Croeso i’r Hyb Ymchwill

Rydym ni’n cydnabod yr heriau mae unigolion a chymdeithasau yn eu hwynebu wrth weithio a byw mewn byd sydd o hyd yn newid. Mae ein hymchwil ryngddisgyblaethol, a arweinir gan academyddion arloesol sy’n defnyddio cyfleusterau sydd ar flaen y gad, yn helpu pobl i addasu i newid a gwella eu bywydau.

Wrth nodi, datblygu a chyfuno meysydd ymchwil sy’n dod i’r amlwg, rydym yn torri tir newydd ac yn creu lle i syniadau dyfu, gan ddiffinio a chyflymu meysydd ymchwil sy’n newid bywydau.

Darllenwch ein huchafbwyntiau ymchwil i ddysgu mwy am yr hyn y gallwch chi ei gyflawni yn Abertawe.

 

Sut i Ddod o Hyd i Oruchwyliwr - Yr Athro Nick Rich, Yr Ysgol Reolaeth

Mae’r Athro Nick Rich, Cyfarwyddwr Ymchwil Ôl-raddedig yn yr Ysgol Reolaeth, yn rhannu ei gyngor ar sut i ddod o hyd i oruchwyliwr a mynd ato.

 
Sut i Ddod o Hyd i Oruchwyliwr - Dr James Cronin
 

Sut i Ddod o Hyd i Oruchwyliwr - Dr James Cronin

Mae Dr James Cronin, Cyfarwyddwr Ymchwil Ôl-raddedig yn yr Ysgol Feddygaeth, yn rhannu ei gyngor ar sut i ddod o hyd i oruchwyliwr a mynd ato.

 
 

Sut i Ysgrifennu Cais Ymchwil Effeithiol - Dr Melitta McNarry, Y Coleg Peirianneg

Mae Dr Melitta McNarry, Dirprwy Gyfarwyddwr Ymchwil Ôl-raddedig yn y Coleg Peirianneg yn rhannu ei chyngor ar sut i ysgrifennu cais ymchwil effeithiol.

 
 

Sut i ysgrifennu cais ymchwil effeithiol - Athro Jaynie Rance, Coleg Gwyddorau Dynol ac Iechyd

Bydd yr Athro Jaynie Rance, Cyfarwyddwr Ymchwil Ôl-raddedig yng Ngholeg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd yn rhannu ei chyngor ar sut i ysgrifennu cais ymchwil effeithiol.

 
 

Hyfforddiant Datblygu Sgiliau

Darganfod yr hyfforddiant yr ydym yn ei gynnig i'n myfyrwyr ymchwil drwy Hyfforddiant Datblygu Sgiliau