Trosolwg
Rwy’n ecolegydd ac yn entomolegydd gyda diddordeb arbennig mewn sicrhau bod ein myfyrwyr a’r cyhoedd yn deall rolau ecolegol pryfed a’u gwerth yng ngweithrediad ecosystemau.
Rwy’n ecolegydd ac yn entomolegydd gyda diddordeb arbennig mewn sicrhau bod ein myfyrwyr a’r cyhoedd yn deall rolau ecolegol pryfed a’u gwerth yng ngweithrediad ecosystemau.
Ffotosfferau wrth olygu
Fel ecolegydd maes, rwy’n gallu rhannu fy angerdd am y byd naturiol yn ystod cyrsiau maes ac fel Pennaeth Sŵoleg, rwy’n cydgysylltu cwrs maes Sŵoleg lefel 5. Rwy’n cyfrannu hefyd at gwrs maes mewn Sgiliau Proffesiynol mewn Cadwraeth lefel 6 a thaith maes Ecoleg a Chadwraeth Drofannol lefel 7 i Borneo.
Mae gennyf ddiddordeb mewn deall y ffordd y gellir cynyddu cymunedau pryfed drwy newid arferion rheoli. Mae fy niddordebau’n cynnwys integreiddio’r cyhoedd i’n cymuned wyddonol drwy gynlluniau gwyddoniaeth dinasyddion i gasglu data ar infertebratau. Rwy’n awyddus hefyd i annog ymgysylltu gweithredol â’r byd naturiol a rhannu ag eraill y bygythiadau ecolegol i bryfed a dulliau lliniaru.
Rwy’n goruchwylio myfyrwyr sy’n ymchwilio i amrywiaeth o brosiectau sy’n ymwneud ag entomoleg, yn ogystal ag astudiaethau ar wasgariad ystlumod pedol lleiaf, gwaith adfer twyni tywod, a’r rhyngweithio rhwng rhywogaethau tegeirian prin sy’n byw mewn twyni tywod a micro-organebau rhisosffer.
Rwy’n hyrwyddwr gwaith rhyngddisgyblaethol ac yn cydweithredu â chydweithwyr ym maes Peirianneg, Cyfrifiadureg a Daearyddiaeth.
Rwy’n mwynhau cydweithio â phartneriaid mewn diwydiant, gan gynnwys Cyfoeth Naturiol Cymru, y Bat Conservation Trust a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
Mae fy ngwaith addysgu’n canolbwyntio ar ddatblygu dulliau rhyngweithiol i gefnogi myfyrwyr i gynyddu eu perfformiad a datblygu dull beirniadol, yn enwedig gan ddefnyddio technoleg i hwyluso dysgu ac ychwanegu ato.