Trosolwg
Mae Rachel yn rhan o Grŵp Pobl a Sefydliadau’r Ysgol Reolaeth. Ei phrif feysydd diddordeb yw cysylltiadau cyflogaeth a rheoli adnoddau dynol. Enillodd ei PhD o Brifysgol Caerdydd, a oedd yn canolbwyntio ar les yn y gweithle fel lens i ymchwilio i gysylltiadau cyflogaeth. Mae ganddi ddiddordeb personol a phroffesiynol yn yr undebau llafur. Mae’n Aelod Cysylltiol o’r CIPD.