
Rydym yn hynod falch eich bod chi am wneud gradd Ôl-raddedig yn Abertawe
Gellir cyflwyno cais ar gyfer y rhan fwyaf o'n rhaglenni ôl-raddedig a addysgir gwneud cais. Mae gan rai cyrsiau broses wahanol ar gyfer gwneud cais:
• Diploma mewn Ymarfer Cyfreithiol (LPC)/LLM Ymarfer Cyfreithiol a Drafftio Uwch a Diploma Graddedig yn y Gyfraith (CPE). Rhaid cyflwyno ceisiadau LLAWN AMSER drwy'r Bwrdd Derbyn Canolog (CAB).
• MSc Mecaneg Gyfrifiadurol (Erasmus Mundus) Rhaid cyflwyno ceisiadau i'n sefydliad partner, Universitat Politecnica Catalunya yn Barcelona, Sbaen.
• MSc Gwaith Cymdeithasol a MBBCH Meddygaeth (i Raddedigion). Rhaid cyflwyno ceisiadau drwy UCAS.
• MA Newyddiaduraeth, Y Cyfryngau a Globaleiddio (Erasmus Mundus) Rhaid cyflwyno ceisiadau i'n sefydliad partner, Prifysgol Aarhus yn Nenmarc.
Y broses gwneud cais ar gyfer rhaglenni ôl-raddedig:
- dewiswch pa gwrs yr hoffech wneud cais amdano - chwiliwch drwy ein rhestr o raglenni ôl-raddedig a addysgir
- cadarnhewch y gofynion mynediad ar gyfer y cwrs ar dudalen y cwrs neu yn y prosbectws
- Gwnewch gais ar-lein
- cyflwynwch eich cais, ynghyd â'r holl ddogfennaeth ategol - gweler ein 'rhestr wirio ar gyfer dogfennau' isod. Mae'n bosibl y ceir oedi wrth brosesu eich cais os na fyddwch wedi darparu'r holl ddogfennau gofynnol.
- unwaith y byddwch wedi cyflwyno eich cais, byddwch yn cael neges e-bost a fydd yn cynnwys eich rhif myfyriwr. Rhaid cadw hwn mewn man diogel a'i ddefnyddio mewn unrhyw ohebiaeth y byddwch yn ei hanfon atom yn y dyfodol
- caiff eich cais ei ystyried gan y tîm dethol perthnasol. Os bydd angen unrhyw wybodaeth bellach arnom, byddwn yn cysylltu â chi
- rydym yn ceisio gwneud penderfyniad ar eich cais cyn gynted â phosibl. Yn y rhan fwyaf o achosion, gwneir penderfyniad o fewn 9 diwrnod gwaith
- You will receive an email when a decision has been made on your application
Dyddiadau cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau:
Mae gan rai Ysgolion a Cholegau ddyddiadau cau penodedig ar gyfer eu cyrsiau a addysgir, gweler tudalennau'r cyrsiau unigol am fanylion. Anogir ymgeiswyr sy'n cyflwyno cais ar gyfer cyrsiau eraill i wneud cais erbyn 31 Gorffennaf ar gyfer cyrsiau sy'n dechrau ym mis Medi, er mwyn sicrhau bod lleoedd gwag ar gael o hyd.