Pob maes pwnc: CYNLLUN BWRSARIAETHAU GRADD MEISTR CYMRU AR GYFER POBL 60+ OED
Dyddiad cau: Cyn gynted â phosib
Gwybodaeth Allweddol
*Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau cyllid i’r cynllun bwrsariaeth ar gyfer blwyddyn academaidd 2022/23*
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ariannu am flwyddyn arall er mwyn denu myfyrwyr 60 oed a hŷn o Gymru i astudio eu gradd Meistr yng Nghymru. Mae pob bwrsariaeth yn werth £4,000.
Mae’r manylion cychwynnol fel a ganlyn:
- Ar gael i fyfyrwyr sy’n byw yng Nghymru dros 60 oed ar ddiwrnod cyntaf Blwyddyn Academaidd y cwrs. Diffinnir y flwyddyn academaidd fel a ganlyn:
- 1 Medi 2022 lle mae’r Flwyddyn Academaidd yn cychwyn ar neu ar ôl 1 Awst 2022 a chyn 1 Ionawr 2023
- 1 Ionawr 2023 lle mae’r Flwyddyn Academaidd yn cychwyn ar neu ar ôl 1 Ionawr 2023 a chyn 1 Ebrill 2023
- Ar gael i’r rhai sy’n astudio ar raglenni gradd Meistr a addysgir cyflawn gwerth 180 o gredydau sy’n dechrau yn ystod y flwyddyn academaidd 2022/23 ym Mhrifysgol Abertawe.
Cymhwyster
Mae’r manylion cymhwysedd cychwynnol fel a ganlyn:
- Ar gael i fyfyrwyr sy’n byw yng Nghymru dros 60 oed ar ddiwrnod cyntaf Blwyddyn Academaidd y cwrs. Diffinnir y flwyddyn academaidd fel a ganlyn:
- 1 Medi 2022 lle mae’r Flwyddyn Academaidd yn cychwyn ar neu ar ôl 1 Awst 2022 a chyn 1 Ionawr 2023
- 1 Ionawr 2023 lle mae’r Flwyddyn Academaidd yn cychwyn ar neu ar ôl 1 Ionawr 2023 a chyn 1 Ebrill 2023
- Ar gael i’r rhai sy’n astudio ar raglenni gradd Meistr a addysgir cyflawn gwerth 180 o gredydau sy’n dechrau yn ystod y flwyddyn academaidd 2022/23 ym Mhrifysgol Abertawe.
Sylwer: Ni fydd myfyrwyr a ariennir gan gyllid llywodraeth arall megis Gofal Cymdeithasol Cymru, GIG/HEIW, DHSSPS neu Gynghorau Ymchwil (KESS II) yn gymwys.
Cyllid
Mae pob bwrsariaeth yn werth £4,000.
Sut i wneud cais
Dyfernir bwrsariaethau yn awtomatig ar sail y cyntaf i’r felin i fyfyrwyr sy’n derbyn cynnig lle i astudio ar gwrs gradd Meistr cymwys ym Mhrifysgol Abertawe. Nid oes angen cyflwyno cais ar wahân ar gyfer y cyllid hwn.
I gael eich ystyried ar gyfer bwrsariaeth, mae’n rhaid i chi gwblhau’r camau canlynol:
- Cyflwyno cais ar gyfer cwrs gradd Meistr cymwys sy’n dechrau ym Mhrifysgol Abertawe yn ystod y flwyddyn academaidd 2022/23.
- Derbyn eich cynnig lle i astudio yn swyddogol.
Am ragor o wybodaeth, e-bostiwch postgraduate.admissions@abertawe.ac.uk
Sylwer, nad oes proses cyflwyno cais ffurfiol ar gyfer y cynllun bwrsariaeth hwn. Bydd y Swyddfa Derbyn Myfyrwyr yn cysylltu ag ymgeiswyr a allai fod yn gymwys gan roi rhagor o wybodaeth.