Noson Agored Rithwir TAR Cynradd ac Uwchradd
Dechreuwch eich Gyrfa Addysgu gyda Phrifysgol Abertawe!
Ymunwch â ni yn ein Noson Agored Rithwir TAR Cynradd ac Uwchradd a gynhelir nos Iau 19 Mai 2022 am 18:00 (BST).
Cewch gyfle i gwrdd â'r tîm TAR, ein myfyrwyr a'r ysgolion sy'n bartneriaid â ni yn ein sesiwn holi ac ateb fyw ar Zoom i ganfod mwy am astudio gyda ni o fis Medi 2022
Am ragor o wybodaeth am ein rhaglenni: https://www.swansea.ac.uk/cy/addysg/astudiaethau-ol-raddedig-yr-ysgol-addysg/tar/
Cysylltu â ni: pgce-enquiries@abertawe.ac.uk