Trosolwg
Mae Victoria yn ymchwilydd gyrfa gynnar sy’n gweithio ym maes ansawdd aer. Mae ei diddordebau penodol yn cynnwys deddfwriaeth ansawdd aer, polisi a rheoli, ac ansawdd aer dan do. Mae ganddi brofiad helaeth ym maes rheoli amgylcheddol, yn sgil 15 mlynedd o brofiad yn gweithio yn y sector. Mae wedi gweithio ym maes ymgynghoriaeth breifat, i awdurdod lleol ac i brif reoleiddiwr amgylcheddol Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), lle bu’n arwain ar Asesiadau Rheoliadau Ansawdd aer a Chynefinoedd ar gyfer Gwasanaeth Trwyddedu CNC, ac roedd yn gyfrifol am drosi gofynion Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 yn arferion gwaith CNC. Bu hefyd yn rheoli tîm trwyddedu’r Diwydiant a Reoleiddir, yn cwmpasu’r holl swyddogaethau trwyddedu amgylcheddol, gan gynnwys prosesau diwydiannol trwm, ymbelydredd a nwyon tŷ gwydr, ar gyfer Cymru gyfan. Mae’n aelod o’r grŵp ymgyrchu Healthy Air Cymru (HAC) a Phanel Arbenigol Cymru Gyfan ar Ansawdd Aer (sy’n cynghori Llywodraeth Cymru), ac mae hefyd yn cynghori Llywodraeth Cymru ar Reoli Ansawdd Aer Lleol.