Sgip i brif cynnwys Hafan Prifysgol Abertawe
  • Swyddi
  • Offer Hygyrchedd
  • Myfyrwyr Cyfredol
  • Staff
  • 中文
  • English
Hafan Prifysgol Abertawe
  • Swyddi
  • Offer Hygyrchedd
  • Myfyrwyr Cyfredol
  • Staff
  • 中文
  • English
  1. Hafan
  2. Swyddfa'r Wasg
  3. Newyddion a Digwyddiadau
  4. Newyddion
  • Astudio
    • Diwrnodau Agored yn Abertawe
      Three students walking through Bay Campus in the Sun

      Rydyn ni'n disgwyl ymlaen at eich crosawu chi!

      Ymweld â ni
    • Israddedig
      • Cyrsiau
      • Llety
      • Canllaw Rhieni a Gwarcheidwaid I'r Brifysgol
      • Diwrnodau Agored
      • Sut i wneud cais
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Gofynnwch Gwestiwn i Ni
      • Cadwch mewn cysylltiad
    • Ôl-raddedig
      • Cyrsiau
      • Rhaglenni Ymchwil
      • Diwrnod Agored
      • Sut i Wneud Cais
      • Ysgoloriaethau a bwrsariaethau
      • Y Brifysgol
      • Gofynnwch Gwestiwn i Ni
      • Cadwch mewn cysylltiad
    • Bywyd Myfyriwr
      • Astudio
      • Pam Abertawe
      • Bywyd y campws
      • Chwaraeon
      • Cynaliadwyedd - Cymrwch Ran
      • Sefydliad Diwylliannol
      • Undeb Myfyrwyr Prifysgol Abertawe
      • Taith Rhithwir
      • Beth yw Gŵyl y Glas?
    • Gwasanaethau i Fyfyrwyr
      • Llyfrgelloedd ac Archifau
      • BywydCampws
      • Academi Cyflogadwyedd Abertawe
      • Menter Myfyrwyr
      • Canolfan Llwyddiant Academaidd
      • Academi Hywel Teifi
      • Llesiant myfyrwyr
  • Rhyngwladol
  • Ein Ymchwil
    • Gwnewch Ymchwil Gyda Ni
      • Cefnogi eich taith ymchwil ôl-raddedig
      • Dod o hyd i raglen ymchwil ol-raddedig
      • Sut i wneud cais am raglen ymchwil Ôl-raddedig
      • Hyfforddiant a Datblygiad i Oruchwylwyr a Myfyrwyr Ymchwil
    • Archwiliwch ein hymchwil
      • Uchafbwyntiau Ymchwil
      • Ymchwil yn y cyfadrannau
      • Momentum - ein cylchgrawn ymchwil
      • Archwilio Problemau Byd-eang
    • Darganfyddwch ein hymchwil
      • Cyfeiriadur Arbenigedd
      • Dod o hyd i bapur ymchwil
      • Manteisio ar ein Harbenigedd ym maes Ymchwil a Datblygu
    • Ein Hamgylchedd Ymchwil
      • Uniondeb Ymchwil: Moeseg a Llywodraethu
      • Effaith ymchwil
      • Hyfforddiant a datblygiad
      • Sefydliad Astudiaethau Uwch Morgan (SAUM)
    • Ein Cenhadaeth Ddinesig
      • Gŵyl Wyddoniaeth Abertawe
      • Gŵyl Bod yn Ddynol
      • Oriel Science
      • Byd Copr Cymru
  • Busnes
  • Cyn-fyfyrwyr
  • Y Brifysgol
    • Swyddfa'r Wasg
      Female student working with steel

      Newyddion a Ymchwil Diweddaraf straeon

      Darllenwch y newyddion diweddaraf yma
    • Y Brifysgol
      • Amdanom ni
      • Sut i ddod o hyd i ni
      • Dyfarniadau a Safleoedd y Brifysgol
      • Ein Cyfadrannau
      • Swyddfa'r Wasg
      • Swyddi a Gweithio yn Abertawe
      • Cynaliadwyedd ym Mhrifysgol Abertawe
      • Teithio i’r campws ac oddi yno
      • Cysylltu â ni
    • Chwaraeon
      • Bod yn Actif
      • Cynghreiriau Cymdeithasol
      • Clybiau Chwaraeon
      • Perfformiad
      • Cyfleusterau
      • Nawdd
      • Ysgoloriaethau
      • Newyddion
    • Bywyd y campws
      • Llety
      • Arlwyo
      • Sefydliad Diwylliannol
      • Y Neuadd Fawr
      • Taliesin
      • Creu Taliesin
      • Ein Tiroedd
      • Cerddoriaeth
      • Rhithdaith
    • Ein Cyfadrannau
      • Cyfadran y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol
      • Cyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg
      • Cyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd
      • Y Coleg
    • Academïau
      • Academi Iechyd a Llesiant
      • Sefydliad Astudiaethau Uwch Morgan (SAUM)
      • Academi Cyflogadwyedd Abertawe (SEA)
      • Academi Hywel Teifi
      • Academi Cynwysoldeb Abertawe (SAI)
  • Newyddion a Digwyddiadau
  • Cefnogaeth a Lles
  1. Hafan
  2. Swyddfa'r Wasg
  3. Newyddion a Digwyddiadau
  4. Newyddion

Newyddion

Tudalennau cysylltiedig
  • Newyddion a Digwyddiadau
    • Newyddion
      • 2023
      • 2022
      • 2021
      • 2020
      • 2019
      • Archif Newyddion
    • Digwyddiadau
    • Ffocws Abertawe
  • Gwybodaeth i newyddiadurwyr
  • Gwybodaeth i Staff

Pob Stori

  • 27 Mawrth 2023
    Ffilm yn amlygu gweithredu cymunedol ar adeg argyfwng o ran yr hinsawdd ac ecoleg

    Mae ffilm newydd sy'n amlygu sut mae grŵp cymunedol o ffrindiau a chymdogion yng Nghastell-nedd yn gweithio'n gadarnhaol i liniaru newid yn yr hinsawdd wedi cael ei dangos am y tro cyntaf yr wythnos diwethaf i gyd-fynd ag Awr y Ddaear.

  • 23 Mawrth 2023
    Myfyriwr o Abertawe'n cydweithredu â'r Swyddfa Dywydd i helpu i ddatblygu model arwynebedd tir

    Mae myfyriwr o Brifysgol Abertawe wedi cydweithredu â'r Swyddfa Dywydd i nodi sut gellir gwella un o'i modelau arwynebedd tir, gan hwyluso rhagamcanion mwy cywir o ryngweithiadau rhwng yr hinsawdd a llystyfiant yn y dyfodol.

  • 23 Mawrth 2023
    Llyfrau newydd yn dwyn y sylw ar restr fer Gwobr Dylan Thomas Prifysgol Abertawe 2023

    Heddiw, cyhoeddir rhestr fer un o wobrau llenyddol mwyaf y byd sy'n dathlu llenorion ifanc - Gwobr Dylan Thomas Prifysgol Abertawe - gan amlygu ehangder a dyfnder doniau ysgrifennu rhyngwladol newydd.

  • 22 Mawrth 2023
    Prifysgol Abertawe'n sicrhau rhan o £40m o gyllid i hybu buddion ymchwil yn y gwyddorau cymdeithasol

    Mae Prifysgol Abertawe'n un o 32 sefydliad ymchwil ledled y DU a fydd yn elwa o gefnogaeth y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC) drwy ddyfarniad Cyfrif Cyflymu Effaith gwerth £1.25m dros bum mlynedd.

  • 22 Mawrth 2023
    Prifysgol Abertawe'n parhau i wella ei safle yn Nhablau Prifysgolion y Byd QS fesul Pwnc

    Mae Prifysgol Abertawe wedi cyflawni ei pherfformiad gorau erioed yn un o’r tablau pwysicaf sy’n rhestru prifysgolion y byd fesul pwnc am yr ail flwyddyn yn olynol.

  • 21 Mawrth 2023
    Rhaglen y Brifysgol yn derbyn cydnabyddiaeth gan Gymdeithas Gemeg America

    Mae Prifysgol Abertawe wedi derbyn cydnabyddiaeth fyd-eang am safon uchel yr addysg gemeg y mae'n ei chynnig.

  • 20 Mawrth 2023
    Prifysgol Abertawe'n cyrraedd y rhestr fer am wobr recriwtio gyrfaoedd cynnar o fri

    Mae Rhaglen Cymorth i Raddedigion Prifysgol Abertawe wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer tîm gyrfaoedd a chyflogadwyedd addysg uwch y flwyddyn yng Ngwobrau Recriwtio Graddedigion Cenedlaethol targetjobs 2023.

  • 20 Mawrth 2023
    Prifysgol Abertawe ar y rhestr fer ar gyfer chwe chategori yng Ngwobrau Dewis Myfyrwyr WhatUni

    Mae Prifysgol Abertawe wedi cyrraedd y rhestr fer mewn chwe chategori yng Ngwobrau Dewis Myfyrwyr WhatUni eleni.

  • 17 Mawrth 2023
    Prifysgol Abertawe a Phrifysgol Amaeth a Thechnoleg Tokyo i arwain prosiect pwysig i ganfod clefyd Alzheimer yn gynnar

    Dyfarnwyd £1.3 miliwn i wyddonwyr o Sefydliad Arloesol Prifysgol Abertawe ym maes Deunyddiau, Prosesau a Thechnolegau Rhifyddol (IMPACT) ac o Japan, er mwyn datblygu pecyn newydd “profion pwynt gofal” sy’n gallu canfod biofarcwyr Clefyd Alzheimer.

  • 17 Mawrth 2023
    Astudiaeth newydd yn cyfrif cost amgylcheddol rheoli clymog

    Mae ymchwil newydd gan Brifysgol Abertawe wedi ystyried effaith amgylcheddol dulliau gwahanol o reoli clymog Japan yn y tymor hir.

  • 17 Mawrth 2023
    £1 miliwn ar gyfer prosiectau sy'n cynnwys arbenigwyr o Abertawe yn mynd i'r afael â niwed sy'n gysylltiedig â gamblo ymhlith cyn-filwyr y lluoedd arfog

    Mae ymchwil i fynd i'r afael â niwed sy'n gysylltiedig â gamblo ymysg cyn-filwyr y lluoedd arfog wedi derbyn hwb sylweddol gyda thri dyfarniad, cyfanswm o £1 miliwn, ar gyfer prosiectau newydd yn y maes sy'n cynnwys arbenigwyr o Brifysgol Abertawe.

  • 16 Mawrth 2023
    Cydweithrediad yn sicrhau grant gan y Sefydliad Gwyddoniaeth Cenedlaethol i ddatblygu maes newydd sef Deunyddiau ar gyfer Gwytnwch Cymdeithasol

    Mae Prifysgol Abertawe wedi derbyn grant ymchwil gyda Sefydliad Technoleg Massachusetts a Phrifysgol Cornell noddir gan y Sefydliad Gwyddoniaeth Cenedlaethol ar gyfer project ymchwil aml-sefydliadol.

  • 16 Mawrth 2023
    Aelod o Staff Prifysgol Abertawe'n cael ei chydnabod mewn Gwobrau Prentis o Fri

    Mae Katie Harris o Brifysgol Abertawe wedi cael ei henwi'n Brentis Gwybodaeth, Cyngor ac Arweiniad ar Yrfaoedd y Flwyddyn yng Ngwobrau Prentisiaethau Coleg Gŵyr Abertawe eleni.

  • 15 Mawrth 2023
    Digwyddiad Diwrnod Rhyngwladol y Menywod ITWales yn dathlu 20 mlynedd o Technocamps

    Cynhaliwyd digwyddiad ITWales, wedi’i drefnu gan Technocamps, i ddathlu menywod ym meysydd STEM ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod yn Arena Abertawe.

  • 15 Mawrth 2023
    Academyddion o Brifysgol Abertawe'n datblygu'r celloedd solar perofsgit cyntaf yn y byd y gellir eu hargraffu'n llwyr o rolyn i rolyn

    Mae Prifysgol Abertawe wedi cadarnhau dull inc carbon rhad y gellir ei ehangu sy'n gallu manteisio, am y tro cyntaf, ar botensial celloedd solar perofsgit i gael eu gweithgynhyrchu ar raddfa fawr.

  • 14 Mawrth 2023
    Llyfr newydd yn datgelu sut gall breuddwydion greu cysylltiadau rhwng pobl

    Bydd llyfr newydd gan Mark Blagrove, arbenigwr cwsg Prifysgol Abertawe, yn cael ei lansio yn ystod digwyddiad y gwerthwyd pob tocyn ar ei gyfer yn ddiweddarach yr wythnos hon.

  • 13 Mawrth 2023
    Effaith pandemig Covid-19 ar achosion o gyflyrau hirdymor yng Nghymru

    Mae astudiaeth cyswllt data poblogaeth sy’n defnyddio cofnodion iechyd gofal sylfaenol ac eilaidd yn datgelu bod llai o bobl yng Nghymru yn cael diagnosis o gyflyrau hirdymor na’r disgwyl yn 2020 a 2021.

  • 13 Mawrth 2023
    Cynhadledd sy'n amlygu sut y gall economy gylchol lywio dyfodol Cymru

    Cynhelir Cynhadledd Wanwyn Cymunedau Arloesi’r Economi Gylchol (CEIC) ar ddydd Gwener, 24 Mawrth  yn Stadiwm Swansea.com. Mae'r gynhadledd yn wahoddiad agored i hyrwyddwyr amgylcheddol o bob rhan o Dde Cymru a thu hwnt i drafod sut y gall ymdrechion cynyddrannol sydd wedi'u cynllunio'n dda gael effaith sylweddol.

  • 10 Mawrth 2023
    Tîm ymchwil yn ymestyn cysylltiadau rhyngwladol i Awstralia

    Mae ymchwilwyr gartref ac oddi cartref wedi dod at ei gilydd ar gyfer cydweithrediad rhyngwladol newydd gyda'r nod yn y pen draw o wella gofal cleifion.

  • 9 Mawrth 2023
    Tîm rhyngwladol yn archwilio sut gallai seleniwm helpu i ymladd canser yr ofari

    Mae seleniwm yn ficro-faetholyn sy'n chwarae rôl hanfodol mewn iechyd dynol ond mae'n wenwynig mewn lefelau uchel. Fodd bynnag, dengys ymchwil fiofeddygol newydd fod gan seleniwm nodweddion gwrth-ganser pan gaiff ei ddefnyddio mewn dosau uchel.

  • 8 Mawrth 2023
    Ap yn ceisio cyflwyno artist i gynulleidfa newydd ac ehangach

    Mae ap newydd wedi cael ei lansio i geisio dathlu ac amlygu gwaith Gwen John, yr artist o Gymru.

  • 7 Mawrth 2023
    Arbenigwyr o'r Ganolfan Eifftaidd yn barod i ddatgelu hanes arteffactau hynafol

    Mae llu o henebion Eifftaidd wedi cyrraedd Abertawe cyn cael eu harddangos i'r cyhoedd a chael eu hastudio gan arbenigwyr o'r Brifysgol am y tro cyntaf.

  • 6 Mawrth 2023
    Ymchwil newydd gan Brifysgol Abertawe'n dangos y gall defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol am 15 munud yn llai bob dydd wella eich iechyd

    Mae ymchwil newydd gan Brifysgol Abertawe'n dangos y gall defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol am 15 munud yn llai bob dydd wella iechyd cyffredinol a gweithrediad y system imiwnedd yn sylweddol a lleihau unigrwydd ac iselder.

  • 1 Mawrth 2023
    Y Brifysgol yn ennill cyllid i hybu sgiliau gweithgynhyrchu batris yng Nghymru

    Mae Prifysgol Abertawe'n barod i wneud cyfraniad allweddol at lywio gweithlu gweithgynhyrchu'r dyfodol yng Nghymru.

  • 1 Mawrth 2023
    Ymchwilwyr i ddatblygu technolegau clyfar cynaliadwy, wedi'u hunan-bweru ar gyfer y genhedlaeth hŷn

    Dyfarnwyd £740,000 i dîm o ymchwilwyr ym Mhrifysgol Abertawe i ddatblygu technolegau’r "Rhyngrwyd Pethau" digidol, cynaliadwy ac wedi'u hunan-bweru er mwyn mynd i'r afael â hygyrchedd ar gyfer pobl hŷn.

  • 24 Chwefror 2023
    Data olrhain yn dangos sut mae rhywogaethau adar môr yn mabwysiadu strategaethau gwahanol i ymdopi â stormydd eithafol

    Mae ymchwilwyr yn Sefydliad Ymddygiad Anifeiliaid Max Planck yn yr Almaen a Phrifysgol Abertawe wedi datgelu sut mae rhywogaethau adar môr gwahanol yn defnyddio strategaethau gwahanol i ymdopi â seiclonau gyda rhai ohonynt yn hedfan yn uniongyrchol tuag at y storm ac eraill yn defnyddio tactegau osgoi.

  • 24 Chwefror 2023
    Myfyrwyr sy'n ymweld o Wcráin yn cael eu croesawu'n swyddogol i Abertawe

    Cafodd myfyrwyr o Wcráin, gan gynnwys rhai o brifysgol bartner Abertawe yn y wlad, eu croesawu'n swyddogol i Abertawe mewn derbyniad ar y campws, lle cawsant eu hannerch gan yr Is-ganghellor ac Universities UK.

  • 23 Chwefror 2023
    Y Brifysgol yn helpu i greu ap realiti rhithwir newydd i ennyn diddordeb mewn gyrfaoedd lled-ddargludyddion

    Mae Prifysgol Abertawe wedi partneru â chwmni technoleg ymgolli i greu profiad realiti rhithwir newydd â'r nod o ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf i ddilyn gyrfa mewn pynciau STEM. 

  • 20 Chwefror 2023
    Prifysgol Abertawe wedi'i henwi’n brif noddwr newydd Hanner Marathon Abertawe

    Mae Prifysgol Abertawe wedi llofnodi cytundeb tair blynedd i fod yn brif noddwr ras arobryn Hanner Marathon Abertawe.

  • 17 Chwefror 2023
    Grwpiau lleiafrifoedd ethnig yn rhannu ag ymchwilwyr brofiadau o fyw drwy Covid

    Mae ymchwil newydd wedi datgelu sut gwnaeth aelodau o grwpiau lleiafrifoedd ethnig ymdopi â heriau a achoswyd gan bandemig Covid.

  • 16 Chwefror 2023
    Y Brifysgol yn y 12fed safle ym Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle Stonewall

    Mae Prifysgol Abertawe wedi cyflawni ei chanlyniad gorau erioed ym Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle Stonewall, gan ddringo 14 o safleoedd i rif 12 yn y DU yn gyffredinol.

  • 15 Chwefror 2023
    Prifysgol Abertawe yn cydweithio â Chlwb Pêl Droed Dinas Abertawe a Sefydliad Prydeinig y Galon Cymru i gefnogi Mis y Galon

    Mae Clwb Pêl Droed Dinas Abertawe yn ymuno â Phrifysgol Abertawe a Sefydliad Prydeinig y Galon Cymru i ddangos eu cefnogaeth i Fis y Galon ym mis Chwefror.

  • 15 Chwefror 2023
    Tîm o Brifysgol Abertawe'n rhan o bartneriaeth ledled y DU sydd wedi cael £2.2m i wella ymchwil i ddementia

    Mae tîm o'r uned Gwyddor Data Poblogaethau ym Mhrifysgol Abertawe'n rhan o bartneriaeth ledled y DU sydd wedi sicrhau gwerth £2.2 miliwn mewn cymorth gan ADDI (Alzheimer’s Disease Data Initiative) er mwyn helpu i bontio'r bwlch rhwng darganfyddiadau sylfaenol yn y labordy a threialu'n llwyddiannus ffyrdd newydd o drin dementia.

  • 14 Chwefror 2023
    Astudiaeth newydd yn nodi ffactorau risg sy'n gysylltiedig â phwysau geni isel

    Mae genedigaethau lluosog, cyfnod byr rhwng beichiogrwydd a mamau sydd â chyflwr iechyd corfforol neu feddyliol, mewn mwy o berygl o gael babi â phwysau geni isel yn ôl ymchwilwyr o Brifysgol Abertawe.  

  • 14 Chwefror 2023
    Ymchwil newydd yn dangos yr arweinir postio hun-luniau gan ymddygiad ymosodol

    Dengys ymchwil newydd gan Brifysgol Abertawe fod menywod yn postio hun-luniau sy'n gysylltiedig â strategaethau cyflwyno'ch hunan mewn ffordd fygythiol, sy'n cyd-fynd â lefelau uchel o ymddygiad ymosodol.

  • 13 Chwefror 2023
    Car newydd yn rhoi hwb i gefnogaeth hanfodol canolfan rhoddwyr llaeth i fabanod sâl a chynamserol

    Bydd mwy o fabanod yng Nghymru yn elwa wrth i gerbyd trydan newydd gyrraedd sy’n cefnogi casgliadau llaeth gan roddwyr.

  • 9 Chwefror 2023
    Dur gwyrddach a glanach: technoleg rithwir yn asesu hydrogen fel tanwydd ar gyfer ffwrneisi i dorri allyriadau carbon

    Mae arbenigwyr dur wedi bod yn edrych yn rhithwir y tu mewn i siafft ffwrnes, fel rhan o brosiect newydd i brofi pa mor dda y byddai hydrogen yn gweithio fel adweithydd ar gyfer gwneud dur.  Os bydd newid i hydrogen o danwydd ffosil yn profi i fod yn ddichonadwy, byddai'n torri allyriadau carbon o'r broses gwneud dur yn sylweddol.

  • 31 Ionawr 2023
    Prifysgol Abertawe yw prif noddwr cynhadledd ac arddangosfa yn y ddinas

    Prifysgol Abertawe yw prif noddwr Cynhadledd ac Arddangosfa Canol Dinas Abertawe 2023, a fydd yn dychwelyd i Arena Abertawe ddydd Mercher, 29 Mawrth, yn dilyn llwyddiant y gynhadledd y llynedd yn y lleoliad.

  • 30 Ionawr 2023
    Gŵyl Varsity Cymru'n dychwelyd i'r brifddinas wrth iddi gael ei chynnal am y 25ain tro

    Bydd gŵyl Varsity Cymru 2023 yn cael ei chynnal yng Nghaerdydd am y tro cyntaf ers 2019 wrth i dimau o fyfyrwyr o Brifysgol Abertawe a Phrifysgol Caerdydd fynd benben â'i gilydd yn ei 25ain flwyddyn.

  • 27 Ionawr 2023
    Hwb gwerth £100,000 i CADR i gefnogi oedolion hŷn sydd wedi colli eu clyw

    Mae academyddion o Brifysgol Abertawe wedi derbyn cyllid gwerth £100,000 i roi hwb i dystiolaeth a dealltwriaeth hanfodol am bwysigrwydd creu cymdogaethau priodol, cymdeithasol, cynaliadwy a gwydn yn ogystal ag amgylchoedd ar gyfer oedolion hŷn sydd wedi colli eu clyw.

  • 26 Ionawr 2023
    Pobl sy’n hanu’n wreiddiol o Affrica a straeon pobl ifanc sydd wedi ymddieithrio yn cael lle blaenllaw ar restr hir Gwobr Dylan Thomas Prifysgol Abertawe 2023

    Cyhoeddir rhestr hir ryngwladol un o'r gwobrau llenyddol mwyaf yn y byd i ysgrifenwyr ifanc – Gwobr Dylan Thomas Prifysgol Abertawe – heddiw, ddydd Iau 26 Ionawr. Gydag awduron yn hanu o'r DU, Iwerddon, Nigeria, Cenia, Somalia, Libanus ac Awstralia, mae'r rhestr hir eleni o 12 yn cynnwys cynifer o newydd-ddyfodiaid ag enwau cyfarwydd, gyda lleisiau pobl sy’n hanu’n wreiddiol o Affrica a menywod yn cael lle blaenllaw ar y rhestr hir.

  • 25 Ionawr 2023
    Gellid defnyddio ‘patshyn clyfar’ sydd newydd ei ddatblygu i ganfod clefyd Alzheimer

    Mae gwyddonydd amlwg ym Mhrifysgol Abertawe wedi datblygu ‘patshyn clyfar’ newydd sy’n gallu canfod biofarcwyr llidhyrwyddol afiechydon niwroddirywiol megis clefydau Parkinson ac Alzheimer trwy ddefnyddio technoleg micronodwyddau.

  • 24 Ionawr 2023
    240 o swyddi a gwaith ymchwil ac arloesi hollbwysig ar ymyl y dibyn heb gamau brys i wneud iawn am golli cyllid yr UE, yn ôl Pennaeth Prifysgol Abertawe

    Mae Pennaeth Prifysgol Abertawe wedi rhybuddio bod dyfodol y sector ymchwil ac arloesi yng Nghymru – gan gynnwys mwy na 240 o swyddi medrus iawn ym Mhrifysgol Abertawe, mewn meysydd hollbwysig o ynni glân i ymchwil feddygol – yn y fantol yn ystod yr wythnosau nesaf, oni bai bod Llywodraeth y DU yn cymryd camau ar unwaith i wneud iawn am golli cyllid yr Undeb Ewropeaidd (UE).

  • 23 Ionawr 2023
    Adroddiad sero net blaenllaw yn enwi Prifysgol Abertawe

    Prifysgol Abertawe yw'r unig brifysgol yng Nghymru sydd wedi cael ei henwi yn adroddiad cyntaf The Royal Anniversary Trust, sy'n amlinellu cynllun uchelgeisiol i ddatgarboneiddio'r sector addysg drydyddol.

  • 17 Ionawr 2023
    Gwobr i ymchwilydd o Abertawe am waith sy'n lleihau llygredd afonydd o hen fwynfeydd

    Mae arbenigwr o Abertawe wedi ennill y wobr gyntaf mewn cynhadledd ryngwladol o fri am ei waith sy'n mynd i'r afael â llygredd afonydd o hen fwynfeydd.

  • 17 Ionawr 2023
    Y 'dallbwynt' sy'n ein hatal rhag gweld peryglon gyrru

    Ydy'n dderbyniol niweidio rhywun arall? Yn ôl astudiaeth newydd gan ymchwilwyr yn y DU, gall yr ateb ddibynnu ar a oes car yn rhan o'r sefyllfa. Maent wedi dangos bod gan bobl 'ddallbwynt' cyffredin sy'n gallu achosi iddynt ddefnyddio safonau moesol a moesegol wrth feddwl am yrru ceir sy'n wahanol i'r rhai byddent yn eu defnyddio mewn agweddau eraill ar eu bywydau.

  • 16 Ionawr 2023
    Penodiad newydd ar gyfer ymchwilydd yw'r cyntaf i fenywod yng Nghymru

    Mae ymchwilydd arloesol y mae ei waith ar drawma ar y frest wedi cael effaith fyd-eang wedi sgorio apwyntiad cyntaf yng Nghymru.

  • 13 Ionawr 2023
    Cymrawd o Abertawe'n ymuno ag Academi’r Ifanc gyntaf y DU gyfan

    Mae Dr Muhammad Naeem Anwar, o Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg Prifysgol Abertawe, ymhlith aelodau cyntaf Academi’r Ifanc newydd y DU – sef rhwydwaith o ymchwilwyr gyrfa gynnar ac ymarferwyr proffesiynol a grëwyd i helpu i fynd i'r afael â materion lleol a byd-eang a hyrwyddo newid ystyrlon.

  • 13 Ionawr 2023
    Bydd sgrinio pobl ddigartref am hepatitis C yn cyflymu diagnosis a thriniaeth

    Bydd pobl sy'n ddigartref neu mewn cartrefi ansefydlog iawn yn cael cynnig profion llif unffordd ar gyfer hepatitis C, ac yn fuan wedi hynny, profion PCR i gyflymu diagnosis a thriniaeth, a thrwy hynny, caiff y risg o drosglwyddiad ei leihau.

  • 10 Ionawr 2023
    Interniaid ym Mhrifysgol Abertawe'n rhannu safbwyntiau myfyrwyr am uniondeb academaidd

    Mae grŵp o interniaid y gyfraith yn Abertawe wedi bod yn helpu i lywio'r drafodaeth ynghylch uniondeb academaidd drwy rannu eu barn ag ymarferwyr addysg uwch proffesiynol.

  • 22 Rhagfyr 2022
    Ymchwilwyr yn datblygu system sy’n defnyddio Deallusrwydd Artiffisial (AI) i flaenoriaethu triniaeth cleifion niwmonia

    Mae tîm ymchwil ym Mhrifysgol Abertawe wedi datblygu ‘efaill digidol’ i helpu i flaenoriaethu cleifion ar gyfer gofal dwys brys a chefnogaeth peiriant anadlu.

  • 22 Rhagfyr 2022
    "Gwnes i gwympo mewn cariad â'r wlad hon o'r diwrnod cyntaf" - myfyriwr meddygol o Wcráin yn disgrifio ymweliad astudio ag Abertawe

    Mae myfyriwr meddygaeth o Wcráin sy'n treulio semester yn Abertawe fel rhan o bartneriaeth newydd gyda phrifysgol yn ei mamwlad wedi dweud ei bod wedi cwympo mewn cariad â'r wlad o'r diwrnod cyntaf ac wedi diolch i'r ddwy brifysgol am wneud yr ymweliad yn bosib.

  • 21 Rhagfyr 2022
    Staff Prifysgol Abertawe'n rhoi cannoedd o hamperi Nadolig i fanciau bwyd lleol

    Mae mwy na 600 o hamperi Nadolig wedi cael eu rhoi i fanciau bwyd yn Abertawe drwy haelioni staff Prifysgol Abertawe.

  • 21 Rhagfyr 2022
    Canolfan ymchwil o'r radd flaenaf yn cyflwyno ymgyrch newydd sy'n amlygu'r cysylltiad rhwng colli clyw a dementia

    Mae Canolfan Ymchwil Heneiddio a Dementia (CADR) Prifysgol Abertawe wedi lansio ymgyrch i gynyddu ymwybyddiaeth o'r cysylltiad rhwng colli clyw a dementia.

  • 20 Rhagfyr 2022
    Ymchwilwyr yn chwilio am gyfranogwyr ar gyfer astudiaeth o heintiau anadlol yng Nghymru

    Mae astudiaeth newydd yn chwilio am gyfranogwyr i archwilio sut mae heintiau anadlol, megis peswch, anwydau, y ffliw a Covid-19, yn effeithio ar bobl yng Nghymru y gaeaf hwn.

  • 20 Rhagfyr 2022
    Myfyrwyr Abertawe yn cael cyfle i astudio yn Awstralia, diolch i gynllun cyfnewid newydd gyda Phrifysgol Canberra

    Bydd myfyrwyr israddedig Abertawe yn cael y cyfle i astudio dramor yn Awstralia, diolch i gytundeb cyfnewid myfyrwyr newydd wedi'i lofnodi gyda Phrifysgol Canberra.

  • 20 Rhagfyr 2022
    Y Brifysgol yn rhan o brosiect gefeillio CutCancer newydd Horizon Ewrop

    Mae Prifysgol Abertawe'n rhan o brosiect gefeillio CutCancer newydd sy'n ceisio cryfhau a gwella galluedd ymchwil ac arloesi a rhagoriaeth cydlynydd y prosiect, y Sefydliad Bioleg Cenedlaethol (NIB) yn Slofenia.

  • 19 Rhagfyr 2022
    Y Brifysgol yn dadorchuddio hwb uwch-dechnoleg i fyfyrwyr awyrofod

    Mae un o gyfleusterau mwyaf cyffrous Prifysgol Abertawe wedi cael ei ymestyn i gynnig amgylchedd dysgu gwell i'w fyfyrwyr.

  • 19 Rhagfyr 2022
    Dyn 74 oed yn profi nad yw byth yn rhy hwyr i wireddu eich breuddwydion drwy raddio o Abertawe

    Mae athro 74 oed a fethodd ei arholiad 11+ wedi graddio o Brifysgol Abertawe gyda theilyngdod ac mae’n annog pobl eraill i ddal ati i ddysgu am byth.

  • 16 Rhagfyr 2022
    Astudiaeth newydd yn archwilio'r cysylltiadau rhwng incwm rhieni a thueddfryd rhywiol eu plant

    Mae cael eich denu at bartneriaid o'r un rhyw yn gyffredin mewn bodau dynol ond nid yw dylanwadau biolegol ar gyfunrhywiaeth a deurywioldeb wedi'u deall yn llawn.

  • 16 Rhagfyr 2022
    Ymchwil yn dangos pam gall cynnwrf rhywiol ddifetha diddordeb dynion mewn perthnasoedd tymor hir

    Mae ymchwil newydd wedi datgelu bod cynnwrf rhywiol yn peri i ddynion ffafrio ar unwaith baru tymor byr ar draul perthnasoedd ymrwymedig tymor hwy, megis priodas.

  • 13 Rhagfyr 2022
    Ymchwil newydd yn dangos y gallai’r cyfryngau cymdeithasol roi’r Gymraeg a'i siaradwyr dan anfantais

    Mae astudiaeth newydd gan Brifysgol Abertawe wedi amlygu sut gall y cyfryngau cymdeithasol fod yn fygythiad i ddyfodol y Gymraeg ac iechyd seicolegol ei siaradwyr.

  • 12 Rhagfyr 2022
    ASTUTE 2020+ yn cyfrannu £541 miliwn i Economi Cymru

    Wrth i Ganolfan Ragoriaeth ASTUTE newydd gael ei sefydlu yn lle prosiect ASTUTE 2020+, mae llwyddiannau ASTUTE 2020+ yn fwy trawiadol byth trwy ei chyfraniad sylweddol sy'n werth £541 miliwn at economi Cymru trwy gydweithredu rhwng Diwydiant a'r byd academaidd yn y sector gweithgynhyrchu.

  • 12 Rhagfyr 2022
    Ymchwil yn datgelu mai ond 1 o bob 3 menyw beichiog yng Nghymru fyddai'n cael brechiad Covid-19

    Mae astudiaeth newydd gan ymchwilwyr ym Mhrifysgol Abertawe wedi datgelu mai ond 1 o bob 3 menyw feichiog o bosib yng Nghymru fyddai'n cael y brechlyn Covid-19 yn ystod beichiogrwydd, er bod dwy o bob tair yn dweud y byddent yn cael y brechlyn.

  • 12 Rhagfyr 2022
    Cystadleuaeth Stori Fer Rhys Davies 2023 yn derbyn ceisiadau

    Mae Cystadleuaeth Stori Fer Rhys Davies, a gynhelir bob blwyddyn, bellach yn derbyn ceisiadau.

  • 8 Rhagfyr 2022
    Hwb gwerth £700,000 i ymchwilio i wreiddio hawliau plant mewn ystafelloedd dosbarth

    Mae cydweithrediad ymchwil sy'n archwilio sut gellir gwreiddio hawliau plant ifanc mewn ymarfer addysgu wedi sicrhau hwb cyllid mawr.

  • 6 Rhagfyr 2022
    Partneriaeth yn cael ei sefydlu i wella canlyniadau i gleifion cardiofasgwlaidd yng Nghymru

    Mae cydweithrediad newydd mawr wedi'i lansio gyda'r nod o wella diagnosis a thriniaeth cleifion cardiofasgwlaidd ar draws Cymru.

  • 6 Rhagfyr 2022
    Astudiaeth newydd yn dangos bod ofn COVID-19 yn parhau i niweidio lles seicolegol

    Mae ymchwil gan seicolegwyr o Ysgol Seicoleg Prifysgol Abertawe wedi canfod bod iechyd meddwl pobl wedi gwaethygu o ganlyniad i ofn COVID-19. Daeth yr astudiaeth, sydd newydd gael ei chyhoeddi yn y Journal of Health Psychology, i'r casgliad hefyd mai cyfranogwyr hŷn a phobl o leiafrifoedd ethnig oedd fwyaf tebygol o ofni COVID-19.

  • 5 Rhagfyr 2022
    Canllawiau ar gael am ddim i blant sy'n ceisio lloches yng Nghymru

    Mae Canolfan Gyfreithiol y Plant Cymru, gyda chymorth cyllid gan Lywodraeth Cymru, wedi diweddaru cyfres o ganllawiau ar gyfer plant sy'n ceisio lloches yng Nghymru, a'r gweithwyr cymdeithasol a'r gofalwyr maeth sy'n gofalu amdanynt.

  • 5 Rhagfyr 2022
    Hen dechneg yn cynnig ffordd newydd o oresgyn ofn Covid-19 a thactegau osgoi

    Mae'n bosib bod gan hen dechneg o oresgyn ofnau'r potensial i ryddhau pobl rhag ofnau a phryderon ynghylch Covid-19, yn ôl astudiaeth newydd gan Brifysgol Abertawe.

  • 30 Tachwedd 2022
    Darlith Prifysgol Abertawe'n trafod effaith radicalaidd bosib technoleg gefeillio digidol

    Mae darlith uchel ei bri Prifysgol Abertawe o'r enw “Asking the Next Evolution of Twins to Radically Shape Our Future” wedi cael ei thraddodi gan yr Athro Royston Jones, Is-lywydd Gweithredol Gweithrediadau Ewropeaidd a Phrif Swyddog Technoleg Byd-eang Altair, sy'n arwain y ffordd yn fyd-eang o ran efelychu, deallusrwydd artiffisial a chyfrifiadura perfformiad uchel, mewn digwyddiad yn y Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg.

  • 28 Tachwedd 2022
    Llyfr yn archwilio gwleidyddiaeth defnyddio ffyrdd uwch-dechnoleg o arddangos casgliadau amgueddfa

    Mae llyfr newydd gan academydd o Brifysgol Abertawe yn archwilio sut cafodd arddangosyn digidol arloesol ei ddefnyddio i arddangos delweddau ffotograffig hanesyddol ar draws safleoedd y ddinas ac yn archwilio ei oblygiadau ar gyfer arferion y dyfodol.

  • 24 Tachwedd 2022
    Technocamps yn ennill gwobr fawreddog am arfer gorau mewn addysg

    Mae Technocamps wedi’i enwi’n enillydd Gwobr Arferion Gorau mewn Addysg 2022 Informatics Europe.

  • 23 Tachwedd 2022
    Arbenigwyr yn dadansoddi effaith cynheswr seddau arloesol ar oedolion hŷn sy'n agored i niwed

    Mae arbenigedd ym Mhrifysgol Abertawe yn cael ei ddefnyddio i brofi gorchudd rhad sy'n cynhesu seddau, a all gadw oedolion hŷn sy'n agored i niwed yn dwym drwy bwyso botwm.

  • 22 Tachwedd 2022
    Ymchwilwyr o Abertawe yn cael eu hychwanegu at y Rhestr o Ymchwilwyr a Ddyfynnir yn Helaeth 2022

    Mae tri academydd o Brifysgol Abertawe wedi cael eu henwi yn Rhestr o Ymchwilwyr a Ddyfynnir yn Helaeth 2022 flynyddol, wedi ymaros mawr.

  • 16 Tachwedd 2022
    Gall hediad adar helpu i ragfynegi tyrfedd, yn ôl astudiaeth newydd

    Mae astudiaeth newydd a arweiniwyd gan Brifysgol Abertawe wedi cynnig dealltwriaeth newydd o amodau amgylcheddol ar raddfa fanwl o safbwynt meteorolegol.

  • 16 Tachwedd 2022
    Prosiect cadwraeth forol yn galluogi disgyblion i rannu gwybodaeth am fioamrywiaeth a sgiliau technoleg peirianneg yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru

    Mae disgyblion ysgolion cynradd wedi cael cyfle unigryw i ddefnyddio dulliau peirianneg creadigol er mwyn dysgu am gadwraeth forol fel rhan o brosiect sy'n ymwneud â Phrifysgol Abertawe.

  • 15 Tachwedd 2022
    Cymdeithas Ddysgedig Cymru'n anrhydeddu tri arbenigwr o'r Brifysgol

    Mae tri academydd o Brifysgol Abertawe ymhlith enillwyr diweddaraf medalau Cymdeithas Ddysgedig Cymru.

  • 15 Tachwedd 2022
    Abertawe'n gefeillio â phrifysgol o Wcráin gan hwyluso cydweithrediad a chymorth

    Mae Prifysgol Abertawe wedi llofnodi cytundeb gefeillio â phrifysgol o Wcráin sy'n paratoi'r ffordd ar gyfer partneriaethau ymchwil, rhannu deunyddiau dysgu ac addysgu ar-lein, a chyfleoedd i fyfyrwyr a staff o Wcráin ymweld ag Abertawe.

  • 11 Tachwedd 2022
    Adroddiad newydd yn dangos peryglon cynnwys am hunan-niweidio ar y cyfryngau cymdeithasol

    Nid yw safleoedd ar y cyfryngau cymdeithasol yn gwneud digon i fynd i’r afael â’r broses o wthio cynnwys am hunan-niwed ar eu defnyddwyr, meddai’r Samariaid.

  • 7 Tachwedd 2022
    Partneriaeth rhwng Prifysgol Abertawe a byd busnes yn llwyddo yng Ngwobrau Technoleg Cymru

    Mae menter gydweithredol rhwng Prifysgol Abertawe ac Aspire2Be, sef iBroadcast wedi cael ei henwi'n bartneriaeth orau'r flwyddyn rhwng y byd academaidd a busnes yng Ngwobrau Technoleg Cymru 2022.

  • 7 Tachwedd 2022
    Gwyddoniaeth i Ysgolion (S4) yn llwyddo yng Ngwobrau STEM Cymru

    Cafodd Cynllun Gwyddoniaeth i Ysgolion (S4) Prifysgol Abertawe ei enwi'n Rhaglen Addysg STEM y Flwyddyn yng nghategori'r Sector Cyhoeddus yng Ngwobrau STEM Cymru eleni.

  • 7 Tachwedd 2022
    Ymchwil yn dangos effaith Covid ar les arweinwyr ysgolion Cymru

    Mae ymchwil newydd wedi datgelu'r effaith a gafodd pandemig Covid-19 ar staff uwch ysgolion Cymru.

  • 7 Tachwedd 2022
    Darlith Zienkiewicz Flynyddol Prifysgol Abertawe'n dychwelyd gyda'r Athro Syr Jim McDonald yn westai arbennig

    Nos Fercher, 9 Tachwedd, bydd Cyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg Prifysgol Abertawe'n cynnal Darlith Zienkiewicz am y chweched tro, gyda'r Athro Syr Jim McDonald, BSc, MSc, PhD, DSc, CEng, un o beirianwyr mwyaf medrus yr Alban, yn siaradwr gwadd uchel ei fri.

  • 7 Tachwedd 2022
    Tynnu sylw at ymchwil Abertawe-Affrica i'r argyfwng hinsawdd cyn i COP 27 ymgynnull yn yr Aifft

    Wrth i arweinwyr y byd ymgynnull yn yr Aifft ar gyfer yr uwchgynhadledd COP27 nesaf, wedi'i threfnu gan y Cenhedloedd Unedig, bydd pedwar arbenigwr o Abertawe sy'n cynnal ymchwil i wahanol agweddau ar yr argyfwng hinsawdd yn rhan o arddangosiad o gydweithrediadau yng Nghymru â phrifysgolion yn Affrica.

  • 2 Tachwedd 2022
    Athro o Brifysgol Abertawe'n derbyn medal uchel ei bri am ei gyfraniad rhagorol at addysg STEM

    Mae'r IET (Institution of Engineering and Technology) wedi dyfarnu Medal Cyflawniad i'r Athro Tom Crick MBE o Brifysgol Abertawe.

  • 2 Tachwedd 2022
    Y sector cyhoeddus yn uno i rannu syniadau mewn cynhadledd economi gylchol

    Mae’r ffyrdd arloesol y mae’r sector cyhoeddus yn Ne Cymru’n mynd i’r afael ag argyfwng yr hinsawdd wedi’u hamlygu mewn cynhadledd a drefnwyd gan yr arbenigwyr economi gylchol.

  • 1 Tachwedd 2022
    Beth yw pryd a gwedd academydd? Arbenigwraig o Abertawe'n cyfrannu at lyfr newydd sy'n amlygu amrywiaeth ymchwil ac ymchwilwyr

    Mae llyfr newydd sy'n dangos amrywiaeth ymchwil ac ymchwilwyr i ddisgyblion ysgol yn cynnwys pennod gan arbenigwraig mewn cemeg ac addysg am newid yn yr hinsawdd o Abertawe sydd wedi darganfod ei bod yn awtistig. 

  • 31 Hydref 2022
    Arbenigwyr yn amlygu cysylltiad rhwng meintiau dwylo gwahanol ac achosion difrifol o Covid-19

    Gall y gwahaniaeth o ran hyd bysedd rhwng llaw chwith a llaw dde rhywun ddarparu gwybodaeth hollbwysig ynghylch pa mor sâl y gallai fod pe bai'n dal Covid-19. 

  • 28 Hydref 2022
    Covid-19: Astudiaeth annibynnol i edrych ar brofiadau pobl o brofedigaeth ac ymateb y DU i'r pandemig

    Mae astudiaeth gan Brifysgol Abertawe yn chwilio am gyfranogwyr i archwilio profiadau'r cyhoedd o brofedigaeth yn ystod pandemig Covid-19 a gofyn am eu barn ynghylch sut ymdriniwyd â'r pandemig, a'r cymorth, neu'r diffyg cymorth, a gawsant.

  • 27 Hydref 2022
    Prosiect newydd i ddatblygu radiotherapi ar gyfer triniaethau canser y genhedlaeth nesaf

    Mae ffisegwyr o Brifysgol Abertawe yn defnyddio'r ymchwil y maent yn ymgymryd â hi yng nghyfleuster y Sefydliad Ewropeaidd ar gyfer Ymchwil Niwclear (CERN) mewn prosiect o bwys. Y nod yw datblygu radiotherapi rhad ar gyfer triniaethau canser y genhedlaeth nesaf a fydd yn arbennig o effeithiol wrth drin plant a thiwmorau sy'n agos at feinweoedd sensitif.

  • 27 Hydref 2022
    Astudiaeth yn dangos bod yr argyfwng costau byw'n cael effaith sylweddol ar iechyd meddwl

    Mae ymchwil newydd wedi canfod bod yr argyfwng costau byw'n cael effeithiau sylweddol ar iechyd meddwl a lles emosiynol pobl.

  • 27 Hydref 2022
    Prifysgol Abertawe'n disgleirio yn y tablau pynciau byd-eang diweddaraf

    Mae Prifysgol Abertawe ymysg sefydliadau gorau'r byd yn 10 o'r 11 grŵp o bynciau yn Nhablau Prifysgolion y Byd Times Higher Education 2023.

  • 26 Hydref 2022
    Ffiseg ddamcaniaethol yn y DU yn derbyn cyllid gwerth mwy nag £20m

    Mae'r grŵp Ffiseg Gronynnau a Chosmoleg Ddamcaniaethol yn Adran Ffiseg Prifysgol Abertawe yn un o 25 sefydliad yn y DU y dyfarnwyd mwy nag £20m iddynt er mwyn ehangu a phrofi damcaniaethau ynghylch sut mae'r bydysawd yn gweithio.

  • 25 Hydref 2022
    Athro prifysgol yn parhau i hyrwyddo uniondeb academaidd yn rhyngwladol

    Mae'r Athro Michael Draper o Brifysgol Abertawe wedi bod yn gwneud cyfraniad allweddol at ddigwyddiadau rhyngwladol i amlygu moeseg ac uniondeb academaidd. 

  • 25 Hydref 2022
    Peirianneg ym Mhrifysgol Abertawe'n cael ei chydnabod am fod yn Fenter Fwyaf Arloesol y flwyddyn

    Mae Peirianneg Gyffredinol ym Mhrifysgol Abertawe wedi ennill gwobr am fod yn Fenter Fwyaf Arloesol 2022 yn yr Engineering Talent Awards.

  • 20 Hydref 2022
    Prifysgol Abertawe'n rhoi croeso swyddogol i fyfyrwyr o Wcráin

    Cafodd myfyrwyr o Wcráin eu croesawu'n swyddogol i Abertawe yn ystod derbyniad yn y Brifysgol, lle y cawsant gyfle i gwrdd â'i gilydd a chael rhagor o wybodaeth am y gefnogaeth sydd ar gael iddynt yn ystod eu hastudiaethau.

  • 19 Hydref 2022
    Cyfleusterau efelychu newydd i hyfforddi gweithwyr iechyd proffesiynol y dyfodol

    Mae gwaith bellach yn mynd yn ei flaen ar gyfleusterau addysgu newydd uwch-dechnoleg a fydd yn rhoi Prifysgol Abertawe ar flaen y gad o ran addysg gofal iechyd.

  • 19 Hydref 2022
    Adnodd diagnostig newydd a allai gyflwyno canlyniadau prawf iechyd mewn dwy funud

    Adnodd diagnostig newydd a allai gyflwyno canlyniadau prawf iechyd mewn dwy funud gan ddefnyddio sampl blaen bys – ymchwilwyr yn datblygu prawf o gysyniad.

  • 18 Hydref 2022
    Ymchwil yn y gymuned: academyddion o Brifysgol Abertawe'n rhannu eu canfyddiadau mewn sgyrsiau cyhoeddus

    Yn y sgwrs gyntaf mewn cyfres arbennig, gwahoddir cynulleidfaoedd i rannu canrif o straeon ffermio a chymryd rhan mewn trafodaeth am ystyr entrepreneuriaeth i'r Cymry.

  • 17 Hydref 2022
    Cemeg werdd yn trawsnewid mygydau yn geblau ether-rwyd

    Mae academyddion o Brifysgol Abertawe wedi arloesi proses sy'n trosi'r carbon a geir mewn mygydau a daflwyd er mwyn creu nanodiwbiau carbon ag un wal, a ddefnyddiwyd wedi hynny i wneud ceblau ether-rwyd o ansawdd band eang.

  • 13 Hydref 2022
    Ymagwedd gynaliadwy at reoli plâu bwyd – Abertawe'n cynnal cynhadledd ryngwladol fawr i arbenigwyr

    Mae cynhadledd ryngwladol fawr ym Mhrifysgol Abertawe wedi dod ag arbenigwyr mewn rheoli plâu yn integredig ynghyd i drafod ffyrdd newydd o leihau dibyniaeth ar bryfladdwyr cemegol niweidiol.

  • 10 Hydref 2022
    Astudiaeth ôl Covid newydd yn datgelu bod plant eisiau mwy o le ac amser i chwarae

    Hoffai plant gael mwy o le ac amser i chwarae gyda'u ffrindiau yn yr ysgol a gartref, yn ôl astudiaeth newydd a arweinir gan ymchwilwyr Gwyddor Data Poblogaethau ym Mhrifysgol Abertawe.

  • 7 Hydref 2022
    Taith gerdded i gefnogi elusen atal hunanladdiad

    Mae taith gerdded ar y traeth i godi arian ac ymwybyddiaeth o hunanladdiad ymhlith pobl ifanc yn dychwelyd i Abertawe'n hwyrach y mis hwn.

  • 7 Hydref 2022
    Ymchwil arloesol yn datgelu bod adar y môr pelagig yn hedfan tuag at lygad y ddrycin wrth wynebu amodau tywydd eithafol

    Mae ymchwil newydd a arweinir gan Brifysgol Abertawe wedi canfod bod rhai adar y môr pelagig yn hedfan yn uniongyrchol tuag at lygad y ddrycin, y mae ymchwilwyr yn meddwl sy'n eu helpu i osgoi cael eu cyfeirio i'r tir, gan leihau'r perygl o anaf neu farwolaeth.

  • 6 Hydref 2022
    Prifysgol Abertawe yn cynnal Cynhadledd Ryngwladol o fri i Addysgwyr Entrepreneuriaeth (yr IEEC) 2022

    Yn ddiweddar, gwnaeth Prifysgol Abertawe groesawu academyddion, ymchwilwyr ac addysgwyr entrepreneuriaeth o bedwar ban byd yn y Gynhadledd Ryngwladol i Addysgwyr Entrepreneuriaeth (sef yr IEEC), a hynny wyneb yn wyneb am y tro cyntaf mewn tair blynedd.

  • 6 Hydref 2022
    Annog chwaraewyr rygbi ddoe a heddiw i helpu ymchwil i drawiadau i’r pen a chyfergydion

    Wrth i gyfergydion yn y byd rygbi gael sylw helaeth, mae ymchwilydd o Brifysgol Abertawe'n gwahodd chwaraewyr rygbi ddoe a heddiw i'w helpu i ymchwilio i drawiadau i’r pen, drwy rannu eu profiadau'n ddienw drwy arolwg.

  • 5 Hydref 2022
    Y Gweilch a Phrifysgol Abertawe: llwybr ar gyfer chwaraewyr rygbi talentog yng Nghymru

    Yn eu pedwaredd flwyddyn fel partneriaid perfformiad rygbi, mae'r Gweilch a Phrifysgol Abertawe (Chwaraeon Abertawe) wedi atgyfnerthu eu hymrwymiad i gefnogi a datblygu chwaraewyr ifanc y tymor hwn.

  • 5 Hydref 2022
    Prifysgol Abertawe'n cyhoeddi rhaglen orau erioed Gŵyl Wyddoniaeth Abertawe

    Bydd Gŵyl Wyddoniaeth Abertawe eleni'n cynnwys rhaglen wythnos o hyd a fydd yn cynnwys sgwrs gan y cyflwynydd teledu a'r cadwraethwr arobryn Chris Packham, pan fydd hi'n dychwelyd yr hydref hwn.

  • 5 Hydref 2022
    Cloddio am fetelau allweddol heb niweidio'r amgylchedd – prosiect yn Ynysoedd Philippines yn cynnwys arbenigwr afonydd

    Cloddio am fetelau sy'n hollbwysig ar gyfer technolegau sero net, heb niweidio'r amgylchedd, yw nod prosiect ar y cyd rhwng y DU ac Ynysoedd Philippines sy'n cynnwys arbenigwr o Brifysgol Abertawe sydd newydd ddychwelyd ar ôl ymweliad ymchwil â'r wlad.

  • 4 Hydref 2022
    Sêr chwaraeon Prifysgol Abertawe'n cael eu dathlu mewn llyfr newydd

    Mae llyfr newydd a ysgrifennwyd gan Stan Addicott, A Century of Sport (Y Lolfa), yn cyflwyno stori'r 100 mlynedd diwethaf o weithgarwch chwaraeon ym Mhrifysgol Abertawe, o'i sefydlu ym 1920 i'r presennol.

  • 4 Hydref 2022
    Prosiect lles newydd yn creu cyffro ym Mhrifysgol Abertawe

    Mae Prifysgol Abertawe wedi cyflwyno cychod gwenyn ar ei champysau fel rhan o brosiect i wella lles myfyrwyr a staff.

  • 4 Hydref 2022
    Ymweliad gan arbenigwr o Abertawe â banc meinweoedd yn hybu ymchwil i sglerosis ymledol yng Nghymru

    Mae ymweliad gan arbenigwr o Abertawe, a hwyluswyd gan ysgoloriaeth a ddyfarnwyd gan Gwmni Anrhydeddus Lifrai Cymru, wedi cryfhau ymchwil i sglerosis ymledol yng Nghymru.

  • 3 Hydref 2022
    Dwy o raglenni Prifysgol Abertawe'n cyrraedd rhestr fer Gwobrau STEM Cymru 2022

    Mae Cynllun Gwyddoniaeth i Ysgolion (S4) a Technocamps Prifysgol Abertawe wrth eu boddau eu bod ymysg y busnesau a'r unigolion uchel eu bri sydd wedi cyrraedd rhestr fer Gwobrau Stem Cymru 2022.

  • 3 Hydref 2022
    Y Brifysgol yn helpu disgyblion i dynnu sylw at fioburfa

    Mae grŵp o ddisgyblion wedi bod yn dysgu am ffordd newydd o ddefnyddio allyriadau carbon gwastraff, yn ogystal â chreu eu ffilm eu hunain i ledaenu'r neges am y prosiect cyffrous.  

  • 30 Medi 2022
    Athrawes Saesneg yn ennill Cystadleuaeth Stori Fer Rhys Davies 2022

    Mae Laura Morris, athrawes Saesneg o Gaerffili, wedi ennill Cystadleuaeth Stori Fer Rhys Davies 2022 am ei stori ‘Cree’, sydd, yn ôl y beirniad gwadd, Rachel Trezise, “yn frith o bruddglwyf hudolus ac yn gorlifo â hyder beiddgar”.

  • 27 Medi 2022
    Arbenigwyr yn rhannu syniadau technolegol soffistigedig ar gyfer gwella profiadau trychedigion

    Mae arbenigwyr o Brifysgol Abertawe'n dweud y gallai trawsnewid y bwlch rhwng gwybodaeth, technoleg chwyldroadol a seicoleg cleifion, er mwyn gwella profiadau trychedigion (amputees) a chlinigwyr. 

  • 26 Medi 2022
    Ffilm newydd i helpu i atal perthnasoedd amhriodol ar-lein yn cael ei lansio yn y Senedd

    Mae ffilm animeiddiedig ac adroddiad newydd, a ddatblygwyd gan brosiect diogelwch ar-lein DRAGON-S Prifysgol Abertawe i gynorthwyo gyda hyfforddiant ar atal perthnasoedd amhriodol ar-lein, yn cael eu lansio mewn cyfarfod rhithwir o'r Senedd heddiw.

  • 22 Medi 2022
    Ymchwil i ganser ac i gyfergydion ym myd rygbi menywod i elwa o ddyfarniadau Cwmni Lifrai

    Mae dau ymchwilydd gwyddor chwaraeon ac ymarfer corff o Brifysgol Abertawe wedi ennill ysgoloriaethau teithio gyda Chwmni Anrhydeddus Lifrai Cymru.

  • 22 Medi 2022
    Prosiect £130m y Fargen Ddinesig yn creu argraff ar Weinidog yr Economi

    Mae Gweinidog Economi Llywodraeth Cymru, Vaughan Gething, wedi ymweld â phrosiect £130 miliwn Campysau Bargen Ddinesig Bae Abertawe ym Mhrifysgol Abertawe, er mwyn deall mwy am sut bydd y datblygiad cyffrous hwn yn hybu arloesi a thwf busnes yn sectorau cynyddol Technoleg Feddygol a Thechnoleg Chwaraeon.

  • 22 Medi 2022
    Ymchwil i Gilfach Tywyn yn datgelu cysylltiad rhwng dŵr glanach a chocos llai sy'n marw'n gynt

    Mae cysylltiad rhwng ansawdd gwell y dŵr yn ardal gocos enwocaf Cymru a chocos llai sydd â chyfradd marwolaethau uwch, yn ôl arolwg newydd o hanner can mlynedd o ddata.

  • 21 Medi 2022
    Astudiaeth newydd yn nodi cysylltiad rhwng llythrennedd iechyd rhieni a chanlyniadau profion Covid-19 plant

    Mae astudiaeth dan arweiniad Prifysgol Abertawe wedi amlygu pwysigrwydd llythrennedd iechyd rhieni ac yn awgrymu bod y rhai hynny sy'n meddu ar ddealltwriaeth well a mynediad at wybodaeth feddygol yn fwy tebygol o fynd â'u plentyn i gael prawf am Covid-19 a chael canlyniad positif.

  • 20 Medi 2022
    Plant sy'n cael llyfrau o Imagination Library Dolly Parton yn darllen yn amlach ac yn cael canlyniadau gwell yn yr ysgol, yn ôl ymchwil newydd

    Mae plant sy'n derbyn llyfrau gan yr Imagination Library, a sefydlwyd gan y gantores eiconig Dolly Parton, yn darllen yn amlach ac yn cael canlyniadau gwell na'u cyfoedion mewn asesiadau darllen a datblygu, yn ôl ymchwil newydd gan Brifysgol Abertawe.

  • 2 Medi 2022
    Astudiaeth newydd o ddaearyddiaeth arfordirol a map canoloesol yn awgrymu bod ynysoedd coll yn llên gwerin Cymru yn gredadwy

    Mae traddodiad Cymreig sy'n dyddio yn ôl i'r Oesoedd Canol sy'n crybwyll tirwedd a gollwyd i'r môr yn gredadwy, yn ôl tystiolaeth newydd o esblygiad morlin gorllewin Cymru.  

  • 1 Medi 2022
    Academi'r Gwyddorau Cymdeithasol yn enwi academydd o Brifysgol Abertawe'n Gymrawd

    Mae Academi'r Gwyddorau Cymdeithasol wedi enwi 40 o wyddonwyr cymdeithasol rhagorol yn Gymrodorion – gan gynnwys yr Athro Tom Crick MBE o Brifysgol Abertawe.

  • 30 Awst 2022
    Galw ar fyd diwydiant i gefnogi safle didoli technolegol soffistigedig i leihau gwastraff a hybu ailgylchu

    Ailgylchu mwy o ddeunydd o gynhyrchion ar ddiwedd eu hoes – o reiliau a thrawstiau i geir a pheiriannau golchi – yw nod tîm dan arweiniad Prifysgol Abertawe sy'n bwriadu adeiladu safle didoli technolegol soffistigedig newydd, ac sy'n galw am gefnogaeth byd diwydiant.

  • 29 Awst 2022
    Adroddiad yn mynegi pryderon am iechyd a lles plant a phobl ifanc

    Mae adroddiad am lefelau gweithgarwch corfforol cyffredinol plant a phobl ifanc wedi dyfarnu gradd F i Gymru – ac yn peri pryderon y gallai hyn arwain at oblygiadau tymor hir i'w hiechyd a'u lles.

  • 25 Awst 2022
    Sut mae trasiedi deuluol wedi annog awydd myfyrwyr i wella gofal iechyd yn ei chymuned

    Mae marwolaeth ddiangen perthynas annwyl wedi annog angerdd Bethel Ohanugo dros wella gofal iechyd yn Nigeria, ei mamwlad.

  • 23 Awst 2022
    Y Brifysgol yn dangos cefnogaeth barhaus i Wcráin wrth iddi ddathlu Diwrnod Cenedlaethol y wlad

    Wrth i Wcráin ddathlu ei diwrnod cenedlaethol ar 24 Awst, mae Prifysgol Abertawe a'i staff yn parhau i wneud ymdrechion i gefnogi'r wlad a'i phobl, yn dilyn yr ymosodiad ar ei thir gan luoedd Rwsia ym mis Chwefror.

  • 23 Awst 2022
    Cynhadledd CEIC i rannu syniadau ar ddyfodol cynaliadwy yng Nghymru

    Bydd hyrwyddwyr amgylcheddol o bob rhan o dde Cymru a'r tu hwnt yn gallu rhannu syniadau a chael ysbrydoliaeth werthfawr er mwyn cefnogi dyfodol cynaliadwy yng Nghymru mewn digwyddiad arbennig y mis nesaf.

  • 22 Awst 2022
    Cwrs newydd yn darparu llwybr uniongyrchol i yrfa yn gofalu am gleifion llawfeddygol

    Os ydych chi erioed wedi ystyried gweithio mewn theatr llawdriniaeth, wrth galon gofal iechyd ysbyty, gallai cwrs newydd eich rhoi ar y llwybr gyrfa perffaith.

  • 18 Awst 2022
    Model 3D newydd yn datgelu bod megalodon yn pwyso mwy na 61 dunnell ac yn gallu bwyta morfilod danheddog cyfan

    Mae megalodon a ddarganfuwyd yn y 1860au wedi galluogi tîm rhyngwladol o wyddonwyr dan arweiniad Prifysgol Zurich, Prifysgol Abertawe a'r Coleg Milfeddygaeth Brenhinol i greu'r model 3D mwyaf cyflawn hyd yn hyn o fegalodon – y siarc mwyaf sydd wedi byw erioed.

  • 17 Awst 2022
    Prifysgol Abertawe i hyfforddi hyd yn oed mwy o fyfyrwyr meddygol

    Mae Prifysgol Abertawe wedi sicrhau mwy o lefydd ar ei rhaglen Meddygaeth Mynediad i Raddedigion lwyddiannus fel rhan o fuddsoddiad gan y llywodraeth i gynyddu nifer y meddygon a hyfforddwyd yng Nghymru ar gyfer Cymru.

  • 17 Awst 2022
    Myfyrwraig o Brifysgol Abertawe'n ennill gwobr am ei chyfraniad rhagorol at y Gymraeg

    Cafodd Alpha Evans o Brifysgol Abertawe ei choroni'n enillydd Gwobr Merêd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion ym mis Awst.

  • 16 Awst 2022
    Gwyddor deunyddiau a pheirianneg ar y brig yn y DU am foddhad myfyrwyr

    Mae gwyddor deunyddiau a pheirianneg wedi cyrraedd y brig yn y DU am foddhad myfyrwyr yn yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr (NSS). Mae'r llwyddiant diweddaraf hwn yn dilyn gwobrau am waith arloesol yr adran ar dechnoleg ynni adnewyddadwy.

  • 16 Awst 2022
    Arbenigwyr yn rhannu gwybodaeth er mwyn lleihau perygl tanau gwyllt ledled Ewrop

    Gyda'r argyfwng hinsawdd yn cynyddu risg tanau gwyllt yn y DU a llawer o rannau eraill yng ngogledd Ewrop, mae gwyddonwyr o bedwar ban byd yn rhannu eu harbenigedd er mwyn helpu i fynd i'r afael â'r peryglon.

  • 12 Awst 2022
    Annog myfyrwyr i ganfod eu lle am ddyfodol disglair yn Abertawe

    Gyda chanlyniadau Safon Uwch ar y gorwel yr wythnos nesaf, efallai fod rhai myfyrwyr yn teimlo'n ansicr ynghylch dechrau cwrs mewn prifysgol ar ôl heriau'r blynyddoedd diwethaf.

  • 11 Awst 2022
    Tymereddau cynyddol ac amodau eithriadol o sych yn cyfrannu at berygl digynsail tanau gwyllt yn y DU

    Yn ogystal â’r tymereddau uchaf a gofnodwyd erioed, mae’r DU yn wynebu amodau digynsail sy’n achosi perygl tanau gwyllt ac ymddygiad eithafol gan danau, yn ôl arbenigwyr tanau gwyllt. 

  • 10 Awst 2022
    Anrhydedd newydd i’r Athro am ei gyfraniad i Covid

    Mae academydd o Abertawe sydd ar flaen y gad o ran llywio ein dealltwriaeth o Covid-19 wedi cael cydnabyddiaeth bellach am ei waith ym maes gwyddor data. 

  • 8 Awst 2022
    Gwobrau busnes uchel eu bri yng Nghymru'n dathlu graddedigion mentrus o Brifysgol Abertawe

    Mae dau fusnes dan arweiniad graddedigion o Brifysgol Abertawe wedi derbyn yr anrhydeddau mwyaf yng Ngwobrau Busnesau Newydd Cymru eleni.

  • 6 Awst 2022
    Prifysgol Abertawe'n cael ei henwi'n un o fannau gwyrdd gorau'r wlad

    Barnwyd unwaith eto fod tiroedd nodedig ac amrywiol dau gampws Prifysgol Abertawe ymysg y mannau gwyrdd gorau yng Nghymru. 

  • 5 Awst 2022
    Gêm fideo arloesol sy'n cefnogi sgiliau iechyd meddwl a hyblygrwydd seicolegol

    Mae ymchwilydd o Brifysgol Abertawe wedi datblygu ffordd unigryw o helpu pobl ifanc i feithrin gwytnwch seicolegol, gan ddefnyddio gêm fideo at ddibenion ymyriadau iechyd meddwl a dysgu corfforedig.

  • 5 Awst 2022
    Morwellt yn fwy gwerthfawr na'r disgwyl i ddyfodol y blaned

    Mae arbenigwyr sydd wrth wraidd ymdrechion i adfer dolydd morwellt arfordirol y DU yn dweud y dylid ailasesu cyfraniad y planhigyn anhygoel at y rhestr bwysicaf o bethau i'w gwneud yn hanes y ddynolryw. 

  • 5 Awst 2022
    Rhagolygon economaidd Cymru ar eu mwyaf ansicr am 20 mlynedd – arbenigwr yn dweud bod angen ymyrraeth strategol ac ymwybyddiaeth o ryngddibyniaeth

    Mae rhagolygon economaidd Cymru'n fwy ansicr nag y buont ar unrhyw adeg ers sefydlu'r Cynulliad – ac mae angen mwy o ymyrraeth gan Lywodraeth Cymru a mwy o gydweithrediad rhwng gwleidyddion ar bob lefel, yn ôl barn arbenigwr blaenllaw mewn arolwg newydd o economi Cymru ers datganoli.

  • 4 Awst 2022
    Sut gall dysgu am les hybu lles myfyrwyr prifysgol

    Gallai astudio gwyddor lles fel rhan o'u cyrsiau fod yn ffordd allweddol o wella sut mae myfyrwyr heddiw yn ymdopi â'r llu o bethau sy'n achosi straen iddynt, yn ôl ymchwil. 

  • 3 Awst 2022
    OASIS solar: Trydan glân, gwyrdd a dibynadwy i bentref wrth i Adeilad Gweithredol cyntaf India agor

    Bydd pentref yng nghefn gwlad India bellach yn cael trydan glân a dibynadwy am y tro cyntaf, diolch i Adeilad Gweithredol newydd ei agor, sy'n debyg i'r rhai hynny mae Abertawe wedi'u harloesi, sy'n cynhyrchu, yn storio ac yn rhyddhau ei bŵer solar ei hun.

  • 2 Awst 2022
    Galwad am gasglu data am fwydo ar y fron er mwyn mesur effaith meddyginiaethau

    Mae papur newydd gan Brifysgol Abertawe mewn cydweithrediad â ConcePTION, prosiect a gefnogir gan IMI (Innovative Medicines Initiative), wedi galw am gasglu data am fwydo ar y fron yn rheolaidd mewn cronfeydd data gofal iechyd. Y nod yw meithrin dealltwriaeth well o effeithiau tymor hir meddyginiaethau a gymerir gan fenywod yn ystod beichiogrwydd ac wrth fwydo ar y fron. 

  • 2 Awst 2022
    Arbenigedd y Brifysgol i helpu preswylwyr mewn “Adeilad Byw” newydd yng nghanol Abertawe i dyfu eu bwyd eu hunain

    Mae Canolfan Ymchwil Ddyfrol Gynaliadwy Prifysgol Abertawe (CSAR) yn bartner allweddol mewn menter arloesol gan Biophilic Living a fydd yn darparu ymagwedd newydd at fyw a gweithio yn y ddinas.

  • 2 Awst 2022
    Astudiaeth newydd yn datgelu bod y cyhoedd yn ei gwneud hi'n anos i fenywod fwydo ar y fron

    Yn ôl ymchwilwyr, anghymeradwyaeth neu hyd yn oed ffieidd-dod gan y cyhoedd yw un o'r rhesymau pam mae rhai menywod yn amharod i fwydo ar y fron y tu allan i'r cartref.

  • 30 Gorffennaf 2022
    Prifysgol Abertawe'n cydweithredu â'r brifysgol fwyaf i fenywod yn y byd er mwyn hybu'r sector ynni

    Mae Prifysgol Abertawe wedi llofnodi memorandwm cyd-ddealltwriaeth â'r brifysgol fwyaf i fenywod yn y byd er mwyn darparu rhaglen ar y cyd a fydd yn grymuso ysgolheigion benywaidd ifanc o Saudi Arabia yn y sector ynni.

  • 29 Gorffennaf 2022
    Cyhoeddi enillwyr cyntaf erioed Gwobr y Canghellor

    Dathlodd Prifysgol Abertawe gyflawniadau tri enillydd cyntaf erioed Gwobr y Canghellor yn ystod seremonïau graddio a gynhaliwyd yn Arena Abertawe yr wythnos hon.

  • 29 Gorffennaf 2022
    Arbenigwr bioleg y môr yn coroni ei yrfa yn Abertawe gyda PhD ar ymddygiad morloi

    Mae myfyriwr bioleg y môr a ddewisodd astudio am ei radd Baglor a'i radd Meistr ym Mhrifysgol Abertawe bellach wedi coroni'r cwbl drwy raddio gyda PhD yn y Gwyddorau Biolegol.

  • 27 Gorffennaf 2022
    Torri ei chwys ei hun – llwyddiant nodedig Jessica yn dangos nad yw cyflwr ar y sbectrwm awtistig yn rhwystr iddi

    Mae menyw sydd ymhlith y bobl gyntaf yn ei theulu i fynd i'r brifysgol, ac sy’n byw gyda syndrom Asperger ac anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd (ADHD), wedi talu teyrnged i bawb sydd wedi ei chefnogi, gan annog eraill i ddilyn ei hesiampl, wrth iddi ennill gradd meistr – gyda rhagoriaeth – mewn Hanes ym Mhrifysgol Abertawe.

  • 27 Gorffennaf 2022
    Arbenigwyr yn uno i ddathlu hwb gwerth £2m ar gyfer Uwchgyfrifiadura Cymru

    Mae arbenigwyr data, cyflenwyr technoleg a llunwyr polisi wedi dod ynghyd i ddathlu pŵer a dyfodol uwchgyfrifiadura yng Nghymru. 

  • 27 Gorffennaf 2022
    Cyhoeddi arlwy Prifysgol Abertawe yn Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion 2022

    Mae Prifysgol Abertawe yn falch o noddi'r Babell Lên yn Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion rhwng 30 Gorffennaf a 6 Awst 2022.

  • 26 Gorffennaf 2022
    Michelle yn rhoi aren wrth weithio ac astudio i fod yn barafeddyg yn ystod y pandemig

    Mae menyw o'r Barri'n dathlu graddio heddiw, gan goroni taith academaidd, broffesiynol a phersonol lle cymhwysodd i fod yn barafeddyg wrth weithio i'r GIG yn ystod y pandemig. Yn ogystal, cymerodd ran mewn proses cyfnewid arennau a helpodd ei gor-nith i wella ar ôl salwch difrifol.

  • 22 Gorffennaf 2022
    Mae bwrsariaethau mathemateg Carol Vorderman gwerth £2,000 ar agor i bob myfyriwr – gan gynnwys y rhai sy’n cyflwyno cais drwy glirio

    Mae naw bwrsariaeth mynediad at fathemateg Carol Vorderman – sy’n werth £2,000 yr un – ar gael i’r holl fyfyrwyr sy’n cyflwyno cais i astudio Mathemateg ym Mhrifysgol Abertawe, gan gynnwys y rhai sy’n cyflwyno cais drwy glirio.  

  • 21 Gorffennaf 2022
    Myfyrwraig sy'n gwella ar ôl anhwylder bwyta'n dathlu graddio

    Mae menyw sydd wedi dioddef o iechyd meddwl gwael ac anhwylder bwyta'n dathlu heddiw wrth iddi raddio o Brifysgol Abertawe gyda gradd israddedig mewn Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff.

  • 21 Gorffennaf 2022
    Rhywogaethau bacterol newydd o bridd Asia yn helpu'r frwydr yn erbyn ymwrthedd i wrthfiotigau

    Mae arbenigwyr o Brifysgol Abertawe wedi helpu i nodi sawl rhywogaeth newydd o facteria sy'n tyfu ym mhridd cras Asia a allai wneud cyfraniad allweddol at y frwydr yn erbyn ymwrthedd i wrthfiotigau. 

  • 19 Gorffennaf 2022
    Marwolaeth drasig arddegwr yn ysbrydoli ei mam i ennill gradd a dechrau gyrfa newydd

    Mae myfyrwraig aeddfed a gafodd drasiedi enbyd yn ei theulu yn ystod ei chwrs gradd bellach wedi graddio'n llwyddiannus, er cof am ei diweddar ferch. 

  • 18 Gorffennaf 2022
    Ysgolion cynradd yn cael eu hannog i gymryd rhan mewn astudiaeth diogelwch haul

    Mae ymchwilydd sydd wedi’i hysgogi gan losg haul ei mab ar ddiwrnod mabolgampau ysgol yn annog ysgolion cynradd ledled Cymru i helpu i ddatblygu canllawiau diogelwch haul ar gyfer tymhorau’r gwanwyn a’r haf.

  • 18 Gorffennaf 2022
    Darlithydd o Brifysgol Abertawe'n cael ei gydnabod am wneud gwahaniaeth sylweddol i fywyd myfyrwyr

    Mae'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol wedi cyflwyno gwobr uchel ei bri i ddarlithydd o Brifysgol Abertawe sydd wedi rhoi cymorth anfesuradwy i'w fyfyrwyr.

  • 15 Gorffennaf 2022
    Cynrychiolwyr yn rhannu arbenigedd mewn cynhadledd ynghylch deallusrwydd artiffisial

    Daeth ymchwilwyr doethurol ac academyddion sy'n gysylltiedig â dwy ganolfan hyfforddiant doethurol mewn deallusrwydd artiffisial a gwyddor data ynghyd i rannu syniadau yng Nghynhadledd Deallusrwydd Artiffisial 2022. 

  • 14 Gorffennaf 2022
    Sut gall dur yn ein hadeiladau gynhyrchu ynni glân – cydweithrediad newydd rhwng y Brifysgol a Tata Steel

    Paneli solar mewn toeau sy'n wyrddach, yn ysgafnach, yn rhatach ac yn fwy hyblyg, ac y gellir eu hargraffu ar y dur a ddefnyddir mewn adeiladau, yw ffocws cydweithrediad ymchwil tair blynedd newydd rhwng arbenigwyr Abertawe a Tata Steel UK.

  • 12 Gorffennaf 2022
    Astudiaeth yn dangos y ffactorau sy'n effeithio ar agwedd y cyhoedd tuag at Covid a'r normal newydd

    Gallai'r argyfwng ynghylch partïon yn adeiladau llywodraeth y DU, diffyg sylw i'r feirws yn y cyfryngau a'r gred ei fod bellach yn llai peryglus i gyd effeithio ar gydymffurfiaeth â chanllawiau Covid yn y dyfodol. 

  • 12 Gorffennaf 2022
    Ymchwilwyr i ddatblygu ffyrdd digidol o ddatrys diffygion mewn gwaith adeiladu mawr sy’n cynnwys concrit

    Dyfarnwyd cyllid gwerth £322,000 i dîm o ymchwilwyr ym Mhrifysgol Abertawe er mwyn datblygu ffyrdd digidol o leihau diffygion mewn gwaith adeiladu sy’n cynnwys concrit.

  • 5 Gorffennaf 2022
    Cofrestr MS y DU yn dathlu 10fed pen-blwydd gyda hwb ariannol o £2m

    Mae Cofrestr Cymdeithas Parlys Ymledol (Multiple Sclerosis) y DU nid yn unig yn dathlu degawd o gasglu data ac ymchwil hanfodol, mae hefyd wedi sicrhau £2 filiwn arall o gyllid.

  • 5 Gorffennaf 2022
    Arbenigwr cemeg yn sicrhau cyllid gan Sefydliad Humboldt i recriwtio gwyddonwyr ar gyfer ymchwil i nanoddeunyddiau

    Mae arbenigwr mewn nanoddeunyddiau sy'n gweithio yn Abertawe a'r Almaen wedi sicrhau tua £250,000 o gyllid gan Sefydliad Humboldt i recriwtio gwyddonwyr gyrfa gynnar i ymuno â'i dîm ymchwil.

  • 5 Gorffennaf 2022
    Prifysgol Abertawe'n Ennill Gwobr Ragoriaeth AGCAS Uchel ei Bri

    Mae Academi Cyflogadwyedd Prifysgol Abertawe wedi ennill y categori Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynwysoldeb yng Ngwobrau Rhagoriaeth AGCAS (Cymdeithas y Gwasanaethau Cynghori ar Yrfaoedd i Raddedigion) eleni.

  • 4 Gorffennaf 2022
    Nifer sylweddol o fyfyrwyr Prifysgol Abertawe'n cystadlu yng Ngemau'r Gymanwlad

    Bydd saith myfyriwr presennol Prifysgol Abertawe a thri o'n graddedigion yn cystadlu yng Ngemau'r Gymanwlad yr haf hwn yn Birmingham.

  • 1 Gorffennaf 2022
    Animeiddiad newydd i gadw plant yn ddiogel ar-lein rhag perthnasoedd rhywiol amhriodol

    Bydd animeiddiad newydd ac argymhellion adroddiad, a ddatblygwyd gan brosiect diogelwch ar-lein DRAGON-S Prifysgol Abertawe, yn darparu adnoddau hanfodol i gynorthwyo â hyfforddiant rhag meithrin perthnasoedd rhywiol amhriodol â phlant ar-lein. 

  • 30 Mehefin 2022
    Newid yn yr hinsawdd yn cynyddu tebygolrwydd tanau gwyllt yn fyd-eang – ond gall pobl helpu i leihau'r risg

    Mae ymchwil newydd a gyhoeddwyd heddiw yn amlygu bod risg tanau gwyllt yn cynyddu'n fyd-eang o ganlyniad i newid yn yr hinsawdd, a bod hynny'n digwydd yn gyflymach na rhagamcanion modelau o'r hinsawdd. 

  • 30 Mehefin 2022
    Y swydd berffaith i bennaeth newydd y Ganolfan Eifftaidd

    Yn ogystal â chynnau brwdfrydedd gydol oes Ken Griffin dros Eifftoleg, mae ymweliad ag amgueddfa yn ystod ei blentyndod wedi arwain at sicrhau'r swydd berffaith iddo. 

  • 30 Mehefin 2022
    Plant iau yn y flwyddyn ysgol yn fwy tebygol o gael eu trin am ADHD

    Mae plant iau yn y flwyddyn ysgol yn fwy tebygol o gael eu trin am ADHD, sy'n awgrymu y gall anaeddfedrwydd ddylanwadu ar ddiagnosis.

  • 29 Mehefin 2022
    Prifysgol Abertawe yw'r 15fed brifysgol orau yn y DU yng Ngwobrau StudentCrowd

    Prifysgol Abertawe yw'r 15fed brifysgol orau yn y DU yng Ngwobrau Prifysgol StudentCrowd 2022, ac mae wedi cyrraedd yr 20fed safle yng nghategori Undeb y Myfyrwyr.

  • 29 Mehefin 2022
    Ymchwil cipio carbon yn helpu diwydiant i leihau allyriadau carbon

    Fel rhan o drefniant cydweithio rhwng ymchwilwyr yn y Sefydliad Ymchwil Diogelwch Ynni (ESRI) ym Mhrifysgol Abertawe a’r cynhyrchydd inswleiddio ROCKWOOL Limited, bydd uned arddangos newydd ar gyfer carbon deuocsid yn cael ei osod ar safle gweithgynhyrchu’r cwmni ym Mhen-y-bont, De Cymru.

  • 28 Mehefin 2022
    Abertawe i arwain rhwydwaith ymchwil rhyngwladol ar eithafiaeth wleidyddol ar-lein dreisgar

    Bydd Prifysgol Abertawe'n gwneud cyfraniad blaenllaw at rwydwaith ymchwil rhyngwladol, a sefydlwyd yn 2014 drwy gyllid gan yr Undeb Ewropeaidd (UE), sy'n astudio eithafiaeth a therfysgaeth ar-lein ac ymatebion iddynt.

  • 28 Mehefin 2022
    Y Ganolfan Eifftaidd ar y rhestr fer ar gyfer gwobr nodedig i amgueddfeydd

    Cyhoeddwyd heddiw fod Canolfan Eifftaidd Prifysgol Abertawe wedi cyrraedd rhestr fer Gwobr Kids in Museums i Amgueddfeydd sy'n Croesawu Teuluoedd. 

  • 27 Mehefin 2022
    Defnydd terfysgwyr o'r cyfryngau cymdeithasol, a sut i wrthsefyll y bygythiad – Abertawe'n cynnal cynhadledd ryngwladol i arbenigwyr

    Defnydd grwpiau terfysgol o'r cyfryngau cymdeithasol, a sut gellir ei wrthsefyll, fydd yn cael prif sylw cynhadledd ryngwladol nodedig yn Abertawe, a fydd yn dod ag ymchwilwyr, ymarferwyr a chynrychiolwyr o lywodraethau a chwmnïau technolegol mawr ledled y byd ynghyd.

  • 27 Mehefin 2022
    Ymagwedd gynaliadwy at reoli plâu bwyd – Abertawe i gynnal cynhadledd ryngwladol fawr i arbenigwyr

    Mae bwydo poblogaeth sy'n tyfu wrth leihau'r effaith ar yr amgylchedd yn her ddybryd, ond bydd cynhadledd ryngwladol fawr ym Mhrifysgol Abertawe'n helpu drwy ddod ag arbenigwyr ym maes rheoli plâu integredig at ei gilydd. Byddant yn trafod ymagweddau newydd at reoli pryfed sy'n blâu a fydd yn lleihau'r ddibyniaeth ar bryfladdwyr cemegol niweidiol.

  • 24 Mehefin 2022
    Hwb i ddiogelwch wrth i Barc Singleton gael goleuadau ychwanegol

    Bydd Parc Singleton yn cael goleuadau newydd er mwyn helpu i gadw myfyrwyr a staff yn ddiogel. 

  • 23 Mehefin 2022
    Rhestr o'r menywod disgleiriaf ym maes peirianneg yn cydnabod academyddion o Brifysgol Abertawe

    Mae'r Athro Serena Margadonna o Brifysgol Abertawe wedi cael ei henwi ymhlith y 50 o fenywod disgleiriaf ym maes peirianneg (WE50) yn y DU gan WES (Women's Engineering Society).

  • 23 Mehefin 2022
    Prifysgol Abertawe yn lansio strategaeth iaith a diwylliant Cymraeg newydd

    Mae Prifysgol Abertawe wedi lansio strategaeth pum mlynedd newydd sy'n amlinellu ei huchelgeisiau a’i dyheadau ar gyfer parhau â’i gwaith o sicrhau lle blaenllaw i’r Gymraeg yn y sefydliad ac yn y gymuned leol.

  • 22 Mehefin 2022
    Adroddiad Cynllun S4 am ganfyddiadau 10 mlynedd gyntaf y rhaglen allgymorth gwyddoniaeth

    Mae gwaith dadansoddi a wnaed gan Gynllun Gwyddoniaeth i Ysgolion (S4) Prifysgol Abertawe, sef rhaglen allgymorth STEM ar gyfer ehangu mynediad a sefydlwyd yn 2012, wedi canfod bod y rhaglen yn cael effaith gadarnhaol ar bobl ifanc o ardaloedd tlawd drwy wella eu dyheadau gyrfa a'u barn am astudio gwyddoniaeth yn y brifysgol.

  • 20 Mehefin 2022
    Hwb gwerth £2m i droi syniadau disglair yn gyfleoedd byd-eang

    Mae Prifysgol Abertawe wedi ennill cyllid gwerth mwy na £2m i barhau i ddatblygu effaith ei gwaith ymchwil ac arloesi eang. 

  • 16 Mehefin 2022
    Rhestr fer wedi'i chyhoeddi ar gyfer Cystadleuaeth Stori Fer Rhys Davies 2022

    Mae athro ysgol dan hyfforddiant, rhywun sydd wedi cyrraedd rownd derfynol Gwobr Stori Fer Costa ac awdur y darlledwyd ei waith ar BBC Radio 4 ymhlith y 12 o awduron ar restr fer Cystadleuaeth Stori Fer Rhys Davies 2022.

  • 13 Mehefin 2022
    Prifysgol Abertawe'n noddi crysau oddi cartref Dinas Abertawe yn ystod 2022-23

    Bydd logo Prifysgol Abertawe yn ymddangos ar flaen crysau oddi cartref newydd Clwb Pêl-droed Dinas Abertawe yn ystod tymor 2022-23.

  • 2 Mehefin 2022
    Technocamps yn ennill gwobr UKRI

    Mae Technocamps wedi ennill Gwobr Ysbrydoliaeth STEM Ymchwil ac Arloesi yn y DU (UKRI) am Gyfraniad Neilltuol at Ehangu Cyfranogiad, Amrywiaeth a Chynhwysiant mewn pynciau STEM.

  • 1 Mehefin 2022
    Gweledigaeth i wneud Abertawe'n ganolfan cynhyrchion naturiol gam yn nes

    Gallai ardal Abertawe fod yn ganolfan cynhyrchion naturiol – o fioblaladdwyr i ddewisiadau amgen naturiol ym maes cynhyrchion cosmetig a fferyllol – gan fod cyllid newydd gael ei gadarnhau am astudiaeth ddichonoldeb ynghylch sefydlu hyb newydd i gefnogi ymchwil a busnesau yn y sector hwn sy'n tyfu'n gyflym.

  • 1 Mehefin 2022
    Prifysgol Abertawe'n cynnal cyfres o ddigwyddiadau i ddathlu bywyd a gwaith Ludwig Wittgenstein

    Caiff bywyd a gwaith Ludwig Wittgenstein, yr athronydd a symudodd o Awstria i Brydain, eu dathlu drwy gyfres o ddigwyddiadau a gynhelir gan Brifysgol Abertawe mewn partneriaeth â Fforwm Diwylliannol Awstria yn Llundain a Menter Wittgenstein ym mis Mehefin 2020. Yn ôl llawer o bobl, ef oedd athronydd mwyaf yr 20fed ganrif.

  • 31 Mai 2022
    Argraffiad diweddaraf llyfr yn archwilio problemau twristiaeth allweddol yr oes

    Mae'r problemau y mae atyniadau i ymwelwyr ledled y byd yn eu hwynebu bellach yn cael eu harchwilio yn argraffiad diweddaraf llyfr a olygwyd gan arbenigwr twristiaeth o Brifysgol Abertawe

  • 30 Mai 2022
    Siarter newydd i hyrwyddo teithio cynaliadwy ym Mae Abertawe

    Cynhaliodd Prifysgol Abertawe lansiad ar gyfer Siarter Teithio Llesol Bae Abertawe, a lofnodwyd gan 11 o'r prif sefydliadau ar draws y rhanbarth.

  • 26 Mai 2022
    Prifysgol Abertawe’n cyhoeddi arlwy'r GwyddonLe yn Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych 2022

    Mae Prifysgol Abertawe yn falch o noddi un o brif atyniadau maes Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, sef pafiliwn y GwyddonLe, eto eleni, gan gynnig wythnos lawn o weithgareddau addysgiadol difyr i blant a phobl ifanc.

  • 25 Mai 2022
    Safleoedd Effaith Times Higher Education 2022

    Mae Prifysgol Abertawe ymysg y 200 prifysgol orau yn Safleoedd Effaith Times Higher Education 2022.

  • 24 Mai 2022
    Prosiect ffilmiau dogfen yn uno'r Brifysgol a'r gymuned i dynnu sylw at benrhyn Gŵyr

    Caiff prosiect ffilmiau unigryw a ddaeth â myfyrwyr a staff Prifysgol Abertawe a'r gymuned ynghyd i arddangos harddwch Gŵyr ei lansio'n swyddogol fis nesaf. 

  • 24 Mai 2022
    Gwobrau Ymchwil ac Arloesi'n gyfrifol am ddathliad mawr cyntaf Prifysgol Abertawe ers 2020

    Amlygwyd ehanger ymchwil Prifysgol Abertawe sy'n arwain y ffordd yn fyd-eang yng Ngwobrau Ymchwil ac Arloesi 2022 wrth i 14 o brosiectau gael eu gwobrwyo.

  • 20 Mai 2022
    Astudiaeth newydd yn chwilio am siaradwyr Cymraeg sy'n byw mewn cartrefi gofal

    Mae ymchwilydd o Brifysgol Abertawe'n chwilio am help i gynnal astudiaeth unigryw o brofiad siaradwyr Cymraeg hŷn o ofal.

  • 19 Mai 2022
    Cynhadledd ymchwil i hybu partneriaeth Prifysgol Abertawe â Grenoble a'i chysylltiadau Ewropeaidd

    Bydd cysylltiadau Ewropeaidd ac ymchwil Prifysgol Abertawe ym mhob rhan o'r sefydliad yn cael eu cryfhau pan fydd ymchwilwyr sy'n gweithio yn Abertawe a Ffrainc yn cwrdd ym mis Gorffennaf, fel rhan o bartneriaeth ffyniannus ag Université Grenoble Alpes (UGA).

  • 18 Mai 2022
    Academi Cyflogadwyedd Prifysgol Abertawe ar restr fer gwobrau gyrfaoedd a chyflogadwyedd mawreddog

    Mae Academi Cyflogadwyedd Prifysgol Abertawe wedi cael ei henwebu am bum gwobr yng Ngwobrau Rhagoriaeth AGCAS (Association of Graduate Careers Advisory Services) 2022.

  • 18 Mai 2022
    Diogelu plant rhag yr haul – bydd ymchwil newydd yn archwilio rôl ysgolion cynradd wrth atal canser y croen

    Wrth i gyfraddau canser y croen gynyddu, gan gynnwys llawer o achosion y gellir eu hatal, bydd prosiect ymchwil newydd yn archwilio rôl ysgolion cynradd yng Nghymru ac yn asesu effeithiolrwydd polisïau diogelwch rhag yr haul wrth amddiffyn plant. Bydd y canlyniadau'n helpu i atal canser y croen yn well yng Nghymru a'r tu hwnt.

  • 18 Mai 2022
    Profion iechyd yn gwneud gwahaniaeth wrth achub bywydau pobl sydd ag anabledd dysgu

    Mae ymchwilwyr o Gymru wedi canfod bod profion iechyd yn helpu pobl sydd ag anabledd dysgu i oroesi, yn enwedig y rhai sy'n dioddef o awtistiaeth neu syndrom Down. 

  • 16 Mai 2022
    Cyllid i helpu prosiect arloesol ym maes lled-ddargludyddion i gyflawni uchelgeisiau sero net

    Mae cyfleuster ymchwil ac arloesi newydd ym Mhrifysgol Abertawe wedi derbyn hwb cyllid gwerth bron £2.5m i gynnal prosiect a fydd yn treialu strategaethau arloesol i leihau allyriadau fel y bydd y diwydiant lled-ddargludyddion yn helpu'r sector i gyflawni ei uchelgeisiau sero net.

  • 12 Mai 2022
    Nofel gyntaf Patricia Lockwood yn ennill Gwobr Dylan Thomas Prifysgol Abertawe 2022

    Mae bardd, nofelydd ac ysgrifydd o America, Patricia Lockwood, wedi ennill un o'r gwobrau llenyddol mwyaf yn y byd i lenorion ifanc – Gwobr Dylan Thomas Prifysgol Abertawe – am ei nofel gyntaf, No One Is Talking About This (Bloomsbury Publishing).

  • 12 Mai 2022
    Cynnydd yn ymchwil y Brifysgol sy’n arwain y ffordd yn fyd-eang ac sy'n rhagori'n rhyngwladol

    Mae canlyniadau Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2021 (REF2021) a gyhoeddwyd heddiw (12 Mai) yn dangos bod cyfran Prifysgol Abertawe o ymchwil sy'n arwain y ffordd yn fyd-eang ac sy'n rhagori'n rhyngwladol wedi gwella. Yn asesiad 2021, barnwyd bod 86% o ymchwil gyffredinol y Brifysgol yn 4* (yn arwain y ffordd yn fyd-eang) neu'n 3* (yn rhagori'n rhyngwladol) – i fyny o 80% yn REF2014.

  • 11 Mai 2022
    Canfod feirysau drwy bigiad pin

    Mae gwyddonwyr ym Mhrifysgol Abertawe, Biovici Ltd ac yn y Labordy Ffisegol Cenedlaethol wedi datblygu dull i ganfod feirysau mewn cyfeintiau bach iawn.

  • 11 Mai 2022
    Academi'r Gwyddorau Meddygol yn enwi Athro Iechyd Cyhoeddus yn Gymrawd

    Mae arbenigwr iechyd cyhoeddus o Brifysgol Abertawe wedi cael ei anrhydeddu gan Academi'r Gwyddorau Meddygol.

  • 11 Mai 2022
    Gweld mwy o rywogaethau ar yr arfordir yn gwella lles – ymchwil newydd yn tanlinellu buddion bioamrywiaeth

    Mae gweld nifer mawr o rywogaethau ar arfordiroedd trefol – o anifeiliaid morol i wymonau – yn debygol o wella lles pobl leol ac ymwelwyr, yn ôl ymchwil newydd gan dîm ym Mhrifysgol Abertawe. Mae'r canfyddiadau'n darparu rhagor o dystiolaeth bod bioamrywiaeth yn creu buddion pellgyrhaeddol.

  • 9 Mai 2022
    Addysg a photensial ennill yn allweddol i boblogrwydd wrth chwilio am gariad ar-lein

    Ni all arian brynu cariad ond mae'n gwneud eich proffil yn fwy atyniadol wrth chwilio am gariad ar-lein. Mae ymchwil newydd wedi datgelu bod lefel addysg ac incwm yn arbennig o bwysig, yn enwedig yn achos dynion. 

  • 9 Mai 2022
    Prifysgol Abertawe yng Ngŵyl y Gelli

    Mae straeon byrion cwiar o Gymru, lleisiau pob dydd o bandemig Covid-19, a chyfrol fuddugol Gwobr Dylan Thomas Prifysgol Abertawe eleni ymhlith y pynciau'n sy'n barod i ddifyrru cynulleidfaoedd yng Ngŵyl y Gelli wrth iddi gael ei chynnal am y 35ed tro  rhwng 26 Mai a 5 Mehefin.

  • 9 Mai 2022
    Astudiaeth newydd yn awgrymu na chyrchwyd gwasanaethau gan bedwar o bob 10 person roedd angen gofal cymdeithasol arnynt yn ystod y pandemig

    Ni chyrchwyd gwasanaethau gan gynifer â phedwar o bob 10 person yng Nghymru roedd angen gofal cymdeithasol arnynt o bosib yn ystod pandemig Covid-19, yn ôl adroddiad newydd.

  • 4 Mai 2022
    Ymchwil newydd yn dangos sut gall syrffio hybu lles y rhai sy'n goroesi anafiadau i'r ymennydd

    Mae cenedlaethau o syrffwyr yn gwybod nad oes unrhyw beth tebyg i ddal y don berffaith, ond mae ymchwil newydd bellach wedi archwilio pa mor llesol y mae pŵer y môr.

  • 3 Mai 2022
    Cymdeithas Ddysgedig Cymru'n anrhydeddu academyddion o Brifysgol Abertawe

    Mae wyth academydd o Brifysgol Abertawe ymhlith y newydd-ddyfodiaid i Gymrodoriaeth Cymdeithas Ddysgedig Cymru.

  • 29 Ebrill 2022
    Myfyriwr o Brifysgol Abertawe'n ennill dwy wobr mewn cystadleuaeth gwyddoniaeth seneddol

    Mae ymchwilydd PhD mewn cemeg wedi ennill dwy wobr yn STEM for BRITAIN, sef cystadleuaeth posteri gwyddonol fawr a gynhelir yn Senedd y DU, sydd â'r nod o roi dealltwriaeth i wleidyddion o'r gwaith ymchwil rhagorol y mae ymchwilwyr gyrfa gynnar yn ei wneud ym mhrifysgolion y DU.

  • 29 Ebrill 2022
    Sefydliad Cymru gyfan yn gweithio i hyrwyddo iechyd a lles y genedl: Adolygu'r flwyddyn

    Mae'r heriau unigryw sy'n wynebu iechyd a lles wrth i ni gyrraedd cyfnod newydd ar ôl y pandemig wedi cael eu hamlygu mewn adroddiad blynyddol a lansiwyd heddiw. 

  • 28 Ebrill 2022
    Partneru i ddarparu cyfleoedd ymchwil ac arloesi

    Bydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a Phrifysgol Abertawe yn cydweithio i helpu i wella iechyd a lles cymunedau yn y tair sir o dan gytundeb newydd.

  • 28 Ebrill 2022
    Ymchwilwyr Abertawe'n datblygu dull newydd i atal moleciwl rhag cylchdroi drwy ddefnyddio ynni isel iawn

    Mae ymchwilwyr Abertawe wedi datblygu dull newydd i atal moleciwl rhag cylchdroi drwy ddefnyddio ynni isel iawn, gan daflu goleuni newydd ar ryngweithiadau rhwng moleciwlau ac arwynebau.

  • 26 Ebrill 2022
    Derw hynafol i daflu goleuni ar hinsawdd y 4,500 o flynyddoedd diwethaf

    Bydd ymchwilwyr cyn bo hir yn gallu ail-lunio hinsawdd gogledd-orllewin Ewrop, gan gynnwys y DU, dros y 4,500 o flynyddoedd diwethaf, a dyddio adeiladau a gwrthrychau pren mewn modd mwy cywir, drwy ddadansoddi cemeg hen dderw. Gwneir hyn drwy brosiect newydd a arweinir gan Abertawe sydd newydd gael ei ddewis i dderbyn cyllid Ewropeaidd gwerth €3m.

  • 26 Ebrill 2022
    Ymchwilydd yn ennill cyllid rhyngwladol i helpu i arloesi gofal ym maes diabetes

    Mae gwaith arloesol ymchwilydd o Brifysgol Abertawe ym maes diabetes wedi'i helpu i gael hwb mawr o ran cyllid.

  • 26 Ebrill 2022
    Ysgolion y DU yn darparu addysg annigonol am y gylchred fislifol, yn ôl astudiaeth

    Mae addysg am y gylchred fislifol yn ysgolion y DU yn anghyson ac yn annigonol, ac mae athrawon yn teimlo bod ganddynt ddiffyg amser, hyder a gwybodaeth am y pwnc, yn ôl ymchwil newydd dan arweiniad Prifysgol Abertawe.

  • 25 Ebrill 2022
    Prifysgol Abertawe ar restr fer Gwobrau Dewis Myfyrwyr Whatuni 2022

    Mae Prifysgol Abertawe wedi cyrraedd rhestr fer y categori Allgymorth ac Ehangu Cyfranogiad yng Ngwobrau Dewis Myfyrwyr Whatuni eleni.

  • 22 Ebrill 2022
    Castell Howell ac Arena Abertawe i noddi Prifysgol Abertawe ar gyfer Varsity Cymru

    Castell Howell, y cyfanwerthwr bwyd o Gymru, ac Arena Abertawe, y lleoliad digwyddiadau newydd, fydd prif noddwyr Prifysgol Abertawe wrth i Varsity Cymru ddychwelyd eleni. 

  • 13 Ebrill 2022
    Myfyrwyr entrepreneuraidd Abertawe yn hybu eu syniadau busnes drwy The Big Pitch

    Cafodd syniadau busnes myfyrwyr entrepreneuraidd hwb mawr yng nghystadleuaeth flynyddol The Big Pitch Prifysgol Abertawe, wedi'i noddi gan Santander Universities.

  • 12 Ebrill 2022
    Adolygiad newydd yn canfod bod mamau awtistig yn wynebu rhwystrau ychwanegol i fwydo ar y fron

    Mae adolygiad newydd gan Brifysgol Abertawe, gan weithio gyda Phrifysgol Caint ac Autistic UK, y sefydliad nid-er-elw, wedi canfod nad yw cymorth bwydo ar y fron gan fydwragedd ac ymwelwyr iechyd yn addas i ddiwallu anghenion menywod awtistig yn aml. 

  • 8 Ebrill 2022
    Partneriaethau Prifysgol Abertawe'n cefnogi ymchwil i ddiogelu ac adfer coedwigoedd glaw

    Mae ymchwilwyr blaenllaw yn y Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg yn parhau â phartneriaeth lwyddiannus â rhaglen ymchwil flaenllaw i goedwigoedd glaw ym Morneo yn dilyn grant ymchwil newydd gwerth £330,000.

  • 6 Ebrill 2022
    Gwobrau uchel eu bri'n cydnabod cydweithrediad rhwng Prifysgol Abertawe ac Aspire2Be

    Mae Prifysgol Abertawe ac Aspire2Be wedi cael cymeradwyaeth uchel yng Ngwobrau Cenedlaethol Cyflogadwyedd Israddedigion o ganlyniad i'w prosiect ar y cyd, iBroadcast.

  • 6 Ebrill 2022
    Tablau QS o Brifysgolion y Byd fesul Pwnc 2022: Prifysgol Abertawe'n perfformio'n well nag erioed

    Mae Prifysgol Abertawe wedi perfformio'n well nag erioed yn un o'r tablau mwyaf blaenllaw o brifysgolion y byd fesul pwnc a gyhoeddwyd heddiw.

  • 5 Ebrill 2022
    Prosiect ymchwil newydd yn cymryd camau tuag at economi gylchol

    Mae prosiect ymchwil â’r nod o ddod ag economi wirioneddol gylchol un cam yn agosach wedi derbyn grant ymchwil gwerth £1.2m gan y Cyngor Ymchwil Peirianneg a'r Gwyddorau Ffisegol (ESPRC).

  • 1 Ebrill 2022
    Myfyriwr o Brifysgol Abertawe'n ennill £1,000 drwy gystadleuaeth Dealer Tech

    Mae myfyriwr o Brifysgol Abertawe wedi ennill £1,000 mewn cystadleuaeth am ei syniad i greu cronfa ddata ar-lein ar gyfer cyflenwyr, gwneuthurwyr a delwriaethau cerbydau.

  • 1 Ebrill 2022
    Academydd o Brifysgol Abertawe'n ennill gwobr am y traethawd ymchwil gorau

    Mae academydd o Brifysgol Abertawe wedi ennill gwobr Agronomy am y traethawd ymchwil PhD gorau o ganlyniad i'w ymchwil i sefydlu cyfuniad newydd o ddulliau o ganfod clefydau mewn cnydau bwyd, a allai gael effaith economaidd ac amgylcheddol fyd-eang.

  • 31 Mawrth 2022
    Y Brifysgol yn ymuno mewn dathliad arbennig o gefnogaeth Abertawe i fudwyr

    Mae Prifysgol Abertawe'n gwneud cyfraniad allweddol at helpu i lywio gwybodaeth pobl ifanc am fudo mewn arddangosfa newydd unigryw yn y ddinas. 

  • 31 Mawrth 2022
    Lleisiau heb gynrychiolaeth ddigonol yn flaenllaw ar restr fer Gwobr Dylan Thomas Prifysgol Abertawe 2022

    Mae'r rhestr fer ar gyfer un o'r gwobrau llenyddol mwyaf yn y byd i lenorion ifanc – Gwobr Dylan Thomas Prifysgol Abertawe – wedi cael ei chyhoeddi. O Sri Lanka i Trinidad, Tecsas, ac Iwerddon drwy'r Dwyrain Canol, mae'r rhestr fer eleni'n cynnwys casgliad pwerus o lenorion rhyngwladol sy'n rhoi llais i rai sydd heb gynrychiolaeth ddigonol.

  • 29 Mawrth 2022
    Gwella palmentydd ffordd asffalt gan ddefnyddio nanogyfansoddion mwynol wedi’u peiriannu

    Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Abertawe a Phrifysgol Dechnegol Braunschweig wedi datblygu rhwymydd asffalt newydd ac ecogyfeillgar ar y lefel nano.

  • 25 Mawrth 2022
    Bysedd yn dangos cysylltiad rhwng testosteron isel a derbyniadau i'r ysbyty oherwydd Covid-19

    A allai hyd bysedd rhywun awgrymu pa mor sâl y gallai fod ar ôl dal Covid-19?

  • 23 Mawrth 2022
    Prifysgol Abertawe'n llofnodi’r Ymrwymiad i Dechnegwyr

    Mae Prifysgol Abertawe wedi llofnodi’r Ymrwymiad i Dechnegwyr, gan ymuno â thros hanner prifysgolion y DU a sawl sefydliad ymchwil wrth gefnogi addewid i gefnogi eu technegwyr.

  • 21 Mawrth 2022
    Gwarchod coed anferth yr Amason – ymweliad gan ddaearyddwraig o Abertawe'n casglu data allweddol ac yn sicrhau ymrwymiad gan lywodraeth

    Mae daearyddwraig o Abertawe wedi dychwelyd o'r Amason yn ddiweddar ar ôl casglu data allweddol am goed anferth dros 80 metr o uchder, a ddarganfuwyd yn gyntaf gyda'i chymorth hithau yn 2018. O ganlyniad i'r gwaith hwn, mae llywodraeth y dalaith ym Mrasil wedi ymrwymo i gyhoeddi Bil i'w gwarchod hwythau a'u hamgylchoedd.

  • 18 Mawrth 2022
    Y Brifysgol yn taflu goleuni ar bwysigrwydd ailgylchu

    Dangosodd Prifysgol Abertawe ei hymrwymiad i gynaliadwyedd drwy droi'n wyrdd i ddathlu Diwrnod Ailgylchu Byd-eang.

  • 17 Mawrth 2022
    Myfyrwyr yn teithio dros yr Iwerydd i rannu ymchwil i ddeallusrwydd artiffisial

    Mae myfyrwyr PhD o Brifysgol Abertawe wedi bod yn rhannu eu hymchwil arloesol i ddeallusrwydd artiffisial â chydweithwyr yn America.

  • 13 Mawrth 2022
    Dyfarniadau Cwmni Lifrai Cymru yn hybu ymchwil i sglerosis ymledol a bywyd morol

    Mae dau ymchwilydd o Brifysgol Abertawe wedi ennill ysgoloriaethau teithio gan Gwmni Anrhydeddus Lifrai Cymru, a fydd yn rhoi cyfle iddynt ddatblygu eu gwaith ymchwil a'i rannu gydag arbenigwyr eraill.

  • 11 Mawrth 2022
    Datganiad yr Is-ganghellor am Wcráin

    Ym Mhrifysgol Abertawe, rydym yn ymuno â phrifysgolion a sefydliadau academaidd ledled y byd wrth gondemnio'n ddiamwys benderfyniad gwladwriaeth Rwsia i ymosod ar Wcráin.

  • 11 Mawrth 2022
    Ymweliad brenhinol â chyfleuster ymchwil sy'n newid bywydau yn Abertawe

    Ymwelodd Ei Huchelder Iarlles Wessex, noddwr The Scar Free Foundation, â'r rhaglen ymchwil adlunio wynebau blaenllaw ym Mhrifysgol Abertawe, gan gwrdd â chleifion a allai elwa o'r astudiaethau arloesol hyn.

  • 9 Mawrth 2022
    Ymweliad â swyddogion diwylliannol yn hybu cysylltiadau Abertawe ag Oman a Qatar

    Cysylltiadau cryfach ag Oman a Qatar oedd testun y trafodaethau yn ystod ymweliad gan uwch-gynrychiolwyr Prifysgol Abertawe â swyddfeydd Swyddogion Diwylliannol y ddwy wlad yn Llundain.

  • 8 Mawrth 2022
    Diwydiannau gwyrddach – peirianwyr cemegol yn canfod ffyrdd newydd o ailddefnyddio carbon er mwyn mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd

    Mae peirianwyr cemegol o Brifysgol Abertawe'n dod o hyd i ffyrdd newydd o ddal ac ailddefnyddio carbon drwy greu cynhyrchion newydd er mwyn helpu i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd.

  • 4 Mawrth 2022
    Astudiaeth newydd yn archwilio sut gallai llygryddion dan do effeithio ar iechyd plant

    Mae gwyddonwyr ym Mhrifysgol Abertawe wedi lansio astudiaeth fawr i ddarganfod sut mae llygryddion pob dydd yn effeithio ar ddatblygiad ac iechyd ffetysau a phlant.

  • 3 Mawrth 2022
    Astudiaeth yn darganfod bod newyddion rhwydweithiau'r DU yn rhoi mwy o sylw i faterion datganoledig o ganlyniad i bandemig Covid-19

    Mae astudiaeth newydd a gomisiynwyd gan Ofcom wedi datgelu bod darparwyr newyddion rhwydweithiau'r DU wedi rhoi mwy o sylw i bynciau datganoledig, yn bennaf o ganlyniad i'r pandemig.

  • 3 Mawrth 2022
    Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yng nghwmni'r Farwnes Tanni Grey-Thompson

    Bydd y Farwnes Tanni Grey-Thompson yn siarad am yr heriau y mae hi wedi'u hwynebu a sut mae hi wedi'u goresgyn hwy, gan ddilyn thema Diwrnod Rhyngwladol y Menywod 2022, sef #BreakTheBias.

  • 3 Mawrth 2022
    Storio gwres yn yr haf i'w ddefnyddio yn y gaeaf – gallai ymchwil newydd i ddulliau storio ynni thermol leihau biliau a hybu ynni adnewyddadwy

    Technoleg newydd a allai storio gwres am ddiwrnodau neu fisoedd hyd yn oed, gan helpu'r broses o symud tuag at sero net, yw ffocws prosiect newydd sy'n cynnwys Rhaglen Ymchwil y Ganolfan Adeiladu Gweithredol, dan arweiniad Prifysgol Abertawe, sydd newydd gael cyllid gwerth £146,000.

  • 24 Chwefror 2022
    Gwyddonydd o Brifysgol Abertawe i gyflwyno ei ymchwil yn Senedd y DU

    Bydd Thomas Spriggs, myfyriwr ymchwil PhD ym Mhrifysgol Abertawe, yn cyflwyno ei ymchwil ffiseg yn Senedd y DU, i banel llawn beirniaid arbenigol a gwleidyddion, fel un o’r ymgeiswyr yn rownd derfynol STEM for Britain 2022.

  • 23 Chwefror 2022
    Prifysgol Abertawe yn 26ain ym Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle Stonewall

    Mae Prifysgol Abertawe wedi cael ei henwi ymysg y 100 o gyflogwyr mwyaf cynhwysol yn y DU ar gyfer staff LGBTQ+, am y chweched flwyddyn yn olynol.

  • 22 Chwefror 2022
    Sesiynau ar-lein am ddim ar gyfer gradd ran-amser yn y dyniaethau

    Os ydych yn ystyried ailgydio yn eich addysg neu'n dymuno cael blas ar astudio, bydd Prifysgol Abertawe'n cynnig cyfres o sesiynau am ddim i roi profiad uniongyrchol i chi. 

  • 17 Chwefror 2022
    Prifysgol Abertawe'n ennill Gwobr Pen-blwydd y Frenhines am dechnolegau ynni adnewyddadwy chwyldroadol

    Mae Prifysgol Abertawe wedi ennill Gwobr Pen-blwydd y Frenhines i gydnabod ei hymchwil Gwyddor Deunyddiau a Pheirianneg sy'n arwain chwyldro mewn technolegau ynni adnewyddadwy, yn benodol ynni solar a chreu a storio gwres.

  • 17 Chwefror 2022
    Ap newydd sy'n gallu helpu pobl ifanc i lywio eu cymunedau

    Mae ap newydd wedi cael ei lansio sy'n rhoi'r cyfle i bobl ifanc werthuso eu cymunedau a helpu i'w gwella. 

  • 16 Chwefror 2022
    Athletwyr elît yn defnyddio Dillad Clyfar Prifysgol Abertawe

    Mae Gweinidog Llywodraeth y DU, David TC Davies, wedi ymweld â phrosiect Campysau Bargen Ddinesig Bae Abertawe, sy’n werth £132 miliwn, i weld sut datblygwyd y dechnoleg ar gyfer Dillad Clyfar - dillad yr oedd rhai athletwyr (gan gynnwys rhai a enillodd fedalau) wedi’u gwisgo yn y gemau Olympaidd yn Tokyo y llynedd.

  • 15 Chwefror 2022
    Prifysgol Abertawe'n helpu i wreiddio treftadaeth ddiwydiannol gyfoethog Abertawe yn y cwricwlwm

    Mae Prifysgol Abertawe wedi lansio pecyn adnoddau digidol newydd ar gyfer plant rhwng 9 ac 11 oed a fydd yn helpu disgyblion i ddysgu am ddiwydiant copr rhyngwladol bwysig Abertawe wrth ddatblygu eu sgiliau llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol.  

  • 14 Chwefror 2022
    Astudiaeth yn datgelu effaith y cyfnodau clo ar iechyd meddwl pobl ifanc

    Cafodd yr ail gyfnod clo o ganlyniad i Covid-19 yr effaith fwyaf ar iechyd meddwl a lles pobl ifanc ymhlith poblogaeth Cymru, yn ôl ymchwil newydd. 

  • 11 Chwefror 2022
    Covid-19: Astudiaeth yn chwilio am gyfranogwyr i archwilio agweddau'r cyhoedd at ofal cymdeithasol yng Nghymru

    Mae astudiaeth gan Brifysgol Abertawe'n chwilio am gyfranogwyr i archwilio agweddau'r cyhoedd at ofal cymdeithasol yng Nghymru yn dilyn pandemig Covid-19.

  • 10 Chwefror 2022
    Arbenigwyr yn dadlau bod ymagwedd y DU at Covid-19 ymhlith plant yn ‘eithriad rhyngwladol'

    Mae'r DU yn ‘eithriad rhyngwladol’ yn ei hymagwedd at ddiogelu plant rhag Covid-19, mae arbenigwyr yn dadlau yn The BMJ heddiw.

  • 9 Chwefror 2022
    Y Brifysgol yn helpu i wella diogelwch meddyginiaethau ar ddechrau mamolaeth

    Mae ymchwilwyr o Fanc Data SAIL a Phrifysgol Abertawe’n gwneud cyfraniad allweddol at brosiect rhyngwladol gwerth miliynau o bunnoedd i wella diogelwch meddyginiaethau a roddir i ddarpar famau a mamau sy'n bwydo babanod ar y fron. 

  • 3 Chwefror 2022
    Expertscape yn enwi athro o Brifysgol Abertawe yn arbenigwr mewn ymddygiad llonydd

    Mae'r Athro Kelly Mackintosh o'r Ysgol Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer Corff wedi cael ei chydnabod fel un o arbenigwyr mwyaf blaenllaw'r byd mewn ymddygiad llonydd.

  • 3 Chwefror 2022
    Lleisiau amrywiol a byd-eang yn flaenllaw ar restr hir Gwobr Dylan Thomas Prifysgol Abertawe

    Cyhoeddir y rhestr hir ryngwladol ar gyfer un o'r gwobrau llenyddol mwyaf yn y byd ar gyfer llenorion ifanc – Gwobr Dylan Thomas Prifysgol Abertawe heddiw, dydd Iau 3 Chwefror. O Sri Lanka i Trinidad, Tecsas, ac Iwerddon drwy'r Dwyrain Canol, mae'r rhestr hir eleni'n cynnwys casgliad pwerus o lenorion rhyngwladol sy'n rhoi llais i rai sydd heb gynrychiolaeth ddigonol.

  • 28 Ionawr 2022
    Prifysgol Abertawe'n arwain yr ymchwil gyntaf o'i math sy'n archwilio gamblo a lles yn y Llu Awyr Brenhinol

    Cyhoeddwyd astudiaeth newydd gan Brifysgol Abertawe a Chronfa Les y Llu Awyr Brenhinol sy'n archwilio lles gweithlu presennol y Llu Awyr Brenhinol, gan roi pwyslais allweddol ar broblemau gamblo, y defnydd o alcohol ac iechyd meddwl.

  • 28 Ionawr 2022
    Prifysgol Abertawe'n penodi Cofrestrydd a Phrif Swyddog Gweithredu

    Mae Prifysgol Abertawe wedi cyhoeddi bod Niamh Lamond wedi cael ei phenodi'n Gofrestrydd ac yn Brif Swyddog Gweithredu, ar ôl proses recriwtio allanol gystadleuol. Mae Niamh wedi bod yn llenwi'r rôl ar sail interim ers mis Gorffennaf 2021 a bydd hi bellach yn parhau ynddi'n barhaol.

  • 27 Ionawr 2022
    Cyllid gwerth £17 miliwn ar gyfer ymchwil data cydweithredol yng Nghymru

    Bydd menter y mae Prifysgol Abertawe’n cymryd rhan ynddi sydd wedi trawsnewid sut gellir defnyddio data i roi cipolwg ar faterion cymdeithasol ac economaidd yng Nghymru yn parhau, diolch i fuddsoddiad gwerth bron £17 miliwn.

  • 26 Ionawr 2022
    Canmol gwaith arloesol y Brifysgol i hyrwyddo pwysigrwydd economi gylchol

    Mae ymrwymiad Prifysgol Abertawe i hyrwyddo economi gylchol wedi sicrhau cydnabyddiaeth ryngwladol. 

  • 26 Ionawr 2022
    Gwyddonwyr yn defnyddio GPS i olrhain symudiadau haid o fabŵns mewn mannau trefol am y tro cyntaf

    Mewn astudiaeth unigryw, mae ymchwilwyr o Brifysgol Abertawe yn y DU a Phrifysgol Cape Town yn Ne Affrica wedi defnyddio coleri â system leoli fyd-eang (GPS) er mwyn astudio ymddygiad torfol haid o fabŵns sy'n byw ar gyrion dinas Cape Town.

  • 26 Ionawr 2022
    Varsity Cymru'n dychwelyd ar ôl bwlch o ddwy flynedd

    Ar ôl bwlch o ddwy flynedd o ganlyniad i bandemig Covid-19, mae'r dyddiad ar gyfer Varsity Cymru 2022 rhwng Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Abertawe wedi cael ei gadarnhau.

  • 25 Ionawr 2022
    Sicrhau bod y cyhoedd yn cefnogi polisïau Covid-19: ffydd mewn arbenigwyr wrth i wleidyddion bolareiddio

    Mae polisïau i fynd i'r afael â Covid-19 yn fwy tebygol o gael cefnogaeth eang y cyhoedd os bydd arbenigwyr neu glymbleidiau o bleidiau gwahanol, yn hytrach na gwleidyddion o un blaid yn unig, yn eu cynnig, yn ôl astudiaeth newydd o saith gwlad y cyfrannodd academydd o Brifysgol Abertawe ati.

  • 24 Ionawr 2022
    Arbenigwyr yn pwysleisio cyfraniad lles at iechyd pobl

    Amlygwyd pwysigrwydd lles a'i gyfraniad at iechyd mewn papur newydd gan academyddion o Brifysgol Abertawe. 

  • 24 Ionawr 2022
    Babanod i elwa o gronfa llaeth y fron gyntaf Cymru

    Mae Prifysgol Abertawe a Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe wedi lansio partneriaeth newydd â'r Human Milk Foundation (HMF) a fydd yn sefydlu cronfa llaeth y fron yng Nghymru am y tro cyntaf. 

  • 19 Ionawr 2022
    Academyddion o Brifysgol Abertawe'n cefnogi ymgyrch NASA drwy fapio argaeau ar draws afonydd

    Cyhoeddwyd cronfa ddata ofodol newydd o argaeau a rhwystrau eraill a adeiladwyd yn rhannol neu'n llawn ar draws afonydd mwyaf y byd.

  • 14 Ionawr 2022
    Astudiaeth o effaith problemau iechyd meddwl a chamddefnyddio sylweddau ar gyfraddau marw pobl ifanc

    Mae pobl ifanc â hanes o broblemau iechyd meddwl a chamddefnyddio alcohol a chyffuriau yn fwy tebygol o farw na'r rhai sydd â phroblem iechyd meddwl yn unig neu sy'n camddefnyddio sylweddau yn unig. 

  • 12 Ionawr 2022
    Rhestr Anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd yn cydnabod Athro Iechyd Cyhoeddus

    Mae arbenigwr iechyd cyhoeddus a gydnabuwyd gan y Frenhines yn dweud bod ei anrhydedd yn adlewyrchu enw da Banc Data SAIL Prifysgol Abertawe. 

  • 11 Ionawr 2022
    Arbenigwyr yn datgan bod dysgu ar-lein yn ystod y cyfnodau clo wedi effeithio ar les plant

    Bu'n anodd i blant ysgol uwchradd ganolbwyntio ar eu gwaith ysgol ac ymddiddori ynddo pan gyflwynwyd dysgu ar-lein yn ystod y cyfnodau clo, gan effeithio'n negyddol ar eu hyder a'u lles, yn ôl astudiaeth newydd. 

  • 10 Ionawr 2022
    Effaith ffugiadau dwfn ar hyder mewn tystiolaeth a gynhyrchir gan ddefnyddwyr - grant gwerth €1.5m i arbenigwr o Brifysgol Abertawe

    Dyfarnwyd €1.5m i arbenigwr yn y gyfraith o Brifysgol Abertawe i archwilio sut mae canfyddiadau'r cyhoedd ynghylch ffugiadau dwfn – delweddau, fideos neu sain sydd wedi cael eu trin â deallusrwydd artiffisial – yn effeithio ar hyder mewn tystiolaeth a gynhyrchir gan ddefnyddwyr o dorri hawliau dynol.

  • 1 Ionawr 2022
    Dyfarnu CBE i'r Athro Tavi Murray yn Rhestr Anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd

    Dyfarnwyd CBE i'r Athro Tavi Murray, Athro Rhewlifeg yn y Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg ym Mhrifysgol Abertawe, yn Rhestr Anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd am ei gwasanaethau i ymchwil i newid yn yr hinsawdd a rhewlifeg.

  • 29 Rhagfyr 2021
    Gall gwefru clyfar arbed £110 i yrwyr cerbydau trydan bob blwyddyn – a lleihau ôl troed carbon 20%

    Gallai gyrwyr cerbydau trydan arbed £110 bob blwyddyn ar gyfartaledd – a lleihau eu hôl troed carbon 20% – drwy ddefnyddio technoleg gwefru clyfar i bweru eu ceir ar yr adegau gorau posib, yn ôl adroddiad gan dîm ymchwil sy'n cynnwys arbenigwyr o Brifysgol Abertawe.

  • 16 Rhagfyr 2021
    Defnyddio sŵn y Ddaear i weld o dan len iâ'r Ynys Las – ymchwil newydd yn rhoi'r darlun manylaf hyd yn hyn

    Mae'r sŵn sy'n deillio o symudiadau'r Ddaear wedi cael ei ddefnyddio er mwyn llunio darlun manwl o'r amodau daearegol o dan len iâ'r Ynys Las a'r effaith ar lifoedd iâ, ar gyfer ymchwil newydd dan arweiniad Prifysgol Abertawe.

  • 15 Rhagfyr 2021
    Cais ar y cyd yn sicrhau cyllid ar gyfer PhD i ymchwilio i’r Gymraeg a’r cwricwlwm newydd yn y blynyddoedd cynnar

    Mae Prifysgol Abertawe wedi llwyddo i sicrhau cyllid ar gyfer PhD i ymchwilio i bwnc sy’n ymwneud â’r blynyddoedd cynnar a’r cwricwlwm newydd ar ôl cais ar y cyd â Phrifysgol Metropolitan Caerdydd a Mudiad Meithrin, elusen sy’n arbenigo ym maes gofal plant a’r blynyddoedd cynnar yng Nghymru.

  • 13 Rhagfyr 2021
    Prifysgol Abertawe'n cael cyllid gwerth £2.4m ar gyfer ystorfa data am ddementia o safon fyd-eang

    Dyfarnwyd cyllid gwerth £2.4 miliwn i Brifysgol Abertawe er mwyn parhau i ddatblygu Porth Data Dementias Platform UK (DPUK) – ystorfa data o safon fyd-eang ar gyfer ymchwil i ddementia.

  • 13 Rhagfyr 2021
    Cystadleuaeth Stori Fer Rhys Davies 2022 yn croesawu ceisiadau

    Mae Cystadleuaeth Stori Fer Rhys Davies ar gyfer ysgrifenwyr sy'n hanu o Gymru neu sy'n byw yn y wlad yn croesawu ceisiadau bellach.

  • 10 Rhagfyr 2021
    Mam sengl a fu ar reng flaen y frwydr yn erbyn COVID-19 yn dathlu gradd meistr gyda'i merched

    Mae mam sengl i ddau blentyn ifanc sydd wedi bod yn nyrs ers 14 o flynyddoedd wedi hyrwyddo ei gyrfa drwy gwblhau gradd meistr ym Mhrifysgol Abertawe yn ogystal â gweithio ar y rheng flaen.

  • 9 Rhagfyr 2021
    Abertawe ymysg y 10 prifysgol orau yn y DU ar gyfer perfformiad amgylcheddol

    Mae Prifysgol Abertawe'n un o'r 10 prifysgol orau yn y DU ar gyfer materion amgylcheddol a moesegol, yn ôl tabl cynghrair newydd People & Planet a gyhoeddwyd gan The Guardian.

  • 8 Rhagfyr 2021
    Ysgolhaig Chevening yn goresgyn cyfyngiadau COVID-19 i gwblhau gradd hawliau dynol

    Mae myfyriwr rhyngwladol wedi graddio gydag anrhydedd o Brifysgol Abertawe, er bod cyfyngiadau COVID-19 wedi'i atal rhag teithio i'r Deyrnas Unedig ar ddechrau ei gwrs gradd.

  • 3 Rhagfyr 2021
    Archifau Richard Burton Prifysgol Abertawe'n cadw ei statws achrededig

    Mae Archifau Richard Burton ym Mhrifysgol Abertawe, lle cedwir deunydd o bwys lleol, rhanbarthol a chenedlaethol, wedi cadw'r statws achrededig sy'n cydnabod ei safonau uchel, wrth ofalu am gofnodion gwerthfawr a sicrhau eu bod ar gael i ymchwilwyr a'r gymuned ehangach.

  • 1 Rhagfyr 2021
    Paratoi llaeth fformiwla: prosiect sy'n canolbwyntio ar fwydo babanod yn ddiogel

    Mae Prifysgol Abertawe a'r elusen maeth iechyd cyhoeddus annibynnol First Steps Nutrition Trust wedi lansio prosiect gwyddoniaeth gymunedol gydweithredol a ddatblygwyd rhwng rhieni ac ymchwilwyr i asesu diogelwch technegau paratoi llaeth fformiwla powdwr i fabanod yn y cartref.

  • 30 Tachwedd 2021
    Y Sefydliad Ffiseg yn enwi'r Athro Lyn Evans, un o gyn-fyfyrwyr Prifysgol Abertawe, yn Gymrawd er Anrhydedd

    Mae'r Sefydliad Ffiseg wedi enwi'r Athro Lyn Evans, y ffisegydd adnabyddus o Gymru, yn Gymrawd er Anrhydedd ar gyfer 2021.

  • 30 Tachwedd 2021
    Astudiaeth yn cyflwyno fframwaith i ddeall dosbarth newydd o ddeunyddiau dellt crwm

    Mae astudiaeth newydd gan Brifysgol Abertawe wedi cyflwyno fframwaith i fesur priodoleddau materol dosbarth newydd o ddellt hecsagonol crwm dau ddimensiwn y gellid eu defnyddio wrth gynhyrchu metaddeunyddiau mecanyddol gwell at ddibenion biobeirianneg, electroneg estynadwy, lliniaru effaith gwrthdrawiadau, a robotiaid meddal.

  • 25 Tachwedd 2021
    Prifysgol Abertawe'n ennill Gwobr Pen-blwydd y Frenhines am dechnolegau ynni adnewyddadwy chwyldroadol

    Mae Prifysgol Abertawe wedi ennill Gwobr Pen-blwydd y Frenhines i gydnabod ei hymchwil Gwyddor Deunyddiau a Pheirianneg sy'n arwain chwyldro mewn technolegau ynni adnewyddadwy, yn benodol ynni solar a chreu a storio gwres. 

  • 24 Tachwedd 2021
    Arbenigwr symudedd anifeiliaid o Brifysgol Abertawe'n ennill medal glodwiw am gyfraniad gwyddonol

    Mae'r Athro Emily Shepard, sy'n arbenigo yn ecoleg symudedd anifeiliaid gwyllt, wedi ennill Medal Gwyddoniaeth uchel ei bri Cymdeithas Sŵoleg Llundain (ZSL), i gydnabod ei gwaith ymchwil rhagorol.

  • 24 Tachwedd 2021
    Cyllid ychwanegol gwerth £1.73m i ehangu prosiect ym maes technoleg a defnyddiau lled-ddargludyddion

    Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd prosiect sy'n ymwneud â Phrifysgol Abertawe a phartneriaid eraill i ddatblygu technolegau prosesu lled-ddargludyddion o’r radd flaenaf yn cyllid ychwanegol gwerth £1.73m. Mae'r defnyddiau'n cynnwys cerbydau awtonomaidd, dyfeisiau newydd ar gyfer ynni glân, symudedd yn y dyfodol, deallusrwydd artiffisial, deunydd pacio gwell, a biosynwyryddion a synwyryddion gwisgadwy.

  • 23 Tachwedd 2021
    Pwysigrwydd data am bresenoldeb disgyblion wrth glustnodi cymorth iechyd meddwl

    Mae presenoldeb gwael yn yr ysgol yn cael effaith ar ddyfodol plentyn, yn gymdeithasol ac yn ddatblygiadol, yn ogystal â'i lwyddiant addysgol.

  • 20 Tachwedd 2021
    Academyddion o Brifysgol Abertawe'n defnyddio'r pandemig i gyflwyno gêm arloesol i ysgolion

    Mae academyddion a myfyrwyr o Brifysgol Abertawe wedi defnyddio profiadau a dealltwriaeth o bandemig Covid-19 i ddatblygu gêm ryngweithiol ac arloesol.

  • 19 Tachwedd 2021
    Coedwigoedd glaw'r môr – arbenigwyr Abertawe'n cyfrannu at ganllaw newydd i helpu i adfer morwellt

    Mae tîm o wyddonwyr cadwraeth, gan gynnwys 11 o ymchwilwyr o Brifysgol Abertawe, wedi cyhoeddi canllaw arloesol i gefnogi ymdrechion i adfer gwelyau morwellt, sy'n dal mwy o garbon na choedwigoedd glaw.

  • 18 Tachwedd 2021
    Astudiaeth newydd yn cysylltu iselder rhieni â gwaeth iechyd meddwl a chyrhaeddiad addysgol plant

    Mae plant yn fwy tebygol o ddioddef o iselder ac o beidio â chyflawni cerrig milltir addysgol os ydynt yn byw gyda rhiant sy'n dioddef o iselder, yn ôl astudiaeth newydd a gyhoeddwyd yn y cyfnodolyn mynediad agored PLOS ONE gan Sinead Brophy o Brifysgol Abertawe a'i chydweithwyr.

  • 17 Tachwedd 2021
    Darlith Zienkiewicz flynyddol Prifysgol Abertawe'n dychwelyd gyda darlith gyhoeddus ar-lein ar yr heriau o gyflawni'r targed sero-net

    Ddydd Mercher, 24 Tachwedd, bydd Cyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg Prifysgol Abertawe'n cynnal Darlith Zienkiewicz, a hynny am y pumed tro, yng nghwmni gwestai arbennig, sef y Farwnes Brown o Gaergrawnt DBE FREng FRS, Julia King.

  • 16 Tachwedd 2021
    Barn gymysg ymhlith meddygon teulu am feddalwedd i leihau nifer y derbyniadau brys i'r ysbyty

    Mae astudiaeth newydd o farn a phrofiadau meddygon teulu wedi datgelu bod meddalwedd sy'n ceisio lleihau nifer y derbyniadau brys i'r ysbyty o ddefnydd a budd cyfyngedig i gleifion.

  • 15 Tachwedd 2021
    Hambwrdd cig llwyr ailgylchadwy – deunydd pacio newydd sy'n hepgor padiau amsugnol untro

    Mae ymchwilydd o Brifysgol Abertawe wedi dyfeisio math newydd o ddeunydd pacio plastig ar gyfer cig amrwd sy'n sicrhau na fydd angen padiau na ellir eu hailgylchu y tu mewn i'r hambyrddau er mwyn amsugno'r sudd. Mae hyn yn golygu y gellir bellach ailgylchu'r holl hambwrdd pacio.

  • 11 Tachwedd 2021
    Myfyrwyr y Cyfryngau ym Mhrifysgol Abertawe'n trafod materion byd-eang allweddol yn ystod Uwchgynhadledd Heriau Byd-eang Hillary Rodham Clinton

    Rhoddwyd cyfle arbennig i fyfyrwyr o Adran y Cyfryngau a Chyfathrebu Prifysgol Abertawe gael profiad o ystafell newyddion byw.

  • 10 Tachwedd 2021
    Y Mynegai Polisi Cyffuriau Byd-eang cyntaf yn cael ei gyhoeddi

    Norwy, Seland Newydd, Portiwgal, y Deyrnas Unedig ac Awstralia yw'r pum gwlad fwyaf blaenllaw o ran polisïau cyffuriau trugarog sy'n seiliedig ar iechyd, yn ôl y Mynegai Polisi Cyffuriau Byd-eang (GDPI) cyntaf, a gyhoeddwyd ar 8 Tachwedd 2021 gan y Consortiwm Polisi Cyffuriau Rhyngwladol.

  • 9 Tachwedd 2021
    Anrhydeddu ymroddiad gwirfoddolwraig i rannu rhyfeddodau'r Ganolfan Eifftaidd

    Mae gwirfoddolwraig hirsefydlog wedi cael ei hanrhydeddu am ei hymroddiad i Ganolfan Eifftaidd arobryn Prifysgol Abertawe.

  • 8 Tachwedd 2021
    Prifysgol Abertawe'n un o bedwar hyb Being Human 2021, unig ŵyl genedlaethol y dyniaethau yn y DU

    Bydd Gŵyl Being Human 2021 yn cael ei chynnal o 11 i 20 Tachwedd a bydd Prifysgol Abertawe'n un o bedwar hyb yn y DU am y seithfed flwyddyn yn olynol.

  • 5 Tachwedd 2021
    Croesawu ymchwilydd yn ôl i rannu ei arbenigedd mewn uwchgynhadledd rithwir

    Bydd ymchwil Prifysgol Abertawe i ddulliau therapiwtig o drin canser yr ofari yn cael sylw cynulleidfa fyd-eang mewn cynhadledd ar-lein rithwir yr wythnos nesaf.

  • 5 Tachwedd 2021
    Athro Meddygaeth Frys yn derbyn anrhydedd gan brifysgol yn Nenmarc

    Bydd cydweithrediad rhyngwladol sy'n cynnwys arbenigwyr o Abertawe yn rhoi hwb i ymchwil arloesol i fuddion ymarfer corff i gleifion sydd wedi cael strôc.

  • 4 Tachwedd 2021
    Cyfarfodydd rhyngwladol i ddod ag arbenigwyr deallusrwydd artiffisial ynghyd i ddatblygu ymchwil

    Bydd arbenigwyr deallusrwydd artiffisial o Brifysgol Abertawe'n rhannu eu gwybodaeth gyda chymheiriaid rhyngwladol mewn cyfres o ddigwyddiadau arbennig, gan ddechrau y mis hwn.

  • 2 Tachwedd 2021
    Llwyddiant gwobrau triphlyg ar gyfer arbenigwr diabetes Prifysgol

    Enwyd arbenigwr diabetes ym Mhrifysgol Abertawe fel enillydd deirgwaith mewn gwobrau mawr gofal iechyd yn y DU.

  • 1 Tachwedd 2021
    Arddangosfa yn y ddinas yn dangos sut mae pobl ifanc am gael eu gweld

    Bydd arddangosfa unigryw a fydd yn cynnwys gwaith celf realiti rhithwir a grëwyd gan bobl ifanc i fynegi eu teimladau am eu hiechyd meddwl yn cael ei chynnal yn Abertawe y mis hwn.

  • 29 Hydref 2021
    Y Brifysgol yn rhannu ei harbenigedd fel rhan o brosiect ymchwil trawsatlantig

    Mae Prifysgol Abertawe wedi ymuno â phrosiect rhyngwladol arloesol sy'n archwilio hanes a gwleidyddiaeth dad-ddiwydiannu.

  • 28 Hydref 2021
    Arbenigwr yn rhybuddio y gall diffyg eglurder negeseuon llywodraethau'r DU arwain at ddiffyg cydymffurfio gan y cyhoedd os ceir cyfyngiadau eto

    Wrth i arweinwyr iechyd alw ar Lywodraeth y DU i roi cynlluniau wrth gefn ar waith i ymdrin â Covid-19, mae arbenigwr blaenllaw ynghylch ymddygiad yn ystod cyfnod Covid-19 wedi rhybuddio y bydd negeseuon clir gan Lywodraeth y DU a'r llywodraethau datganoledig yn hanfodol er mwyn sicrhau y bydd y cyhoedd yn cydymffurfio ar raddfa fawr â mesurau ychwanegol os cânt eu cyflwyno.

  • 27 Hydref 2021
    Arwain y newid i ddiwydiant sero-net: cyfleuster newydd gwerth £20m i helpu i ddatblygu economi werdd yng Nghymru

    Mae cryfder ac arbenigedd de Cymru o ran arloesi ym maes dur a metelau ar fin cael hwb wrth i gyfleuster newydd gwerth £20m gael ei lansio er mwyn helpu diwydiant yn y rhanbarth i greu dyfodol carbon isel.

  • 26 Hydref 2021
    Astudiaeth newydd: costau cymdeithasol ac economaidd cyn-aelodau o luoedd arfog y DU sy'n wynebu problemau gamblo oddeutu £600 yn uwch fesul unigolyn

    Mae astudiaeth newydd wedi datgelu bod cyn-aelodau o luoedd arfog y DU sy'n wynebu problemau gamblo yn ddrutach i'n cymdeithas o ran defnyddio gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn fwy, ymrafael â'r heddlu, colli oriau gwaith, budd-daliadau lles a dyledion trwm.

  • 26 Hydref 2021
    Y Brifysgol yn croesawu dychweliad taith gerdded elusennol ar y traeth

    Bydd taith gerdded ar y traeth i godi arian a chynyddu ymwybyddiaeth o hunanladdiad ymhlith pobl ifanc yn dychwelyd i Abertawe cyn diwedd y mis hwn.

  • 26 Hydref 2021
    Astudiaeth yn amlygu effaith amddiffynnol bosib llaeth y fron a hylif amniotig ar amrywiolyn y Coronafeirws ymhlith menywod beichiog a babanod newydd-anedig

    Mae ymchwil gydweithredol newydd gan Brifysgol Abertawe a Phrifysgol Aberdeen wedi nodi effeithiau amddiffynnol posib yn erbyn SARS-CoV-2 yn llaeth y fron a hylif amniotig.

  • 25 Hydref 2021
    Arolwg llesiant diweddaraf yn cynnig cyfle i rannu eich profiadau pandemig

    Mae astudiaeth arloesol sy'n archwilio effaith Covid-19 ar iechyd meddwl a llesiant pobl Cymru yn apelio am ragor o wybodaeth gan y cyhoedd.

  • 23 Hydref 2021
    Arbenigwr ecoleg yn helpu i amlygu effaith andwyol colli bioamrywiaeth yn y DU

    Mae ecolegydd o Brifysgol Abertawe'n rhan o'r tîm sydd wedi creu adnodd ar-lein newydd pwysig sy'n datgelu i ba raddau y mae bioamrywiaeth ardaloedd wedi newid dros amser.

  • 22 Hydref 2021
    Disgyblion yn ennill gwobrau am ddychmygu dyfodol y Brifysgol

    Mae ymrwymiad Prifysgol Abertawe i annog pobl ifanc sy'n frwd dros ddysgu wedi cael ei amlygu unwaith eto yng Ngŵyl Wyddoniaeth Abertawe eleni.

  • 22 Hydref 2021
    Sganio cnydau bwyd o'r awyr yn gallu helpu i'w diogelu yn erbyn clefydau andwyol

    Gallai clefydau enbyd sy'n difetha cnydau bwyd megis coffi, almon, sitrws a gwinwydd – gan gael effeithiau economaidd ac amgylcheddol byd-eang difrifol – gael eu rheoli drwy eu sganio o'r awyr ar raddfa fawr, yn ôl ymchwil gydweithredol newydd y mae Prifysgol Abertawe wedi cyfrannu ati.

  • 22 Hydref 2021
    Datblygu chwaraewyr rygbi – fframwaith newydd Lloegr yn defnyddio arbenigedd gwyddonydd chwaraeon o Brifysgol Abertawe

    Mae fframwaith newydd a lansiwyd gan Undeb Rygbi Lloegr (RFU) i ddatblygu chwaraewyr rygbi ar bob lefel wedi defnyddio arbenigedd gwyddonydd chwaraeon o Brifysgol Abertawe.

  • 21 Hydref 2021
    Adroddiad newydd yn mynnu gweithredu i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd meddwl sy'n wynebu'r gymuned Fyddar

    Yn ôl adroddiad newydd mae pobl fyddar yng Nghymru yn profi anghydraddoldebau iechyd meddwl sylweddol oherwydd bod diffyg gwasanaethau hygyrch, nid oes gwasanaeth iechyd meddwl Byddar arbenigol yng Nghymru a hyfforddiant cyfyngedig am faterion Byddar ar gyfer gweithwyr iechyd a gofal.

  • 19 Hydref 2021
    Arbenigwr iechyd plant yn cyrraedd y rhestr fer am anrhydedd ymchwil o fri

    Mae academydd o Brifysgol Abertawe yn ceisio am wobr genedlaethol am ei gwaith arloesol ym maes iechyd plant ac addysg yn ystod ei PhD.

  • 15 Hydref 2021
    Athro’n dod yn hyrwyddwr aer glân dros Gymru

    Mae arbenigwr o Brifysgol Abertawe wedi cael ei enwi’n un o hyrwyddwyr diweddaraf aer glân y DU.

  • 14 Hydref 2021
    Y Brifysgol yn cael cydnabyddiaeth ddwbl am ei mannau gwyrdd rhagorol

    Mae Prifysgol Abertawe wedi cael ei henwi ymysg mannau gwyrdd gorau'r wlad unwaith eto.

  • 14 Hydref 2021
    Diwrnod y Byd ar gyfer Gweld: helpu pobl â nam ar y golwg ar ôl y pandemig

    Er mwyn nodi Diwrnod y Byd ar gyfer Gweld (14 Hydref), mae adroddiad newydd gan dîm ymchwil o Brifysgol Abertawe wedi datgelu bod pobl dall a rhai sydd â nam ar y golwg yn dal i wynebu rhwystrau sy'n eu hatal rhag gwneud y mwyaf o wasanaethau digidol.

  • 13 Hydref 2021
    Nyrsys dan hyfforddiant o Brifysgol Abertawe yn cystadlu am anrhydeddau o fri

    Mae'r hyfforddiant rhagorol y mae Prifysgol Abertawe'n ei gynnig i nyrsys wedi cael ei amlygu unwaith eto yng Ngwobrau Student Nursing Times.

  • 8 Hydref 2021
    Bragdy cyrfau crefft yn barod i ddefnyddio microalgâu i leihau allyriadau CO2

    Mae biowyddonwyr o Brifysgol Abertawe'n helpu microfragdy yng ngorllewin Cymru i leihau ei allyriadau CO2.

  • 6 Hydref 2021
    Prifysgol Abertawe'n cyhoeddi'r rhaglen ar gyfer Gŵyl Wyddoniaeth Abertawe 2021

    Bydd Prifysgol Abertawe, mewn partneriaeth ag Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, yn cyflwyno Gŵyl Wyddoniaeth Abertawe unwaith eto ym mis Hydref.

  • 5 Hydref 2021
    Chwe phrosiect o Brifysgol Abertawe'n cael rhan o gyllid gwerth £6.5m ar gyfer ymchwil i achub bywydau yng Nghymru

    Mae chwe ymchwilydd o Brifysgol Abertawe wedi cael cyllid drwy Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru (HCRW) i archwilio materion sy'n amrywio o bolisïau diogelwch mewn ysgolion cynradd, i effaith Covid-19 ar bobl sy'n dioddef o epilepsi.

  • 1 Hydref 2021
    CADR yn lansio ei ap cyntaf i gefnogi cynhwysiant digidol pobl hŷn

    Mae'r Ganolfan Ymchwil Heneiddio a Dementia (CADR), yn lansio eu ap cyntaf heddiw i gefnogi Diwrnod Rhyngwladol Pobl Hŷn.

  • 30 Medi 2021
    Gwyddoniaeth Cymru yn arwain y byd wrth fynd i'r afael â'r heriau mwyaf sy'n wynebu'r blaned

    Efallai fod Cymru’n wlad fach, ond rydym yn rhagori o ran ansawdd a swm yr ymchwil a wnawn yma. Mae adroddiad newydd yn tynnu sylw at gryfder penodol gwyddoniaeth yng Nghymru wrth gyfrannu at ymdrechion i gyflawni Nodau Datblygu Cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig. 

  • 30 Medi 2021
    Arweinwyr rhyngwladol cyfredol a chynt i agor Uwch-gynhadledd Heriau Byd-eang Hillary Rodham Clinton

    Mae Prifysgol Abertawe wedi cyhoeddi heddiw (30 Medi) enwau'r siaradwyr a fydd yn cymryd rhan yn niwrnod agoriadol Uwch-gynhadledd Heriau Byd-eang Hillary Rodham Clinton, a gynhelir am y tro cyntaf o 8 i 10 Tachwedd.

  • 23 Medi 2021
    Technoleg Abertawe'n helpu athletwyr blaenllaw o Brydain i lwyddo yn Tokyo

    Gwnaeth athletwyr o Brydain, gan gynnwys enillwyr medalau, ddefnyddio technoleg wisgadwy yn Tokyo a ddyluniwyd gan arbenigwyr o Brifysgol Abertawe, gyda gwresogydd inc carbon argraffedig i gadw eu cyhyrau'n gynnes cyn cystadlu.

  • 21 Medi 2021
    Cwrs newydd i archwilio byd tecstilau'r Hen Aifft

    Archwilio Gyda Mi: Tecstilau a'r Hen Aifft

    Mae'r cwrs 10 wythnos ar gael i bawb a bydd yn archwilio'r dulliau gwahanol o ddylunio tecstilau a oedd yn cael eu defnyddio yn yr Hen Aifft.

  • 21 Medi 2021
    Myfyrwraig o'r Ysgol Feddygaeth yn llwyddo mewn her ysgrifennu uchel ei bri

    Mae menter sy'n ceisio hyrwyddo'r wybodaeth sydd ar gael yn eich fferyllfa leol wedi ysbrydoli myfyrwraig o Brifysgol Abertawe i ennill cystadleuaeth.

  • 21 Medi 2021
    Dim cytundeb ymhlith y cyhoedd ynghylch pigiadau atgyfnerthu o ran Covid-19 na brechu rhag y ffliw

    Mae ymchwil newydd gan arbenigwr o Brifysgol Abertawe wedi tynnu sylw at ddiffyg cytundeb ymhlith y cyhoedd ynghylch pigiadau atgyfnerthu o ran Covid-19 a brechu rhag y ffliw.

  • 17 Medi 2021
    Prifysgol Abertawe'n cyflwyno cwrs am ddim ar gyfer oedolion sy'n ddysgwyr sydd am newid cyfeiriad

    Fel rhan o Wythnos Addysg Oedolion (20 - 26 Medi 2021), bydd Prifysgol Abertawe'n cynnal cwrs am ddim i annog oedolion i fagu sgiliau newydd.

  • 16 Medi 2021
    Cyhoeddi enillydd cyntaf Ysgoloriaeth Goffa Hywel Teifi

    Alpha Evans o Lanbedr Pont Steffan sydd wedi ennill yr Ysgoloriaeth Goffa Hywel Teifi gyntaf, sy’n werth £3,000.

  • 16 Medi 2021
    Prifysgol Abertawe i gynnal cynhadledd entrepreneuriaeth ryngwladol

    Mae Prifysgol Abertawe'n falch o gyhoeddi y byddwn yn cynnal Cynhadledd Addysgwyr Entrepreneuriaeth Ryngwladol (IEEC) 2022. 

  • 15 Medi 2021
    Abertawe'n cadw ei statws ymysg y 25 prifysgol orau yn y DU yn ôl The Guardian University Guide 2022

    Mae Prifysgol Abertawe wedi cadw ei statws ymysg y 25 prifysgol orau yn y DU yn ôl The Guardian University Guide, gan gael ei rhestru yn y 24ain safle yn genedlaethol ac aros ar y brig yng Nghymru yn yr argraffiad diweddaraf ar gyfer 2022, a gyhoeddwyd ddydd Sadwrn 11 Medi.

  • 15 Medi 2021
    Hillary Rodham Clinton i gynnull Uwchgynhadledd Heriau Byd-eang gyda Phrifysgol Abertawe

    Bydd Prifysgol Abertawe yn cynnal Uwchgynhadledd Heriau Byd-eang Hillary Rodham Clinton am y tro cyntaf ym mis Tachwedd.

  • 14 Medi 2021
    Awdures a anwyd yn Abertawe'n ennill Cystadleuaeth Stori Fer Rhys Davies

    Mae Naomi Paulus wedi ennill Cystadleuaeth Stori Fer Rhys Davies 2021 am ei stori Take a Bite, “darn difyr, hiraethus a phleserus” sy'n amlinellu profiad menyw ifanc, Rhian, wrth iddi ddychwelyd adref i leisiau ac arferion ei mam a'i modrybedd ar gyfer digwyddiad teuluol pwysig.

  • 10 Medi 2021
    Y Brifysgol yn sicrhau lleoedd ychwanegol i hyfforddi rhagor o fyfyrwyr meddygaeth

    Mae Prifysgol Abertawe wedi cael cyfle i gynnig lleoedd ychwanegol ar ei rhaglen Meddygaeth i Raddedigion fel rhan o fuddsoddiad gan Lywodraeth Cymru i gynyddu nifer y meddygon sy'n cael eu hyfforddi yng Nghymru.

  • 10 Medi 2021
    Gwobrau uchel eu bri’n cynnwys un o raddedigion Prifysgol Abertawe ar restr fer

    Mae'r British Council wedi enwi Dr Daniel Bassey, un o gyn-fyfyrwyr Prifysgol Abertawe, ar restr fer un o wobrau Study UK i gyn-fyfyrwyr ar gyfer 2021.

  • 9 Medi 2021
    Astudiaeth yn dangos pwysigrwydd rhyngweithio cymdeithasol i bobl ifanc yng Nghymru

    Mae cyfyngiadau'r pandemig wedi amharu ar addysg a gweithgarwch corfforol pobl ifanc, ynghyd â'u cyfleoedd i gymdeithasu, er mai hwy sy'n wynebu'r perygl lleiaf o gael eu heintio â Covid-19 a dioddef yr effeithiau iechyd negyddol, yn ôl y sôn.

  • 8 Medi 2021
    Myfyrwraig PhD o’r Brifysgol wedi'i henwi'n un o'r 50 o Fenywod Gorau mewn Peirianneg

    Mae Caitlin McCall, sy'n fyfyrwraig PhD mewn Peirianneg ym Mhrifysgol Abertawe, wedi'i henwi'n un o'r 50 o Fenywod Gorau mewn Peirianneg  (WE50) gan Gymdeithas Peirianneg y Menywod(WES).

  • 7 Medi 2021
    Cyllid gwerth £700,000 i ehangu hyfforddiant meddygaeth gofal sylfaenol yng ngorllewin Cymru

    Mae menter gan Brifysgol Abertawe sy'n ymrwymedig i greu gweithwyr meddygol proffesiynol y genhedlaeth nesaf yng Nghymru wedi cael hwb mawr gan Lywodraeth Cymru.

  • 7 Medi 2021
    “Fy hoff ddiwrnod erioed” – Academi STEM Technocamps yn difyrru ac yn ysbrydoli disgyblion ar ôl i'r ysgolion gau

    Fel rhan o Academi STEM Technocamps yr haf hwn, gwnaeth y prosiect allgymorth a ariennir gan Lywodraeth Cymru gynnal wythnos llawn gweithgareddau difyr yn Abertawe i ysbrydoli, ysgogi ac ennyn brwdfrydedd pobl ifanc mewn pynciau STEM (gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg).

  • 7 Medi 2021
    Malaria adar yn lledaenu drwy fannau problemus byd-eang

    Mae rhywogaethau o adar ledled y byd yn dioddef ac yn marw o fath o falaria ac, er nad yw'r straeniau'n heintus i bobl, maent yn lledaenu'n gyflym drwy fannau heintio problemus byd-eang.

  • 3 Medi 2021
    Bywyd gwyllt yn ffynnu mewn gardd gymunedol newydd

    Mae gardd gymunedol a grëwyd drwy gymorth biowyddonwyr o Brifysgol Abertawe wedi blodeuo i fod yn atyniad mawr i fywyd gwyllt. 

  • 2 Medi 2021
    Lleihau cysylltiadau uniongyrchol yn lleihau'r risg o ledaenu Covid-19 ac yn cadw ysgolion ar agor

    Mae'r tebygolrwydd o gael achosion o Covid-19 a symptomau hunangofnodedig, megis anwydau, mewn ysgol yn cynyddu yn unol â nifer y cysylltiadau uniongyrchol rhwng staff ysgol gynradd a phobl y tu allan i'w haelwyd. 

  • 1 Medi 2021
    Cau'r bwlch ymgysylltu ag addysg i ofalwyr ifanc yn allweddol i wella iechyd a llesiant cenedlaethau’r dyfodol

    Mewn cydweithrediad â Phrifysgol Abertawe, mae astudiaeth newydd, a gyhoeddwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru heddiw yn rhoi tystiolaeth o’r effaith negyddol y mae cyfrifoldebau gofalu yn ei chael ar gymryd rhan mewn addysg ymhlith y rhai 16 i 22 oed, a sut y mae hyn yn cael yr effaith fwyaf ar y rhai sy'n byw yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig.

  • 24 Mai 2022
    Arbenigwyr Abertawe'n flaenllaw wrth ymchwilio i feini prawf cymhwystra athletwyr trawsryweddol a DSD

    Mae athletwyr o'r radd flaenaf sy'n drawsryweddol, fel Laurel Hubbard, a wnaeth godi pwysau dros Seland Newydd yn y Gemau Olympaidd, neu sy'n wahanol o ran eu datblygiad rhywiol (DSD), fel Caster Semenya, sydd wedi rhedeg dros Dde Affrica, wedi cael sylw byd-eang.

  • 25 Awst 2021
    Astudiaeth newydd yn datgelu bod gwenwyn wedi cyfrannu at amrywiaeth rhywogaethau pryfed a physgod

    Mae amrywiaeth anhygoel pryfed a physgod, sef y grwpiau o greaduriaid di-asgwrn-cefn a fertibratau â'r nifer mwyaf o rywogaethau ym myd anifeiliaid, yn deillio'n rhannol o darddiad gwenwyn, yn ôl astudiaeth newydd o'u hesblygiad.

  • 18 Awst 2021
    Hwb i ymchwil cipio carbon

    Cafwyd hwb i ymchwil gwyddonwyr yn Sefydliad Ymchwil Diogelu Ynni Prifysgol Abertawe ar atebion i’r newid yn yr hinsawdd trwy dderbyn cyllid gan Ganolfan Ymchwil Cipio a Storio Carbon y Deyrnas Unedig (UKCCSRC).

  • 17 Awst 2021
    604,000 o alwadau 999 yn ystod ton gyntaf Covid-19, gyda gofal yn amrywio'n fawr ledled y DU – arolwg ambiwlans cenedlaethol

    Roedd mwy na 600,000 o alwadau 999 brys yn ystod ton gyntaf y pandemig yn ymwneud ag achosion posib o Covid-19. Anfonwyd ambiwlansys mewn oddeutu 80% o'r achosion a chludwyd 43% o'r cleifion i'r ysbyty, yn ôl arolwg mawr newydd o wasanaethau ambiwlans yn y DU.

  • 15 Awst 2021
    COVID-19: Prifysgol Abertawe yn cyflwyno canllawiau ar gyfer teithio’n ddiogel mewn ceir

    Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Abertawe wedi cyflwyno canllaw cam wrth gam i leihau cysylltiad â’r coronafeirws wrth deithio mewn car, gan gynnwys cyngor pwysig a fydd yn eich synnu ar agor ffenestri.

  • 13 Awst 2021
    Profwyd bod ymatebwyr cyntaf a staff y GIG yn fwy gwydn yn ystod diwrnodau cyntaf y pandemig

    Mae astudiaeth newydd wedi datgelu bod ymatebwyr cyntaf a gweithwyr gofal iechyd wedi profi lefelau is o drallod seicolegol na'r boblogaeth gyffredinol yn ystod y cyfnod clo cyntaf.

  • 13 Awst 2021
    Algorithm newydd sy'n gallu helpu i ddylunio deunyddiau cellog yn well

    Mae ymchwil newydd a gyhoeddwyd yn Scientific Reports wedi datgelu bod algorithm syml ond cadarn yn gallu helpu peirianwyr i ddylunio'n well y deunyddiau cellog a ddefnyddir at ddibenion sy'n amrywio o amddiffyn a biofeddygaeth i adeileddau clyfar a'r sector awyrofod.

  • 6 Awst 2021
    Diffyg cytundeb ymhlith y cyhoedd am frechiadau Covid-19 i blant

    Mae ymchwil newydd gan arbenigwr ym Mhrifysgol Abertawe wedi amlygu i ba raddau mae aelodau o'r cyhoedd yn anghytuno am gynnig brechiadau Covid-19 i blant ai peidio.  

  • 4 Awst 2021
    Myfyriwr yn ennill £1,000 drwy gynllun Santander i gefnogi ei fusnes gemau cyfrifiadurol llawrydd

    Mae myfyriwr yn ei flwyddyn gyntaf sydd hefyd yn gweithio fel cymedrolwr gemau llawrydd wedi ennill cyllid gwerth £1,000 drwy gynllun gweithwyr llawrydd Santander yn y DU er mwyn helpu i gefnogi ei waith.

  • 2 Awst 2021
    Fideo blaengar newydd i addysgu plant am bysgod sy'n mudo

    Mae tîm rhyngwladol dan arweiniad Prifysgol Abertawe wedi creu ffordd wahanol o addysgu pobl ifanc am bysgod sy'n mudo. 

  • 3 Awst 2021
    Ysgoloriaeth i gefnogi gwaith ymchwilydd cemeg a all helpu i wella technoleg gynaliadwy

    Dyfarnwyd ysgoloriaeth i gefnogi gwaith ymchwilydd cemeg o Brifysgol Abertawe ar foleciwlau o'r enw radicalau, a allai helpu i wella effeithlonrwydd a pherfformiad technolegau megis celloedd solar a batris.

  • 30 Gorffennaf 2021
    Gofal iechyd yn yr awyr agored ac ysbytai mwy gwyrdd – tîm o Abertawe i werthuso'r buddion

    Mae ymchwilwyr o'r Ysgol Seicoleg wedi sicrhau cyllid i archwilio buddion iechyd posib creu ysbytai ecogyfeillgar cynaliadwy a rhoi gofal iechyd yn yr awyr agored.

  • 29 Gorffennaf 2021
    Arbenigwyr Abertawe i werthuso ffyrdd newydd o helpu pobl sy'n dioddef o Covid hir

    Caiff rhaglenni adfer iechyd personol eu llunio ar gyfer cleifion sy'n dioddef o Covid hir fel rhan o brosiect ymchwil newydd ar y cyd ag economegwyr iechyd o Brifysgol Abertawe, sydd newydd sicrhau cyllid gwerth £1.1m drwy lywodraeth y DU.

  • 27 Gorffennaf 2021
    Bioargraffu celloedd dynol ar ffurf 3D yn rhan o waith ymchwil arloesol gwerth £2.5m yn y Brifysgol

    Mae rhaglen ymchwil o’r radd flaenaf sy’n werth o leiaf £2.5m i weddnewid gallu llawfeddygon i adlunio cartilag trwyn a chlustiau cleifion sy'n byw gyda gwahaniaeth wynebol wedi cael ei lansio ym Mhrifysgol Abertawe. 

  • 27 Gorffennaf 2021
    Prifysgol Abertawe yn cyfrannu at arlwy ar-lein Eisteddfod AmGen 2021

    Mae Prifysgol Abertawe yn noddi'r Babell Lên ac yn cyfrannu sawl sesiwn ar-lein fel rhan o raglen Eisteddfod AmGen 2021.

  • 26 Gorffennaf 2021
    AgorIP yn helpu i gyflwyno cyfres o lyfrau gan seicolegydd i gynulleidfa ehangach

    Mae cyfres o lyfrau i helpu i ddiwallu anghenion seicolegol pobl sy'n byw gyda diabetes wedi cael hwb mawr gan arbenigwyr ym Mhrifysgol Abertawe. 

  • 22 Gorffennaf 2021
    Fferyllydd sy'n frwd dros newid gofal iechyd yn ennill ysgoloriaeth uchel ei bri

    Mae fferyllydd a fagwyd mewn cymuned lle roedd mynediad at gyflenwadau gofal iechyd sylfaenol yn rhywbeth moethus wedi sicrhau ysgoloriaeth i astudio ymhellach ym Mhrifysgol Abertawe.

  • 18 Gorffennaf 2021
    Technegau synhwyro o bell yn helpu i drin a rheoli coedwigoedd cau

    Gall defnyddio technegau synhwyro datblygedig o bell helpu i ddatgelu dirywiad derw'n gynnar a rheoli llawer o glefydau eraill sy'n effeithio ar goedwigoedd ledled y byd, yn ôl ymchwil newydd gan Brifysgol Abertawe.

  • 16 Gorffennaf 2021
    Myfyriwr o Brifysgol Abertawe'n cyfweld â mawrion rygbi ac yn helpu pobl eraill i gyflawni eu nodau

    Pan adawodd Robert Yarr yr ysgol uwchradd, roedd yn gweld mynd i brifysgol fel mater o reidrwydd yn unig. Fodd bynnag, gyda chymorth Academi Cyflogadwyedd Abertawe, mae ef wedi cael astudio wrth feithrin ei frwdfrydedd dros newyddiaduraeth chwaraeon.

  • 16 Gorffennaf 2021
    Her ddifyr i deuluoedd yn helpu'r gymuned i archwilio amgylcheddau tanddwr

    Drwy gydol mis Gorffennaf, mae creadigaethau FIRE Lab sy'n cyfuno celf a gwyddoniaeth, sef Underwater Realm, yn cael eu harddangos yn y caffi Square Peg yn Abertawe, gan ddynodi man cychwyn helfa codau QR ledled y ddinas.

  • 16 Gorffennaf 2021
    Prifysgol Abertawe yn y 12fed safle yn y DU am foddhad myfyrwyr

    Mae Prifysgol Abertawe wedi cyrraedd y 12fed safle am foddhad cyffredinol myfyrwyr yn Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr (NSS) 2021.

  • 15 Gorffennaf 2021
    Arwyddion gobeithiol ynghylch iechyd meddwl arddegwyr er bod unigrwydd a gorbryder yn helaeth o hyd

    Mae'n ymddangos bod llacio'r cyfyngiadau symud wedi helpu iechyd meddwl llawer o arddegwyr ym Mhrydain, ond mae unigrwydd a gorbryder yn hynod gyffredin o hyd, yn ôl gwaith ymchwil newydd gan y Sefydliad Iechyd Meddwl a Phrifysgol Abertawe.

  • 14 Gorffennaf 2021
    Gwlyptiroedd arfordirol naturiol yn amddiffyn rhag llifogydd yn well na'r disgwyl, yn ôl ymchwil newydd i forydau

    Mae astudiaeth newydd wedi datgelu bod gwlyptiroedd arfordirol – megis morfeydd heli – yn amddiffyn rhag llifogydd hyd yn oed yn well na'r disgwyl, gan leihau'r perygl i bobl a chartrefi mewn morydau.

  • 13 Gorffennaf 2021
    David Suchet yn chwarae'r brif ran yn nrama newydd athro o Brifysgol Abertawe

    Mae Syr David Suchet, seren y gyfres deledu enwog Poirot, yn chwarae'r brif ran mewn drama newydd sydd wedi cael ei hysgrifennu gan Gyfarwyddwr Ysgrifennu Creadigol Prifysgol Abertawe, yr Athro David Britton.

  • 13 Gorffennaf 2021
    Astudiaeth newydd yn cyflwyno ateb ar gyfer adeiladu deunyddiau cellog

    Mae astudiaeth newydd gan academydd o Brifysgol Abertawe wedi cyhoeddi fformiwla fathemategol newydd a fydd yn helpu peirianwyr i asesu'r pwynt pan fo deunyddiau cellog, a ddefnyddir at amrywiaeth eang o ddibenion, o awyrofod i'r diwydiant adeiladu, yn plygu ac yn ildio.

  • 12 Gorffennaf 2021
    Rhyddhau adroddiad am effaith y pandemig ar y Gymraeg

    Mae Academi Hywel Teifi Prifysgol Abertawe wedi cyhoeddi adroddiad dilynol i’w chynhadledd ‘Gofid neu Gyfle: Y Gymraeg yn y “Normal Newydd”’, a gynhaliwyd ym mis Mawrth eleni.

  • 9 Gorffennaf 2021
    Yr addysgwr cyntaf o'r DU i ennill gwobr uchel ei bri ym maes cyfrifiadura

    Mae academydd o Brifysgol Abertawe wedi ennill anrhydedd dwbl oherwydd ei arbenigedd wrth addysgu systemau gwybodaeth.

  • 9 Gorffennaf 2021
    Myfyrwraig o Brifysgol Abertawe'n helpu i hyrwyddo cydraddoldeb hiliol yng Nghymru

    Mae myfyrwraig o Brifysgol Abertawe'n dweud ei dweud am ei phrofiadau ei hun o hiliaeth er mwyn helpu i sicrhau bod Cymru'n lle gwell i fyw ynddo.

  • 9 Gorffennaf 2021
    Lansio cyfres ffilmiau newydd sy'n archwilio'r heriau y mae Cymru'n eu hwynebu

    Bydd cyfres ffilmiau dogfen newydd sy'n archwilio'r heriau y mae Cymru'n eu hwynebu, gan ddefnyddio ymchwil academaidd, yn cael ei lansio mewn digwyddiad rhithwir – a fydd yn agored i bawb – gan un o weinidogion Cabinet Llywodraeth Cymru.

  • 7 Gorffennaf 2021
    Gŵyl yn dychwelyd ar-lein i rannu rhyfeddodau gwyddoniaeth

    Bydd gwyddonwyr o Brifysgol Abertawe'n rhannu eu harbenigedd gyda'r gymuned mewn penwythnos arbennig llawn digwyddiadau ar-lein.

  • 7 Gorffennaf 2021
    Prosiect celf digidol unigryw'n cael ei ddangos mewn oriel yn y ddinas

    Mae prosiect celf y Brifysgol sy'n mynd ati i dynnu sylw at y cysylltiad rhwng celf a gwyddoniaeth yn rhan o arddangosfa newydd yn Oriel Mission yn Abertawe.

  • 5 Gorffennaf 2021
    Ymchwil myfyrwraig PhD i sglerosis ymledol yn ennill cystadleuaeth Thesis Tair Munud Prifysgol Abertawe

    Mae myfyrwraig PhD o Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe wedi ennill cystadleuaeth Thesis Tair Munud (3MT) Prifysgol Abertawe.

  • 5 Gorffennaf 2021
    Oriel Science yn croesawu ymweliad cyntaf gan ysgol â'i lleoliad arddangos newydd

    Mae Oriel Science Prifysgol Abertawe wedi croesawu'r ysgol gyntaf i ymweld â'i lleoliad arddangos newydd yng nghanol y ddinas.

  • 2 Gorffennaf 2021
    Myfyriwr o Brifysgol Abertawe a thechnolegwyr yn helpu Stryd Downing i lansio ymgyrch sero-net

    Ar 4 Mehefin 2021, gwnaeth yr arbenigwyr technoleg o Lanelli Vindico ICS Ltd gynrychioli busnesau bach yn Stryd Downing i lansio Together for Our Planet, ymgyrch genedlaethol a gyflwynir ledled y DU yn ystod y cyfnod cyn Cynhadledd y Cenhedloedd Unedig ar Newid yn yr Hinsawdd (COP26) ym mis Tachwedd.

  • 2 Gorffennaf 2021
    Prifysgol Abertawe'n penodi Cofrestrydd a Phrif Swyddog Gweithredu Interim

    Mae Prifysgol Abertawe wedi cyhoeddi bod Niamh Lamond wedi cael ei phenodi i'r swydd Cofrestrydd a Phrif Swyddog Gweithredu Interim. 

  • 1 Gorffennaf 2021
    Contractau newydd yn sicrhau lle canolog y Brifysgol ym maes addysg gofal iechyd Cymru yn y dyfodol

    Bydd Prifysgol Abertawe'n parhau i gyflawni rôl allweddol wrth hyfforddi gweithlu gofal iechyd y dyfodol dros y degawd nesaf.

  • 1 Gorffennaf 2021
    Prifysgol Abertawe yn croesawu Dirprwy Is-ganghellor newydd i ganolbwyntio ar faterion rhyngwladol

    Bydd Prifysgol Abertawe yn croesawu'r Athro Judith Lamie i'w huwch-dîm arweinyddiaeth fel Dirprwy Is-ganghellor newydd â chyfrifoldeb am bortffolio rhyngwladol y brifysgol.

  • 30 Mehefin 2021
    Prifysgol Abertawe'n cynnal digwyddiad am ddim i annog oedolion i ddechrau ar drywydd addysg uwch

    Cynhelir digwyddiad am ddim a fydd yn dangos yr hyn y gallai addysg mewn prifysgol ei gynnig yng nghanol dinas Abertawe ddydd Mawrth, 6 Gorffennaf.

  • 29 Mehefin 2021
    Technoleg a phartneriaethau newydd i helpu gwyddonwyr sy'n wynebu heriau byd-eang difrifol

    Bydd Prifysgol Abertawe a Diamond Light Source yn manteisio ar dechnoleg pelydru nanoronynnau arloesol.

  • 29 Mehefin 2021
    Cyhoeddi rhestr fer Cystadleuaeth Stori Fer Rhys Davies

    Mae awdur i blant, enillydd cyntaf Gwobr Awduron Ifanc y BBC, ac enillydd blaenorol Gwobr Ryngwladol Colm Tóibín ymhlith y 12 awdur sydd wedi cyrraedd rhestr fer Cystadleuaeth Stori Fer Rhys Davies 2021.

  • 28 Mehefin 2021
    Ffaroaid, siarcod crocodeil a baw pryfed – enillwyr cystadleuaeth Ymchwil fel Celf 2021 wedi'u cyhoeddi

    Mae 17 o luniau trawiadol, a'r straeon difyr sydd y tu ôl iddynt – darganfyddiad annisgwyl y tu mewn i siarc crocodeil, rhewlifoedd Antarctig sy'n symud, a defnyddio baw pryfed mewn ffyrdd anrhagweledig – wedi cael eu datgelu heddiw fel enillwyr cystadleuaeth Ymchwil fel Celf 2021.

  • 24 Mehefin 2021
    Prifysgol Abertawe'n cynnal cynhadledd ryngwladol fawr ar gerfluniau a chofebion

    Ym mis Mehefin 2020, gwnaeth protestwyr ddymchwel cerflun o'r caethfasnachwr Edward Colston o'i blinth ym Mryste, gan ysgogi trafodaethau am gerfluniau dadleuol a gafodd gryn sylw yng Nghymru ac ym mhedwar ban byd. Flwyddyn yn ddiweddarach, y materion hynny fydd prif destun cynhadledd ryngwladol fawr sydd wedi cael ei threfnu gan academyddion ym Mhrifysgol Abertawe.

  • 23 Mehefin 2021
    Prifysgol Abertawe'n cipio gwobr arian Whatuni am Amrywiaeth a Chynhwysiant

    Mae Prifysgol Abertawe wedi cael ei chydnabod am ei rhagoriaeth o ran amrywiaeth a chynhwysiant yn ystod y pandemig, wrth iddi ennill gwobr arian yng Ngwobrau Dewis Myfyrwyr Whatuni 2021.

  • 23 Mehefin 2021
    Rhwydwaith ymchwil peirianneg Cymru gyfan yn sicrhau cyllid i barhau â'i waith

    Mae rhwydwaith ymchwil Cymru gyfan mewn peirianneg a deunyddiau uwch, dan arweiniad athro peirianneg o Brifysgol Abertawe, wedi cael cyllid am yr eildro a fydd yn ei alluogi i barhau â'i waith am ddwy flynedd arall.

  • 23 Mehefin 2021
    Pandemig COVID-19: Adroddiad newydd yn nodi arferion arloesol y GIG

    Adroddiad yn cyfleu’r gwersi a’r arferion arloesol sy’n dod i’r amlwg ar draws GIG Cymru mewn ymateb i bandemig COVID-19.

  • 22 Mehefin 2021
    Gwella palmantau ffordd asffalt gyda nanoronynnau wedi'u peiriannu

    Mae asffalt cymysgedd cynnes (WMA) wrthi'n denu sylw yn y diwydiant asffalt fel technoleg eco-gyfeillgar a chynaliadwy.

  • 21 Mehefin 2021
    Arwr pêl-droed yn rhannu profiad ymarferol o fyw gyda diabetes mewn sesiwn holi ac ateb ar-lein

    Bydd Jordan Morris, pêl-droediwr rhyngwladol o'r Unol Daleithiau a fu gynt yn un o sêr clwb Dinas Abertawe, yn ymuno â Phrifysgol Abertawe i drafod sut mae'n cydbwyso gyrfa ar y brig ym maes chwaraeon â gofynion diabetes math 1. 

  • 18 Mehefin 2021
    Gwaith mathemategydd o Brifysgol Abertawe yn cael ei gyhoeddi mewn cyfnodolyn uchel ei fri

    Mae papur gan Grigory Garkusha o Brifysgol Abertawe newydd gael ei gyhoeddi gan un o’r cyfnodolion mathemateg uchaf ei fri yn y byd. 

  • 15 Mehefin 2021
    Yr Ysgol Feddygaeth yn barod i groesawu myfyrwyr wrth i bartneriaeth â Chanada dyfu

    Mae Prifysgol Abertawe'n adeiladu ar ei gwaith cydweithredol llwyddiannus gyda Phrifysgol Trent yng Nghanada drwy lansio cyfle ychwanegol i astudio ar ddwy ochr yr Iwerydd. 

  • 14 Mehefin 2021
    Squirty Voter: Ffordd flaengar o gasglu adborth y cyhoedd sy'n cydymffurfio â chyfyngiadau Covid-19

    Mae ymchwilwyr yn Ffowndri Gyfrifiadol Prifysgol Abertawe wrthi'n rhannu dyfais newydd, rad sy'n cyfuno cysyniad peiriant pleidleisio cyhoeddus traddodiadol â chyfleuster diheintio dwylo awtomatig.

  • 11 Mehefin 2021
    Anrhydeddu darlithydd am ei gyfraniad eithriadol at addysgu ffarmacoleg

    Mae academydd o Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe wedi cael ei anrhydeddu am ei ddulliau addysgu arloesol a'i gyfraniad at y maes. 

  • 10 Mehefin 2021
    Lansio partneriaeth newydd â Phrifysgol Canberra mewn Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer Corff

    Mae arbenigwyr gwyddorau chwaraeon ac ymarfer corff o Brifysgol Abertawe a Phrifysgol Canberra yn Awstralia wedi lansio partneriaeth swyddogol i gydweithredu ar ymchwil, addysgu a chyfnewid myfyrwyr.

  • 10 Mehefin 2021
    Prifysgol Abertawe'n dringo i'r 440fed safle yn rhestr 2022 QS o brifysgolion gorau'r byd

    Mae Prifysgol Abertawe wedi dringo i'r 440fed safle yn y rhestr ddiweddaraf o brifysgolion gorau'r byd a gyhoeddwyd gan y corff mwyaf blaenllaw ym maes graddio prifysgolion. Mae hi wedi dringo mwy o safleoedd nag unrhyw brifysgol arall yng Nghymru eleni.

  • 9 Mehefin 2021
    Prifysgol Abertawe'n cyrraedd 30 uchaf prif dabl y Complete University Guide

    Mae Prifysgol Abertawe wedi dringo i'w safle uchaf erioed yn nhablau cynghrair 2022 y Complete University Guide – gan gyrraedd y 30 uchaf.

  • 9 Mehefin 2021
    Arolwg i archwilio iechyd a lles penaethiaid ac uwch aelodau staff arwain yn ystod Covid-19

    Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Abertawe yn galw ar benaethiaid ac uwch aelodau staff arwain i lenwi arolwg ynglŷn â’u profiadau yn ystod y pandemig Covid-19.

  • 7 Mehefin 2021
    Rôl allweddol arbenigwr ecodwristiaeth yn uwchgynhadledd rithwir Diwrnod Cefnforoedd y Byd

    Bydd Carl Cater, arbenigwr ecodwristiaeth Prifysgol Abertawe, yn cymryd rhan mewn digwyddiad byd-eang i nodi Diwrnod Cefnforoedd y Byd y Cenhedloedd Unedig ddydd Mawrth, 8 Mehefin. 

  • 6 Mehefin 2021
    Rhaglen rithwir am ddim i drafod dulliau creadigol o ymdrin â'r argyfwng hinsawdd

    Bydd Canolfan y Celfyddydau Taliesin yn cyflwyno Newid Popeth, cyfres o drafodaethau a digwyddiadau a fydd yn archwilio rôl creadigrwydd, meddylfryd addasol ac adrodd straeon wrth oresgyn heriau’r argyfwng hinsawdd.

  • 4 Mehefin 2021
    Myfyrwyr yn gwirfoddoli i greu pecynnau pwrpasol i roi cymorth i'r gymuned leol yn ystod y pandemig

    Fel rhan o'u hymrwymiad i roi cymorth allweddol drwy gydol y pandemig, mae myfyrwyr o Brifysgol Abertawe wedi gwirfoddoli i greu pecynnau gweithgareddau i blant, pobl ifanc ac oedolion anabl yn y gymuned.

  • 4 Mehefin 2021
    Ymchwil newydd i'r posibilrwydd y gallai te gwyrdd helpu i fynd i'r afael â Covid-19

    Wrth i'r pandemig barhau i gael effaith andwyol ar India, mae academydd o Brifysgol Abertawe'n ymchwilio i'r posibilrwydd y gallai te gwyrdd esgor ar gyffur i fynd i'r afael â Covid-19.

  • 4 Mehefin 2021
    Tiwtoriaid yn rhoi profiad ymarferol i fyfyrwyr peirianneg heb iddynt fynd i'r labordy

    Er nad oes modd iddynt fynd i'r labordy oherwydd Covid-19, mae myfyrwyr peirianneg wedi bod yn cael profiad ymarferol hanfodol, diolch i becynnau labordy cartref sydd wedi cael eu datblygu a'u hanfon gan eu darlithwyr.

  • 4 Mehefin 2021
    Prifysgol Abertawe'n parhau i noddi blaen crysau'r Elyrch yn ystod tymor 2021-22

    Bydd Prifysgol Abertawe'n parhau i noddi blaen crysau clwb pêl-droed Dinas Abertawe yn ystod tymor 2021-22.

  • 3 Mehefin 2021
    Ymchwil gwyddonwyr o Brifysgol Abertawe sy'n ymwneud â Covid-19

    Mae arbenigwyr o Brifysgol Abertawe'n helpu i feithrin dealltwriaeth ehangach o ymchwil sy’n ymwneud â Covid-19 yn ogystal â'r pwyslais pwysig ar frechlynnau. 

  • 28 Mai 2021
    Dyfarnwyd ysgoloriaeth MBA £20,000 i fyfyriwr rhagorol

    Mae myfyriwr o Jamaica wedi curo 40 o fyfyrwyr gobeithiol eraill i ennill ysgoloriaeth lawn gwerth £20,000 i astudio ym Mhrifysgol Abertawe.

  • 27 Mai 2021
    Athro'n cael ei benodi'n bennaeth newydd corff sy'n cynghori Llywodraeth y DU

    Mae gwyddonydd blaenllaw o Brifysgol Abertawe wedi cael ei benodi'n bennaeth pwyllgor cynghori allweddol gan Matt Hancock, Ysgrifennydd Iechyd Llywodraeth y DU.

     

  • 26 Mai 2021
    Astudiaeth yn taflu goleuni newydd ar y cysylltiad rhwng pwysau Covid-19 a meddyliau am hunanladdiad

    Mae ymchwil newydd wedi egluro ymhellach effaith Covid-19 a'r cyfyngiadau symud ar iechyd meddwl a lles pobl yng Nghymru. 

  • 26 Mai 2021
    Prifysgol Abertawe yn cyhoeddi arlwy Gwyddonle-T 2021

    Mae Prifysgol Abertawe yn noddi a chydlynu un o brif atyniadau Eisteddfod-T yr Urdd unwaith eto eleni, sef llwyfan GwyddonLe, gan gynnig cyfres o ddigwyddiadau byw, adnoddau, a fideos o weithgareddau addysgiadol difyr i’r teulu cyfan. 

  • 24 Mai 2021
    Seren Hollywood Michael Sheen yn ymuno â rhaglen digwyddiadau Prifysgol Abertawe yng Ngŵyl y Gelli

    Bydd Prifysgol Abertawe'n cyflwyno cyfres o ddigwyddiadau yng Ngŵyl y Gelli eleni, pan ddaw llenorion a darllenwyr at ei gilydd ar gyfer llu o sgyrsiau, trafodaethau, gweithdai a pherfformiadau ar-lein ysbrydoledig o ddydd Mercher 26 Mai i ddydd Sul 6 Mehefin.

  • 20 Mai 2021
    Astudiaeth yn datgelu'r ffactorau sy'n peri i bobl oedi cyn cael eu brechu

    Mae astudiaeth gan ymchwilwyr o Brifysgol Abertawe'n dangos bod damcaniaethau cynllwyn, drwgdybiaeth o'r llywodraeth a siambrau adlais ynghylch Covid-19 ymysg y ffactorau sy'n peri i bobl oedi cyn cael eu brechu. 

  • 19 Mai 2021
    Gan bwyll – taith colomen adref yn datgelu ei phatrymau hedfan

    Sut mae un golomen yn cyrraedd adref? A yw'n dewis y llwybr cyflymaf, hawsaf neu fwyaf diogel?

  • 19 Mai 2021
    Creu celloedd solar mewn modd mwy gwyrdd a diogel

    Mae gwyddonwyr yng Nghanolfan Arloesi a Gwybodaeth SPECIFIC ym Mhrifysgol Abertawe wedi darganfod ffordd o greu technoleg solar y genhedlaeth nesaf heb y toddyddion gwenwynig ac anghynaliadwy y mae eu hangen ar hyn o bryd.

  • 19 Mai 2021
    Cymdeithas Ddysgedig Cymru yn anrhydeddu dau academydd o Brifysgol Abertawe

    Mae dau academydd o Brifysgol Abertawe ymhlith enillwyr diweddaraf medalau Cymdeithas Ddysgedig Cymru, a gyhoeddwyd yng nghyfarfod cyffredinol blynyddol y gymdeithas ddydd Mercher, 19 Mai.

  • 18 Mai 2021
    Myfyrwyr Prifysgol Abertawe yn llunio Neges Heddwch ac Ewyllys Da 2021 yr Urdd

    Mae grŵp o fyfyrwyr o Brifysgol Abertawe wedi llunio Neges Heddwch ac Ewyllys Da yr Urdd eleni, sydd wedi’i seilio ar y thema ‘Cydraddoldeb i Ferched’.

  • 17 Mai 2021
    Ymchwilwyr yn datgelu adnodd newydd i helpu i atal achosion o hunanladdiad

    Mae tîm o academyddion o Gymru wedi datblygu dull newydd o helpu gweithwyr iechyd proffesiynol i wneud penderfyniadau clinigol ynghylch pobl a all fod mewn perygl o ladd eu hunain. 

  • 17 Mai 2021
    Oriel Science Prifysgol Abertawe'n agor lleoliad newydd yng nghanol y ddinas

    Mae Oriel Science Prifysgol Abertawe yn ôl mewn lleoliad arddangos newydd yng nghanol dinas Abertawe a fydd yn agor ddydd Sadwrn 22 Mai.

  • 14 Mai 2021
    Arbenigwyr y DU yn ardystio safon uchel gradd meistr Prifysgol Abertawe mewn Seiberddiogelwch

    Mae safon cwrs MSc Prifysgol Abertawe mewn Seiberddiogelwch wedi cael ei hardystio’n swyddogol gan gorff arbenigol mwyaf blaenllaw'r maes yn y DU, y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol (NCSC), sy'n rhan o Bencadlys Cyfathrebu Llywodraeth y DU.

  • 14 Mai 2021
    Dylan Thomas: miloedd o eitemau'n rhan o archif ddigidol ar-lein newydd

    Mae casgliad digidol llawn llawysgrifau, nodiaduron a ffotograffau sy'n gysylltiedig â'r llenor o Gymru Dylan Thomas ar gael am ddim ar-lein bellach, diolch i gydweithrediad rhyngwladol.

  • 13 Mai 2021
    Raven Leilani yn ennill Gwobr Dylan Thomas Prifysgol Abertawe 2021 am ei nofel 'feiddgar' gyntaf, Luster

    Mae Raven Leilani o Efrog Newydd wedi ennill un o'r gwobrau llenyddol mwyaf yn y byd ar gyfer llenorion ifanc – Gwobr Dylan Thomas Prifysgol Abertawe – am ei chyfrol gyntaf ‘feiddgar’, Luster, nofel afaelgar, bryfoclyd a phoenus o ddoniol am y profiad o fod yn fenyw ddu a ddaeth i oed ers dechrau'r mileniwm yn America.

  • 13 Mai 2021
    Abertawe ar flaen y gad wrth i ganolfan ymchwil iechyd meddwl newydd gael ei lansio

    Mae gan Brifysgol Abertawe rôl flaenllaw mewn consortiwm newydd ledled y DU i ddod â data iechyd meddwl allweddol ynghyd.

  • 11 Mai 2021
    Ymchwil yn datgelu ymagwedd newydd at ddeall ein lles

    Mae'r gallu i gysylltu â phobl a meithrin ymdeimlad o berthyn yn anghenion dynol sylfaenol ond mae ymchwil newydd gan Brifysgol Abertawe wedi archwilio sut mae'r rhain yn deillio o fwy na'n perthnasoedd personol yn unig.  

  • 11 Mai 2021
    Arbenigwr o Brifysgol Abertawe i gadeirio Grŵp Cynghori Arbenigol WADA ar Foeseg  

    Mae'r Asiantaeth Ryngwladol i Atal Camddefnyddio Cyffuriau mewn Chwaraeon (WADA) wedi cyhoeddi bod yr Athro Michael McNamee o'r Ysgol Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer Corff wedi cael ei benodi'n Gadeirydd Grŵp Cynghori Arbenigol WADA ar Foeseg.

  • 11 Mai 2021
    Gweithlyfrau printiedig yn gwneud pynciau STEM yn hygyrch i bob plentyn ar adegau cau ysgolion

    Mae Technocamps, prosiect allgymorth Prifysgol Abertawe, yn cefnogi plant ledled Cymru sydd heb fynediad at y rhyngrwyd drwy gynhyrchu 3,000 o weithlyfrau ac adnoddau llawn gweithgareddau i'w galluogi i weithio gartref ar bynciau STEM (Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg) os bydd eu hysgol ar gau oherwydd Covid-19.

  • 7 Mai 2021
    Un o bob naw oedolyn wedi cael problemau iechyd meddwl yn ystod y pandemig, yn ôl ymchwilwyr

    Mae athro o Brifysgol Abertawe wedi cyfrannu at waith ymchwil sy'n dangos bod iechyd meddwl un o bob naw oedolyn wedi bod yn wael iawn yn rheolaidd neu wedi dirywio yn ystod chwe mis cyntaf pandemig Covid-19.

  • 5 Mai 2021
    Ymchwilwyr yn darganfod nanoblastigion a llygryddion niweidiol eraill mewn masgiau wyneb untro

    Mae gwyddonwyr o Brifysgol Abertawe wedi darganfod bod rhai masgiau wyneb untro yn rhyddhau llygryddion cemegol a allai fod yn beryglus pan fyddant mewn dŵr.

  • 5 Mai 2021
    The Big Pitch yn hybu syniadau busnes myfyrwyr entrepreneuraidd

    Rhoddwyd hwb mawr i syniadau busnes myfyrwyr blaengar yn ystod The Big Pitch, cystadleuaeth flynyddol y Brifysgol a noddir gan y fenter Prifysgolion Santander.

  • 2 Mai 2021
    Pennod newydd i Harriet wrth iddi lansio cyfres o lyfrau plant

    Mae un o raddedigion Prifysgol Abertawe'n gobeithio y bydd ei llyfr plant newydd yn lansio cyfres o adnoddau i geisio mynd â darllenwyr ifanc ar daith synhwyraidd. 

  • 29 Ebrill 2021
    Astudiaeth yn datgelu effaith pobl ar blanhigion y byd

    Mae biowyddonydd o Brifysgol Abertawe wedi cymryd rhan mewn gwaith ymchwil sydd wedi taflu goleuni newydd ar effaith pobl ar fioamrywiaeth y Ddaear. 

  • 28 Ebrill 2021
    Prifysgol Abertawe'n cyrraedd y rhestr fer yng Ngwobrau Arferion Gorau Working Families

    Mae Working Families, yr elusen cydbwyso bywyd a gwaith, wedi cyhoeddi'r ymgeiswyr terfynol ar gyfer y Gwobrau Arferion Gorau blynyddol.

  • 27 Ebrill 2021
    Lansio gwefan newydd sy'n rhoi cyngor ar bleidleisio yn etholiad y Senedd 2021

    Mae gwefan ryngweithiol newydd wedi cael ei lansio er mwyn helpu pleidleiswyr yn yr etholiad i'r Senedd sydd ar y gweill i gymharu eu blaenoriaethau o ran polisïau â safbwyntiau pleidiau ac ymgeiswyr gwleidyddol.

  • 27 Ebrill 2021
    Academyddion Prifysgol Abertawe yn cael eu hanrhydeddu gan Gymdeithas Ddysgedig Cymru

    Mae deg o academyddion Prifysgol Abertawe ymhlith y newydd-ddyfodiaid i Gymrodoriaeth Cymdeithas Ddysgedig Cymru.

  • 27 Ebrill 2021
    Prifysgol Abertawe’n dathlu 50,000 o deithiau ar feiciau Santander

    Mae Prifysgol Abertawe'n dathlu'r ffaith bod cynllun rhannu beiciau Santander wedi cyrraedd carreg filltir 50,000 o deithiau. Mae'n profi bod y cynllun wedi mynd o nerth i nerth yn y ddinas ers iddo gael ei lansio yn 2018.

  • 22 Ebrill 2021
    Academi Hywel Teifi yn noddi llwyfan Llais yng ngŵyl Tafwyl 2021

    Wrth i ŵyl Tafwyl ddathlu ei phen-blwydd yn bymtheg oed eleni, mi fydd Academi Hywel Teifi Prifysgol Abertawe yn noddi llwyfan Llais yr ŵyl unwaith eto eleni, gan gyflwyno cyfres o ddigwyddiadau llenyddol rhithwir i bobl o bob oed.  

  • 21 Ebrill 2021
    Hanesydd o Brifysgol Abertawe yn cael y fraint o gyrraedd rhestr fer Gwobr Hanes Wolfson 2021

    Mae hanesydd o Brifysgol Abertawe wedi cyrraedd rhestr fer Gwobr Hanes Wolfson 2021. Dyma’r wobr uchaf ei bri yn y DU ar gyfer llenyddiaeth hanesyddol, sy'n dathlu llyfrau ffeithiol hanesyddol gorau'r flwyddyn ddiwethaf ac yn cynnig gwobr sy'n werth £40,000.

  • 20 Ebrill 2021
    Llyfr newydd gan academydd yn dathlu brwdfrydedd gydol oes dros griced a ysbrydolwyd gan ei dad

    Yn ogystal â bod yn llafur cariad, roedd llyfr diweddaraf darlithydd o Brifysgol Abertawe yn gyfle i dalu teyrnged i'r dyn a ysbrydolodd ei frwdfrydedd dros griced. 

  • 16 Ebrill 2021
    Darlithydd yn cael ei enwi'n athro biowyddorau addysg uwch gorau'r DU

    Mae academydd o Brifysgol Abertawe a wnaeth helpu i arloesi ffyrdd o ennyn brwdfrydedd wrth addysgu gwyddoniaeth o bell yn ystod y pandemig wedi cael ei anrhydeddu gan y Gymdeithas Fioleg Frenhinol. 

  • 13 Ebrill 2021
    Peiriannydd meddalwedd o'r Brifysgol yn ennill cymrodoriaeth fawr

    Mae uwch-beiriannydd meddalwedd ymchwil o Brifysgol Abertawe wedi ennill y gymrodoriaeth gyntaf a gynigiwyd gan y Cyngor Cyfleusterau Gwyddoniaeth a Thechnoleg (STFC) ym maes Peirianneg Meddalwedd Ymchwil.

  • 12 Ebrill 2021
    Ymchwilwyr yn datblygu dull newydd o brofi cydberthyniadau cwantwm

    Mae ffisegwyr o Brifysgol Abertawe wedi cyfrannu at waith ymchwil cydweithredol rhyngwladol sydd wedi nodi techneg newydd ar gyfer profi ansawdd cydberthyniadau cwantwm. 

  • 1 Ebrill 2021
    Rhaglen gwyddor data dan arweiniad myfyrwyr yn rhoi dealltwriaeth werthfawr i elusennau

    Gwnaeth 25 o fyfyrwyr PhD, gan gynnwys naw o Brifysgol Abertawe, gydweithio â thair elusen o'r DU i ddatrys problemau data o’r byd go iawn yn ystod digwyddiad cyntaf y rhaglen DataAid. Yr elusennau dan sylw oedd y Sefydliad Masnach Deg, The Diana Award a Chance to Shine.

  • 11 Mai 2021
    Astudiaeth newydd i werthuso effeithiolrwydd gwarchod pobl rhag Covid-19

    Mae gwarchod pobl dan fygythiad wedi bod yn ganolog i'r ymateb i Covid-19, ond a yw'n effeithiol? Bydd tîm ymchwil o Brifysgol Abertawe'n archwilio'r dystiolaeth i weld pa wersi y gellid eu dysgu ar gyfer y dyfodol.

  • 31 Mawrth 2021
    Academydd o Brifysgol Abertawe yn derbyn gwobr Cyfraniad Eithriadol am wella tiwtora ym mhrifysgolion y DU

    Mae academydd o Brifysgol Abertawe wedi derbyn gwobr Cyfraniad Eithriadol mewn cydnabyddiaeth o’i waith yn cefnogi Cymdeithas Cynghori a Thiwtora'r Deyrnas Unedig (UKAT).

  • 31 Mawrth 2021
    Gwyddonwyr CERN yn defnyddio laserau i oeri gwrthfater yn llwyddiannus am y tro cyntaf

    Mae ffisegwyr o Brifysgol Abertawe, fel aelodau blaenllaw o'r grŵp cydweithredol ALPHA yn CERN (y Sefydliad Ewropeaidd ar gyfer Ymchwil Niwclear), wedi defnyddio laserau i oeri atomau gwrth-hydrogen am y tro cyntaf. Mae'r cyflawniad arloesol yn cynhyrchu gwrthfater oerach nag erioed o'r blaen ac yn hwyluso haen newydd sbon o arbrofion, gan helpu gwyddonwyr i ddysgu mwy am wrthfater yn y dyfodol.

  • 31 Mawrth 2021
    Ymchwil yn datgelu'r perygl parhaus ar ôl tanau tirwedd

    Bob blwyddyn, amcangyfrifir bod pedwar y cant o arwyneb tir y byd sydd wedi'i orchuddio â llystyfiant yn llosgi, gan adael mwy na 250 o fegatonau o blanhigion sydd wedi cael eu carboneiddio. 

  • 30 Mawrth 2021
    Dim achosion o anhwylder gwaed prin ymhlith y bobl yng Nghymru sydd wedi cael eu brechu

    Nid yw gwaith ymchwil newydd wedi nodi unrhyw achosion o anhwylder gwaed prin ymhlith y bobl yng Nghymru sydd wedi cael eu brechu yn erbyn Covid-19.

  • 30 Mawrth 2021
    Ychwanegu arbenigedd newydd at dîm fferylliaeth y Brifysgol

    Mae Prifysgol Abertawe wedi croesawu tri aelod newydd o staff wrth iddi barhau i baratoi i lansio ei rhaglen fferylliaeth gyntaf ym mis Medi. 

  • 26 Mawrth 2021
    Cynhesu byd-eang yn helpu rhywogaethau goresgynnol i ffynnu – astudiaeth yn modelu'r effeithiau cyfunol tebyg ar ecosystemau

    Mae tymereddau byd-eang uwch yn helpu rhywogaethau goresgynnol i sefydlu eu hunain mewn ecosystemau, yn ôl gwaith ymchwil a arweinir gan fiowyddonydd o Brifysgol Abertawe.

  • 25 Mawrth 2021
    Myfyriwr yn cael grant drwy gynllun datblygu ledled y wlad

    Mae myfyriwr o Brifysgol Abertawe ymhlith pedwar myfyriwr yn unig ledled y wlad sydd wedi sicrhau grant gwerth £10,000 ar ôl cymryd rhan mewn cynllun dysgu newydd sy'n ymwneud â datblygiad personol a phroffesiynol.

  • 25 Mawrth 2021
    Gwobr Dylan Thomas Prifysgol Abertawe 2021 yn datgelu rhestr fer amrywiol a chynhwysol o leisiau newydd beiddgar

    Caiff rhestr fer un o'r gwobrau llenyddol mwyaf yn y byd ar gyfer llenorion ifanc – Gwobr Dylan Thomas Prifysgol Abertawe – ei chyhoeddi heddiw ac mae'n llawn lleisiau newydd beiddgar sy'n herio disgwyliadau wrth archwilio'n afaelgar gysyniadau goroesi, hunaniaeth, perthyn ac ystyr bod yn rhywun ‘amgen’ yn ein byd cyfoes.

  • 24 Mawrth 2021
    Cyllid ar gyfer cyfarpar o'r radd flaenaf i helpu i gyrraedd y targed o allyriadau carbon sero-net

    Mae Prifysgol Abertawe wedi cael cyllid gwerth £4.8m gan Lywodraeth y DU ar gyfer cyfarpar o'r radd flaenaf i gynhyrchu dyfeisiau lled-ddargludo pŵer silicon carbid a fydd yn creu offer electroneg pŵer mwy effeithlon ar gyfer cartrefi, trafnidiaeth a diwydiant, ac yn helpu i gyflawni uchelgais y genedl i sicrhau allyriadau carbon sero-net.

  • 24 Mawrth 2021
    Ymchwilwyr yn lansio marchnadle ar-lein i wella cadwyn gyflenwi gweithgynhyrchu

    Mae tîm ymchwil ym Mhrifysgol Abertawe wedi lansio platfform digidol newydd a fydd yn trawsffurfio sut mae cadwyni cyflenwi’n gweithredu yn y diwydiant gweithgynhyrchu.

  • 24 Mawrth 2021
    Ymchwilwyr yn lansio arolwg i archwilio'r defnydd o fasgiau wyneb yn ystod pandemig Covid-19

    Mae tîm o ymchwilwyr ym Mhrifysgol Abertawe yn galw ar aelodau o'r cyhoedd i gwblhau arolwg am eu profiadau o wisgo masgiau wyneb yn ystod pandemig Covid-19. 

  • 23 Mawrth 2021
    Ymchwilwyr yn datblygu offer canfod COVID-19 ar gyfer dŵr gwastraff

    Mae ymchwilwyr o Brifysgol Abertawe wedi datblygu dyfais unigryw sy’n gallu canfod COVID-19 mewn dŵr gwastraff cyffredin.

  • 23 Mawrth 2021
    Uwchgyfrifiadur newydd i gyflymu ymchwil i'r defnydd o ddeallusrwydd artiffisial

    Caiff uwchgyfrifiadur a all gyflawni 15,000 triliwn o weithrediadau fesul eiliad, sy'n 15,000 o weithiau'n fwy pwerus na chyfrifiadur bwrdd gwaith, ei osod ym Mhrifysgol Abertawe, lle bydd yn ategu ymchwil i ddeallusrwydd artiffisial mewn meysydd megis peirianneg a meddygaeth.

  • 23 Mawrth 2021
    Prifysgol Abertawe'n cefnogi'r Diwrnod Cenedlaethol o Fyfyrdod ar 23 Mawrth 2021

    Caiff Tŷ Fulton ym Mhrifysgol Abertawe ei oleuo'n felyn ddydd Mawrth 23 Mawrth fel rhan o ddiwrnod cenedlaethol i gofio'r rhai sydd wedi marw yn ystod pandemig Covid-19 ac i gefnogi'r rhai sydd wedi cael profedigaeth.

  • 19 Mawrth 2021
    Cysylltiad rhwng Prifysgol Abertawe a thri enwebiad ar restr fer Gwobrau Dewi Sant 2021

    Mae cysylltiad rhwng Prifysgol Abertawe a thri enwebiad ar restr fer Gwobrau Dewi Sant, sef gwobrau cenedlaethol Cymru, eleni.

  • 18 Mawrth 2021
    Archif ddigidol newydd unigryw'r Brifysgol yn rhannu blwyddyn o brofiadau pob dydd o'r pandemig

    Bydd archif ddigidol ar-lein sy'n llawn deunydd am brofiadau cannoedd o bobl o Covid-19 yn cael ei lansio ym Mhrifysgol Abertawe ar 23 Mawrth – flwyddyn ers dechrau'r cyfnod clo cyntaf yn y DU. 

  • 17 Mawrth 2021
    Cyllid newydd yn rhoi cymorth i’r brifysgol

    Bydd Prifysgol Abertawe'n neilltuo cyllid ychwanegol gwerth £1.5 miliwn i dair menter a fydd yn helpu i gynnal gallu a hybu adferiad economaidd ehangach yng nghyd-destun effaith pandemig Covid-19.

  • 16 Mawrth 2021
    Addewid newydd i gefnogi mentrau gwyddorau bywyd arloesol yng Nghymru ac Iwerddon

    Mae arbenigwyr gwyddorau bywyd o Brifysgol Abertawe yn edrych ymlaen at chwarae rôl allweddol mewn cynlluniau i feithrin cysylltiadau agosach byth rhwng Cymru ac Iwerddon.

  • 16 Mawrth 2021
    Amser o newid; amser i newid? Cynhadledd CADR

    23ain – 25ain Mawrth 2021

    Bydd y Ganolfan Ymchwil Heneiddio a Dementia (CADR) yn croesawu academyddion, pobl broffesiynol a’r cyhoedd i’w gynhadledd Zoom cyntaf i gydfynd â phen-blwydd cychwyn y cyfnod clo cenedlaethol.

  • 11 Mawrth 2021
    Rhybudd am effeithiau'r pandemig ar iechyd meddwl pobl ifanc

    Mae cyfyngiadau'r pandemig yn gwaethygu'r sbardunau ar gyfer hunan-niweidio ac iechyd meddwl gwael, yn ôl arbenigwyr. 

  • 11 Mawrth 2021
    Blodau Gwyllt yn llesol? Chwilio am wyddonwyr gwerin medrus ar gyfer astudiaeth yn y DU 

    Mae angen criw o arddwyr amatur o bob rhan o’r DU ar gyfer prosiect ymchwil newydd i edrych ar fuddiannau tyfu planhigion, gwirfoddoli a chymunedau ar-lein – gan helpu ysbytai’r GIG i flodeuo hefyd.

  • 8 Mawrth 2021
    Ymchwilwyr yn defnyddio dronau i asesu safleoedd ynni adnewyddadwy

    Mae ymchwilwyr o Brifysgol Abertawe'n cymryd rhan mewn prosiect i dreialu dull newydd o fesur ceryntau llanw a allai weddnewid y diwydiant nwyddau adnewyddadwy morol. 

  • 5 Mawrth 2021
    Cymru yn parhau i arloesi ym maes Gofal Iechyd sy'n Seiliedig ar Werth gyda siarter nodedig

    Mae Llywodraeth Cymru, Pfizer, Prifysgol Abertawe a Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru wedi llofnodi siarter arloesol sy’n adlewyrchu’r gred gytûn y dylai Cymru fabwysiadu a darparu Gofal Iechyd sy’n Seiliedig ar Werth. 

  • 5 Mawrth 2021
    Y Brifysgol yn paratoi i groesawu myfyrwyr fferylliaeth i gyfleusterau newydd

    Mae gwaith wedi dechrau i greu cyfleusterau cyfoes gwerth £2.1m ar gyfer cyrsiau fferylliaeth newydd Prifysgol Abertawe. 

  • 4 Mawrth 2021
    Archwilio effaith y pandemig ar les ac iechyd meddwl carcharorion

    Caiff effaith cyfyngiadau Covid-19 ar garcharorion a charchardai ei harchwilio mewn prosiect ymchwil a arweinir gan Brifysgol Abertawe, sydd wedi cael cyllid gwerth £251,240 gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol, i weld pa wersi y gellid eu dysgu.

  • 2 Mawrth 2021
    Astudiaeth o effaith Covid-19 ar weithgarwch corfforol ac iechyd meddwl plant

    Mae ymchwil newydd gan Brifysgol Abertawe yn archwilio effaith Covid-19 ar weithgarwch corfforol, iechyd meddwl a lles plant yng Nghymru. 

  • 2 Mawrth 2021
    Adroddiad Prifysgol Abertawe yn gwneud argymhellion swyddogol i Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael â'r argyfwng ail gartrefi yng Nghymru

    Mae awdur adroddiad newydd a gafodd ei gomisiynu gan Weinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a'r Gymraeg Llywodraeth Cymru wedi gwneud 12 o argymhellion polisi i Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael â'r argyfwng ail gartrefi yng Nghymru a'i effaith ar gymunedau Cymraeg.

  • 1 Mawrth 2021
    Prifysgol Abertawe yn ymuno yn yr ymgyrch i leihau gwastraff bwyd

    Mae Prifysgol Abertawe yn cefnogi'r Wythnos Gweithredu ar Wastraff Bwyd gyntaf erioed yn y DU. 

  • 26 Chwefror 2021
    Prif Weinidog Cymru yn agor Sefydliad Astudiaethau Uwch Morgan Prifysgol Abertawe

    Gwnaeth y Gwir Anrhydeddus Mark Drakeford AS, Prif Weinidog Cymru, agor Sefydliad Astudiaethau Uwch Morgan (SAUM) yn swyddogol heddiw (dydd Gwener, 26 Chwefror) yn ystod seremoni rithwir.

  • 26 Chwefror 2021
    Astudiaeth newydd yn tynnu sylw at bwysigrwydd cyd-destun i ddamcaniaethau ffisegol

    Tynnir sylw at ymchwil gwyddonydd o Brifysgol Abertawe i nodweddion geometregol damcaniaethau ffisegol mewn papur newydd. 

  • 23 Chwefror 2021
    Gwyddonwyr yn datgan bod dull nofio pysgodyn yn datgelu cryn wybodaeth am ei bersonoliaeth

    Mae personoliaeth wedi cael ei disgrifio ar gyfer mathau gwahanol o rywogaethau anifeiliaid, o forgrug i epaod. Mae rhai unigolion yn swil ac yn sefydlog, ond mae eraill yn fentrus ac yn fywiog. Nawr, mae astudiaeth newydd a gyhoeddir yn Ecology and Evolution wedi datgelu bod dull nofio pysgodyn yn rhoi llawer o wybodaeth am ei bersonoliaeth.

  • 22 Chwefror 2021
    Ymchwil fyd-eang i effaith ymateb llywodraethau i Covid-19 ar bobl ddiamddiffyn

    Mae academyddion o Brifysgol Abertawe'n cyfrannu at astudiaeth ryngwladol sy'n archwilio effaith ymatebion llywodraethau i Covid-19 ar grwpiau diamddiffyn. 

  • 22 Chwefror 2021
    Ymchwil newydd yn awgrymu y gallai deietau llawn ffrwctos niweidio'r system imiwnedd

    Mae ymchwil newydd gan wyddonwyr o Brifysgol Abertawe mewn cydweithrediad â gwyddonwyr ym Mhrifysgol Bryste ac yn Sefydliad Francis Crick yn Llundain wedi awgrymu y gallai deietau sy'n cynnwys llawer o'r siwgr ffrwctos atal systemau imiwnedd pobl rhag gweithredu'n gywir, mewn ffyrdd a fu, hyd yn hyn, yn anhysbys i raddau helaeth.

  • 18 Chwefror 2021
    Myfyrwyr nyrsio yn rhoi cymorth technolegol i gleifion ysbyty

    Mae rhai o fyfyrwyr nyrsio Prifysgol Abertawe wedi helpu cleifion mewn ysbyty yng ngorllewin Cymru i gadw mewn cysylltiad â'u hanwyliaid. 

  • 17 Chwefror 2021
    Galw am wirfoddolwyr i gyfrannu at ymchwil i chwistrell i'r trwyn a allai helpu yn erbyn Covid-19

    Mae Prifysgol Abertawe'n chwilio am wirfoddolwyr o Dde Cymru i fod yn rhan o ymchwil hollbwysig i weld a allai chwistrell i'r trwyn sydd ar gael i'w phrynu helpu i amddiffyn pobl yn erbyn Covid-19. 

  • 17 Chwefror 2021
    Grant sylweddol i ddatblygu ceirch fel cynnyrch bwyd iach

    Mae grant Ewropeaidd sylweddol wedi cael ei ddyfarnu i bartneriaid yng Nghymru ac Iwerddon, gan gynnwys Prifysgol Abertawe, i wneud gwaith ymchwil ar ddatblygu ceirch fel cynnyrch bwyd iach a chnwd sy'n gallu gwrthsefyll yr hinsawdd.

  • 16 Chwefror 2021
    Myfyrwyr parafeddygol yn cael brechiad wrth iddynt barhau i gefnogi gwasanaethau

    Mae myfyrwyr parafeddygol Prifysgol Abertawe wedi cael brechiad yn erbyn coronafeirws wrth iddynt barhau i weithio ar reng flaen y GIG. 

  • 16 Chwefror 2021
    Teyrnged i'r Athro Hywel Francis

    Mae ffrindiau di-rif Hywel Francis – yr addysgwr oedolion, yr hanesydd, yr ymgyrchydd a'r seneddwr – ym Mhrifysgol Abertawe a'r tu hwnt yn galaru ar ôl iddo farw'n 74 oed.

  • 16 Chwefror 2021
    Penodi Llysgenhadon Addysg Uwch newydd i’r Coleg Cymraeg o Brifysgol Abertawe

    Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol wedi penodi pum llysgennad newydd ar gyfer 2021 o Brifysgol Abertawe i rannu Sŵn y Stiwdants ac annog mwy o ddarpar fyfyrwyr i ymddiddori ym maes addysg uwch cyfrwng Cymraeg.

  • 15 Chwefror 2021
    Pobl mewn ardaloedd tlawd 50% yn fwy tebygol o farw o asthma na phobl mewn ardaloedd mwy cyfoethog

    Mae pobl sy'n dioddef o asthma yn ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru 50% yn fwy tebygol o gael eu derbyn i ysbyty ac o farw o asthma na'r rhai sy'n byw yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig, yn ôl astudiaeth newydd dros bum mlynedd o fwy na 100,000 o bobl.

  • 12 Chwefror 2021
    Ymchwil yn datgelu bod angen cefnogaeth iechyd meddwl a chymorth ariannol ar bobl sy'n hunanynysu

    Roedd mwy na hanner y bobl y bu'n rhaid iddynt hunanynysu yn teimlo bod hynny wedi effeithio ar eu hiechyd meddwl a dywedodd mwy na chwarter ohonynt ei fod wedi effeithio'n negyddol ar eu hincwm, yn ôl ymchwil Prifysgol Abertawe. 

  • 12 Chwefror 2021
    Arbenigwyr yn cydweithio i gadw plant yn ddiogel ar-lein

    Mae Prifysgol Abertawe'n arwain y frwydr yn erbyn camfanteisio'n rhywiol ar blant ar-lein ar ôl cael cyllid sylweddol am brosiect arloesol newydd sy'n canolbwyntio ar atal perthnasoedd amhriodol ar-lein. 

  • 12 Chwefror 2021
    Prosiect newydd ar y cyd yn ceisio CYSYLLTU myfyrwyr mewn prifysgolion

    Mae prosiect newydd ar y cyd sydd am gefnogi myfyrwyr sy'n teimlo'n unig ac yn ynysig wedi cael ei lansio gan Brifysgol Abertawe a Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS).  

  • 11 Chwefror 2021
    Cyfarwyddwr Gwyddor Data Poblogaeth wedi ei gydnabod am ei ddylanwad ar faes data

    Mae rhestr DataIQ 100 ar gyfer 2021 yn cydnabod bod yr Athro David Ford, Cyfarwyddwr y Grŵp Gwyddor Data Poblogaeth ym Mhrifysgol Abertawe, ymhlith y bobl fwyaf dylanwadol ym maes data a dadansoddeg.

  • 10 Chwefror 2021
    Ymchwil Hydrogen Gwyrdd yn Helpu Diwydiant i Leihau Allyriadau Carbon

    Fel rhan o drefniant cydweithio rhwng ymchwilwyr yn y Sefydliad Ymchwil Diogelwch Ynni (ESRI) ym Mhrifysgol Abertawe a’r cynhyrchydd sment, Hanson UK, mae uned arddangos newydd ar gyfer hydrogen gwyrdd wedi cael ei gosod yng ngwaith Regen GGBS y cwmni ym Mhort Talbot, De Cymru.

  • 10 Chwefror 2021
    Cyfnod ymgeisio ar gyfer ysgoloriaeth newydd er cof am gyfraniad Hywel Teifi Edwards ar agor

    Mae Academi Hywel Teifi Prifysgol Abertawe yn galw ar fyfyrwyr sydd am astudio ar gyfer gradd ymchwil ôl-radd trwy gyfrwng y Gymraeg i wneud cais am ysgoloriaeth newydd er cof am yr Athro Hywel Teifi Edwards.

  • 9 Chwefror 2021
    Bysedd plant yn dangos lefel incwm mamau a chlefydau sy'n dechrau yn y groth

    Mae mamau sy'n ennill incwm isel yn benyweiddio eu plant yn y groth drwy addasu eu hormonau, ond mae mamau sy'n ennill incwm uchel yn gwryweiddio eu plant, yn ôl astudiaeth fawr sy'n seiliedig ar hyd bysedd, dan arweiniad arbenigwr o Brifysgol Abertawe.

  • 4 Chwefror 2021
    Hillary Clinton yn ymestyn ei rhaglen ysgoloriaethau mewn partneriaeth â Sky a Phrifysgol Abertawe

    Mae cyn-ysgrifennydd gwladol yr Unol Daleithiau Hillary Clinton wedi cyhoeddi bod Rhaglen Heriau Byd-eang Hillary Rodham Clinton ym Mhrifysgol Abertawe wedi cael ei hymestyn i gynnwys pum ysgolhaig arall.

  • 4 Chwefror 2021
    Cyfarwyddyd arbenigol newydd ar ymarfer corff diogel i gleifion sy'n dioddef o glefyd ar y galon a diabetes

    Bydd cleifion sy'n dioddef o glefyd ar y galon ynghyd â diabetes yn gallu gwneud eu hymarferion adfer yn fwy diogel, diolch i gyfarwyddyd cyntaf y byd ar y pwnc, a gyhoeddwyd gan academydd o Brifysgol Abertawe ac arbenigwyr rhyngwladol eraill.

  • 3 Chwefror 2021
    Cyfle newydd i rannu profiadau o fyw yn ystod pandemig

    Wrth i'r pandemig barhau i reoli ein bywydau, gofynnir i bobl yng Nghymru rannu eu profiadau fel rhan o ymchwil barhaus i'r ffordd y maent yn ymdopi â'r argyfwng coronafeirws.

  • 2 Chwefror 2021
    Arbenigwr yn profi dull newydd o arsylwi plant yn chwarae

    Mae astudiaeth o’r camau y mae plant yn mynd drwyddynt wrth iddynt gyd chwarae yn cael eu hamlygu mewn ymchwil newydd gan academydd ym Mhrifysgol Abertawe.

  • 1 Chwefror 2021
    Y Brifysgol yn helpu mwy na 250 o ddisgyblion i barhau i ddarllen

    Mae disgyblion Blwyddyn 7 mewn dwy ysgol leol wedi cael eu hannog i ddarllen ac i hybu eu llythrennedd yn ystod y cyfyngiadau symud, diolch i brosiect Prifysgol Abertawe. 

  • 1 Chwefror 2021
    Angen rhoi mesurau rheoli ar waith er mwyn atal cregyn gleision rhesog rhag heidio i Brydain Fawr

    Yn ôl ymchwil newydd gan wyddonwyr o Brifysgol Abertawe, mae rampiau cychod yn helpu cregyn gleision rhesog (Dreissena polymorpha) hynod ymledol i fynd ar led. Er mwyn atal y rhywogaeth hon rhag ymledu, mae Dr Marta Rodriguez-Rey a'i chyd-awduron yn awgrymu yn yr astudiaeth newydd y dylid rhoi mesurau rheoli llym ar waith a monitro rampiau cychod penodol.

  • 27 Ionawr 2021
    Arbenigwyr yn galw am ymagwedd fwy pragmataidd at addysgu ym maes addysg uwch

    Gallai miliynau o fyfyrwyr ledled y byd fod ar eu hennill pe bai eu haddysgwyr yn mabwysiadu ymagwedd fwy hyblyg ac ymarferol, yn ôl arbenigwyr o Brifysgol Abertawe. 

  • Newyddion a Digwyddiadau
    • Newyddion
      • 2023
      • 2022
      • 2021
      • 2020
      • 2019
      • Archif Newyddion
    • Digwyddiadau
    • Ffocws Abertawe
  • Gwybodaeth i newyddiadurwyr
  • Gwybodaeth i Staff
  • Cysylltwch â ni
  • Swyddi
  • Cyfadrannau
  • Y Wasg
  • Iechyd a Diogelwch
  • Ymwadiad a Hawlfraint
  • Map o'r Safle
  • Preifatrwydd a Chwcis
  • Datganiad Caethwasiaeth Fodern
  • Mae Prifysgol Abertawe yn elusen gofrestredig, Rhif 1138342