Trosolwg
Mae David Hughes yn Athro Emeritws, a chanddo gysylltiadau â materion y Coleg o hyd. Mae wedi gweithio ym maes polisi iechyd, cymdeithaseg feddygol ac astudiaethau gyfreithiol-gymdeithasol, ac ar wahân i gyfnod hir yn Abertawe, cafodd ei benodi cyn hynny ym Mhrifysgolion Dundee, Rhydychen a Nottingham. Yn ogystal ag ymchwilio i GIG Prydain, mae Hughes wedi cyhoeddi ar destun diwygio’r systemau iechyd yng ngwlad Thai ac yn Nhwrci. Ei brif ddiddordebau ymchwil ar hyn o bryd yw rheoli meddyginiaeth, a systemau gofal iechyd rhyngwladol. Mae David yn gymrawd o’r Academi Gwasanaethau Cymdeithasol ac enillodd (flynyddoedd yn ôl) ei radd doethur o Brifysgol Abertawe.