Trosolwg
Mae Daphne yn ddylunydd gweledol. Mae’n mwynhau gweithio mewn amgylcheddau rhyngddisgyblaethol. Mae ganddi Ddoethuriaeth mewn Addysg ac mae ei gwaith ymchwil yn canolbwyntio ar addysg celf-wyddoniaeth drwy gyfrwng celf gosodiadau. Mae ei chefndir mewn drama (BA Drama) a pherfformiad (MA Iaith Weledol Perfformiad). Mae’n frwdfrydig dros archwilio maes addysg celf-wyddoniaeth, cyfathrebu ac ymgysylltu. Ymunodd ag Adran Biowyddorau’r Brifysgol a’r Labordy FIRE (Ymchwil ac Ymgysylltu Rhyngddisgyblaethol o ran Dŵr Croyw) ym mis Ionawr 2020 lle mae’n gweithio ar hyn o bryd fel swyddog ymchwil.