Trosolwg
Uwch-ddarlithydd yn y Gyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd yw Dr Menna Brown. Mae hi'n addysgu myfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig gan gyfrannu ar draws ystod o raglenni yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe a'r Ysgol Iechyd a Gofal Cymdeithasol.
Mae gan Menna 15 mlynedd o brofiad ym maes ymchwil iechyd a lles mewn cyd-destun meddygol ac mae wedi gweithio'n helaeth gyda staff a chleifion ar draws GIG Cymru a Deoniaeth Cymru er mwyn ymgymryd ag ymchwil ansoddol sy'n edrych ar iechyd a lles mewn ystod o gyd-destunau proffesiynol a'r sector cyhoeddus.
Cwblhaodd Menna ei gradd israddedig (BSc) mewn Seicoleg gan arbenigo mewn seicoleg iechyd (MSc) a hybu iechyd a newid mewn ymddygiad iechyd mewn cyd-destun digidol ar lefel ôl-raddedig. Yn 2021, cwblhaodd ei hastudiaethau PhD yn llwyddiannus mewn Meddygaeth a Gofal Iechyd yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe. Mae ei gwaith ymchwil presennol yn archwilio rôl lles emosiynol wrth bennu canlyniadau iechyd corfforol mewn cyd-destun iechyd digidol. Mae ei diddordebau ymchwil yn cynnwys iechyd meddwl a lles, hybu iechyd mewn cyd-destun iechyd digidol, materion iechyd cyhoeddus, presgripsiynu cymdeithasol a defnydd addysgol o dechnoleg ddigidol.