Pob maes pwnc: BWRSARIAETHAU LLYWODRAETH CYMRU AR GYFER CYRSIAU MEISTR CYFRWNG CYMRAEG
Dyddiad cau: Cyn gynted â phosib
Gwybodaeth Allweddol
Mae’r wybodaeth am fwrsariaethau isod ar gyfer y flwyddyn academaidd 2021/22.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi blwyddyn arall o ariannu er mwyn denu myfyrwyr sy’n byw yng Nghymru a myfyrwyr o’r Undeb Ewropeaidd (Myfyrwyr nad ydynt yn byw yn y Deyrnas Unedig) i gwblhau eu gradd Meistr trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae pob bwrsariaeth yn werth £1,000.
- Y rhai sy’n astudio ar raglenni gradd Meistr a addysgir gwerth 180 o gredydau trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae’n rhaid i elfen gyfrwng Cymraeg y rhaglen fod yn werth 40 o gredydau neu’n fwy
- Rhaglenni gradd Meistr cyfrwng Cymraeg cymwys sy’n cychwyn yn ystod y flwyddyn academaidd 2021/22
- Myfyrwyr o Gymru ac o’r Undeb Ewropeaidd
- Cyrsiau amser llawn a rhan-amser
- Ar gael i fyfyrwyr o bob oedran
Gall myfyrwyr sy’n dewis astudio ar gwrs cymwys ym maes gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg, mathemateg neu feddygaeth hefyd dderbyn bwrsariaeth ychwanegol sy’n werth £2,000. Cewch fanylion pellach yma.
Hefyd, os ydych chi dros 60 oed mae ariannu bwrsariaeth pellach ar gael. Cewch fanylion pellach yma.
Mae’r ariannu hwn yn ychwanegol i’r cynllun ariannu i ôl-raddedigion ar gyfer myfyrwyr o Gymru yn ystod y flwyddyn academaidd 2021/22.
Cymhwyster
Mewn egwyddor mae pob un o gyrsiau gradd Meistr a Addysgir y Brifysgol yn gymwys i dderbyn y fwrsariaeth hon cyhyd â bod modd i fyfyriwr astudio elfen ohono trwy gyfrwng y Gymraeg. Ar hyn o bryd mae nifer o adrannau’r Brifysgol yn datblygu ac yn cynnig modiwlau cyfrwng Cymraeg neu fodiwlau dwyieithog fel rhan o’u cyrsiau felly bydd angen i chi drafod y posibiliadau gyda’r Cyfarwyddwr Rhaglen perthnasol. Gall myfyriwr astudio modiwl/modiwlau trwy gyfrwng y Gymraeg neu gyflwyno ei draethawd estynedig lefel gradd Meistr yn Gymraeg er mwyn sicrhau cymhwysedd i dderbyn y fwrsariaeth hon.
Sylwer: Ni fydd myfyrwyr a ariennir gan gyllid llywodraeth arall megis Gofal Cymdeithasol Cymru, GIG/HEIW, DHSSPS neu Gynghorau Ymchwil (KESS II) yn gymwys.
Ymhlith y pynciau lle gellid derbyn cymorth i astudio trwy gyfrwng y Gymraeg trwy waith yn Rhan 2 y cwrs gradd mae:
Astudiaethau Busnes
- MSc mewn Rheolaeth
- MSc mewn Rheolaeth (Dadansoddeg Busnes)
- MSc mewn Rheolaeth (Mentergarwch ac Arloesedd)
- MSc mewn Rheolaeth (Cyllid)
- MSc mewn Rheolaeth (Rheolaeth Adnoddau Dynol)
- MSc mewn Rheolaeth (Rheolaeth Ryngwladol)
- MSc mewn Rheolaeth (Marchnata)
- MSc mewn Rheolaeth (Rheoli Gweithrediadau a Chyflenwi)
Saesneg
Daearyddiaeth
- MSc mewn Deinameg Amgylcheddol a Newid yn yr Hinsawdd
- MSc mewn Gwybodaeth Ddaearyddol a Newid yn yr Hinsawdd
Hanes
Y Gyfraith
Astudiaethau’r Cyfryngau a Chyfathrebu
Meddygaeth, Geneteg a Biogemeg
Iechyd a Gofal
Ieithoedd Modern a Chyfieithu
Gwaith Cymdeithasol
Cymraeg
- MA mewn Cyfieithu Proffesiynol
Os ydych chi’n fyfyriwr o’r Undeb Ewropeaidd ac yn ansicr a ydych chi’n gymwys i gyflwyno cais i’r cynllun bwrsariaeth hwn, e-bostiwch money.campuslife@abertawe.ac.uk am arweiniad pellach.
Cyllid
Mae pob bwrsariaeth yn werth £1,000. Telir y fwrsariaeth ar ôl i’r ymgeisydd gwblhau 40 o gredydau’r cwrs trwy gyfrwng y Gymraeg.
Sut i wneud cais
Dyfernir bwrsariaethau yn awtomatig ar sail y cyntaf i’r felin i fyfyrwyr sy’n derbyn cynnig lle i astudio ar gwrs gradd Meistr cymwys ym Mhrifysgol Abertawe. Nid oes angen cyflwyno cais ar wahân ar gyfer y cyllid hwn. I gael eich ystyried ar gyfer bwrsariaeth, mae’n rhaid i chi gwblhau’r camau canlynol:
- Cyflwyno cais ar gyfer cwrs gradd Meistr cymwys sy’n dechrau ym Mhrifysgol Abertawe yn ystod y flwyddyn academaidd 2021/22.
- Derbyn eich cynnig lle i astudio yn swyddogol.
- Anfon neges i astudio@abertawe.ac.ukyn nodi eich bwriad i astudio 40 o gredydau trwy gyfrwng y Gymraeg gan nodi eich enw a’ch dewis cwrs. Dylech chi nodi sut byddwch chi’n cyflawni’r 40 o gredydau e.e. trwy astudio modiwlau penodol yn Rhan 1, neu drwy gyflwyno eich traethawd estynedig neu’ch prosiect Rhan 2 yn y Gymraeg.
Am fanylion pellach, e-bostiwch astudio@abertawe.ac.uk.
Sylwer, nad oes proses cyflwyno cais ffurfiol ar gyfer y cynllun bwrsariaeth hwn. Bydd y Swyddfa Derbyn Myfyrwyr yn cysylltu ag ymgeiswyr a allai fod yn gymwys yn gynnar ym mis Mehefin gan roi rhagor o wybodaeth.