Sgip i brif cynnwys Hafan Prifysgol Abertawe
  • Swyddi
  • Offer Hygyrchedd
  • Myfyrwyr Cyfredol
  • Staff
  • 中文
  • English
Hafan Prifysgol Abertawe
  • Swyddi
  • Offer Hygyrchedd
  • Myfyrwyr Cyfredol
  • Staff
  • 中文
  • English
  1. Hafan
  2. Swyddfa'r Wasg
  3. Newyddion a Digwyddiadau
  4. Newyddion
  5. Newyddion Diweddaraf 2020
  • Astudio
    • Diwrnodau Agored yn Abertawe
      Three students walking through Bay Campus in the Sun

      Rydyn ni'n disgwyl ymlaen at eich crosawu chi!

      Ymweld â ni
    • Israddedig
      • Cyrsiau
      • Llety
      • Canllaw Rhieni a Gwarcheidwaid I'r Brifysgol
      • Diwrnodau Agored
      • Sut i wneud cais
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Gofynnwch Gwestiwn i Ni
      • Cadwch mewn cysylltiad
    • Ôl-raddedig
      • Cyrsiau
      • Rhaglenni Ymchwil
      • Diwrnod Agored
      • Sut i Wneud Cais
      • Ysgoloriaethau a bwrsariaethau
      • Y Brifysgol
      • Gofynnwch Gwestiwn i Ni
      • Cadwch mewn cysylltiad
    • Bywyd Myfyriwr
      • Astudio
      • Pam Abertawe
      • Bywyd y campws
      • Chwaraeon
      • Cynaliadwyedd - Cymrwch Ran
      • Sefydliad Diwylliannol
      • Undeb Myfyrwyr Prifysgol Abertawe
      • Taith Rhithwir
      • Beth yw Gŵyl y Glas?
    • Gwasanaethau i Fyfyrwyr
      • Llyfrgelloedd ac Archifau
      • BywydCampws
      • Academi Cyflogadwyedd Abertawe
      • Menter Myfyrwyr
      • Canolfan Llwyddiant Academaidd
      • Academi Hywel Teifi
      • Llesiant myfyrwyr
  • Rhyngwladol
  • Ein Ymchwil
    • Gwnewch Ymchwil Gyda Ni
      • Cefnogi eich taith ymchwil ôl-raddedig
      • Dod o hyd i raglen ymchwil ol-raddedig
      • Sut i wneud cais am raglen ymchwil Ôl-raddedig
      • Hyfforddiant a Datblygiad i Oruchwylwyr a Myfyrwyr Ymchwil
    • Archwiliwch ein hymchwil
      • Uchafbwyntiau Ymchwil
      • Ymchwil yn y cyfadrannau
      • Momentum - ein cylchgrawn ymchwil
      • Archwilio Problemau Byd-eang
    • Darganfyddwch ein hymchwil
      • Cyfeiriadur Arbenigedd
      • Dod o hyd i bapur ymchwil
      • Manteisio ar ein Harbenigedd ym maes Ymchwil a Datblygu
    • Ein Hamgylchedd Ymchwil
      • Uniondeb Ymchwil: Moeseg a Llywodraethu
      • Effaith ymchwil
      • Hyfforddiant a datblygiad
      • Sefydliad Astudiaethau Uwch Morgan (SAUM)
    • Ein Cenhadaeth Ddinesig
      • Gŵyl Wyddoniaeth Abertawe
      • Gŵyl Bod yn Ddynol
      • Oriel Science
      • Byd Copr Cymru
  • Busnes
  • Cyn-fyfyrwyr
  • Y Brifysgol
    • Swyddfa'r Wasg
      Female student working with steel

      Newyddion a Ymchwil Diweddaraf straeon

      Darllenwch y newyddion diweddaraf yma
    • Y Brifysgol
      • Amdanom ni
      • Sut i ddod o hyd i ni
      • Dyfarniadau a Safleoedd y Brifysgol
      • Ein Cyfadrannau
      • Swyddfa'r Wasg
      • Swyddi a Gweithio yn Abertawe
      • Cynaliadwyedd ym Mhrifysgol Abertawe
      • Teithio i’r campws ac oddi yno
      • Cysylltu â ni
    • Chwaraeon
      • Bod yn Actif
      • Cynghreiriau Cymdeithasol
      • Clybiau Chwaraeon
      • Perfformiad
      • Cyfleusterau
      • Nawdd
      • Ysgoloriaethau
      • Newyddion
    • Bywyd y campws
      • Llety
      • Arlwyo
      • Sefydliad Diwylliannol
      • Y Neuadd Fawr
      • Taliesin
      • Creu Taliesin
      • Ein Tiroedd
      • Cerddoriaeth
      • Rhithdaith
    • Ein Cyfadrannau
      • Cyfadran y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol
      • Cyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg
      • Cyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd
      • Y Coleg
    • Academïau
      • Academi Iechyd a Llesiant
      • Sefydliad Astudiaethau Uwch Morgan (SAUM)
      • Academi Cyflogadwyedd Abertawe (SEA)
      • Academi Hywel Teifi
      • Academi Cynwysoldeb Abertawe (SAI)
  • Newyddion a Digwyddiadau
  • Cefnogaeth a Lles
  1. Hafan
  2. Swyddfa'r Wasg
  3. Newyddion a Digwyddiadau
  4. Newyddion
  5. Newyddion Diweddaraf 2020

Newyddion Diweddaraf 2020

Tudalennau cysylltiedig
  • Newyddion a Digwyddiadau
    • Newyddion
      • 2023
      • 2022
      • 2021
      • 2020
        • Rhagfyr
        • Tachwedd
        • Hydref
        • Medi
        • Awst
        • Gorffennaf
        • Mehefin
        • Mai
        • Ebrill
        • Mawrth
        • Chwefror
        • Ionawr
      • 2019
      • Archif Newyddion
    • Digwyddiadau
    • Ffocws Abertawe
  • Gwybodaeth i newyddiadurwyr
  • Gwybodaeth i Staff

Gweld ein Straeon diweddaraf

  • 28 Rhagfyr 2020
    Gallai ffordd gyflymach a gwyrddach o gynhyrchu sfferau carbon wella technoleg dal carbon

    Mae dull cyflym, gwyrdd, un cam o gynhyrchu sfferau carbon mandyllog, sy'n elfen allweddol ar gyfer technoleg dal carbon ac ar gyfer storio ynni adnewyddadwy mewn ffyrdd newydd, wedi cael ei ddatblygu gan ymchwilwyr o Brifysgol Abertawe.

  • 22 Rhagfyr 2020
    Covid-19: Cynhadledd yn rhannu gwaith arloesi â Llysgennad Prydain yn Tsieina

    Mae Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe wedi cryfhau ei chysylltiad unigryw â Wuhan drwy gyfrannu at gynhadledd ar-lein ar gyfer ymarferwyr iechyd proffesiynol, yn ogystal â Llysgennad Prydain yn Tsieina, Caroline Wilson CMG, sydd wedi helpu i daflu goleuni ar ofal iechyd a gwaith arloesi yn ystod argyfwng Covid-19.

  • 21 Rhagfyr 2020
    Hwb ariannol i gydweithrediad ymchwil i astudio gofal llygaid yn y gymuned

    Mae prosiect newydd a sefydlwyd i astudio'r ffordd orau o ofalu am gleifion â chyflyrau llygaid hirdymor yn y gymuned wedi sicrhau grant ymchwil sylweddol. 

  • 18 Rhagfyr 2020
    Gwaith ymchwil rhyngwladol newydd yn archwilio ffordd o wrthsefyll Covid-19

    Mae ymchwilwyr yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe yn helpu i feithrin dealltwriaeth o'r feirws sy'n achosi Covid-19 a sut gellir mynd i'r afael ag ef. 

  • 18 Rhagfyr 2020
    Cant y cant i gwrs cydymaith meddygol yr Ysgol Feddygaeth unwaith eto

    Mae cwrs cydymaith meddygol Prifysgol Abertawe yn dathlu camp anhygoel – llwyddodd cant y cant o'i fyfyrwyr i basio'r arholiadau cydymaith meddygol cenedlaethol am y drydedd flwyddyn yn olynol. 

  • 18 Rhagfyr 2020
    Effaith pobl yn peryglu coedwigoedd trofannol sy'n gallu gwrthsefyll tân yn Sumatra a Kalimantan

    Mae astudiaeth newydd dan arweiniad ymchwilwyr yn Adran Daearyddiaeth Prifysgol Abertawe yn datgelu graddau eithafol y coedwigoedd trofannol, a oedd yn gorchuddio llawer o dir ar ynysoedd Sumatra a Kalimantan yn Indonesia gynt, sydd wedi'u colli a'u rhannu.

  • 16 Rhagfyr 2020
    Mae afonydd Ewrop yn ddiffygiol, ond mae atebion ar gael

    Mae astudiaeth newydd a gyhoeddwyd yn Nature yn cynnig atebion i afonydd rhanedig.

  • 15 Rhagfyr 2020
    Llwyddiant arall i Tennessee ar ôl ennill rhagoriaeth yn ei gradd meistr

    Mae myfyrwraig o Brifysgol Abertawe sydd hefyd yn bencampwraig y byd ym maes cicfocsio ar ben ei digon ar ôl ennill gradd meistr. 

  • 13 Rhagfyr 2020
    Tîm Arian@BywydCampws y Brifysgol yn derbyn Gwobr Addewid Stand Alone 2020

    Mae tîm Arian@BywydCampws Prifysgol Abertawe wedi derbyn Gwobr Addewid Stand Alone 2020 am helpu myfyrwyr sydd wedi ymddieithrio yn ystod argyfwng Covid-19. 

  • 11 Rhagfyr 2020
    Astudiaeth newydd yn dangos sut gallai mân algâu fod yn hollbwysig i economi gylchol

    Mae ymchwil newydd gan Brifysgol Abertawe wedi datgelu y gallai mân algâu chwarae rôl hollbwysig wrth ailddefnyddio gwastraff bwyd a ffermydd yn llwyddiannus ar raddfa fawr, yn ogystal â chreu miloedd o swyddi. 

  • 11 Rhagfyr 2020
    Llyfr am blant a oroesodd yr Holocost yn cyrraedd rhestr y Daily Telegraph o lyfrau gorau'r flwyddyn

    Mae llyfr diweddaraf academydd o Brifysgol Abertawe, am blant a oroesodd yr Holocost, wedi cael ei gynnwys ar restr y Daily Telegraph o lyfrau hanes gorau 2020.

  • 10 Rhagfyr 2020
    Dylunio adeiladau mwy diogel drwy systemau synhwyro di-wifr

    Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Abertawe'n datblygu dull arloesol o ddylunio adeiladau clyfar.  Bydd model amgylcheddol gynaliadwy, mwy diogel a chost-effeithlon newydd yn cynnig system well ar gyfer cyflenwi ynni i synwyryddion mewn adeileddau clyfar. Dylunnir y model yn y Sefydliad Deunyddiau, Prosesu a Thechnolegau Rhifyddol Arloesol (IMPACT).

  • 10 Rhagfyr 2020
    Prosiect SUNRISE yn ennill gwobr Times Higher Education

    Ar y cyd â sefydliadau rhyngwladol a rhai yn y DU, mae Prifysgol Abertawe wedi ennill y tlws fel Cydweithrediad Rhyngwladol y Flwyddyn yng Ngwobrau Times Higher Education. 

  • 9 Rhagfyr 2020
    Menywod beichiog sy'n atal meddyginiaeth asthma mewn perygl o eni’n gynamserol

    Awgryma astudiaeth newydd gan Brifysgol Abertawe bod menywod sy’n rhoi’r gorau i gymryd eu meddyginiaethau asthma yn ystod beichiogrwydd o risg o eni’n gynamserol ac yn llai tebygol o fwydo eu babanod ar y fron.

  • 8 Rhagfyr 2020
    Hwb o £4m i ariannu ymchwil y sector gweithgynhyrchu yng Nghymru

    Gall busnesau gweithgynhyrchu ledled Cymru barhau i arloesi’n flaengar yn sgîl cyhoeddiad gan Lywodraeth Cymru bod £4 miliwn o gyllid yn dod o’r UE. 

  • 8 Rhagfyr 2020
    Beirniaid wedi'u cyhoeddi ar gyfer Gwobr Dylan Thomas Prifysgol Abertawe

    Cyhoeddwyd y beirniaid ar gyfer Gwobr Dylan Thomas Prifysgol Abertawe yn 2021 heddiw (8 Rhagfyr).  

  • 4 Rhagfyr 2020
    Prosiect glöynnod byw cymunedol yn barod i helpu byd natur

    Mae biowyddonwyr Prifysgol Abertawe'n helpu cymuned i greu gardd glöynnod byw a bywyd gwyllt yng nghanol pentref yn Abertawe.  

  • 4 Rhagfyr 2020
    Ffyrdd doethach a gwyrddach o gynhyrchu dur: rhaglen ymchwil yn ariannu tair astudiaeth newydd

    Mae tri phrosiect ymchwil a allai helpu'r diwydiant dur i fod yn ddoethach ac yn wyrddach wedi cael caniatâd fel rhan o raglen ymchwil genedlaethol dan arweiniad Prifysgol Abertawe.

  • 4 Rhagfyr 2020
    Cyllid newydd i ymchwilio i Covid-19 a chlefydau cardiofasgwlaidd

    Mae Prifysgol Abertawe wedi cael cyllid gwerth £125,000 gan Health Data Research UK (HDR UK) i astudio effeithiau uniongyrchol ac anuniongyrchol Covid-19 ar glefydau cardiofasgwlaidd (CVD).

  • 3 Rhagfyr 2020
    Ymchwilydd i gyflwyno un o'r prif anerchiadau mewn uwchgynhadledd rithwir unigryw

    Bydd yr ymchwilydd Dr Lewis Francis o Brifysgol Abertawe yn rhannu ei waith â chynulleidfa fyd-eang mewn cynhadledd ar-lein ryngwladol yr wythnos nesaf. 

  • 2 Rhagfyr 2020
    Ymchwil i wella perfformiad cystadleuwyr o Gymru'n cael hwb ariannol dros bedair blynedd

    Bydd gwaith prosiect ymchwil Cymru gyfan sy'n helpu i wella perfformiad cystadleuwyr o Gymru ym myd y campau yn parhau diolch i grant gwerth £440,000 gan Chwaraeon Cymru.

  • 1 Rhagfyr 2020
    Canfyddiadau newydd ynghylch elfennau ym myd natur sy'n amddiffyn yn erbyn pelydrau'r haul

    Mae ymchwil gan Brifysgol Abertawe wedi cynnig dealltwriaeth newydd o ymddygiad elfennau ym myd natur sy'n amddiffyn yn erbyn pelydrau'r haul pan fyddant yn dod i gysylltiad â rhannau eraill o'r sbectrwm golau. 

  • 30 Tachwedd 2020
    Prifysgol Abertawe yn ail-lansio Cystadleuaeth Stori Fer Rhys Davies

    Mae Sefydliad Diwylliannol Prifysgol Abertawe yn ail-lansio’r Gystadleuaeth Stori Fer Rhys Davies nodedig i awduron o Gymru, neu sy’n byw yng Nghymru.

  • 27 Tachwedd 2020
    Cynnydd ymchwil canser y Brifysgol yn arwain at hwb ariannol gan bartneriaid

    Mae gwaith arloesol prosiect Prifysgol Abertawe i wella ffyrdd o bennu diagnosis o ganser yr ofari a thrin y clefyd wedi helpu i sicrhau buddsoddiad gwerth mwy na £3m gan bartneriaid diwydiannol. 

  • 24 Tachwedd 2020
    Newid plastigion gwastraff yn gyfansoddion gwerthfawr iawn ar gyfer y diwydiannau ynni.

    Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi prosiect gwyddoniaeth hynod flaengar sy’n newid plastigion gwastraff yn gyfansoddion gwerthfawr iawn ar gyfer y diwydiannau ynni.

  • 24 Tachwedd 2020
    Partneriaeth beirianneg newydd i ddatblygu marchnadle digidol er mwyn gwella cadwyn gyflenwi gweithgynhyrchu

    Mae tîm ymchwil, dan arweiniad Coleg Peirianneg Prifysgol Abertawe, yn datblygu marchnadle peilot ar-lein, gyda’r bwriad o optimeiddio rhwydweithiau cadwyn gyflenwi gweithgynhyrchu a chreu model busnes newydd ar draws y diwydiant.

  • 19 Tachwedd 2020
    Partneriaeth y Brifysgol yn barod i helpu busnesau newydd i greu'r cysylltiadau cywir

    Bydd cydweithrediad newydd yn rhoi hwb rhwydweithio gwerthfawr i fyfyrwyr entrepreneuraidd wrth iddynt lansio eu syniadau busnes.


  • 19 Tachwedd 2020
    Mwy o berygl i bobl hŷn, dlotach gael adweithiau niweidiol i gyffuriau

    Mae adolygiad gan academyddion o Brifysgol Abertawe wedi gweld bod pobl hŷn, dlotach sy'n cadw pellter cymdeithasol rhag eu meddygon neu eu fferyllwyr yn dioddef mwy o adweithiau niweidiol i gyffuriau na'r boblogaeth gyffredinol.   

  • 17 Tachwedd 2020
    Arddangosfa newydd am fywyd Richard Burton yn adrodd hanes seren ryngwladol y llwyfan a’r sgrîn

    Mae arddangosfa newydd sbon am fywyd Richard Burton yn datgelu’r dyn y tu ôl i’r penawdau – yn ŵr, yn dad, yn ddarllenydd, yn sgwennwr a Chymro balch.

  • 12 Tachwedd 2020
    Cyllid i brosiect newydd i ddefnyddio golau'r haul i drawsnewid gwastraff Covid-19 yn danwydd glân

    Gellid defnyddio golau'r haul i drawsnewid gwastraff meddygol peryglus yn danwydd hydrogen glân, gan ddefnyddio techneg newydd sy'n cael ei datblygu gan dîm rhwng Cymru ac India ar y cyd dan arweiniad ymchwilwyr Prifysgol Abertawe. Mae'r prosiect newydd gael cyllid gwerth £47,000 gan Lywodraeth Cymru.

  • 11 Tachwedd 2020
    Arolwg newydd yn datgelu maint effaith Covid-19 ar iechyd meddwl yng Nghymru

    Mae Cymru’n wynebu ton o broblemau iechyd meddwl yn sgil Covid-19, gydag oedolion iau, menywod a phobl o ardaloedd difreintiedig yn dioddef fwyaf.

  • 5 Tachwedd 2020
    Cyllid newydd yn gwneud gwahaniaeth i brosiectau ymchwil a allai achub bywydau

    Mae pedwar prosiect gan Brifysgol Abertawe sy'n ceisio gwneud gwahaniaeth a allai achub bywydau cleifion wedi cymryd cam mawr i’r cyfeiriad cywir. 

  • 5 Tachwedd 2020
    Gwyddonwyr yn datblygu dull o ganfod trapiau gwefru mewn lled-ddargludyddion organig

    Mae gwyddonwyr ym Mhrifysgol Abertawe wedi datblygu dull sensitif iawn o ganfod mân arwyddion ‘trapiau gwefru’ mewn lled-ddargludyddion organig. 

  • 5 Tachwedd 2020
    Gwres nid gwastraff: ymchwil newydd i ystyried ailddefnyddio gwres gwastraff o fyd diwydiant

    Bydd ymchwilwyr o Brifysgol Abertawe a Tata Steel yn rhan o brosiect newydd i ymchwilio i'r posibilrwydd o ailafael mewn gwres gwastraff o fyd diwydiant er mwyn ei ailddefnyddio.

  • 4 Tachwedd 2020
    Plant yn dal i ddysgu yn ystod y cyfnod atal diolch i brosiect allgymorth Prifysgol Abertawe

    Mae prosiect allgymorth gan Brifysgol Abertawe wedi helpu i ddosbarthu cannoedd o werslyfrau gwyddoniaeth i blant sy'n astudio gartref yng Nghymru yn ystod y cyfnod atal byr. 

  • 3 Tachwedd 2020
    Placiau Glas Tywyll y Brifysgol yn nodi mannau bythgofiadwy

    Mae cwrdd â phartner oes, meithrin cyfeillgarwch a mwynhau gyrfa hir a hapus ymysg y profiadau bythgofiadwy sydd bellach yn cael eu coffáu ym Mhrifysgol Abertawe. 

  • 3 Tachwedd 2020
    Myfyriwr nyrsio Abertawe orau ym Mhrydain

    Pan ddaw i helpu cleifion i baratoi eu hunain ar gyfer llawdriniaeth, gellir dadlau bod Rea Pugh-Davies o Fae Abertawe yn un o'r goreuon sydd o gwmpas.

  • 3 Tachwedd 2020
    Dylunio adeiladau carbon isel: cyflwyno gwybodaeth tîm Abertawe mewn pecyn cymorth newydd

    Mae'r tîm a wnaeth ddylunio ac adeiladu dau adeilad carbon isel ym Mhrifysgol Abertawe, sy'n cynhyrchu eu hynni eu hunain, yn cyhoeddi pecyn cymorth sy'n nodi'r egwyddorion dylunio a ddefnyddiwyd. Y nod yw annog eraill i adeiladu'r “Adeiladau Ynni Gweithredol” hyn gan y byddai hynny'n lleihau ôl troed carbon y DU yn sylweddol; ar hyn o bryd, mae 40% o'n hallyriadau'n deillio o wresogi a phweru ein hadeiladau.

  • 2 Tachwedd 2020
    Astudiaeth newydd o'r ffordd y mae mesurau diogelwch Covid-19 yn cynyddu pryderon ac ymddygiad osgoi

    Mae astudiaeth newydd yn cael ei lansio gan Brifysgol Abertawe i ymchwilio i'r ffordd y mae mesurau diogelwch Covid-19 o bosib yn cael yr effaith anffodus o wneud i bobl deimlo'n llai diogel, gan gynyddu pryderon ac achosi i bobl osgoi sefyllfaoedd a mannau roeddent yn teimlo'n ddiogel ynddynt o'r blaen.

  • 30 Hydref 2020
    Yr astudiaeth gyntaf i asesu risg COVID-19 i iechyd gweithwyr gofal cartref yng Nghymru

    Mae'r astudiaeth gyntaf i nodi risg COVID-19 i weithwyr gofal cartref ledled Cymru yn cael ei lansio heddiw.

  • 29 Hydref 2020
    Gwobr i ffisegydd am ei waith ar wrthfater

    Mae'r Sefydliad Ffiseg wedi rhoi anrhydedd uchel ei fri i ffisegydd o Brifysgol Abertawe am ei arweinyddiaeth dros 30 mlynedd ym maes gwyddor gwrthfater.

  • 29 Hydref 2020
    Y Brifysgol yn cyfrannu at y cyfarwyddyd cytunedig cyntaf ar ymarfer corff diogel i bobl â diabetes

    Mae academydd o Brifysgol Abertawe wedi helpu i lunio cytundeb arloesol rhwng arbenigwyr rhyngwladol ar gyfarwyddyd safonol cyntaf y byd ynghylch sut gall pobl â diabetes ddefnyddio dyfeisiau monitro glwcos modern er mwyn eu helpu i wneud ymarfer corff yn ddiogel.

  • 28 Hydref 2020
    Myfyriwr nyrsio o Brifysgol Abertawe yn ennill gwobr glodwiw Myfyriwr Mwyaf Ysbrydoledig y Flwyddyn

    Mae Matt Townsend, myfyriwr Nyrsio Oedolion o Brifysgol Abertawe, wedi ennill gwobr Myfyriwr Mwyaf Ysbrydoledig y Flwyddyn yng Ngwobrau Myfyrwyr Nursing Times eleni.

  • 27 Hydref 2020
    Academyddion yn galw am glinigau triniaeth gamblo GIG yng Nghymru

    Mae academyddion Prifysgol Abertawe wedi galw am glinigau triniaeth anhwylder gamblo GIG i’w sefydlu yng Nghymru, wrth i lythyr, a gyhoeddwyd yn The Lancet ddatgelu effaith difrifol y broblem o gamblo yng Nghymru, yn enwedig ymhlith pobl ifanc. 

  • 27 Hydref 2020
    Y cysylltiad rhwng hormon yn y coludd a dementia pobl â chlefyd Parkinson - ymchwil Abertawe  

    Mae gwaith ymchwil dan arweiniad Prifysgol Abertawe wedi darganfod bod hormon yn y coludd, sef ghrelin, yn allweddol wrth reoli nerfgellau newydd yn ymennydd oedolion. Gallai helpu i baratoi'r ffordd ar gyfer cyffuriau newydd i drin dementia mewn pobl sy'n dioddef o glefyd Parkinson.

  • 27 Hydref 2020
    Prosiect rhyngwladol yn arwain at archif ar-lein o waith Dylan Thomas

    Mi fydd casgliad digidol o lawysgrifau a ffotograffau sy'n gysylltiedig â'r bardd a'r awdur Dylan Thomas ar gael ar-lein cyn hir, diolch i gydweithrediad rhyngwladol.

  • 26 Hydref 2020
    Gwobrau diabetes: Llwyddiant dwbl i'r Brifysgol

    Mae uwch-diwtor er anrhydedd a myfyriwr gradd meistr o Brifysgol Abertawe wedi cael eu hanrhydeddu am eu hymroddiad i ofal diabetes mewn seremoni fawr i wobrwyo gweithwyr gofal iechyd yn y DU. 

  • 26 Hydref 2020
    Animeiddiad newydd yn helpu cleifion lymffoedema i adnabod symptomau

    Mae fideo animeiddiedig newydd wedi'i ddatblygu gan Brifysgol Abertawe i godi ymwybyddiaeth o lymffoedema ac i helpu cleifion i ddeall mwy am sut caiff eu cyflwr ei drin.

  • 23 Hydref 2020
    Prosiect SUNRISE ar y rhestr fer ar gyfer gwobr Times Higher Education

    Mae SUNRISE wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer ‘Cydweithrediad Rhyngwladol y Flwyddyn’ yng Ngwobrau Times Higher Education (THE), sydd yn ei 16eg flwyddyn. 

  • 23 Hydref 2020
    Athro'n helpu i hyrwyddo nanofeddygaeth ledled y DU yn ei rôl newydd

    Mae'r Athro Steve Conlan o Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe wedi derbyn rôl allweddol yn helpu i dynnu sylw at ymchwil i nanofeddygaeth yn y DU. 

  • 20 Hydref 2020
    Cyllid o'r UE yn rhoi hwb i dechnoleg solar werdd yng Nghymru

    Gall Cymru ddal i arwain y ffordd o ran technoleg ynni solar y genhedlaeth nesaf, ar gyfer defnyddiau megis synwyryddion o bell a cherbydau trydan, diolch i gyllid gwerth £2.5m o'r UE a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru, er mwyn parhau â rhaglen ymchwil dan arweiniad Abertawe.

  • 19 Hydref 2020
    Darlith gan arbenigwr o Brifysgol Abertawe yn dangos sut gall dur wedi'i gaenu ddefnyddio ynni solar

    Gall dur wedi'i gaenu ddefnyddio ynni solar a lleihau allyriadau carbon, yn ôl darlith gyhoeddus ar-lein gan arbenigwr o Brifysgol Abertawe, a gynhelir i nodi'r ffaith bod y Sefydliad Deunyddiau, Mwynau a Mwyngloddio (IOM3) wedi dyfarnu Medal Aur Bessemer iddo.

  • 16 Hydref 2020
    Gwobr Allgymorth ac Ymgysylltu i'r ymchwilydd o Brifysgol Abertawe

    Mae'r ymchwilydd ôl-ddoethurol Dr Claire Price wedi cael ei chydnabod am ei gwaith i wneud gwyddoniaeth yn fwy hygyrch i'r gymuned yn ei thref leol. 

  • 15 Hydref 2020
    Mwy o broblemau iechyd meddwl ymhlith gofalwyr teulu yn ystod y cyfyngiadau symud

    Roedd cyfraddau problemau iechyd meddwl pobl sy'n gofalu am blant ac oedolion ag anabledd deallusol yn eu teulu hyd at 10 o weithiau'n uwch yn ystod y cyfyngiadau symud nag yn achos rhieni heb y cyfrifoldebau hynny, yn ôl astudiaeth newydd.

  • 15 Hydref 2020
    Prifysgol Abertawe'n un o fannau gwyrdd gorau'r wlad

    Mae Prifysgol Abertawe wedi cael ei henwi ymysg enillwyr Gwobr y Faner Werdd unwaith eto eleni. Dyma arwydd rhyngwladol sy'n dynodi parc neu fan gwyrdd o safon. 

  • 8 Hydref 2020
    Modiwl newydd yn galluogi myfyrwyr peirianneg i weithio o bell gyda thîm yn Nhecsas

    Mae grŵp o fyfyrwyr peirianneg wedi dechrau modiwl a gynhelir gan Brifysgol A&M Tecsas, gan weithio o bell gyda pheirianwyr eraill dramor, diolch i fenter newydd gan y Coleg Peirianneg, sy'n seiliedig ar gysylltiadau Prifysgol Abertawe â Thecsas.

  • 8 Hydref 2020
    Y myfyriwr Matt yn dweud fod Covid-19 wedi dysgu iddo beth yw gwir ystyr bod yn nyrs

    Pan gafodd Matt Townsend, myfyriwr nyrsio o Brifysgol Abertawe, gyfle i ymuno â rheng flaen y GIG ar anterth argyfwng y coronafeirws, roedd yn gwybod yn syth beth oedd yn rhaid iddo ei wneud.

  • 7 Hydref 2020
    Cyllid Llywodraeth Cymru i ESRI ar gyfer cyfarpar diogelu personol y genhedlaeth nesaf

    Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cyllid i'r Sefydliad Ymchwil Diogelwch Ynni (ESRI) ym Mhrifysgol Abertawe at ddiben datblygu ymagwedd unigryw at gyfarpar diogelu personol y genhedlaeth nesaf fel rhan o'r frwydr yn erbyn feirysau. 

  • 5 Hydref 2020
    Tîm Menywod Cymru'n paratoi i wynebu'r Alban ym Mhrifysgol Abertawe

    Mae Tîm Menywod Cymru'n defnyddio cyfleusterau chwaraeon Prifysgol Abertawe wrth iddynt baratoi i wynebu'r Alban ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad. 

  • 5 Hydref 2020
    Seithfed flwyddyn Bod yn Ddynol

    Mae Sefydliad Diwylliannol Prifysgol Abertawe wedi cael ei ddewis i fod yn un o bedwar hyb Bod yn Ddynol 2020. Dyma unig ŵyl genedlaethol y dyniaethau yn y DU. 

  • 2 Hydref 2020
    Cyllid i ariannu arddangosfa ar amrywiaeth ddiwylliannol a hiliaeth yn yr henfyd

    Mae cyllid gwerth £1,100 wedi cael ei ddyfarnu ar y cyd i arbenigwr ar hanes yr henfyd a Chanolfan Eifftaidd Abertawe er mwyn datblygu arddangosfa newydd ar yr Aifft a'i chymdogion, a ddefnyddir ar gyfer rhaglen addysg y Ganolfan ar faterion megis hunaniaeth, hiliaeth a senoffobia yn yr henfyd.

  • 1 Hydref 2020
    Mae ymchwil yn datgelu sut mae pandemig wedi effeithio ar gefnogaeth hanfodol o fwydo ar y fron

    Mae cydweithrediad ymchwil newydd dan arweiniad Prifysgol Abertawe wedi tynnu sylw at ddiffyg cefnogaeth bwydo ar y fron o ansawdd uchel i rai teuluoedd yn ystod pandemig Covid-19.

  • 1 Hydref 2020
    Prifysgol Abertawe'n enwi llu o sêr ar gyfer Gŵyl Wyddoniaeth Abertawe 2020

    Bydd Gŵyl Wyddoniaeth Abertawe yn dychwelyd ym mis Hydref, gyda llu o westeion arbennig, gan gynnwys yr Athro Brian Cox, Steve Backshall, Konnie Huq, Iolo Williams a Lyn Evans.

  • 25 Medi 2020
    Arbenigwyr Abertawe'n lansio podlediad newydd ar ymgyrch arlywyddiaeth 2020

    Mae ymchwilwyr o Brifysgol Abertawe wedi lansio cyfres newydd o bodlediadau sy'n defnyddio data ar y pryd o farchnadoedd gamblo gwleidyddol er mwyn dadansoddi ymgyrch arlywyddiaeth 2020 yr Unol Daleithiau.

  • 24 Medi 2020
    Y Brifysgol yn cael dau lwyddiant cynaliadwyedd

    Mae ymrwymiad Prifysgol Abertawe i gynaliadwyedd wedi arwain at ddau gyflawniad. 

  • 24 Medi 2020
    Cyllid gwerth £3.7m i gefnogi sefydliadau yn ne Cymru i arloesi economi gylchol

    Bydd prosiect newydd gwerth £3.7m yn helpu sefydliadau gwasanaeth cyhoeddus yn ne Cymru i gydweithredu i ddatblygu atebion gwasanaeth rhanbarthol newydd ar gyfer heriau presennol yr economi gylchol.

  • 23 Medi 2020
    Sut gall pobl sydd wedi goroesi Covid-19 helpu gwaith ymchwil i wella'r broses adfer

    Mae ymchwilwyr sy'n archwilio dull newydd o helpu i adfer iechyd pobl ar ôl Covid-19, gan ddefnyddio ymarferion anadlu a dyfais llaw, yn chwilio am wirfoddolwyr sydd wedi dioddef o'r cyflwr er mwyn eu helpu i'w brofi. Gallai'r gwaith fod o fudd i gleifion a lliniaru'r straen ar y GIG.

  • 22 Medi 2020
    Prifysgol Abertawe'n cefnogi ymgyrch i wneud Cymru'n bencampwyr ailgylchu'r byd

    Mae Prifysgol Abertawe wedi troi'n wyrdd, a hynny'n llythrennol, er mwyn pwysleisio'r neges y dylid ailgylchu. 

  • 18 Medi 2020
    Gwyddonwyr gwirfoddol yn helpu i ddangos bod afonydd y DU yn rhanedig

    Mae ymchwil newydd a arweinir gan academyddion o Brifysgol Abertawe, drwy gymorth gwyddonwyr gwirfoddol, wedi gweld bod 99% o fasnau afonydd yn y DU wedi'u rhannu gan rwystrau artiffisial fel argaeau, coredau a chwlferi. Mae angen cymryd camau gweithredu brys i ailgysylltu afonydd, er mwyn sicrhau eu hiechyd hirdymor, ac iechyd hirdymor y cymunedau o'u cwmpas.

  • 17 Medi 2020
    Y Brifysgol yn helpu 1,100 o ddisgyblion i barhau i ddysgu yn ystod y cyfyngiadau symud

    Cafodd mwy na mil o ddisgyblion yn ne Cymru eu helpu i astudio yn ystod y cyfyngiadau symud, diolch i brosiect y mae Prifysgol Abertawe'n cymryd rhan ynddo. 

  • 15 Medi 2020
    Gwyddoniaeth gyfranogol yn ehangu rhestrau o isadeileddau mewnffrydiau byd-eang

    Mae tîm rhyngwladol o ymgyrchwyr – gan gynnwys rhai o Brifysgol Abertawe – wedi defnyddio data a synhwyrir o bell sydd ar gael drwy beiriant Google Earth er mwyn nodi, mapio a dilysu isadeileddau mewnffrydiau megis argaeau, coredau a lociau ledled y byd. 

  • 11 Medi 2020
    Protestiadau, streiciau a rhannu ystafell â Paul McCartney

    Mae miloedd o fyfyrwyr wedi mynd drwy ddrysau Prifysgol Abertawe dros y 100 mlynedd diwethaf, ond mae'n annhebygol bod llawer ohonynt wedi cael amser mwy cofiadwy na Jeffrey Temple. 

  • 11 Medi 2020
    Rhaglen gofal iechyd newydd y Brifysgol sy'n seiliedig ar werth

    Mae Prifysgol Abertawe wedi datblygu rhaglen gofal iechyd bwrpasol sy'n seiliedig ar werth (VBHC) mewn cydweithrediad â'i phartner strategol Sprink Ltd, fel rhan o'i chynnig Addysg Weithredol. 

  • 10 Medi 2020
    £1m ar gyfer menter newydd gan Brifysgol Abertawe i ddatblygu systemau storio ynni uwch

    Bydd tîm ymchwil o Goleg Peirianneg Prifysgol Abertawe yn ffurfio partneriaeth newydd â'r darparwr atebion ynni byd-eang mawr ENSERV POWER.

  • 9 Medi 2020
    Cydnabyddiaeth i fyfyrwyr iechyd a meddygaeth Abertawe am wirfoddoli yn ystod argyfwng Covid-19

    Bydd oddeutu 1,000 o fyfyrwyr gofal iechyd a meddygaeth sydd wedi gwirfoddoli yn ystod pandemig Covid-19 yn derbyn tocyn anrheg am fusnes lleol, diolch i gyfraniad gwerth £27,500 gan Santander, drwy'r fenter Prifysgolion Santander.

  • 8 Medi 2020
    Gwir faint siarc anferthol cynhanes wedi'i ddatgelu o'r diwedd

    Mae astudiaeth newydd dan arweiniad Prifysgol Abertawe a Phrifysgol Bryste wedi datgelu maint siarc anferthol chwedlonol y Megalodon, gan gynnwys esgyll sydd mor fawr â dyn. 

  • 7 Medi 2020
    Prifysgol Abertawe yn dringo i safle 24 yng Nghanllaw Prifysgolion y Guardian

    Mae Prifysgol Abertawe wedi cyrraedd ei safle uchaf erioed mewn unrhyw dabl cynghrair yn y DU ar ôl codi o safle 31 i 24 yng Nghanllaw Prifysgolion y Guardian 2021.

  • 7 Medi 2020
    Penodi Kier ar gyfer prosiect adeiladu CISM gwerth £30m ar Gampws y Bae

    Mae cyfleuster newydd o'r radd flaenaf ym Mhrifysgol Abertawe a fydd yn cyfuno ymchwil arloesol â datblygu technoleg ym maes peirianneg a gwyddor lled-ddargludyddion gam yn agosach ar ôl dyrannu'r prif gontract adeiladu i Kier ar gyfer y Ganolfan Deunyddiau Lled-ddargludydd Integreiddiol (CISM) ar Gampws y Bae.

  • 4 Medi 2020
    Nid yw pellter yn broblem wrth i ddosbarthiadau iaith myfyrwyr Tsieineaidd barhau ar-lein

    Mae myfyrwyr Tsieineaidd, yn eu hawydd i baratoi ar gyfer cyrsiau Prifysgol Abertawe, wedi parhau i astudio – er bod pellter o fwy na 5,000 milltir rhyngddynt a'u hathrawon. 

  • 4 Medi 2020
    Disgyblion yn dychwelyd yn ddiogel i 12 o ysgolion lleol oherwydd hylif diheintio’r Brifysgol

    Plant mewn 12 o ysgolion lleol sy'n dychwelyd i'w gwersi yr wythnos hon yw'r bobl ddiweddaraf i gael eu diogelu gan hylif diheintio dwylo a wnaed ym Mhrifysgol Abertawe, lle mae labordy technoleg solar wedi newid yr hyn y mae'n ei gynhyrchu dros dro yn ystod argyfwng COVID-19.

  • 3 Medi 2020
    Astudiaeth yn canolbwyntio ar ymdrin â galwadau 999 gan gleifion Covid-19

    Mae astudiaeth newydd gan Brifysgol Abertawe sy'n ystyried y ffordd orau i wasanaethau ambiwlans ymdrin â galwadau Covid-19 tybiedig newydd ennill cymorth ariannol mawr. 

  • 3 Medi 2020
    Gwasanaethau osteopatheg yn ailddechrau yn Academi Iechyd a Llesiant Abertawe

    Bydd Academi Iechyd a Llesiant Prifysgol Abertawe'n dechrau darparu gwasanaethau osteopatheg i'r cyhoedd eto o ddydd Llun 7 Medi.

  • 2 Medi 2020
    Ymchwil newydd yn datgelu sbardunau amgylcheddol cymhlethdod ecolegol mewn cymunedau rhynglanwol morol

    Mae amgylchiadau amgylcheddol megis tymheredd arwyneb môr ac achosion o bistyllio dŵr oer yn gyfrifol am strwythur rhwydweithiau rhyngweithio mewn cymunedau rhynglanwol morol o ganlyniad i'w heffaith ar gyfoeth rhywogaethau, yn ôl ymchwil newydd.  

  • 2 Medi 2020
    Buddsoddiad o £20m yn ymestyn prosiect AgorIP hyd at 2023

    Mae'r Prosiect AgorIP, sydd wedi helpu economi ac arloesedd Cymru yng Ngorllewin Cymru i ffynnu dros y pedair blynedd diwethaf, wedi'i ymestyn er budd Cymru gyfan, gyda chyfanswm buddsoddiad o dros £20m. 

  • 2 Medi 2020
    Adroddiad newydd yn rhybuddio am gwymp anferth o ran poblogaethau pysgod dŵr croyw a pherygl i swyddi

    Mae The Living Planet Index for Migratory Freshwater Fish, yr adroddiad byd-eang cynhwysfawr cyntaf am statws pysgod mudol, wedi datgelu bod poblogaethau pysgod dŵr croyw wedi cwympo 76% ar gyfartaledd rhwng 1970 a 2016 – gan gynnwys cwymp cyfartalog syfrdanol o 93% yn Ewrop.   

  • 1 Medi 2020
    Athrawon yn croesawu dychwelyd i'r ysgol, ond yn mynegi pryderon – arolwg

    Wrth i ysgolion ailagor, mae arolwg o staff ysgolion cynradd yng Nghymru'n dangos eu bod yn cefnogi'r ffaith bod plant yn dychwelyd i'r dosbarth, er lles eu haddysg a'u datblygiad cymdeithasol, ond bod ganddynt bryderon gwirioneddol hefyd.

  • 28 Awst 2020
    Prifysgol Abertawe'n cyhoeddi cyllid gwerth £230,000 i hybu profiad myfyrwyr

    Bydd myfyrwyr ym Mhrifysgol Abertawe'n elwa o hwb ariannol i gynnal rhaglen o ddigwyddiadau ar gyfer myfyrwyr newydd a rhai sy'n dychwelyd rhwng mis Medi 2020 a mis Chwefror 2021.

  • 26 Awst 2020
    Clytiau micronodwydd i roi brechlynnau

    Mae ffordd newydd chwyldroadol o roi brechlynnau drwy glytiau micronodwydd yn cael ei phrofi ym Mhrifysgol Abertawe, diolch i gyllid gwerth £200,000 gan yr UE a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru.

  • 25 Awst 2020
    Mewnfridio'n lleihau cydweithrediad rhwng mongwsiaid rhesog yn ôl astudiaeth

    Gall mewnfridio leihau cydweithrediad rhwng mongwsiaid rhesog yn ôl astudiaeth ddiweddar gan ymchwilwyr. 

  • 20 Awst 2020
    Yr awdur enwog David Walliams yn cefnogi cystadleuaeth ysgolion y Brifysgol

    Mae'r awdur plant hynod boblogaidd David Walliams wedi cefnogi cystadleuaeth i blant a gynhelir i nodi canmlwyddiant Prifysgol Abertawe. 

  • 20 Awst 2020
    Delweddau pelydr X 3D yn datgelu cyfrinachau bywydau a marwolaethau anifeiliaid yn yr hen Aifft

    Mae ymchwilwyr wedi dadlapio a dadansoddi tri anifail mymïaidd o'r hen Aifft yn ddigidol, gan ddefnyddio sganiau 3D eglur iawn sy'n rhoi manylder digynsail am fywydau'r anifeiliaid – a'u marwolaethau – dros 2,000 o flynyddoedd yn ôl.

  • 19 Awst 2020
    Y Brifysgol yw noddwr newydd blaen crys yr Elyrch

    Mae Prifysgol Abertawe'n falch o gyhoeddi mai hi fydd noddwr blaen crys Clwb Pêl-droed Dinas Abertawe ar gyfer tymor 2020-21. 

  • 14 Awst 2020
    Ymchwilwyr yn ffilmio hylif yn ymddwyn fel solid

    Mae ymchwilwyr o Goleg Peirianneg Prifysgol Abertawe wedi ffilmio hylif yn ymateb fel solid drwy ddull newydd o arsylwi ar hylifau dan amgylchiadau gwasgeddedig.

  • 14 Awst 2020
    Arbenigwyr y Brifysgol wrth wraidd ymchwil i glefydau pandemig

    Mae pedwar academydd o Brifysgol Abertawe'n rhan o brosiect ymchwil mawr newydd sy'n ymchwilio i Covid-19 a'r hyn y gall ein dysgu am ymdopi â chlefydau pandemig yn y dyfodol. 

  • 14 Awst 2020
    Discovery yn cael cyllid i gynorthwyo'r ymateb i bandemig COVID-19

    Mae Llywodraeth Cymru wedi dyfarnu dau grant i'r elusen Discovery SVS er mwyn helpu ei gwaith i liniaru effaith COVID-19 yng Nghymru ac mewn cymunedau yn Affrica.  

  • 12 Awst 2020
    Arwr rygbi'r Gweilch, Cymru a'r Llewod James Hook yw hyfforddwr ymosodol Prifysgol Abertawe

    Mae'r arwr rygbi rhyngwladol James Hook, a wnaeth chwarae 81 o weithiau dros Gymru a theithio gyda Llewod Prydain ac Iwerddon i Dde Affrica yn 2009, wedi derbyn swydd hyfforddwr ymosodol timau rygbi Prifysgol Abertawe.

  • 12 Awst 2020
    Prosiect yn datgelu sut gallai algâu fod yn allweddol wrth gynhyrchu bwyd yn gynaliadwy

    Mae prosiect arloesol gan Brifysgol Abertawe'n defnyddio mân algâu i archwilio sut i ailddefnyddio gwastraff a chynhyrchu mwy o fwyd ar yr un pryd. 

  • 12 Awst 2020
    Abertawe'n llwyddo yn ei chais i recriwtio 250 o fyfyrwyr peirianneg ychwanegol

    Mae Prifysgol Abertawe wedi llwyddo yn ei chais i'r Adran Addysg i recriwtio 250 o fyfyrwyr peirianneg ychwanegol fel rhan o ymgyrch gan Lywodraeth y DU i gynnig dros 9,000 o leoedd ychwanegol mewn prifysgolion yn y DU ar gyfer cyrsiau a fydd yn darparu gwasanaethau allweddol, yn cefnogi'r economi ac yn creu canlyniadau cadarnhaol i fyfyrwyr.

  • 7 Awst 2020
    Y Brifysgol yn croesawu Dirprwy Is-ganghellor Ymchwil ac Arloesi newydd

    Mae Prifysgol Abertawe wedi croesawu Dirprwy Is-ganghellor newydd i'w huwch-dîm rheoli, a fydd yn gyfrifol am bortffolio Ymchwil ac Arloesi'r Brifysgol.

  • 7 Awst 2020
    Adnoddau ar-lein i gyflymu'r broses o roi diagnosis o awtistiaeth

    Mae rhieni sy'n pryderu am y posibilrwydd bod eu plentyn yn dioddef o un o anhwylderau'r sbectrwm awtistig (ASD) yn gorfod aros am hyd at bedair blynedd am ddiagnosis ffurfiol, ond gall asesiadau ar-lein helpu i gyflymu'r broses hon, yn ôl dwy astudiaeth ymchwil newydd gan Brifysgol Abertawe.

  • 31 Gorffennaf 2020
    Prosiect yn helpu i leihau nifer y bobl sy'n cael eu llosgi yn Nepal

    Mae prosiect i atal llosgiadau a gefnogir gan arbenigwyr o Brifysgol Abertawe wedi cael effaith ddramatig ar gymunedau yn Nepal. 

  • 31 Gorffennaf 2020
    Academi Hywel Teifi Prifysgol Abertawe yn cyfrannu at arlwy Gŵyl AmGen

    Roedd disgwyl i wythnos gyntaf mis Awst fod yn un brysur i Dregaron eleni, ond gan na fydd y Brifwyl yn cael ei chynnal yno bellach, mae’r Eisteddfod wedi lansio Gŵyl AmGen 2020 - prosiect a fydd yn rhoi blas ar y Brifwyl i bobl rhwng 30 Gorffennaf ac 8 Awst, a’r cyfan ar gael ar S4C, Radio Cymru a gwefan Cymru Fyw.

  • 26 Gorffennaf 2020
    £6 miliwn i ddefnyddio technoleg solar y genhedlaeth nesaf mewn ffyrdd newydd

    Bydd grant gwerth £6 miliwn yn ysgogi'r broses o ddefnyddio technoleg solar y genhedlaeth nesaf mewn ffyrdd newydd.

  • 24 Gorffennaf 2020
    Tîm arloesi'r Brifysgol yn helpu i ddatblygu adnodd dementia o'r radd flaenaf

    Mae arbenigwyr arloesi ym Mhrifysgol Abertawe'n helpu i fireinio dyfais o'r radd flaenaf sydd eisoes yn gwneud gwahaniaeth allweddol i bobl sy'n byw gyda dementia a'u gofalwyr. 

  • 23 Gorffennaf 2020
    Cystadleuaeth canmlwyddiant yn gwahodd disgyblion i edrych tua'r dyfodol

    Mae Prifysgol Abertawe'n nodi ei chanmlwyddiant drwy ofyn i blant rannu eu gweledigaeth ynghylch pa olwg fydd arni ymhen 100 mlynedd arall. 

  • 23 Gorffennaf 2020
    “Fy ngradd oedd fy achubiaeth” – Natalie’n graddio ar ôl trechu canser

    Dihangodd Natalie Jarvis, sy'n 27 oed, ar ôl dioddef cam-drin domestig ac mae hi bellach wedi goresgyn canser y fron. Yr wythnos hon, bydd yn graddio o Brifysgol Abertawe. Dyma stori Natalie yn ei geiriau ei hun.

  • 22 Gorffennaf 2020
    Partneriaeth i archwilio sut gallai algâu helpu i wneud eli haul yn fwy diogel

    Mae prosiect ym Mhrifysgol Abertawe sy'n archwilio sut i ddefnyddio algâu i greu'r genhedlaeth nesaf o gynhyrchion eli haul bellach yn cydweithio â chwmni gofal croen arobryn er mwyn helpu i ddatblygu'r syniad. 

  • 22 Gorffennaf 2020
    Llawenydd i Julia ar ôl aros 50 mlynedd i raddio

    Mae gwas sifil sydd wedi ymddeol yn dathlu ar ôl graddio o Brifysgol Abertawe – 50 mlynedd yn hwyrach na'r disgwyl. 

  • 20 Gorffennaf 2020
    Myfyrwyr Abertawe sydd am hedfan yn uchel ar ôl graddio

    Mae dau fyfyriwr yn edrych ymlaen at ragor o lwyddiant i'w busnes hedfanaeth byd-eang ar ôl iddynt raddio o Brifysgol Abertawe. 

  • 19 Gorffennaf 2020
    Tywysog Cymru'n recordio neges ar gyfer canmlwyddiant Prifysgol Abertawe

    Mae Tywysog Cymru wedi recordio neges fideo arbennig ar gyfer Prifysgol Abertawe wrth iddi ddathlu ei chanmlwyddiant ar 19 Gorffennaf.

  • 17 Gorffennaf 2020
    Astudiaeth yn dangos bod profiadau trawmatig yn gallu gadael eu hôl ar lygaid unigolyn

    Mae ymchwil newydd gan academyddion yn dangos bod canhwyllau llygaid claf yn gallu dangos a yw wedi dioddef profiad trawmatig yn y gorffennol.

  • 17 Gorffennaf 2020
    Abertawe i ddefnyddio cyllid ar gyfer dathliadau canmlwyddiant i ymladd yn erbyn Covid-19

    Bydd Prifysgol Abertawe, sy'n nodi ei chanmlwyddiant eleni, yn defnyddio cyllid a glustnodwyd yn flaenorol ar gyfer digwyddiadau dathlu er mwyn ymladd yn erbyn Covid-19 a hyrwyddo arloesedd

  • 16 Gorffennaf 2020
    Rhyfeddu at y ffordd mae crwbanod y môr yn dod o hyd i ynysoedd bach, anghysbell

    Mae astudiaeth arloesol gan wyddonwyr wedi ateb un o hen gwestiynau Charles Darwin ynghylch sut mae crwbanod yn dod o hyd i ynysoedd. 

  • 15 Gorffennaf 2020
    Prifysgol Abertawe yn y 6ed safle yn y DU am foddhad myfyrwyr

    Mae Prifysgol Abertawe wedi cyrraedd y chweched safle am foddhad cyffredinol myfyrwyr yn Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr (NSS) 2020.

  • 13 Gorffennaf 2020
    Astudiaeth aruchel gan arbenigwyr yn amlygu arferion adar esgynnol

    Mae ymchwil newydd wedi datgelu nad yw'r adar mwyaf yn dibynnu ar chwifio eu hadenydd er mwyn symud yn yr awyr. Yn hytrach na hynny, maent yn defnyddio ceryntau aer i'w cadw yn yr awyr am oriau ar y tro. 

  • 9 Gorffennaf 2020
    Teulu myfyriwr o Abertawe'n ysbrydoli syniad arobryn ar gyfer teclyn i gynorthwyo pobl anabl

    Profiad personol myfyriwr o Brifysgol Abertawe oedd yr ysbrydoliaeth ar gyfer ei gynnig buddugol mewn cystadleuaeth ledled y wlad i ddod o hyd i'r cynnyrch mwyaf arloesol ar gyfer pobl anabl.

  • 9 Gorffennaf 2020
    Y Brifysgol yn ymuno â menter ledled y wlad i helpu myfyrwyr i gyrraedd addysg uwch

    Mae Prifysgol Abertawe wedi cytuno i fod yn rhan o fenter ar-lein newydd sydd am helpu myfyrwyr sydd dan anfantais oherwydd y pandemig coronafeirws i gyrraedd addysg uwch. 

  • 9 Gorffennaf 2020
    Anrhydedd i ddarlithydd gan Gymdeithas Wyddoniaeth Prydain

    Mae darlithydd ym Mhrifysgol Abertawe wedi ennill y wobr urddasol, sef Gwobr Jacob Bronowski ar gyfer Gwyddoniaeth a’r Celfyddydau gan Gymdeithas Wyddoniaeth Prydain.  

  • 6 Gorffennaf 2020
    Myfyrwyr yn ateb y galw i gynnig cymorth mewn argyfwng

    Mae dau fyfyriwr o Brifysgol Abertawe wedi bod yn gweithio i helpu'r gwasanaethau brys yn ystod pandemig Covid-19.

  • 3 Gorffennaf 2020
    Prifysgol Abertawe ar y rhestr fer yng Ngwobrau Prifysgolion 2020 The Guardian

    Mae Prifysgol Abertawe wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Profiad Gorau i Fyfyrwyr yng Ngwobrau Prifysgolion 2020 The Guardian. 

  • 3 Gorffennaf 2020
    Platfform cronfa ddata a thechnoleg goruwch Cymru’n chwarae rhan fawr mewn cydweithrediad ymchwil Covid-19 rhyngwladol newydd

    Mae’r Banc Data Diogel ar gyfer Cysylltiadau Gwybodaeth Ddienw (SAIL), y mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru’n ei ariannu, wedi’i ddewis i chwarae rhan allweddol mewn cydweithrediad rhyngwladol i gyflymu ymchwil Covid-19.

  • 3 Gorffennaf 2020
    Troelli neu rolio? Y ffordd y mae moleciwlau'n cylchdroi sy'n gyfrifol am eu hymateb pan fyddant yn gwrthdaro ag arwynebau

    Beth sy'n digwydd pan geir gwrthdrawiad rhwng moleciwl ac arwyneb? Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Abertawe wedi dangos bod cyfeiriad moleciwl wrth iddo symud – p'un a yw'n troelli fel llafn hofrennydd neu'n rholio fel olwyn cert – yn bwysig wrth benderfynu'r hyn sy'n digwydd yn y gwrthdrawiad.

  • 2 Gorffennaf 2020
    Pâr yn rhannu atgofion hapus o'r Brifysgol a adwaenid fel Butlin’s-ger-y-môr

    Heb os nac oni bai, bydd Sandra a Bob Cuthill ymhlith y rhai a fydd yn cynnig llwncdestun i Brifysgol Abertawe pan fydd yn nodi ei chanmlwyddiant y mis hwn. 

  • 2 Gorffennaf 2020
    Buddsoddiad yr UE gwerth £6m yng Nghanolfan Arloesi a Gwybodaeth SPECIFIC yn dangos llwyddiant y prosiect

    Yn 2011, Roedd SPECIFIC yn un o chwe Chanolfan Arloesi a Gwybodaeth yn y DU a grëwyd gan Lywodraeth y DU.

  • 2 Gorffennaf 2020
    Academyddion Abertawe yn ymuno â'r alwad am ardoll statudol ar gwmnïau gamblo i leihau niwed

    Mae academyddion yn rhybuddio bod y system gyfredol yn rhoi gormod o ddylanwad i ddiwydiant ar sut mae arian yn cael ei wario.

  • 1 Gorffennaf 2020
    Meddygon newydd yn cael y clodydd yn nathliad graddio rhithwir cyntaf y Brifysgol erioed

    Daeth mwy na 150 o gyn-fyfyrwyr yn ôl at ei gilydd i ddathlu eu hamser yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe mewn seremoni raddio rithwir unigryw. 

  • 1 Gorffennaf 2020
    Myfyrwraig o Brifysgol Abertawe'n derbyn Gwobr Diana uchel ei bri i gydnabod ei gwaith gwirfoddol

    Mae Isabel Francis, sy'n astudio'r gyfraith ym Mhrifysgol Abertawe, wedi ennill yr anrhydedd uchaf sydd ar gael i rywun ifanc rhwng naw oed a 25 oed am weithredoedd cymdeithasol neu ymdrechion dyngarol – Gwobr Diana.

  • 30 Mehefin 2020
    Amddiffynwyr wyneb a ddyluniwyd gan dîm yn y Brifysgol i'w defnyddio gan y GIG yn ennill nod diogelwch CE

    Mae amddiffynwyr wyneb i ddiogelu staff y GIG, sydd wedi'u dylunio a'u cynhyrchu drwy argraffyddion 3D gan dîm ym Mhrifysgol Abertawe, wedi ennill nod diogelwch CE, sy'n golygu y gellir bellach eu cynhyrchu ar raddfeydd mwy ar gyfer ysbytai.

  • 30 Mehefin 2020
    Cynllun rhannu beiciau poblogaidd y Brifysgol yn ailddechrau

    Bydd beicwyr yn Abertawe yn ôl ar y cyfrwy o 1af Gorffennaf yn dilyn penderfyniad i ailagor cynllun rhannu beiciau poblogaidd y Brifysgol.

  • 29 Mehefin 2020
    Galw i ailgysylltu afonydd Ewrop wrth i filiwn o rwystrau gael eu darganfod

    Mae ymchwil newydd wedi dangos bod afonydd Ewrop ymysg y mwyaf rhanedig yn y byd, gyda hyd at filiwn o rwystrau i'w llif, ac mae bellach yn hollbwysig cymryd camau ar frys i'w hailgysylltu er mwyn sicrhau iechyd hirdymor yr afonydd hyn a'u cynefinoedd cyfagos.

  • 26 Mehefin 2020
    Prosiect sy'n helpu staff iechyd i gyfathrebu wrth ddefnyddio masgiau wyneb yn cipio gwobr arloesi

    Mae Canolfan Technoleg Gofal Iechyd Prifysgol Abertawe wedi chwarae rôl allweddol wrth ddatblygu adnodd cymorth cyfathrebu ar gyfer staff iechyd ar y rheng flaen sy'n gorfod gwisgo masgiau wyneb yn ystod y pandemig.  

  • 26 Mehefin 2020
    Prosiect CSconnected yn cael cyllid gan lywodraeth y DU 

    Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi bod prosiect mawr gwerth £43.74m ar y cyd â chlwstwr lled-ddargludyddion cyfansawdd De Cymru wedi cael ei gymeradwyo ymysg y cyllid cyntaf i'w ddyrannu drwy gronfa flaenllaw Strength in Places y corff Ymchwil ac Arloesi yn y DU (UKRI). Bydd cyllid gwerth £25.44m o gronfa Strength in Places (SIPF) yn ategu'r prosiect.

  • 25 Mehefin 2020
    Ffurfiwyd gan Ddur – cynhadledd Twitter gyntaf ar agor i bawb

    ‘Ffurfiwyd gan Ddur’ yw’r gynhadledd Twitter gyntaf erioed i gael ei chynnal gan Brifysgol Abertawe. Wrth i gynadleddau ‘wyneb yn wyneb’ mwy traddodiadol gael eu canslo oherwydd pandemig COVID-19 mae tîm prosiect ymchwil ‘Byd Cymdeithasol Dur’ yr Adran Hanes yn defnyddio Twitter fel ffordd arall o rannu ymchwil ac ymarfer treftadaeth i gynulleidfa wahanol y Twittersffêr.

  • 25 Mehefin 2020
    Ymchwilwyr yn darganfod dull newydd o drin dŵr sy'n ecogyfeillgar

    Mae ymchwilwyr o Brifysgol Abertawe wedi datblygu dull newydd o gael gwared ar gemegion gwenwynig o ddŵr.

  • 24 Mehefin 2020
    Proses unigol arloesol a allai helpu i ddiogelu ansawdd dŵr, yr amgylchedd ac iechyd

    Mae tîm ymchwil ym Mhrifysgol Abertawe wedi datblygu dull newydd ar gyfer canfod llygryddion sy'n deillio o gynhyrchion fferyllol cyffredin fel paracetamol, ibuprofen ac asbrin, a chael gwared arnynt yn gyflym, a allai leihau eu heffaith ar yr amgylchedd.

  • 18 Mehefin 2020
    Hanesydd yn datgelu rôl allweddol Prifysgol Abertawe yn ystod yr ail ryfel byd ac yn ei sgil mewn llyfr newydd

    Daw hanes Prifysgol Abertawe o dan y chwyddwydr mewn llyfr newydd a gyhoeddwyd i nodi canmlwyddiant y brifysgol yn 2020.

  • 18 Mehefin 2020
    Athro yn y Brifysgol yn cael ei anrhydeddu am ei gyfraniad eithriadol at arloesedd a gwyddoniaeth

    Mae'r Athro Dave Worsley o Brifysgol Abertawe wedi ennill Gwobr Dewi Sant am ei gyfraniad at Arloesedd, Gwyddoniaeth a Thechnoleg. 

  • 18 Mehefin 2020
    Grant cymunedol gan y Brifysgol yn cefnogi elusen i'r digartref

    Mae Prifysgol Abertawe wedi rhoi grant cymunedol gwerth £250 i'r elusen i'r digartref Llamau. 

  • 17 Mehefin 2020
    Un o fyfyrwyr Abertawe'n helpu i sicrhau bod staff ysbyty'n dal i gael eu diogelu

    Mae un o fyfyrwyr Prifysgol Abertawe'n chwarae rôl allweddol wrth reoli'r cyflenwad o gyfarpar diogelu personol yn un o'r ysbytai sydd wedi dioddef fwyaf o ganlyniad i'r pandemig.

  • 16 Mehefin 2020
    Ymchwilwyr o Brifysgol Abertawe'n derbyn yr her o godi arian am ganser

    Mae ymchwilwyr i ganser o Brifysgol Abertawe wedi herio eu hunain i feicio am fwy na 4,500km ym mis Mehefin er mwyn codi arian am yr elusen Gofal Canser Tenovus. 

  • 16 Mehefin 2020
    Academi Hywel Teifi yn cyfrannu at raglen Tafwyl Digidol

    Mae partneriaeth Academi Hywel Teifi a Tafwyl yn parhau unwaith eto eleni wrth i’r ŵyl boblogaidd symud ar-lein yn sgil pandemig coronafeirws.

  • 12 Mehefin 2020
    Gwersi Saesneg am ddim yn parhau ar-lein yn ystod y cyfyngiadau symud

    Mae'r gwersi Saesneg am ddim i ddechreuwyr a gynigir gan Brifysgol Abertawe yn dal i ffynnu er gwaethaf y cyfyngiadau symud. 

  • 10 Mehefin 2020
    Cymerwch ran mewn prosiect newydd i lywio cymorth iechyd meddwl a lles yng Nghymru ar ôl Covid-19

    Mae'r ymchwilwyr sy'n gyfrifol am astudiaeth newydd fawr sy'n nodi sut y mae pobl Cymru wedi ymdopi â'r argyfwng coronafeirws yn apelio am wirfoddolwyr i rannu eu profiadau. 

  • 10 Mehefin 2020
    Gwella o coronafeirws: gall peiriant anadlu newydd achub bywydau a chreu swyddi

    Mae tîm o feddygon a pheirianwyr o Abertawe wedi dylunio peiriant anadlu newydd y gellir ei adeiladu'n gyflym o gydrannau lleol ac – yn hollbwysig – y gall hyd yn oed cleifion sy'n dioddef yn ddifrifol o coronafeirws ei ddefnyddio. Hyd yn hyn, mae’r naill beth neu'r llall wedi bod yn wir am beiriannau anadlu, nid y ddau.

  • 10 Mehefin 2020
    Myfyrwraig PhD yn ennill rownd derfynol cystadleuaeth 3MT Prifysgol Abertawe

    Mae myfyrwraig PhD o Brifysgol Abertawe wedi ennill rownd derfynol Thesis Tair Munud (3MT) Prifysgol Abertawe. 

  • 9 Mehefin 2020
    Abertawe'n dringo'n uwch nag erioed yn nhablau'r Complete University Guide

    Mae Prifysgol Abertawe’n rhannu’r 32ain safle yn Nhablau Cynghrair 2021 y Complete University Guide – ei safle uchaf erioed.

  • 5 Mehefin 2020
    Achrediad cyflog byw go iawn i Brifysgol Abertawe

    Mae Prifysgol Abertawe wedi cael ei hachredu fel cyflogwr cyflog byw go iawn gan y Sefydliad Cyflog Byw (LWF).

  • 4 Mehefin 2020
    Myfyriwr o Brifysgol Abertawe yn cael ei choroni’n bencampwr FameLab

    Mae Rebecca Ellis, myfyriwr ym Mhrifysgol Abertawe, wedi ennill FameLab UK - cystadleuaeth gyfathrebu fwyaf blaenllaw'r byd ym maes gwyddoniaeth.

  • 1 Mehefin 2020
    Discovery: Newid bywydau ers mwy na 50 mlynedd

    Fel rhan o Wythnos Gwirfoddolwyr ledled y DU (1-7 Mehefin), rydym yn bwrw golwg dros y ffordd y mae Discovery yn parhau i helpu i newid bywydau yn Ne Cymru ac ym mhedwar ban byd. 

  • 29 Mai 2020
    Adnoddau gwyddoniaeth ar-lein yn cadw plant yn dysgu yn ystod y cyfyngiadau symud

    Mae gwyddonwyr ac academyddion allgymorth o Brifysgol Abertawe wedi bod yn gweithio'n galed yn eu ceginau a'u gerddi i lunio gweithdai a gwersi gwyddoniaeth a chynnwys ar gyfer clwb gwyddoniaeth ar-lein, er mwyn rhoi'r cymorth a'r adnoddau y mae eu hangen ar fyfyrwyr ysgol i barhau i ddysgu am wyddoniaeth gartref, yn ystod y cyfyngiadau symud.

  • 29 Mai 2020
    Ymchwilwyr yn datblygu dull newydd o fapio metaboledd colesterol yn yr ymennydd

    Mae tîm o ymchwilwyr dan arweiniad Prifysgol Abertawe wedi datblygu technoleg newydd i fonitro colesterol ym meinwe'r ymennydd a allai ddatgelu ei berthynas â chlefydau niwroddirywiol a chreu cyfle i ddatblygu triniaethau newydd. 

  • 27 Mai 2020
    Prifysgol Abertawe yn cyhoeddi ei bwriad i fod ar agor i addysgu ar ddechrau'r flwyddyn academaidd newydd

    Mae Prifysgol Abertawe wedi cyhoeddi ei bwriad i agor ac addysgu ar-lein ac wyneb yn wyneb ar ddechrau’r flwyddyn academaidd newydd ym mis Medi 2020.

  • 27 Mai 2020
    Pennaeth Ysgol Feddygol - aelod annibynnol newydd o fwrdd iechyd lleol

    Penodwyd yr Athro Keith Lloyd, pennaeth Ysgol Feddygol Prifysgol Abertawe, yn Aelod Annibynnol o Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe (SBUHB).

  • 26 Mai 2020
    Mynychder feirysau: astudiaeth o gimychiaid yn taflu goleuni ar glefydau

    Mae'n ymddangos bod lefelau heintio â feirws ymysg cimychiaid yn gysylltiedig â chynefinoedd a rhywogaethau eraill, yn ôl dwy astudiaeth newydd o ardaloedd morol gwarchodedig yn y Caribî.

  • 22 Mai 2020
    Testun a Threfedigaeth: Cymru a De Asia - sesiwn drafod ddigidol

    Mae’r Athro Daniel G. Williams o Adran Saesneg Prifysgol Abertawe a Chyfarwyddwr Canolfan Astudiaethau Cymreig Richard Burton, wedi cadeirio sesiwn drafod ddigidol ar y cysylltiadau rhwng De Asia a Chymru. Roedd dros 150 o gynrychiolwyr o bob rhan o’r byd yn mynychu trwy ‘zoom’.

  • 22 Mai 2020
    Llwyddiant dwbl i Brifysgol Abertawe o ran rownd derfynol FameLab

    Bydd naw o'r lleisiau newydd gorau ym maes gwyddoniaeth o bob rhan o'r wlad, gan gynnwys dau o Brifysgol Abertawe, yn brwydro i gynrychioli'r DU yn FameLab – cystadleuaeth gyfathrebu fwyaf blaenllaw'r byd ym maes gwyddoniaeth.

  • 21 Mai 2020
    Ymchwil ar y cyd â Phrifysgol Tasmania i newid yn yr hinsawdd yn Antarctica

    Mae ymchwil i effaith newid yn yr hinsawdd yn Antarctica wedi cael ei hybu gan ddyfarniad gwerth $20 miliwn (£10 miliwn) gan lywodraeth Awstralia ar gyfer gwaith a arweinir gan Brifysgol Tasmania mewn partneriaeth â rhewlifegwyr o Brifysgol Abertawe.

  • 21 Mai 2020
    Astudiaeth newydd yn archwilio'r risgiau sy'n wynebu staff meddygol rheng flaen yn ystod y pandemig

    Mae clinigydd blaenllaw o Brifysgol Abertawe ymysg grŵp o arbenigwyr sy'n galw am gyflwyno asesiad risg ar gyfer gweithwyr iechyd proffesiynol ar y rheng flaen sy'n trin cleifion sy'n dioddef o coronafeirws. 

  • 21 Mai 2020
    Astudiaeth yn dangos barn gymysg y cyhoedd ar apiau olrhain cysylltiadau o ran COVID-19

    Mae astudiaeth gan ymchwilwyr ym Mhrifysgol Abertawe a Phrifysgol Manceinion yn awgrymu bod gwahaniaeth barn rhwng pobl ynghylch a fyddant yn defnyddio ap ar gyfer ffonau symudol i olrhain cysylltiadau o ran COVID-19, y bwriedir iddo gael ei ryddhau yn y DU yn ddiweddarach y mis hwn. 

  • 21 Mai 2020
    Yr Ysgol Feddygaeth yn penodi dau Athro er Anrhydedd mewn Fferylliaeth

    Mae Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe wedi penodi dau aelod allweddol o staff wrth iddi baratoi i lansio ei chwrs fferylliaeth newydd. 

  • 21 Mai 2020
    Academyddion Abertawe yn derbyn medalau Cymdeithas Ddysgedig Cymru

    Mae dau academydd o Brifysgol Abertawe ymhlith enillwyr diweddaraf medalau Cymdeithas Ddysgedig Cymru, a gyhoeddwyd yng Nghyfarfod Cyffredinol y Gymdeithas ddydd Mercher, 20 Mai.

  • 20 Mai 2020
    Arbenigwyr o Brifysgol Abertawe'n cyflwyno gweithgareddau gwyddoniaeth cyfrwng Cymraeg ar-lein fel rhan o Eisteddfod rithwir

    Bydd gwyddonwyr o Brifysgol Abertawe'n cyflwyno cyfres o weithgareddau ar-lein cyfrwng Cymraeg fel rhan o ddigwyddiad amgen Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd ar ei newydd wedd a gynhelir ar-lein rhwng 25 a 30 Mai.

  • 18 Mai 2020
    Hillary Clinton yn canmol ymateb Prifysgol Abertawe i argyfwng Covid-19

    Mae'r Ysgrifennydd Hillary Clinton wedi canmol staff a myfyrwyr Prifysgol Abertawe am eu “hymateb critigol” i bandemig Covid-19.

  • 14 Mai 2020
    Bryan Washington yn ennill Gwobr Dylan Thomas Prifysgol Abertawe gwerth £30,000

    Mae Bryan Washington, awdur 27 oed o America, wedi ennill Gwobr Dylan Thomas Prifysgol Abertawe gwerth £30,000 am ei gasgliad cyntaf o straeon byrion, LOT.  

  • 14 Mai 2020
    Sector tai’n defnyddio hylif diheintio dwylo a wnaed yn y Brifysgol

    Gweithwyr tai ar y rheng flaen, gwasanaethau cymorth i'r digartref a'r bobl y maent yn gofalu amdanynt, y mae llawer ohonynt yn agored i niwed, yw'r grwpiau diweddaraf i ddefnyddio hylif diheintio dwylo a wnaed ym Mhrifysgol Abertawe, lle mae labordy technoleg solar wedi newid dros dro i gynhyrchu 5,000 litr yr wythnos yn ystod argyfwng COVID-19.

  • 13 Mai 2020
    Ysgol Feddygaeth yn sicrhau hwb mawr i ymchwil nanofeddygaeth

    Mae Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe wedi sicrhau hwb ariannol o ffynhonnell uchel ei bri i gyflymu'r broses o droi darganfyddiadau ymchwil yn brosiectau datblygu ym maes nanofeddygaeth. 

  • 13 Mai 2020
    £5 miliwn ar gyfer ymchwil gofal sylfaenol a gofal brys yng Nghymru

    Mae Llywodraeth Cymru am fuddsoddi £4.85 miliwn dros y pum mlynedd nesaf ar ymchwil i ofal sylfaenol a gofal brys yng Nghymru.

  • 8 Mai 2020
    Athro i gyflwyno'r prif anerchiad mewn uwchgynhadledd ymchwil rithwir unigryw

    Yr Athro Steve Conlan o Brifysgol Abertawe fydd y prif siaradwr yn uwchgynhadledd rithwir gyntaf y byd ar ymchwil canser ac imiwnoleg.

  • 7 Mai 2020
    Prawf ar-lein arloesol a fydd yn croesawu mwy o fyfyrwyr rhyngwladol i Brifysgol Abertawe

    Bydd myfyrwyr rhyngwladol sydd am astudio yn Abertawe bellach yn cael sefyll prawf iaith Saesneg hollbwysig ar-lein, gan sicrhau y gall eu ceisiadau i'r Brifysgol barhau yn ôl yr arfer. 

  • 7 Mai 2020
    Nyrs raddedig yn falch o fod yn rhan o'r GIG

    Mae un o raddedigion Prifysgol Abertawe wedi dweud ei bod yn falch dros ben o fod yn rhan o'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) yn ystod pandemig Covid-19. 

  • 6 Mai 2020
    Y Brifysgol yn helpu pobl anabl a'u gofalwyr yn ystod y cyfyngiadau symud

    Bydd pobl ifanc ac oedolion anabl yn gallu elwa ar gyngor iechyd a lles gan Brifysgol Abertawe wrth iddynt ymdopi â bywyd yn ystod y cyfyngiadau symud. 

  • 6 Mai 2020
    Stori fer wedi'i lansio ar gyfer plant ifanc yn Ne Cymru

    Mae Labordy FIRE (Ymchwil ac Ymgysylltu Rhyngddisgyblaethol o ran Dŵr Croyw) ym Mhrifysgol Abertawe wedi helpu i lansio ffilm fer wedi'i hanimeiddio ar gyfer plant ifanc yn Ne Cymru a'r tu hwnt.  

  • 6 Mai 2020
    Astudiaeth newydd i nodi'r ffactorau risg mwyaf ar gyfer COVID-19

    Mae gwyddonwyr o bob rhan o'r DU, gan gynnwys Prifysgol Abertawe, yn galw ar y cyhoedd i gymryd rhan mewn astudiaeth newydd a fydd yn helpu i adnabod pwy sy'n wynebu'r perygl mwyaf o ddal COVID-19 a pham mae rhai pobl yn dioddef yn waeth nag eraill.

  • 1 Mai 2020
    Academyddion yn helpu i roi cipolwg rhithwir i ddisgyblion ar fywyd yn y Brifysgol

    Mae academyddion o Brifysgol Abertawe ymhlith arbenigwyr blaenllaw'r byd sy'n rhannu eu gwybodaeth er mwyn helpu disgyblion chweched dosbarth i astudio yn ystod cyfnod y cyfyngiadau symud. 

  • 1 Mai 2020
    Ymchwil i’r cyfyngiadau symud: a fydd buddion byrdymor yn arwain at fuddion hirdymor?

    Mae ymchwil newydd gan Brifysgol Abertawe'n awgrymu y gallai cyfyngiadau symud byr, dwys i wastatáu cromlin epidemig COVID-19 arwain at fwy o farwolaethau – ac y gellid lleihau cyfanswm cyffredinol yr achosion drwy gyflwyno amrywiaeth o fesurau dros gyfnod hir.

  • 1 Mai 2020
    Myfyrwyr nyrsio’n dweud eu bod yn barod i helpu yn ystod y pandemig

    Myfyrwyr nyrsio Abertawe yn dweud eu bod yn falch o allu wynebu’r her o ymuno â’r GIG yn ystod y pandemig.

  • 23 Ebrill 2020
    Un o fyfyrwyr Abertawe'n helpu côr i barhau i ganu yn ystod y pandemig

    Nid yw'r aelodau'n cael ymarfer yng nghwmni ei gilydd, ond mae myfyriwr o Brifysgol Abertawe wedi llwyddo i sicrhau bod ei gôr yn dal i berfformio yn ystod yr argyfwng coronafeirws. 

  • 1 Mai 2020
    Y Brifysgol yn cyhoeddi partneriaeth tair blynedd newydd â Chlwb Pêl-droed Dinas Abertawe

    Mae'n bleser gan Brifysgol Abertawe gyhoeddi partneriaeth tair blynedd newydd â Chlwb Pêl-droed Dinas Abertawe tan ddiwedd tymor 2022-23.

  • 30 Ebrill 2020
    Tonnau a llanwau - mwy o effaith na phobl ar fywyd morol ym Mae Abertawe

    Mae astudiaeth newydd gynhwysfawr – a oedd yn cwmpasu dros 170 o rywogaethau o bysgod a chreaduriaid morol eraill megis crancod, môr-lewys a sêr-bysgod – wedi datgelu bod tonnau a llanwau'n cael mwy o effaith na gweithgarwch pobl ar fywyd morol ym Mae Abertawe.

  • 29 Ebrill 2020
    Cysylltiad y Brifysgol â Wuhan yn dod ag arbenigwyr ynghyd yn y frwydr yn erbyn COVID-19

    Mae Prifysgol Abertawe wedi defnyddio ei chysylltiad unigryw â Wuhan i ddod ag arbenigwyr o bob rhan o Gymru ynghyd â rhai o'r ymarferwyr meddygol cyntaf i fynd i'r afael â coronafeirws. 

  • 29 Ebrill 2020
    Ymchwilwyr yn chwilio am blant i gymryd rhan mewn arolwg ar-lein ar iechyd a llesiant

    Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Abertawe yn gofyn i blant 8-12 oed gymryd rhan mewn holiadur ar-lein i ddeall mwy am eu hiechyd a'u llesiant yn ystod cyfyngiadau symud Covid-19.

  • 29 Ebrill 2020
    Academyddion Prifysgol Abertawe yn cael eu Hanrhydeddu gan Academi Cymru

    Mae pedwar o academyddion Prifysgol Abertawe ymhlith y newydd-ddyfodiaid i Gymrodoriaeth Cymdeithas Ddysgedig Cymru.

  • 27 Ebrill 2020
    Ymladd yn erbyn y coronafeirws drwy gael ambiwlansys yn ôl ar yr heol yn gyflym

    Mae Prifysgol Abertawe wedi llwyddo i ennill cyllid i leihau’r cyfnod o amser sydd ei angen i ddiheintio ambiwlansys ar ôl iddynt gludo claf yr amheuir ei fod yn dioddef o covid-19.

  • 23 Ebrill 2020
    Hyfforddiant iaith Saesneg y Brifysgol yn goresgyn y cyfyngiadau symud drwy lansio rhaglen CELTA ar-lein

    Mae Gwasanaethau Hyfforddiant Iaith Saesneg Prifysgol Abertawe'n parhau i gynnal eu rhaglen CELTA Caergrawnt glodwiw er gwaethaf y cyfyngiadau symud.

  • 22 Ebrill 2020
    Arbenigwyr yn mynnu bod llywodraethau'n gweithredu ar frys i atal achosion o hunanladdiad oherwydd coronafeirws

    Mae arbenigwyr yn rhybuddio llywodraethau bod angen iddynt roi 'ystyriaeth frys' i'w hymateb iechyd cyhoeddus er mwyn atal y pandemig coronafeirws rhag cael effaith ar nifer yr achosion o hunanladdiad. 

  • 21 Ebrill 2020
    Canolfan ymchwil yn cael gwahoddiad i ymuno â rhwydwaith ymchwil gwrthderfysgaeth byd-eang

    Mae'r Ganolfan Ymchwil Seiberfygythiadau (CYTREC), sydd wedi'i lleoli yn Ysgol y Gyfraith Hillary Rodham Clinton ym Mhrifysgol Abertawe, wedi cael gwahoddiad ffurfiol i ymuno â Rhwydwaith Ymchwil Byd-eang Cyfarwyddiaeth Weithredol Pwyllgor Gwrthderfysgaeth y Cenhedloedd Unedig.

  • 20 Ebrill 2020
    Athro Prifysgol Abertawe yn dod yn Gymrawd yr Academi Gwyddorau Cymdeithasol

    Mae academydd Prifysgol Abertawe, Norah Keating, ymhlith grŵp o wyddonwyr cymdeithasol amlwg sydd wedi cael eu hanrhydeddu gan Academi y Gwyddorau Cymdeithasol.

  • 17 Ebrill 2020
    Byddai tranc megaffawna morol sydd dan fygythiad yn golled fawr o ran amrywiaeth swyddogaethol

    Gallai tranc rhywogaethau megaffawna morol sydd dan fygythiad arwain at golledion mwy na'r disgwyl o ran amrywiaeth swyddogaethol, yn ôl gwaith ymchwil wedi'i arwain gan Brifysgol Abertawe.

  • 17 Ebrill 2020
    Cyfyngiadau symud oherwydd coronafeirws: astudiaeth i'r effaith ar weithgarwch corfforol a lles

    Mae tîm o ymchwilwyr wedi lansio astudiaeth newydd i archwilio effaith strategaeth cyfyngiadau symud Llywodraeth y DU ar lefelau gweithgarwch corfforol a lles y boblogaeth yn ystod pandemig Covid-19.

  • 16 Ebrill 2020
    Astudiaeth yn dangos bod cadw pellter cymdeithasol oherwydd COVID-19 yn cael effaith sylweddol ar iechyd meddwl

    Mae astudiaeth gan ymchwilwyr ym Mhrifysgol Abertawe a Phrifysgol Manceinion yn dangos bod cadw pellter cymdeithasol ac ynysu yn cael effaith sylweddol ar iechyd meddwl a lles emosiynol pobl. 

  • 16 Ebrill 2020
    Tri gwyddonydd o Brifysgol Abertawe yn gadael meinciau'r labordy am y meinciau cefn seneddol

    Tynnodd tri gwyddonydd o Brifysgol Abertawe eu cotiau labordy er mwyn troi eu sylw at ddeddfwriaeth pan wnaethant dreulio wythnos yn San Steffan yn nau Dŷ'r Senedd a Whitehall. 

  • 15 Ebrill 2020
    Seicolegwyr yn darparu cefnogaeth i gleifion sy’n ynysi

    Mae cleifion yn Abertawe, y bu'n rhaid canslo eu hapwyntiadau oherwydd coronafeirws, yn cael cefnogaeth arbenigol dros y teleffon yn hytrach nag wyneb i wyneb fel y gallant barhau â'u triniaeth.

  • 15 Ebrill 2020
    Myfyrwyr Abertawe yn datblygu datrysiad i wella amseroedd ymateb cerbydau brys

    Mae tîm o fyfyrwyr Prifysgol Abertawe wedi datblygu ateb i amser ymateb cerbydau brys mewn cystadleuaeth fyd-eang sy’n cynnwys mwy na 40 o brifysgolion.

  • 14 Ebrill 2020
    Cynhyrchu 5,000 litr o hylif diheintio yr wythnos ar gyfer y GIG

    Mae labordy technoleg solar ym Mhrifysgol Abertawe wedi gwneud newid dros dro i gynhyrchu 5,000 litr o hylif diheintio dwylo bob wythnos er mwyn helpu’r GIG yn y frwydr yn erbyn Covid-19.

    Mae’r hylif diheintio, sy’n dilyn y safonau a osodwyd gan Sefydliad Iechyd y Byd (WHO), eisoes yn cael ei ddefnyddio o fewn y GIG yng Nghymru.

  • 8 Ebrill 2020
    COVID-19 a ‘Ffliw Sbaen’ 1918-19: y gwahaniaethau sy'n rhoi gobaith i ni

    Mae Dr Michael Bresalier, sy'n ddarlithydd yn Hanes Meddygaeth ym Mhrifysgol Abertawe, wedi cyhoeddi cipolwg hanesyddol sy'n amlygu gwahaniaethau pwysig rhwng COVID-19 a phandemig ffliw 1918-19.

  • 8 Ebrill 2020
    Technocamps wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Gwobr STEM newydd yng Nghymru

    Mae cyfle gan raglen allgymorth ysgolion arloesol Prifysgol Abertawe ennill gwobr nodedig am ei gwaith yn hyrwyddo amrywiaeth ym myd addysg gwyddoniaeth. 

  • 7 Ebrill 2020
    Arbenigwr mamolaeth prifysgol yn cynnal dosbarthiadau cyn-geni ar-lein am ddim

    Mae darpar famau y bu'n rhaid canslo eu dosbarthiadau cyn-enedigol oherwydd y coronafeirws bellach yn manteisio ar gyngor ar-lein am ddim gan arbenigwr ym Mhrifysgol Abertawe.

  • 7 Ebrill 2020
    Cefnogaeth myfyrwyr i bobl anabl yn parhau yn ystod argyfwng feirws

    Mae myfyrwyr sy'n gwirfoddoli gydag oedolion anabl yn cadw mewn cysylltiad â nhw er gwaethaf yr argyfwng coronafeirws, trwy gynnig cefnogaeth dros y ffôn a'u cael i gymryd rhan mewn gweithgareddau ar-lein i helpu eraill.

  • 7 Ebrill 2020
    Beirdd newydd yn ennill lle blaenllaw ar restr fer Gwobr Dylan Thomas Prifysgol Abertawe wrth iddi ddathlu 15 mlynedd

    Wrth iddi ddathlu 15 mlynedd, mae Gwobr Dylan Thomas Prifysgol Abertawe yn dwyn y bardd ei hun i gof diolch i'r lle blaenllaw sydd gan feirdd ifanc ac arbrofol ar y rhestr fer, y mae gan bob un ohonynt gyfle i ennill y Wobr gwerth £30,000.

  • 6 Ebrill 2020
    Myfyrwyr meddygol yn ymuno â gweithlu'r GIG yn y frwydr yn erbyn coronafeirws

    Mae myfyrwyr meddygol o Brifysgol Abertawe sydd yn eu blwyddyn olaf yn ymuno â staff y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) yn y frwydr yn erbyn Covid-19. 

  • 3 Ebrill 2020
    Cymorth uwch-dechnoleg i rannu gwybodaeth iechyd hanfodol

    Mae arbenigwyr arloesi ym Mhrifysgol Abertawe yn chwarae rôl allweddol wrth wella'r ffordd mae ysbytai yn defnyddio gwybodaeth am gleifion.

  • 2 Ebrill 2020
    Pâr yn dychwelyd i adael eu marc ar y campws lle gwnaethant gyfarfod

    Mae pâr wedi dychwelyd i Brifysgol Abertawe i adael eu marc ar y man lle gwnaethant gyfarfod gyntaf dros 60 mlynedd yn ôl.

  • 1 Ebrill 2020
    Sut y gallai eich DyddiadurCorona eich hun ein helpu i ddeall sut rydym yn ymdopi â phandemig

    A yw byw gydag ynysu cymdeithasol wedi eich ysbrydoli i roi beiro ar bapur? Os felly, fe allech chi fod yn rhan o brosiect ymchwil cymdeithasol unigryw sy'n archwilio sut mae cymdeithas yn byw trwy coronafirws.

  • 1 Ebrill 2020
    Academydd Cyfreithiol yn helpu i gymeradwyo canllawiau i brynwyr cartrefi yn ystod argyfwng iechyd

    Mae academydd o Brifysgol Abertawe wedi bod yn gweithio ochr yn ochr â Chymdeithas y Gyfraith i gymeradwyo canllawiau ar gyfer cwmnïau trawsgludo sy'n cynghori cleientiaid ar symud tai yn ystod yr argyfwng coronafeirws.

  • 31 Mawrth 2020
    Sefydlu consortiwm diwydiant de Cymru i gefnogi ymateb y GIG i Covid-19.

    Mae timau ar draws Prifysgol Abertawe yn dod at ei gilydd i gefnogi consortiwm sydd newydd ei sefydlu - SWARM (Consortiwm Gweithgynhyrchu Ychwanegion a Chyflym de Cymru) - yn ei genhadaeth i gefnogi ymateb GIG Cymru i covid-19.

  • 30 Mawrth 2020
    Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru’n cyhoeddi buddsoddiad gwerth £4.5m ym Manc Data SAIL

    Mae’r cyllid newydd, a fydd yn cynnal Banc Data SAIL am o leiaf y 5 mlynedd nesaf, yn rhan o becyn buddsoddi gwerth £44 miliwn gan Lywodraeth Cymru i ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol i wella gofal a gwasanaethau.

  • 27 Mawrth 2020
    Myfyrwyr yn barod i gefnogi cydweithwyr rheng flaen y GIG yn ystod argyfwng y feirws

    Bydd myfyrwyr bydwreigiaeth a pharafeddyg o Brifysgol Abertawe yn rhoi eu cefnogaeth i gydweithwyr rheng flaen y GIG yn y frwydr yn erbyn pandemig y coronafeirws.

  • 27 Mawrth 2020
    Pâr o Abertawe yn cynhyrchu hylif diheintio dwylo yng nghanol pandemig Covid-19

    Mae darlithydd o Brifysgol Abertawe a'i gŵr wedi trawsnewid eu busnes poblogaidd i gynhyrchu hylif diheintio dwylo wrth i’r pandemig coronafeirws barhau.

  • 26 Mawrth 2020
    Esblygu gwenwyn neidr ar gyfer ysglyfaeth nid amddiffyniad

    Amcangyfrifir y gellir priodoli dros 100,000 o farwolaethau dynol bob blwyddyn o 700 i frathiadau gan nadroedd. Daw hyn gan rywogaethau nadroedd gwenwynig y byd, gyda phob brathiad yn cael ei wneud wrth i'r nadroedd amddiffyn eu hunain pan fyddant yn teimlo dan fygythiad gan fodau dynol a ddaw'n rhy agos atynt.  Fodd bynnag, daw darn newydd o ymchwil Bangor/Abertawe i'r casgliad na esblygodd gwenwyn neidr fel dull o amddiffyn.

  • 26 Mawrth 2020
    CADR yn sicrhau cefnogaeth ariannol i gefnogi ymchwil i heneiddio yng Nghymru

    Mae Canolfan Ymchwil Heneiddio a Dementia Prifysgol Abertawe (CADR) wedi derbyn £2.8m mewn cyllid i ymestyn eu prosiect am bum mlynedd arall tan 2025.

  • 25 Mawrth 2020
    Technocamps yn lansio adnoddau rhith i helpu ysgolion a disgyblion

    Mae prosiect Technocamps Prifysgol Abertawe wedi lansio cyfres o adnoddau ar-lein rhad ac am ddim i gefnogi disgyblion, athrawon a rhieni yn ystod yr achosion o Covid-19. 

  • 24 Mawrth 2020
    Mae staff wedi darparu eitemau hanfodol i Ysbyty Singleton

    Mae staff ym Mhrifysgol Abertawe wedi uno gyda'i gilydd i ddarparu eitemau hanfodol i'w hysbyty lleol i'w cefnogi yn ystod achos Covid-19.

  • 23 Mawrth 2020
    Myfyrwyr yn gwirfoddoli i gynnig gofal plant i weithwyr iechyd

    Mae grŵp o fyfyrwyr ym Mhrifysgol Abertawe wedi cynnig ffordd ymarferol o helpu staff y GIG yn ystod pandemig y coronafirws.

  • 17 Mawrth 2020
    Mae lled-ddargludyddion yn gallu ymddwyn fel metelau a dargludyddion uwch

    Gall strwythur crisial arwyneb deunyddiau lled-ddargludydd wneud iddynt ymddwyn fel metelau, a hyd yn oed fel dargludyddion uwch, yn ôl ymchwil ar y cyd gan dîm o Abertawe a Rostock. Mae’r darganfyddiad yn agor y drws i ddatblygiadau, megis dyfeisiau electronig sy’n fwy ynni-effeithlon.

  • 11 Mawrth 2020
    Apêl y canmlwyddiant i gyn-fyfyrwyr CELTA

    Fel rhan o ddathliadau Canmlwyddiant Prifysgol Abertawe, mae'r Gwasanaethau Hyfforddiant Iaith Saesneg yn ceisio olrhain cyn-fyfyrwyr.

  • 11 Mawrth 2020
    Prifysgol Abertawe ar y rhestr fer am dair gwobr nyrsio fawreddog

    Mae dau fyfyriwr arbennig ym Mhrifysgol Abertawe wedi cyrraedd y rhestr fer yng nghategori Myfyriwr Mwyaf Ysbrydoledig y Flwyddyn yng ngwobrau'r Student Nursing Times eleni.

  • 10 Mawrth 2020
    Prifysgol Abertawe yn chwarae rhan allweddol ym maes ymchwil dementia

    Defnyddiwyd cofnodion iechyd mwy na 80% o boblogaeth Cymru i greu cronfa ddata iechyd ar raddfa genedlaethol gyntaf y DU ar gyfer ymchwil dementia, ac mae wedi ei lleoli ym Mhrifysgol Abertawe.

  • 10 Mawrth 2020
    Hau 750,000 o hadau yng Nghymru yn y cynllun mwyaf i adfer morwellt yn y DU 

    Mae Sky Ocean Rescue, WWF a Phrifysgol Abertawe wedi cyrraedd carreg filltir bwysig yn y prosiect mwyaf erioed i adfer morwellt yn y Deyrnas Unedig – hau mwy na 750,000 o hadau morwellt ym Mae Dale yn Sir Benfro. 

  • 9 Mawrth 2020
    Y Brifysgol yn cynnal taith feicio i ddathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod

    Bu staff a myfyrwyr Prifysgol Abertawe'n dathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod gyda thaith feicio mewn grŵp o gampysau'r Brifysgol i'r Ganolfan Ddinesig.

  • 6 Mawrth 2020
    Hwb hyfforddiant doethurol mawr i Brifysgol Abertawe

    Dyfarnwyd £2.9miliwn i Brifysgol Abertawe ar gyfer Partneriaeth Hyfforddiant Doethurol y Cyngor Ymchwil Peirianneg a'r Gwyddorau Ffisegol (EPSRC) 2020-21.

  • 5 Mawrth 2020
    Ymchwilwyr yn canfod dadleoliad Lamb mewn gwrth-hydrogen

    Mae ffisegwyr o Brifysgol Abertawe, sydd ymhlith arweinwyr cydweithrediad ALPHA yn CERN, wedi mesur, am y tro cyntaf, y strwythur main mewn gwrth-hydrogen sy'n gysylltiedig â darganfyddiad enwog Willis Lamb bron 70 o flynyddoedd yn ôl.

  • 3 Mawrth 2020
    Sut orau i integreiddio ffynonellau ynni adnewyddadwy i’r grid trydan

    Bydd tîm o'r Sefydliad Ymchwil Diogelwch Ynni Prifysgol Abertawe yn archwilio sut orau i integreiddio ffynonellau ynni adnewyddadwy i grid pŵer y DU, gan helpu i dorri allyriadau carbon, diolch i ddyfarniad ymchwil newydd gwerth £244,000.

  • 28 Chwefror 2020
    Oriel Science yn dychwelyd i Amgueddfa Genedlaethol y Glannau ar gyfer Gwyddoniaeth Wych Abertawe

    Bydd Oriel Science Prifysgol Abertawe'n dychwelyd i Amgueddfa Genedlaethol y Glannau ddydd Sul 8 Mawrth i gynnal "Gwyddoniaeth Wych Abertawe" fel rhan o Wythnos Wyddoniaeth Prydain.

  • 27 Chwefror 2020
    Gwobr o bwys i brosiect sy'n ymgysylltu pobl ifanc â byd y llyfrau

    Bydd DylanED, menter gan Brifysgol Abertawe sydd â’r nod o gyflwyno plant a phobl ifanc i fyd llenyddiaeth, yn derbyn hwb ariannol mawr gan Ymddiriedolaeth Rhys Davies dros y tair blynedd nesaf.

  • 26 Chwefror 2020
    Prifysgol Abertawe'n ehangu clinig cyngor cyfreithiol am ddim yn dilyn cynnydd mewn galw

    Ers ei lansio ym mis Awst 2017, mae'r nifer o gleientiaid sy'n defnyddio'r cyngor cyfreithiol am ddim gan fyfyrwyr yng Nghlinig y Gyfraith Prifysgol Abertawe wedi mwy na dyblu.

  • 19 Chwefror 2020
    Myfyriwr yn cymryd rhan flaenllaw mewn ymgyrch Ymwybyddiaeth o Diwmorau'r Ymennydd

    Mae myfyriwr o Brifysgol Abertawe, a ysbrydolwyd i astudio am yrfa mewn gofal iechyd ar ôl i'w dad a'i dad-cu farw o diwmor yr ymennydd, yn cymryd rhan flaenllaw mewn ymgyrch i helpu i ddod o hyd i driniaeth ar gyfer y clefyd.

  • 14 Chwefror 2020
    Penodi llysgenhadon i’r Coleg Cymraeg ym Mhrifysgol Abertawe

    Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol wedi penodi pedair llysgennad newydd ym Mhrifysgol Abertawe er mwyn annog mwy o ddarpar fyfyrwyr i ymddiddori ym maes addysg uwch cyfrwng Cymraeg.

  • 14 Chwefror 2020
    Abertawe i gynnal Gŵyl Ffilm Richard Burton

    Bydd chwe ffilm Richard Burton yn cael eu dangos yn Cinema & Co Abertawe fel rhan o ŵyl arbennig sy’n dathlu bywyd y seren Hollywood o Bontrhydyfen.

  • 14 Chwefror 2020
    Llwyddiant dwbl ar gyfer ymchwil i ymwrthedd i gyffuriau yn y Brifysgol

    Mae ymchwil ym Mhrifysgol Abertawe i'r bygythiad sy'n cael ei beri gan ymwrthedd i gyffuriau gwrthffwngaidd wedi cael ei hamlygu mewn dau gyfnodolyn o bwys.

  • 14 Chwefror 2020
    Dur sy'n fwy clyfar, gwyrdd a glân

    Mae grwpiau newid yn yr hinsawdd, cwmnïoedd ac ymchwilwyr prifysgolion ledled y DU wedi bod yn archwilio sut y gallant gyfrannu at ddiwydiant dur sy'n fwy clyfar, gwyrdd a glân mewn digwyddiad a gynhaliwyd gan brosiect SUSTAIN, dan arweiniad Abertawe.

  • 14 Chwefror 2020
    Astudiaeth nodedig yn dangos y gall newid hinsawdd achosi effeithiau sydyn ar ecosystemau tir sych

    Mae academydd o Brifysgol Abertawe wedi cyfrannu at astudiaeth nodedig a gyhoeddwyd yn y cyfnodolyn Science, sy'n dangos y gall y cynnydd mewn crinder mewn rhai rhannau o'r byd achosi newidiadau sydyn i ecosystemau mewn ardaloedd lle mae dros 2 biliwn o bobl yn byw.

  • 13 Chwefror 2020
    Cwrs newydd ym Mhrifysgol Abertawe i adfywio traddodiad hyfforddi fferylliaeth y ddinas

    Mae cynlluniau i lansio rhaglen gradd fferylliaeth newydd Prifysgol Abertawe bellach ar waith ond nid dyma fydd y tro cyntaf i fferyllwyr gael eu hyfforddi yn y ddinas.

  • 6 Chwefror 2020
    Prosiect arloesi gwyddor bywyd yn ennill buddsoddiad ychwanegol o €5m

    Mae partneriaeth unigryw rhwng Cymru ac Iwerddon, sy'n elwa o arbenigedd gwyddor bywyd ym Mhrifysgol Abertawe, wedi ennill cyllid ychwanegol gwerth pum miliwn o Ewros.

  • 6 Chwefror 2020
    Prif Weinidog Cymru yn lansio canolfan ymchwil i ddatblygu peirianwyr i’r dyfodol yng Nghymru

    Sefydliad ymchwil peirianneg newydd a fydd yn darparu ymchwil effaith uchel, sylfaenol a chymhwysol trwy bartneriaethau rhwng academia a diwydiant yn cael ei nodi mewn lansiad gyda Phrif Weinidog Cymru.

  • 6 Chwefror 2020
    Mynydd iâ mwya'r byd ar fin cyrraedd y cefnfor agored

    Mae gwyddonwyr o Brifysgol Abertawe wedi datgelu bod A68, sef mynydd iâ mwya'r byd, ar fin cyrraedd y cefnfor agored am y tro cyntaf.

  • 6 Chwefror 2020
    University wins funding for two projects to help public contribute to research

    Y Brifysgol yn ennill cyllid ar gyfer dau brosiect i helpu'r cyhoedd i gyfrannu at ymchwil.

  • 4 Chwefror 2020
    Gwirfoddolwyr yn plannu 50 o goed derw i nodi Canmlwyddiant Prifysgol Abertawe

    Fel rhan o’i dathliadau i nodi’i chanmlwyddiant, mae staff a myfyrwyr ym Mhrifysgol Abertawe wedi plannu 50 o goed derw ar Gampws Parc Singleton a Champws y Bae.  

  • 3 Chwefror 2020
    Ymrwymiad myfyriwr nyrs i lesiant claf

    Mae myfyriwr ym Mhrifysgol Abertawe wedi lansio ymgyrch i gasglu taclau ymolch sylfaenol ac adnoddau ar gyfer cleifion ysbyty nad ydynt yn gallu eu cyrchu eu hunain.

  • 3 Chwefror 2020
    Delweddau lloeren o danau gwyllt Awstralia yn rhoi rhybuddion cynnar o effeithiau hirdymor

    Mae data newydd gan Brifysgol Abertawe wedi dangos bod y tanau gwyllt yn Awstralia yn debygol o lygru ansawdd aer dros ardal ddaearyddol fawr a allai gael effaith andwyol ar iechyd cyhoeddus.

  • 31 Ionawr 2020
    Gwobrau'n dathlu ymchwil ac arloesi ym Mhrifysgol Abertawe

    O sgrinio am glefydau heintus i ddiagnosis cynnar canser y coluddyn, deall effaith amgylcheddol tanau gwyllt, ymateb i bropaganda ar-lein gan derfysgwyr, datblygu cyfarpar diogelwch ar gyfer athletwyr proffesiynol a hyrwyddo gwyddoniaeth yn y gymuned; amlygwyd amrywiaeth syfrdanol yr ymchwil a wneir ym Mhrifysgol Abertawe yng Ngwobrau Ymchwil ac Arloesi 2020.

  • 30 Ionawr 2020
    Prifysgol Abertawe wedi'i henwi ar restr 100 Cyflogwyr Gorau Stonewall

    Mae Prifysgol Abertawe wedi cael ei chynnwys ymhlith 100 cyflogwr mwyaf cynhwysol gorau'r DU ar gyfer staff lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol (LHDT) am y bumed flwyddyn yn olynol.

  • 30 Ionawr 2020
    Gwyddoniaeth Bocs Sebon Abertawe 2020 apelio am siaradwyr

    Mae Prifysgol Abertawe'n apelio am wyddonwyr a pheirianwyr benywaidd i gymryd rhan yn nigwyddiad Gwyddoniaeth Bocs Sebon Abertawe a rhannu eu hangerdd ar strydoedd Abertawe er mwyn ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o wyddonwyr.

  • 27 Ionawr 2020
    Prifysgol yn ymuno â'r cwest i ddarganfod pam fod rhai cleifion yn aros yn rhydd o ganser ar ôl triniaeth

    Mae’r dyngarwr enwog a goroeswr canser tair-amser Dr James Hull wedi ymuno â chwe phrifysgol ledled y wlad i ymchwilio i pam mae canser yn dychwelyd mewn rhai pobl ac nid mewn eraill.

  • 24 Ionawr 2020
    Dyfarnu cyllid Erasmus i Brifysgol Abertawe i gefnogi cyfnewid myfyrwyr â Thecsas

    Dyfarnwyd €131,400 (£112,588) o gyllid i Brifysgol Abertawe i gefnogi symudiad myfyrwyr rhwng Abertawe a Phrifysgol Houston.

  • 24 Ionawr 2020
    Lleisiau rhyngwladol a rhai a gaiff eu tangynrychioli yn ennill lle blaenllaw ar restr hir Gwobr Dylan Thomas Prifysgol Abertawe

    O Frasil i Hong Kong, yr India ac Wcrain drwy Fietnam, mae rhestr hir bwerus eleni’n cyfuno casgliad cyfoethog a rhyngwladol o awduron ifanc ac arbrofol sy’n cynnig llwyfan i leisiau sydd wedi’u tangynrychioli ac yn ymchwilio themâu cymdeithasol a byd-eang hollbwysig ym meysydd hunaniaeth, diwylliant a phŵer.

  • 23 Ionawr 2020
    Sŵolegydd Abertawe yn ennill Gwobr Ymchwil Humboldt fawreddog

    Mae Rory Wilson, athro sŵoleg ym Mhrifysgol Abertawe, wedi derbyn Gwobr Ymchwil Humboldt gan Sefydliad Alexander von Humboldt yn yr Almaen. 

  • 22 Ionawr 2020
    O sgriniau cyffwrdd i 5G: nanodiwbiau carbon 

    Mae dull newydd o gynhyrchu nanodiwbiau carbon – moleciwlau bach iawn sydd â phriodweddau ffisegol anghredadwy a ddefnyddir mewn sgriniau cyffwrdd, rhwydweithiau 5G ac electroneg hyblyg – wedi'i gymeradwyo gan ymchwilwyr, sy'n golygu bod modd i waith yn y maes hanfodol hwn barhau. 

  • 17 Ionawr 2020
    Gwobr Dylan Thomas yn teithio i Ŵyl Lenyddiaeth Jaipur i gyhoeddi rhestr hir 2020

    I ddathlu 15 mlynedd o Wobr Dylan Thomas Prifysgol Abertawe, bydd y Wobr yn cyhoeddi'r rhestr hir yn fyw o Ŵyl Lenyddiaeth Jaipur. 

  • 14 Ionawr 2020
    Canser - torri amserau aros o 84 diwrnod i 6

    Mae astudiaeth newydd gan ymchwilwyr Prifysgol Abertawe a chydweithwyr y GIG yn dangos bod canolfan diagnosis cyflym wedi torri amseroedd aros ar gyfer cleifion â symptomau amhenodol a allai fod â chanser o 84 diwrnod i 6, ac mae'n costio llai na'r gofal arferol cyfredol os caiff ei ddefnyddio ar fwy nag 80% o'i gapasiti.

  • 14 Ionawr 2020
    Cyllid gwerth miliynau o bunnoedd wedi'i sicrhau ar gyfer y Fargen Ddinesig

    Cafwyd anrheg Blwyddyn Newydd gynnar gwerth miliynau o bunnoedd i roi hwb mawr i Fargen Ddinesig Bae Abertawe.

  • 14 Ionawr 2020
    Rhaglen a ddyfeisiwyd gan Brifysgol yn cynyddu gwybodaeth plant am eu hôl troed carbon

    Mae tîm rhyngddisgyblaethol ym Mhrifysgolion Abertawe a Bangor wedi dyfeisio rhaglen sy'n annog plant oed ysgol i feddwl am eu heffaith bersonol ar newid yn yr hinsawdd.

  • 14 Ionawr 2020
    Mae defnyddio'r rhyngrwyd yn lleihau sgiliau astudio myfyrwyr prifysgol

    Dengys ymchwil a gynhaliwyd gan Brifysgolion Abertawe a Milan bod myfyrwyr sy'n defnyddio gormod o dechnoleg ddigidol yn llai parod i ymgysylltu â'u hastudiaethau, ac yn fwy pryderus am brofion. Gwaethygwyd yr effaith hon gan y teimladau cynyddol o unigrwydd a gynhyrchwyd gan y defnydd o dechnoleg ddigidol.

  • 10 Ionawr 2020
    Myfyrwyr mentrus yn ennill cymorth gan gyn-fyfyrwyr llwyddiannus mewn rhaglen fentora newydd

    Mae cyn-fyfyrwyr llwyddiannus wedi dychwelyd i Brifysgol Abertawe i helpu i annog y genhedlaeth nesaf o entrepreneuriaid ifanc.

  • 9 Ionawr 2020
    Arbenigwyr rhyngwladol yn galw am ddull unedig o fynd i’r afael ag unigrwydd mewn llythyr at The Lancet

    Mae arbenigwyr rhyngwladol, gan gynnwys ymchwilwyr o Brifysgol Abertawe, wedi cyhoeddi llythyr yng nghyfnodolyn meddygol The Lancet yn galw am ddull unedig o fynd i’r afael â’r her byd-eang, unigrwydd.

  • 6 Ionawr 2020
    Y Brifysgol yn talu teyrnged i arloeswr y Taliesin, Sybil Crouch

    Â thristwch mawr y clywsom fod Sybil Crouch, a fu gynt yn Bennaeth Gwasanaethau Diwylliannol ac yn arweinydd Canolfan y Celfyddydau Taliesin ym Mhrifysgol Abertawe, wedi marw.

  • 3 Ionawr 2020
    Mae ymchwil yn dangos cysylltiad rhwng anifeiliaid domestig a throsglwyddo firysau rhwng pobl a bywyd gwyllt

    Mae gan ein hanifeiliaid domestig - anifeiliaid anwes a da byw – rôl allweddol wrth ledaenu firysau ymysg pobl a bywyd gwyllt, yn ôl ymchwil newydd sy'n cynnwys Prifysgol Abertawe.

  • Newyddion a Digwyddiadau
    • Newyddion
      • 2023
      • 2022
      • 2021
      • 2020
        • Rhagfyr
        • Tachwedd
        • Hydref
        • Medi
        • Awst
        • Gorffennaf
        • Mehefin
        • Mai
        • Ebrill
        • Mawrth
        • Chwefror
        • Ionawr
      • 2019
      • Archif Newyddion
    • Digwyddiadau
    • Ffocws Abertawe
  • Gwybodaeth i newyddiadurwyr
  • Gwybodaeth i Staff
  • Cysylltwch â ni
  • Swyddi
  • Cyfadrannau
  • Y Wasg
  • Iechyd a Diogelwch
  • Ymwadiad a Hawlfraint
  • Map o'r Safle
  • Preifatrwydd a Chwcis
  • Datganiad Caethwasiaeth Fodern
  • Mae Prifysgol Abertawe yn elusen gofrestredig, Rhif 1138342