O archwilio ein planed a'r bydysawd hysbys, i wneud swigod a chyffwrdd â chymylau. Peidiwch â cholli rhai o brif ddigwyddiadau’r ŵyl eleni, sy'n cynnwys enwau adnabyddus o fyd gwyddoniaeth ac adloniant, yn fyw yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau. Bydd ffrwydradau gan Brainiacs Live a’r Royal Institution yn ogystal â sesiynau chwerthinllyd ac ysgytiol, haciau a chwalu mythau gan Stefan Gates. Ymunwch hefyd â Sioe Deithiol yr Anifeiliaid Hyll i ddathlu ac archwilio bioleg anhygoel creaduriaid mwyaf brawychus byd yr anifeiliaid.
23 Hydref 2021

Hud, Lledrith a Dewiniaeth - Gemau CluedUpp
10am-5pm | Oedran 13+ | Digwyddiad Mewn Person
Cymerwch eich ffyn hud a gwisgwch eich clogynnau, gan fod byd y dewiniaid yn dod i Abertawe! Ymunwch â ni am ddigwyddiad hud a lledrith newydd sbon, hollol swynol sydd yn mynd â'r chwaraewr ar daith ryfeddol a hudol i fyd llawn dewiniaeth ddu, lle bydd timau'r muggles yn cystadlu i ddod o hyd i dystion rhithwir, datrys cliwiau a threchu endidau tywyllaf y deyrnas. Dyma geo-chwarae ar ei orau!

Pecynnau Gwyddoniaeth Gwych!
Ymgymerwch â'r her o efelychu un o'n harbrofion cyffrous gan ddefnyddio’n pecyn gwyddoniaeth AM DDIM i'w ddefnyddio gartref. Bydd eich Pecyn Gwyddoniaeth Gwych yn cynnwys popeth y mae angen i chi ei ddilyn ynghyd â thiwtorial ar-lein! Casglwch eicn pecyn yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau ar 23ain / 24ain Hydref

Sêr y Swigod!
10.30-11am & 12.30-1pm | Oedran 2+ | Digwyddiad Mewn Person
Mae Dr Sarah yn dod â’i phecyn swigod i Abertawe! Byddwn yn creu swigod mawr, swigod bach ac yn archwilio siapau a lliwiau.

Gyrrwch eich trên eich hun!
Gwahanol amserau – cliciwch ar ‘Archebwch Nawr’ am fwy o wybodaeth | Oedran 8-14 | Digwyddiad Mewn Person
Taith i weithdy llawn hwyl, lle bydd yn rhaid i chi redeg ein model-rheilffordd! Ydych chi erioed wedi meddwl sut mae gyrwyr trenau yn gwybod pryd i stopio neu arafu er mwyn osgoi traffig? Mae yna system gyfrinachol! Dewch i fod yn beiriannydd am y dydd: rheoli cyflymder a chyfeiriadau ein trenau wrth iddyn nhw redeg o amgylch y cledrau.

Freaky Food
11-11.30am & 1-1.30pm | Pob Oedran | Digwyddiad Mewn Person
Ymunwch â Xplore! i ddarganfod peth o'r wyddoniaeth ryfedd a rhyfeddol y gellir ei harchwilio gan ddefnyddio bwyd. Mae'n sioe sy'n hawdd ei threulio, yn faethlon ac yn berffaith i'r teulu cyfan!
Nodwch: mae’r sioe am 1.00pm trwy gyfrwng y Saesneg yn unig

Ail-ddychmygu Straeon: Gweithdy Adrodd Straeon
11am-12pm, 1-2pm & 3-4pm | Oedran 8+ | Digwyddiad Mewn Person
Ymunwch â ni ar gyfer gweithdy hynod o greadigol sy’n archwilio eich straeon unigol trwy dynnu lluniau ac adrodd straeon. Cewch gyfle i brofi eich sgiliau creadigol trwy dynnu lluniau o’ch cymeriadau eich hunain a’u gosod yn erbyn ein cefndir Abertawe godidog. Yna, cewch gyfle i ddod â’ch straeon yn fyw!

Y Ffatri Cymylau
2.30-3pm & 4.30-5pm | Oedran 2+ | Digwyddiad Mewn Person
Ydych chi erioed wedi cyffwrdd neu glywed cwmwl? Ydych chi erioed wedi arogleuo cwmwl mefus? Wel gallwch wneud yn union hyn gyda’r Ffatri Cymylau!

Brainiac yn Fyw!
4-5pm & 6-7pm | Oedran 6+ | Digwyddiad Mewn Person
Gwisgwch eich sbectol diogelwch! Brainiac yn Fyw! Academi Ditectif, mae'r tîm gwyddoniaeth mwyaf cyfnewidiol a gwych yn cyrraedd am y tro cyntaf yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau!

Yr Her Pasbort Peillio
Byddwch yn beillydd am y dydd! Ewch ar daith o gwmpas ein byd o beillwyr drwy symud o le i le gan gasglu paill a neithdar ble bynnag y gallwch. Ond byddwch yn ofalus, efallai na fydd hi mor hawdd ag rydych chi'n meddwl! Fyddwch chi'n llwyddo i fynd yn ôl i ddiogelwch? Bydd peillwyr yn eich rhyfeddu a'ch syfrdanu, ond mae angen eich cymorth arnom! Dysgwch fwy am yr hyn y gallwch ei wneud i helpu gwenyn ac ieir bach yr haf a mynd â blodau gwyllt adref gyda chi i'w plannu yn eich gardd.
24 Hydref 2021

Sioe Deithiol yr Anifeiliaid Hyll
10.30-11.15am | Oedran 6+ | Digwyddiad Mewn Person
Ymuna â ni wrth inni ddathlu ac archwilio bioleg ryfeddol anifeiliaid mwyaf angenfilaidd y byd - wyddet ti fod madfall fawr â chyrn byr yn saethu gwaed o'i llygaid?!Dysga am yr addasiadau sy'n gwneud yr anifeiliaid hyn yn anhygoel a sut gwnaeth creaduriaid mor erchyll esblygu yn y lle cyntaf!

Gyrrwch eich trên eich hun!
Gwahanol amserau – cliciwch ar ‘Archebwch Nawr’ am fwy o wybodaeth | Oedran 8-14 | Digwyddiad Mewn Person
Taith i weithdy llawn hwyl, lle bydd yn rhaid i chi redeg ein model-rheilffordd! Ydych chi erioed wedi meddwl sut mae gyrwyr trenau yn gwybod pryd i stopio neu arafu er mwyn osgoi traffig? Mae yna system gyfrinachol! Dewch i fod yn beiriannydd am y dydd: rheoli cyflymder a chyfeiriadau ein trenau wrth iddyn nhw redeg o amgylch y cledrau.

Modelu Sombïaid!
10.30am - 11.30am, 1.30pm - 2.30pm & 3pm - 4pm | Oedran 10-16 | Digwyddiad Mewn Person
Ydych chi erioed wedi meddwl beth fyddai'n digwydd pe bai firws Zombie yn dechrau lledaenu ledled y wlad? A yw'n bosibl atal y lledaeniad, sut fyddech chi'n rhagweld faint o bobl a allai gael eu heintio a pha fesurau y gallech eu rhoi ar waith i arafu'r ymlediad?

3....2....1...LANSIO!
Gwahanol amserau – cliciwch ar ‘Archebwch Nawr’ am fwy o wybodaeth | Oedran 5+ | Digwyddiad Mewn Person
Beth am adeiladu a lansio eich roced eich hun! A allwch chi gael y roced i gyrraedd y targed? Beth sy'n digwydd os byddwch yn newid y dyluniad? Yn y gweithdy hwn, byddwch yn darganfod yr atebion i'r cwestiynau hyn a llawer mwy!

Pa mor bell i'r gofod y gallwn ei weld?
11-11.45am, 1-1.45pm & 3-3.45pm | Oedran 7-12 | Digwyddiad Mewn Person
Ymunwch â ni wrth i ni edrych ar rai o'r golygfeydd cosmig mwyaf anhygoel sydd wedi’i dal a mynd â chi ar daith o amgylch yr hyn y gallwch chi ei weld yn awyr y nos o'ch gardd gefn eich hun.
Nodwch: Mae sioeau 11.00am ac 1.00pm trwy gyfrwng y Saenseg yn unig

Edrycha i Fyny!
12.15-1pm | Oedran 6+ | Digwyddiad Mewn Person
Pa blaned yw'r un fwyaf poeth? P'un fyddai'n arnofio ar wyneb pwll nofio? A faint o ofod sydd yn y gofod? Ymuna â ni ar gyfer y sioe fyw hon er mwyn gweld yr arbrofion y gelli di eu hail-greu gartref a dysgu am yr hyn y gelli di ei weld os wyt ti ddim ond yn edrych i fyny!

Mae gennym ni’r Pŵer!
2.45-3.30pm | Oedran 7+ | Digwyddiad Mewn Person
Ymunwch â’r Sefydliad Brenhinol clodwiw am sioe sy’n llawn arbrofion a ffrwydradau. Bydd y sioe hon sy’n llawn hwyl a halibalŵ yn eich gwefru’n llawn!

Ynni yn Fyw!
4.30-5.15pm | Oedran 7+ | Digwyddiad Mewn Person
Ymunwch â’r Royal Institution a fydd yn cyflwyno arddangosiadau bywiog gyda thân a fydd yn eich helpu i wybod y gwahaniaeth rhwng egni elastig ac egni disgyrchol, ac yn tanio’ch brwdfrydedd am egni!!
29 Hydref 2021
30 Hydref 2021

Digwyddiad Llawn Rhyfeddod i ddathlu Calan Gaeaf!
1.30-2.15pm | Pob Oedran | Digwyddiad Mewn Person
Archwiliwch yr wyddoniaeth ryfedd y tu ôl i bethau pob dydd wrth i Stefan Gates, Gastronot y BBC, fynd i'r afael â chwestiynau megis Pam na allwch doddi Flake? Beth yw pwrpas bwganod? A oes modd gwneud plasma chwilboeth mewn microdon?

Digwyddiad Gwyddoniaeth Losin i Ddathlu Calan Gaeaf!
3.30-4.15pm | Pob Oedran | Digwyddiad Mewn Person
Ymunwch â ni ar gyfer ffrwydradau, diodydd sy'n disgleirio a straeon pryfed cudd yn ein malws melys. Mae'r sioe'n llawn cemeg, bioleg a ffiseg ac mae llawer o arddangosiadau y gallwch roi cynnig arnynt gartref...yn ogystal â rhai na ddylech roi cynnig arnynt gartref o gwbl!