Mae'r dudalen we hon yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau'r Brifysgol i alluogi ei myfyrwyr a'i staff i ddychwelyd yn ddiogel fesul cam i'w campws, yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru.

Isod, ceir dolenni i'r wybodaeth ddiweddaraf i ddarpar fyfyrwyr, rhieni ac athrawon, a myfyrwyr rhyngwladol. Gall aelodau o staff a myfyrwyr presennol ddod o hyd i'r cwestiynau cyffredin diweddaraf ar y fewnrwyd sy'n berthnasol iddynt, na fydd ar gael i'r cyhoedd.


Coronafeirws: Cyngor Llywodraeth y DU

Bydd y llywodraeth yn parhau i fonitro'r ffordd y mae coronafeirws yn lledaenu ac yn cymryd camau pellach yn ôl yr angen. Mae'r wybodaeth a'r cyngor diweddaraf ynghylch coronafeirws  a'r canllawiau diweddaraf i sefydliadau addysgol ar gael ar wefan GOV.UK.