.
Defnyddio eich Gwybodaeth Bersonol
Prifysgol Abertawe yw'r rheolydd data, ac mae wedi ymrwymo i ddiogelu hawliau cleientiaid a phartneriaid yn unol â'r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) newydd. Mae gan Brifysgol Abertawe Swyddog Diogelu Data, ac mae modd ei gysylltu drwy dataprotection@swansea.ac.uk
Pa wybodaeth ydyn ni'n ei chasglu amdanoch chi?
Byddwn yn casglu'r wybodaeth ganlynol gan unigolion sy'n cofrestru ar gyfer digwyddiadau sy'n gysylltiedig â Gŵyl Wyddoniaeth Abertawe
Enw'r cofrestrydd(ion)
Oedran a rhyw cofrestrydd(ion)
Enw rhiant/gwarcheidwad (os yn berthnasol)
Cyfeiriad e-bost rhiant/gwarchodwr (os yn berthnasol)
Cod Post / Gwlad Tarddiad
A ydych wedi astudio pynciau STEM ar unrhyw lefel
Sut fydd eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio?
Defnyddir yr oedran a'r rhyw ynghyd â chod post/gwlad tarddiad a gwybodaeth am bynciau STEM i lunio adroddiad gwerthuso ar y rhai a fynychodd ac a ymgysylltodd â Gŵyl Wyddoniaeth Abertawe a fydd yn cael ei dosbarthu i randdeiliaid mewnol ac allanol. Ni fydd enwau'n cael eu nodi yn erbyn oedran, rhyw na chod post.
Bydd enw'r cofrestrydd yn cael ei ddefnyddio at ddibenion cofrestru Zoom yn unig i sefydlu presenoldeb ac i gadarnhau bod y cofrestryddion o'r oedran priodol ar gyfer y sesiwn.
Defnyddir cyfeiriad e-bost y rhiant/gwarcheidwad i gadarnhau eu bod wedi derbyn cofrestriad, i anfon unrhyw ddogfennau ac adnoddau cysylltiedig ar gyfer y sesiwn, a hefyd i gysylltu â nhw i lenwi arolwg ar ôl i'r digwyddiad ddod i ben
Ni fydd Prifysgol Abertawe yn defnyddio unrhyw fanylion eraill mewn unrhyw ffordd arall.
I unigolion sy'n dewis 'cofrestru eu diddordeb' ar gyfer Gŵyl Wyddoniaeth Abertawe 2020, defnyddir eich gwybodaeth i roi gwybod i chi am ein gwasanaethau, ein digwyddiadau ac unrhyw ddatblygiadau a fyddai'n berthnasol i chi, yn ein barn ni, ynglŷn â'r digwyddiad hwn.
Beth yw ein sail gyfreithiol dros brosesu?
Mae angen prosesu eich data personol at ddibenion y buddiannau cyfreithlon a ddilynir gan y Brifysgol er mwyn gweinyddu Gŵyl Wyddoniaeth Abertawe'r Brifysgol.
Lle rydym yn defnyddio eich gwybodaeth er ein buddiannau cyfreithlon, rydym yn sicrhau ein bod yn ystyried unrhyw effaith bosibl y gallai defnydd o'r fath ei chael arnoch. Nid yw ein buddiannau cyfreithlon yn diystyru eich rhai chi'n awtomatig ac ni fyddwn yn defnyddio eich gwybodaeth os credwn y dylai eich buddiannau ddiystyru ein buddiannau ni, oni bai bod gennym sail arall dros wneud hynny (fel eich caniatâd neu rwymedigaeth gyfreithiol).
Pwy sy'n cael eich gwybodaeth?
Bydd y wybodaeth yr ydych yn ei roi i ni yn cael ei chadw gan Brifysgol Abertawe.
Bydd eich gwybodaeth bersonol yn cael ei storio ar ein systemau electronig a'n cronfeydd data diogel a gall cydweithwyr yn y Brifysgol sydd â chaniatâd priodol gael gafael arnynt. Caiff gwybodaeth bersonol ei diogelu gan y Brifysgol ac ni chaiff ei datgelu i sefydliadau trydydd parti heb ganiatâd penodol.
Mae gwybodaeth ar gael i bersonél sydd angen mynediad mewn amgylchiadau cyfyngedig am y rhesymau a amlinellir uchod. Mae'r rhain yn cynnwys:
Staff gweinyddol, Datblygu ac Ymgysylltu a Marchnata Prifysgolion
Sut mae eich gwybodaeth bersonol yn cael ei storio?
Mae deddfwriaeth Diogelu Data yn ei gwneud yn ofynnol i ni gadw eich gwybodaeth yn ddiogel. Mae hyn yn golygu y bydd eich cyfrinachedd yn cael ei barchu, a bydd yr holl fesurau priodol yn cael eu cymryd i atal mynediad a datgeliad anawdurdodedig.
Dim ond aelodau o staff y mae angen iddynt gael mynediad i rannau perthnasol neu'r holl wybodaeth fydd yn cael eu hawdurdodi i wneud hynny. Bydd gwybodaeth amdanoch ar ffurf electronig yn amodol ar gyfyngiadau cyfrinair a chyfyngiadau diogelwch eraill, wedi'u cadw ar rwydweithiau diogel prifysgolion tra bydd ffeiliau papur yn cael eu storio mewn mannau diogel sydd â mynediad rheoledig.
Pa mor hir ydym yn cadw eich gwybodaeth?
Bydd eich data personol yn cael ei gadw am 2 mis wedi diwedd yr ŵyl
Eich cyfrifoldebau
Os ydych wedi rhoi caniatâd i Brifysgol Abertawe brosesu unrhyw ddata personol, mae gennych hefyd yr hawl i dynnu eich caniatâd yn ôl ar unrhyw adeg, a gofyn i'ch data gael ei ddileu.
Beth yw eich hawliau?
Mae gennych yr hawl i gael mynediad i'ch gwybodaeth bersonol, i wrthwynebu prosesu eich gwybodaeth bersonol, i adfer, dileu, cyfyngu ar a chludo eich gwybodaeth bersonol (noder fodd bynnag bod hyn yn debygol o effeithio ar ein gallu i gynnig cefnogaeth ichi yn y modd mwyaf effeithiol, os o gwbl).
Ewch i dudalennau gwe Diogelu Data Prifysgol Abertawe i weld manylion ynghylch eich hawliau.
Dylid gwneud unrhyw gais neu wrthwynebiad drwy ysgrifennu at Swyddog Diogelu Data'r Brifysgol:-
Bev Buckley
Swyddog Cydymffurfiaeth y Brifysgol (FOI/DP)
Swyddfa'r Is-ganghellor,
Prifysgol Abertawe,
Parc Singleton,
Abertawe,
SA2 8PP
dataprotection@swansea.ac.uk
Os ydych yn anhapus gyda’r ffordd y mae eich data personol wedi ei brosesu, gallwch gysylltu â Swyddog Diogelu Data'r Brifysgol yn gyntaf drwy ddefnyddio'r manylion cyswllt uchod.
Os ydych yn parhau i fod yn anhapus, mae gennych yr hawl i wneud cais yn uniongyrchol i'r Comisiynydd Gwybodaeth am benderfyniad. Gellir cysylltu â'r Comisiynydd Gwybodaeth yn: -
Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth,
Wycliffe House,
Water Lane,
Wilmslow,
Cheshire,
SK9 5AF
www.ico.org.uk
Newidiadau i'n Polisi Preifatrwydd
Bydd unrhyw newidiadau y byddwn yn eu gwneud i'n polisi preifatrwydd yn y dyfodol yn cael eu postio ar y dudalen hon a, lle bo'n briodol, byddwn yn rhoi gwybod i chi drwy e-bost.