Yr Her
Lleihau’r carbon deuocsid (CO2) yn ein hamgylchedd drwy ei ddal a’i drosi’n gynnyrch y gall diwydiant eu defnyddio. Yn ddelfrydol, dylid gwneud hyn ledled y byd. Fodd bynnag, ar hyn o bryd mae’n ddrud iawn, ac mae un cwmni wedi amcangyfrif ei bod hi’n costio $600 i ddal un dunnell o CO2. Mae gan y CO2 sy’n cael ei ddal werth isel ar y farchnad, mor isel â $20 y dunnell.
Y Dull
Mae Dr Rudd yn gweithio yn y Sefydliad Ymchwil i Ddiogelwch Ynni (ESRI) ac yn rhan o’r prosiect Lleihau Allyriadau Carbon (RICE). I fynd i’r afael â’r broblem o gost, mae Dr Rudd, ynghyd â thîm o ymchwilwyr yn ESRI, yn canolbwyntio ar rywbeth sy’n creu mwy o elw ac a fydd yn cyd-fynd â’r economi gylchol yn well. Mae’r tîm yn trosi carbon deuocsid yn gynnyrch masnachol drwy ddefnyddio proses a elwir yn lleihau electrocemegol. Yn y broses hon, caiff CO2 ei ddal a’i adweithio ag ynni adnewyddadwy, gan ei droi’n gynnyrch â gwerth uwch.
Un enghraifft o gynnyrch o’r fath fyddai propanol. Mae propanol yn llosgi mewn ffordd sy’n llawer glanach na phetrol a diesel - ac mae’n rhywbeth y gallem ni ei ddefnyddio efallai mewn ceir yn y dyfodol.
Mae’r Prosiect Lleihau Allyriadau Carbon Diwydiannol (RICE) wedi’i rannu’n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.