Anna Seagar

Dr Anna Seager

Rheolwr Diwylliant Ymchwil, REIS

Cyfeiriad ebost

Welsh language proficiency

Siaradwr Cymraeg Canolradd

Dolenni Ymchwil

246
Ail lawr
Adeilad Talbot
Campws Singleton
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Mae Anna Seager yn Swyddog Ymchwil wedi'i chyflogi ar  brosiect BEACON a ariennir gan yr Undeb Ewropeaidd sy'n cysylltu ymchwil, entrepreneuriaeth ac arloesi yn rhanbarth cydgyfeirio de Cymru. Mae ymchwil BEACON Anna wedi amrywio o ddadansoddiad geneteg planhigion sydd wedi'u trin â gwrteithiau i fesur proffiliau tocsicolegol y pathogen gastrig, Cryptosporidiwm. Mae prosiectau ymchwil blaenorol yng ngyrfa Anna wedi cynnwys datblygu offer i leihau defnydd o anifeiliaid mewn profion arbrofol ac ymchwil tocsicoleg (NC3Rs). 

Ochr yn ochr â'i rôl ymchwil, mae Anna'n cyfrannu at bortffolio addysgu'r Ysgol Feddygaeth, gan addysgu ar gyrsiau israddedig ac ôl-raddedig, megis Geneteg Canser a Ffarmacoleg a darparu mentora academaidd i fyfyrwyr. Yn 2018, dyfarnodd yr Academi Addysg Uwch  gymrodoriaeth i Anna yn seiliedig ar ei hymagwedd wedi'i llywio gan ymchwil at addysg myfyrwyr. 

Mae Anna yn llysgennad STEM ymrwymedig sy'n ymwneud â mentrau di-rif i ennyn diddordeb y cyhoedd a phlant mewn ymchwil, gan gynnwys Soapbox Science 2015, Gŵyl Wyddoniaeth Abertawe, Dydd Sadwrn Gwyddoniaeth Wych, Diwrnod Hwyl i'r Teulu Prifysgol Abertawe a Pint of Science 2019.

Drwy gydol ei gyrfa, mae Anna wedi bod yn angerddol am gydraddoldeb, amrywiaeth a chynwysoldeb, a adlewyrchir yn ei rôl wirfoddol barhaus fel arweinydd Athena SWAN yn yr Ysgol Feddygaeth. Mae Athena SWAN yn gynllun cenedlaethol â'r nod o gydnabod problemau ym maes cydraddoldeb a mynd i'r afael â nhw drwy gydnabod na fydd y gymuned academaidd ac addysg uwch yn gallu cyflawni eu potensial llawn oni bai y gallant elwa o ddoniau pawb. Dechreuodd ymrwymiad Anna i Gydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynwysoldeb ym Mhrifysgol Abertawe yn 2012 pan ddaeth hi'n aelod o dîm Athena SWAN y Brifysgol ac wedi hynny'n Arweinydd yn nhîm Athena SWAN yr Ysgol Feddygaeth yn 2015. Anna sydd â chyfrifoldeb am y gyfres o seminarau Athena SWAN sy'n cynnal gweithdai ar gyfer staff a myfyrwyr (ar bynciau megis pendantrwydd, dyrchafiadau, rhagfarn ddiarwybod a sgiliau ysgrifennu), ac mae hi'n aelod o Bwyllgor Cydraddoldeb ac Amrywiaeth Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe a Grŵp Strategaeth Athena SWAN y Brifysgol. 

Meysydd Arbenigedd

  • • Tocsicoleg
  • • Ffarmacoleg
  • • Bioleg Celloedd
  • • Microsgopeg a delweddu celloedd
  • • Technegau moleciwlaidd

Uchafbwyntiau Gyrfa

Prif Wobrau

Cafodd cyfraniad personol Anna at Gydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynwysoldeb yn y Brifysgol ei gydnabod drwy ddyfarnu Gwobr Mary Williams iddi yn 2019.