Mae ein Diwrnodau Agored Rhithwir yn cynnig cyfle gwych i archwilio'n campysau hardd, cwrdd â'n staff addysgu a chael mewnwelediad i beth mae bywyd fel i fyfyrwyr ym Mhrifysgol Abertawe.
Drwy gydol y dydd, byddwch yn cael cyfle i wylio fideos unigryw a sgyrsio gyda staff a llysgenhadon myfyrwyr drwy'r system Sgwrs Fyw a Zoom. Edrychwch ar ein canllaw isod i'ch helpu i wneud y gorau o'r sesiynau.
- Sgwrs fyw - ymunwch â'r sgwrs testun fyw yn ystod y digwyddiad er mwyn holi eich cwestiynau i'n staff cyfeillgar.
- Sesiwn fyw ar Zoom - eisteddwch yn ôl a gwyliwch y cyflwyniad byw gan ein staff a'n myfyrwyr. Bydd y siaradwr/wyr yn ymateb yn fyw os oes gennych gwestiynau. Bydd y cyflwynydd yn rhoi gwybod ichi beth bydd yn digwydd yn ystod y sesiwn a sut i holi cwestiynau yn ystod y sesiwn.
- Cynnwys wedi'i recordio ymlaen llaw/ar gais - byddwch yn gallu cyrchu gwybodaeth, gwylio fideos ac edrych o gwmpas 24 awr y dydd, saith niwrnod yr wythnos.
Os ydych chi dal yn ansicr neu'n profi problemau technegol, sgroliwch lawr i waelod y dudalen i'n Sgwrs Fyw Cefnogaeth - byddwn yn hapus i'ch helpu chi.