwybod a fydd angen ar fyfyriwr ôl-raddedig i weithio tra’i fod yn astudio’n dibynnu ar lawer o ffactorau megis lefel y cyllid mae’n ei dderbyn, ei gostau byw a’i ffordd o fyw. Mae llawer o fyfyrwyr ôl-raddedig yn defnyddio’r cyfle i weithio’n ffordd o ennill profiad gwaith defnyddiol a sicrhau bod ganddyn nhw’r cyllid i gymryd rhan yn y gweithgareddau allgyrsiol cyffrous y mae Prifysgol Abertawe yn eu cynnig. Mae nifer o opsiynau ar gael ichi fel myfyriwr ôl-raddedig:
Os na allwch chi ganfod yr atebion mae eu hangen arnoch, cysylltwch â ni (money.campuslife@abertawe.ac.uk) gan ddefnyddio ‘PG VOD’ yn nheitl yr e-bost.